Cynllun datblygu cynaliadwy 2022-27

Submitted by Content Publisher on

Cynllun datblygu cynaliadwy 2022-27

Llwytho i lawr (PDF)

 

Rhagair

James Price
Prif Swyddog Gweithredol
Trafnidiaeth Cymru

“Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth a fydd yn trawsnewid ac yn cynnal cymunedau, amgylcheddau a diwylliant Cymru.

Yn Trafnidiaeth Cymru, rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid gwneud teithio’n fwy cynaliadwy. Mae angen mwy o drafnidiaeth gyhoeddus carbon isel arnom. Mae angen i fwy o bobl allu cerdded, beicio a theithio ar olwynion yn ddiogel i’r ysgol a’r gwaith. Mae arnom angen rhwydwaith trafnidiaeth wedi’i integreiddio’n well fel bod modd defnyddio un tocyn ar draws nifer o fysiau a threnau.

Ond mae datblygu cynaliadwy yn golygu llawer mwy na thrafnidiaeth wyrddach. Fel y nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, datblygu cynaliadwy yw’r ‘broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu’..

Yn TrC, mae ein gweithredu cynaliadwy yn cynnwys annog pobl i ddysgu a siarad Cymraeg, gwarchod ein treftadaeth ddiwydiannol, gwella bioamrywiaeth, sicrhau bod twristiaid yn gallu ymweld â’n parciau cenedlaethol ar drafnidiaeth gyhoeddus a gwella sgiliau ein gweithwyr. 

I ni, mae cynaliadwyedd yn ymwneud â gwella bywydau bob dydd pobl Cymru.

Mae’r adroddiad hwn yn darlunio’r ystod honno o brosiectau a nodau datblygu cynaliadwy. Mae’n mynd â ni o droed Eryri i’n swyddfeydd ym Mhontypridd, sydd gyda’r mwyaf modern. 

Bydd yn ein helpu i gyflawni’r targedau uchelgeisiol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod ar gyfer newid ymddygiad i ddefnyddio trafnidiaeth yn fwy cynaliadwy. 

Yn y pen draw, rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth a fydd yn trawsnewid ac yn cynnal cymunedau, amgylcheddau a diwylliant Cymru.

 

Leyton Powell
Cyfarwyddwr Diogelwch, Cynaliadwyedd a Risg
Trafnidiaeth Cymru

“Ein dyhead ar hyn o bryd – a phob amser – yw y bydd trafnidiaeth yn cyfrannu’n gadarnhaol i’n cymunedau, ein heconomi a’n hamgylchedd.

Rydyn ni’n falch o’r mentrau rydyn ni wedi’u cyflawni ers cyhoeddi ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy cyntaf yn 2019. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n fwy diogel, yn fwy cysylltiedig ac yn fwy cynaliadwy. 

Mae llawer o waith i’w wneud o hyd. Yn y cynllun hwn, rydyn ni wedi nodi sut byddwn ni’n parhau i siapio ein rhwydweithiau trafnidiaeth, caffael a darparu mewn ffordd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae wedi’i integreiddio ag amcanion ein Cynllun Busnes, y Strategaeth Gorfforaethol bum mlynedd a Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.

Rydyn ni’n cefnogi targedau sero net 2050 Llywodraeth Cymru a’r targed i’r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn sero net ar y cyd erbyn 2030. Byddwn yn cyflawni hyn drwy weithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio ein gwasanaethau ymhellach.

Ni allwn drawsnewid trafnidiaeth ar ein pen ein hunain. Rydym yn dibynnu ar waith a mewnbwn ein pobl, ein cymunedau, ein cadwyn gyflenwi a’n cwsmeriaid. Rydyn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol i annog pobl i gerdded, olwyno a beicio mwy. 

Ar y cyd â’n partneriaid a’n cymunedau, byddwn yn parhau i wella ansawdd ein gwasanaethau. 

Ymhen pum mlynedd, rydym am i drafnidiaeth gynaliadwy fod yn ddewis cyntaf i bobl yng Nghymru. Ein dyhead ar hyn o bryd – a phob amser – yw y bydd trafnidiaeth yn cyfrannu’n gadarnhaol i’n cymunedau, ein heconomi a’n hamgylchedd.

 

Cyflwyniad

Yn Trafnidiaeth Cymru (TrC), rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-ddull sy’n hygyrch, yn gynaliadwy ac yn effeithlon.

Mae ein gweledigaeth ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth cynaliadwy yn golygu bod angen i ni weithio’n agos gyda’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydyn ni’n parhau i ddatblygu partneriaethau cryf o fewn Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a’n cymunedau i adeiladu’r hyn y mae ar ein cymunedau ei angen, a’r hyn y maent yn ei haeddu, gan drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r Cynllun Datblygu Cynaliadwy hwn yn amlinellu ein nodau a’n hamcanion i sicrhau newid yn ein hymddygiad teithio yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.

Ers i ni gyhoeddi ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy cyntaf yn 2019, rydyn ni wedi gweld newidiadau ar draws TrC, Cymru a’r byd.

Wrth i’n sefydliad dyfu, rydyn ni wedi ennill mwy o arbenigedd ac wedi dod yn fwy uchelgeisiol o ran sut rydyn ni’n cyflawni ein hymrwymiadau ac rydyn ni’n datblygu ein henw da fel arweinydd ym maes cynaliadwyedd yng Nghymru.

Rydyn ni’n cadw iechyd, diogelwch a lles ein cydweithwyr, ein cymunedau a’r hamgylchedd yn flaenaf yn ein cynlluniau er mwyn i’n rhwydwaith trafnidiaeth fod yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rydyn ni’n mesur ein heffaith a’r cynnydd o ran ein hamcanion drwy Strategaeth Drafnidiaeth Cymru: Mesurau Monitro. Byddwn yn cyhoeddi diweddariad blynyddol yn manylu ar ein cynnydd yn erbyn yr amcanion a nodir yn y cynllun hwn.

 

Cynlluniau ac adroddiadau ategol

Mae ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy yn cydfynd â’r nodau sydd wedi’u gosod yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth.

Fe’i cefnogir gan nifer o strategaethau ar draws y sefydliad a bydd yn helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu cynlluniau a strategaethau ar gyfer y dyfodol yn TrC.

Gyda’i gilydd, mae’r strategaethau hyn yn cynnig llwybr cynhwysfawr tuag at gyflawni ein nodau datblygu cynaliadwy a’n nodau sefydliadol.

Llywodraeth Cymru Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru
Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth

Trafnidiaeth Cymru

*Strategaeth gyhoeddedig
**Ar waith

Cynllun Datblygu Cynaliadwy
Cynllun 
Gweithredu 
Bioamrywiaeth *
Cynllun 
Cydraddoldeb 
Strategol ac 
Amcanion *
Strategaeth 
Cyfathrebu a 
Marchnata *
Cynllun Busnes
Cynllun ymaddasu 
i’r hinsawdd a 
chydnerthedd **
Strategaeth Sgiliau 
ac Arweinyddiaeth **
Strategaeth Iechyd 
Corfforaethol **
Strategaeth Teithio 
Llesol **
Strategaeth 
Twristiaeth 
Gynaliadwy **
Cynllun 
Gweithredu 
Treftadaeth **

 

Deddfwriaeth

Mae amrywiaeth eang o ddeddfwriaeth a pholisïau perthnasol, sy’n ein helpu i gyflawni ein nodau, wedi dylanwadu ar ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy, gan gynnwys:

Deddf yr 
Amgylchedd 
(Cymru) 2016
Deddf Llesiant 
Cenedlaethau’r Dyfodol 
(Cymru) 2015
Bil Partneriaeth 
Gymdeithasol a Chaffael 
Cyhoeddus (Cymru) 
2022
Nodau Byd-eang 
Datblygu Cynaliadwy 
2015
Rheoliadau Deddf 
Cydraddoldeb 2010 
(Dyletswyddau Statudol) 
(Cymru) 2011
Mesur y Gymraeg 
(Cymru) 2011

 

 

Hyrwyddo teithio cynaliadwy a lleihau’r angen i ddefnyddio ceir preifat

Rydyn ni’n gwneud teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn haws ac yn fwy hygyrch i bawb ledled Cymru a’r gororau. Drwy gynnwys mwy o allu a dibynadwyedd yn ein rhwydwaith a’n gweithrediadau, rydyn ni eisiau gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn teithio deniadol.

Rydyn ni’n integreiddio ein rhwydweithiau bysiau a threnau, gan wneud ein llwybrau teithio llesol yn fwy diogel a gwneud ein gwasanaethau’n fwy dibynadwy.

Gallwn greu Cymru fwy cynaliadwy drwy gynyddu gallu ein rhwydweithiau presennol a chreu cyfleoedd i annog dewisiadau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, â llai o allyriadau.

 

Rydyn ni’n cefnogi newid o ddefnyddio ceir preifat tuag at ddewisiadau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.

Cynyddu’r gallu i bawb ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy.

Byddwn yn gwneud ein gwasanaethau’n haws eu defnyddio drwy:

  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i roi gwell cefnogaeth i’r rheini sy’n ymwneud â datblygu a darparu prosiectau teithio llesol drwy raglenni hyfforddi a chyngor arbenigol.
  • Sicrhau bod ein gweithlu’n amrywiol fel ein bod yn cynrychioli Cymru.
  • Darparu gwybodaeth gyson a chywir i sicrhau bod teithiau integredig yn ddi-dor, yn reddfol ac yn gwneud trafnidiaeth gynaliadwy yn fodd o deithio y mae pobl yn ei ddewis yn lle’r car ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau.
  • Cyflwyno modd i gynllunio teithiau ar lefel y cartref, y gweithle ac addysg, a hynny mewn partneriaeth â sefydliadau cysylltiedig.
  • Parhau i ddatblygu ein staff gyda rhaglenni hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, ac yn y Gymraeg.

 

Creu cyfleoedd i wneud dewisiadau teithio cynaliadwy

Byddwn yn annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio llesol drwy:

  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddarparu seilwaith teithio llesol gwell
  • Hyrwyddo gwell integreiddio rhwng teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus drwy gyfleusterau gwell a llwybrau teithio llesol newydd a gwell.
  • Integreiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, gan sicrhau bod rhwydwaith rheilffyrdd TrC, yr amserlenni, y cynllunio teithiau, y manwerthu a’r gwerthu tocynnau yn cysylltu â dulliau eraill o deithio ledled Cymru.

 

Byddwn yn sicrhau ein bod yn cynnig yr opsiynau mwyaf cynhwysol a hygyrch ar gyfer teithiau o un pen i’r llall yn unol â Dyletswydd Cydraddoldeb a Dyletswydd Hygyrchedd y Sector Cyhoeddus drwy:

  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i greu cynllun prisiau teg ledled Cymru.
  • Datblygu’r cynllun Talu-Wrth-Deithio, gan gynnwys tocynnau trên a bws integredig a digyswllt a chapio prisiau aml-daith.
  • Cyflwyno technoleg glyfar ryngweithiol, hygyrch, dwyieithog a llawn gwybodaeth ar safleoedd bysiau.

 

Byddwn yn gwella cysylltedd ardaloedd gwledig drwy:

  • Ehangu gwasanaethau sy’n ymateb i’r galw fel fflecsi mewn ardaloedd lle byddant yn darparu’r budd mwyaf.
  • Integreiddio ein rhwydwaith bysiau pellter hir TrawsCymru â gwasanaethau eraill.
  • Ehangu ein gwasanaethau arbenigol sy’n symud pobl o amgylch ardaloedd unigryw o ddiddordeb.

 

Sherpa’r Wyddfa

Lansiwyd Sherpa’r Wyddfa ar ei newydd wedd yn swyddogol ar 8 Gorffennaf 2022 yn Nant Peris ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Buom yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gwynedd i wella hen wasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa. Mae’r Sherpa’r Wyddfa newydd yn dod ag ymwelwyr a phobl leol i’r Parc Cenedlaethol ac yn helpu i leddfu tagfeydd ar y ffyrdd.

Gwasanaethau amlach a gwell cysylltedd yw’r prif elfennau wrth drawsnewid y rhwydwaith. Er enghraifft, mae’r rhwydwaith newydd bellach yn darparu gwasanaeth bob awr bob dydd rhwng ardaloedd twristiaeth poblogaidd Betws-y-Coed a Chaernarfon. Mae hyn wedi cael gwared â’r angen cynt i deithwyr newid bysiau yn Llanberis.

Mae’r rhwydwaith newydd hefyd yn darparu teithiau dyddiol rhwng Bangor a Phen-y-Pas wrth droed yr Wyddfa.

Lansiwyd ym 
mis Gorffennaf 
2022
Cynnydd o 
22% yn nifer y 
cwsmeriaid yn 
2022 ers yr un 
cyfnod yn 2019

 

Metro

Bydd ein rhaglenni Metro yn cynnig cyfleoedd gwell ar gyfer teithio aml-ddull, gan annog pobl i symud oddi wrth gerbydau preifat tuag at ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.

 

Metro De Cymru

Rydyn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol Llywodraeth Cymru a gweithredwyr bysiau preifat i ddarparu rhwydwaith cydlynol o lwybrau aml-ddull ar draws De Cymru.

 

Metro De Orllewin Cymru a Bae Abertawe

Rydyn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus i wella cyflymder a dibynadwyedd teithiau bws ac integreiddio’r rhwydweithiau bysiau a threnau.

 

Prif Reilffordd De Cymru

Rydym wedi nodi rhaglen hirdymor o fuddsoddiad ym Mhrif Reilffordd De Cymru, ac wrthi yn ei chydlynu, gan ddiwallu anghenion capasiti gwasanaethau rheilffyrdd y rhaglenni Metro.

 

Metro Gogledd Cymru

Bydd Rhaglen Metro Gogledd Cymru yn trawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.

Bydd yn ei gwneud hi’n haws ac yn gyflymach teithio ledled Gogledd Cymru, a bydd yn creu cysylltiadau gwell â gogledd-orllewin Lloegr.

 

Metro Canolog

Canolfannau trafnidiaeth aml-ddull sy’n ei gwneud hi’n haws defnyddio a chyfnewid rhwng pob math o drafnidiaeth gyhoeddus yng nghanol Caerdydd.

 

Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy

Byddwn yn dilyn yr Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy wrth ystyried buddsoddiadau seilwaith newydd, gan gynnwys:

  • Blaenoriaethu teithio llesol, gwella trafnidiaeth gyhoeddus a gwella bioamrywiaeth.
  • Gwneud y defnydd gorau o’r seilwaith presennol.
  • Cydlynu gwaith gyda’n Metro trafnidiaeth gyhoeddus a rhaglenni trafnidiaeth awdurdodau lleol, Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol a chynllun cyflawni.
  • Ymgynghori â’n Panel Adolygu Ffyrdd.
Cerdded a Beicio
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Cerbydau 
Allyriadau Isel Iawn
Cerbydau Modur 
Preifat Eraill

 

 

Darparu’r cymhelliant i symud o ddefnyddio ceir preifat.

Byddwn yn addasu ein strategaethau ymgysylltu â’r gymuned i annog pobl i ddefnyddio dulliau trafnidiaeth gynaliadwy drwy:

  • Cynnwys mwy o wyddor ymddygiad yn ein prosiectau Ymgysylltu â’r Gymuned.
  • Cyflwyno cynllun ymgysylltu gyda chyflogwyr a sefydliadau yn y sector cyhoeddus i annog ymddygiad cymudo cynaliadwy.
  • Cefnogi timau prosiect gydag ymyriadau gwybodaeth am ymddygiad ar bob cam o brosiectau.

 

Byddwn yn datblygu hunaniaeth brand sy’n meithrin ymddiriedaeth yn y rhwydwaith ac yn annog pobl i fanteisio ar ein gwasanaethau a mathau eraill o drafnidiaeth gynaliadwy drwy:

  • Datblygu canllawiau, dulliau marchnata ac adnoddau eraill i drawsnewid delwedd cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.
  • Cynnal ymgyrch i gynyddu’r defnydd o’r rheilffyrdd ar gyfer cymudo a hamdden.
  • Defnyddio dull gweithredu sydd wedi’i dargedu’n well wrth gyfathrebu.
  • Gwneud gwaith ymchwil i ddeall anghenion a chymhellion ein teithwyr yn well.

 

Byddwn yn cynyddu dibynadwyedd er mwyn magu hyder y bydd gwasanaethau ar gael pan fydd eu hangen drwy: 

  • Buddsoddi mewn cerbydau, trenau a seilwaith mwy gwydn.
  • Ail-ddylunio rhwydweithiau bysiau i greu system drafnidiaeth gwbl integredig.
  • Blaenoriaethu gofod ar y ffordd i bobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy.

 

Nod Cyfarwyddiaethau TrC Rhanddeiliaid Mesurau’r fframwaith 
monitro
Gwneud ein gwasanaethau’n fwy hygyrch 
ac yn haws eu defnyddio ac adlewyrchu 
anghenion ein cymunedau.
  • Cynllunio a datblygu trafnidiaeth
  • Diogelwch, cynaliadwyedd a risg
  • Cwsmeriaid a diwylliant
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol
  • Pobl Cymru a’r gororau
    (drwy 
    ymgynghoriadau)
M1
 
S2, S3, S5, S6, S11, S12, S13, S14, S15, 
S18
Byddwn yn cynyddu’r niferoedd sy’n 
defnyddio dulliau teithio llesol.
  • Cynllunio a datblygu trafnidiaeth
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol
M1, M6

S1, S3, S4, S5, S21, S22
Sicrhau ein bod yn cynnig y dewisiadau 
mwyaf cynhwysol a hygyrch ar gyfer 
teithiau pen-i-ben.
  • Cynllunio a datblygu trafnidiaeth
  • Cwsmeriaid a diwylliant
  • Masnachol
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol
  • Panel hygyrchedd a chynhwysiant
  • Pobl Cymru a’r gororau
    (drwy 
    ymgynghoriadau)
M1

S1, S2, S3, S4, S5, S6, S11, S12 S13, 
S14, S14, S15, S18, S20
Gwella dewisiadau trafnidiaeth ar gyfer 
pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.
  • Cynllunio a datblygu trafnidiaeth
  • Awdurdodau Lleol
  • Gweithredwyr bysiau

M1, M6

S1, S2, S3, S5, S11, S12

Dilyn yr Hierarchaeth Trafnidiaeth 
Gynaliadwy ar gyfer buddsoddiadau 
seilwaith newydd.
  • Cynllunio a datblygu trafnidiaeth
  • Masnachol
  • Seilwaith
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol
M1, M2, M6

S3, S4, S21, S22, S23
Byddwn yn addasu ein strategaethau 
cyfathrebu ac ymgysylltu â’r gymuned 
i annog pobl i ddefnyddio dulliau 
trafnidiaeth gynaliadwy.
  • Cwsmeriaid a diwylliant
  • Diogelwch, cynaliadwyedd a risg
  • Sefydliadau sector cyhoeddus
  • Sefydliadau masnachol
  • Sefydliadau addysgol
M1

S2, S5, S6, S11, S12
Datblygu hunaniaeth brand sy’n meithrin 
ymddiriedaeth yn y rhwydwaith.
  • Cwsmeriaid a diwylliant
  • Awdurdodau Lleol
  • Pobl Cymru a’r gororau
    (drwy 
    ymgynghoriadau)
M1

S2, S6, S11, S12
Gwneud ein gwasanaeth yn fwy 
dibynadwy.
  • Cynllunio a datblygu trafnidiaeth
  • Seilwaith
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol
  • Gweithredwyr bysiau
S9, S11, S16, S21, S22

 

Rhwydwaith trafnidiaeth sy’n dda i bobl, lleoedd ac amgylchedd Cymru

Pobl a lleoedd sy’n gwneud Cymru. Rydyn ni’n creu system drafnidiaeth sy’n dod â chymunedau at ei gilydd, yn gwella’r pentrefi, y trefi a’r dinasoedd lle rydyn ni’n byw ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at yr amgylchedd naturiol.

Rydyn ni’n adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n cyfrannu at Gymru fwy cyfartal ac iachach, y mae gan bawb yr hyder i’w ddefnyddio.

 

Rydyn ni’n adeiladu rhwydwaith sy’n addas ar gyfer y dyfodol drwy fod yn:

Buddiol i bobl a chymunedau

Byddwn yn sicrhau bod buddiannau ein cymunedau lleol wrth galon ein penderfyniadau drwy:

  • Cyflwyno tri Phartner Rheilffyrdd Cymunedol ychwanegol erbyn 30 Ebrill 2025, gan ddod â chyfanswm y partneriaid i naw.
  • Estyn allan at grwpiau’r trydydd sector i gynyddu hyder pobl i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus drwy ein rhaglen Hyder i Deithio.

Byddwn yn gwella’r amgylchedd mewn gorsafoedd er budd cymunedau drwy wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod 90% o’r gorsafoedd ar ein rhwydwaith wedi’u mabwysiadu erbyn 31 Mawrth 2024.
  • Nodi a datblygu ardaloedd sy’n addas ar gyfer gerddi cymunedol mewn gorsafoedd ac o’u hamgylch.
  • Nodi cyfleoedd i ddefnyddio neu adnewyddu mannau segur mewn gorsafoedd ac o’u hamgylch.
  • Gweithio gyda grwpiau Mabwysiadwyr Gorsafoedd sy’n bodoli eisoes a darpar grwpiau i wella’r ardaloedd o amgylch gorsafoedd.

Byddwn yn gweithio i ddeall a diwallu cymhellion ac anghenion teithwyr yn well drwy wneud y canlynol:

  • Datblygu ein rhaglenni Rhoi Cwsmeriaid yn Gyntaf a’u hehangu ar draws ein rhwydwaith.
  • Datblygu ein tîm o lysgenhadon sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid i gynnwys bysiau a gwella’r profiad teithio i deithwyr.

Byddwn yn nodi, yn rheoli ac yn dileu risgiau tymor byr, canolig a hir. Sicrhau bod ein rhwydwaith yn addas ar gyfer nawr ac yn y dyfodol.

 

Mabwysiadu gorsafoedd

Mae’r cynllun ‘Mabwysiadu Gorsafoedd’ yn gwella ein cysylltiadau â chymunedau lleol a chwsmeriaid sy’n byw ger gorsafoedd rheilffyrdd heb staff.

Mae gorsafoedd yn chwarae rhan bwysig mewn cymunedau ac yn aml dyma’r peth cyntaf y mae pobl yn ei weld pan fyddant yn cyrraedd tref.

Rydyn ni’n gofyn am wirfoddolwyr i adrodd ar faterion fel sbwriel, graffiti, fandaliaeth, goleuadau, pwyntiau cymorth gwybodaeth a gwybodaeth am amserlenni. Yn gyfnewid am eu cefnogaeth werthfawr, mae pob un sy’n mabwysiadu gorsaf yn cael taleb deithio flynyddol y gellir ei defnyddio ar unrhyw ran o rwydwaith rheilffyrdd y DU.

151 o orsafoedd 
wedi cael eu 
mabwysiadu hyd 
yma
Dros 250 o 
wirfoddolwyr 
gweithredol

 

Byddwn yn gwella ein perthynas â chymdogion wrth ymyl y cledrau ar Linellau Craidd y Cymoedd drwy:

  • Casglu adborth ar ein ffordd o gyfathrebu.
  • Datblygu gwell dull o gyfathrebu ac ymgysylltu.

 

Byddwn yn sicrhau bod cymunedau’n cael gwybodaeth well am brosiectau allweddol fel trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd a digwyddiadau yng Nghymru drwy:

  • Cynnal digwyddiadau galw-heibio i’r gymuned a fforymau chwarterol.
  • Rhannu ein cylchlythyrau gyda diweddariadau am y sefydliad â’n cymunedau.
  • Lansio ein pecyn cymorth Trafod Trafnidiaeth i ganfod a mynd i’r afael â’r rhwystrau y tynnir sylw atynt gan y cyhoedd.
  • Darparu llwyfan ymgysylltu ac ymgynghori ar-lein newydd i rannu gwybodaeth allweddol am brosiectau a’r cynnydd arnynt.
  • Gweithio gyda grwpiau hygyrchedd i sicrhau ein bod yn cyrraedd eu safonau nhw o ran ymgysylltu hygyrch a chynhwysol.

 

Buddiol i’r amgylchedd

Byddwn yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd drwy: 

  • Mynd ati i atgyweirio yn gyntaf wrth 
    adnewyddu cyfleusterau a gorsafoedd
  • Tynnu’r holl blastig untro o’n gwasanaethau.
  • Rhoi treial cychwynnol ar waith i wahanu gwastraff ble mae’n tarddu gyda’r bwriad o gyflwyno hynny’n ehangach erbyn Ebrill 2024.
  • Monitro’r defnydd o ddŵr ac atal gollyngiadau drwy osod cofnodwyr data dŵr ar bob prif gyflenwad dŵr

 

Byddwn yn cyflawni’r amcanion sydd wedi’u nodi yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth a’r dyletswyddau sydd wedi’u nodi yn Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 drwy:

  • Creu cynefinoedd brodorol newydd mewn 50 o orsafoedd rheilffordd yng Nghymru.
  • Gwella mannau cymunedol a’u dylunio gyda rheolaeth tymor hir ar rywogaethau brodorol.
  • Gwella a gwarchod ein hasedau tir drwy reoli bywyd gwyllt yn briodol.
  • Cynnwys atebion arloesol sy’n seiliedig ar natur a seilwaith gwyrdd.
  • Cydweithio â grwpiau bywyd gwyllt, elusennau a rhanddeiliaid lleol.

 

Byddwn yn datblygu llwybr allyriadau ar gyfer gweithrediadau uniongyrchol TrC drwy:

  •  Archwilio safleoedd er mwyn deall yn well pa mor berthnasol yw technolegau newydd a’r cyfleoedd ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni.
  • Treialu technolegau adnewyddadwy ar ein seilwaith gyda’r bwriad o’u cyflwyno’n ehangach.
  • Creu proses gadarn ar gyfer mesur a rheoli allyriadau corfforaethol TrC.
  • Datblygu fframwaith ar gyfer asesu a rheoli gollyngiadau carbon oes gyfan o’r dylunio hyd at y gweithredu.

Byddwn yn hwyluso datgarboneiddio’r sector trafnidiaeth yng Nghymru er mwyn galluogi teithio diallyriadau drwy:

  • Disodli 50% o’r cerbydau sydd â’r allyriadau uchaf erbyn 2028 a darparu fflyd bysiau ddi-allyriadau erbyn 2035.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i sicrhau bod mwy o gyfleusterau llogi beiciau ar gael.
  • Archwilio cyfleoedd i drydaneiddio rheilffyrdd ychwanegol y tu allan i Linellau Craidd y Cymoedd.
  • Cyflwyno trenau sy’n rhedeg ar fatris ar hyd rhwydwaith Cymru a’r gororau.
  • Sicrhau rhwydwaith o fannau gwefru cerbydau trydan ar y rhwydwaith ffyrdd erbyn 2025 er mwyn ei gwneud yn haws teithio pellter hir.

Byddwn yn ein gwneud ein hunain yn llai agored i niwed yn sgil newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol drwy:

  • Cyflawni’r amcanion sydd wedi’u nodi yn y Cynllun Ymaddasu i’r Hinsawdd a Chydnerthedd er mwyn gwneud asedau a gweithrediadau TrC yn fwy gwydn o ran yr hinsawdd.
  • Datblygu Fframwaith Ymaddasu i’r Hinsawdd i gefnogi’r gwaith o asesu’r risg i Linellau Craidd y Cymoedd yn unol â’r rhagamcanion diweddaraf o ran yr hinsawdd.

 

Buddiol i ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg

Byddwn yn hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru drwy

  • Datblygu Cynllun Gweithredu Treftadaeth
  • Sefydlu Panel Ymgynghorol ar Dreftadaeth
  • Creu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau creadigol a diwylliannol i’n teithwyr a’n cymunedau

Byddwn yn cefnogi digwyddiadau diwylliannol drwy gynllunio trafnidiaeth er mwyn hwyluso mynediad

 

Byddwn yn helpu i greu amgylchedd lle gall y Gymraeg ffynnu yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 drwy:

  • Darparu cyfleoedd newydd i gydweithwyr ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.
  • Cynyddu gallu TrC i gyfieithu drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Gwella ein cyfathrebu â theithwyr ar draws y rhwydwaith i sicrhau bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn gallu defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth yn hyderus yn eu dewis iaith.

Byddwn yn diogelu ein hasedau hanesyddol fel hen reilffyrdd ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cadw neu eu hailddefnyddio fel llwybrau beicio neu lwybrau troed.

 

Buddiol i’r economi ac i leoedd yng Nghymru

Byddwn yn sicrhau bod ein cadwyn gyflenwi yn cefnogi datblygiad cynaliadwy economi Cymru drwy

Providing work opportunities for small and medium sized enterprises (SMEs) and voluntary third sector enterprises (TSEs). 

  • Darparu cyfleoedd gwaith i fusnesau bach a chanolig a mentrau trydydd sector gwirfoddol.
  • Sicrhau bod 20% o wariant TrC yn mynd i fusnesau yng Nghymru a’r ardaloedd rydym yn eu gwasanaethu.
  • Hyrwyddo arferion caffael cyhoeddus cynaliadwy a moesegol yn unol â’r polisïau a’r blaenoriaethau cenedlaethol
  • Sicrhau bod o leiaf 15% o’r meini prawf cynaliadwy yn cael eu defnyddio wrth werthuso tendrau
  • Gweithio gyda’r gadwyn gyflenwi i wella arloesedd a chydweithio
  • Sefydlu system fesur ar gyfer canlyniadau llesiant a gwerth cymdeithasol

 

Byddwn yn gweithio gyda’r gadwyn gyflenwi i ganfod cyfleoedd arloesol a chydweithredol sy’n darparu atebion cynaliadwy drwy ymgysylltu digidol drwy borth cydweithio TrC a’n Labordai Arloesi. 

Byddwn yn gweithio gyda’n cadwyn gyflenwi i wella safonau cyflogaeth drwy:

  • Annog cyflenwyr i ymrwymo i’r Cod Ymarfer Moesegol
  • Anelu at raeadru’r Cyflog Byw Gwirioneddol drwy ein cadwyn gyflenwi.

Byddwn yn datblygu ein rhaglenni Metro i gefnogi hygyrchedd cyflogaeth yng Nghymru drwy:

  • Gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi polisïau cynllunio sy’n lleoli datblygiadau newydd ger canolfannau a llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Cysylltu pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig â’u gweithle.
  • Gwneud ardaloedd twristiaeth yn fwy hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus

Byddwn yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu economi hydrogen yng Nghymru drwy:

  • Treialu bysiau celloedd tanwydd hydrogen gyda’r bwriad o’u cyflwyno’n ehangach
  • Gweithio gyda sefydliadau addysgol i ddatblygu gweithlu medrus sy’n gallu cynnal a gwasanaethu seilwaith hydrogen
  • Cydweithio â sefydliadau lleol i ddatblygu seilwaith hydrogen

Byddwn yn datblygu ac yn gweithredu Strategaeth Twristiaeth Gynaliadwy i fonitro effaith twristiaeth a gwneud yn siŵr bod ein gweithgareddau’n creu swyddi ac yn hyrwyddo diwylliant Cymru.

 

Nod Cyfarwyddiaethau TrC Rhanddeiliaid Mesurau’r fframwaith 
monitro
Sicrhau bod buddiannau ein cymunedau 
lleol wrth galon ein penderfyniadau.
  • Cwsmeriaid a diwylliant
  • Partneriaid rheilffyrdd cymunedol
  • Grwpiau trydydd sector
M1

S2, S6, S12, S20
Gwella’r amgylchedd mewn gorsafoedd er 
budd cymunedau.
  • Cwsmeriaid a diwylliant
  • Diogelwch, cynaliadwyedd a risg
  • Seilwaith
  • Partneriaid rheilffyrdd cymunedol
  • Grwpiau trydydd sector
  • Mabwysiadwyr gorsafoedd
M1

S2, S11, S20, S24, S25, S27
Deall a chyflawni cymhellion teithwyr.
  •  Cwsmeriaid a diwylliant
  • Sefydliadau sector cyhoeddus
  • Sefydliadau masnachol
  • Sefydliadau addysgol
S2, S11, S20
Sicrhau bod cymunedau’n cael mwy o 
wybodaeth am brosiectau allweddol.
  •  Cwsmeriaid a diwylliant
  •  Panel hygyrchedd a chynhwysiant
  • Grwpiau trydydd sector
  • Cyhoedd Cymru a’r Gororau
S2, S11, S24
Lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd
  • Diogelwch, cynaliadwyedd a risg
  • Cwsmeriaid a diwylliant
  • Cynllunio a datblygu trafnidiaeth
  • Seilwaith
  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
M2

S21, S23, S25, S26, S27
Byddwn yn cyflawni’r amcanion sydd 
wedi’u nodi yn y Cynllun Gweithredu 
Bioamrywiaeth a’r dyletswyddau sydd 
wedi’u nodi yn Adran 6 o Ddeddf yr 
Amgylchedd (Cymru) 2016.
  • Diogelwch, cynaliadwyedd a risg
  • Cwsmeriaid a diwylliant
  • Cynllunio a datblygu trafnidiaeth
  • Seilwaith
  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Partneriaid rheilffyrdd cymunedol
  • Grwpiau trydydd sector
  • Mabwysiadwyr gorsafoedd
S23, S25, S26
Datblygu llwybr allyriadau ar gyfer 
gweithrediadau uniongyrchol TrC a 
hwyluso datgarboneiddio’r sector 
trafnidiaeth yng Nghymru er mwyn 
galluogi teithio di-allyriadau.
  • Diogelwch, cynaliadwyedd a risg
  • Cynllunio a datblygu trafnidiaeth
  • Masnachol
  • Seilwaith
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol
  • Gweithredwyr bysiau
M2, M3, M6

S7, S10, S23
Ein gwneud ein hunain yn llai agored i 
niwed yn sgil newid yn yr hinsawdd yn y 
dyfodol.
  • Diogelwch, cynaliadwyedd a risg
  • Cynllunio a datblygu trafnidiaeth
  • Seilwaith
  • Llywodraeth Cymru
S20, S21, S22, S27
Hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru.
  • Diogelwch, cynaliadwyedd a risg
  • Cynllunio a datblygu trafnidiaeth
  • Awdurdodau Lleol
  • Cadw
S27
Creu amgylchedd lle gall y Gymraeg 
ffynnu.
  • Cwsmeriaid a diwylliant
  • Cynllunio a datblygu trafnidiaeth
  • Awdurdodau Lleol
  • Cyhoedd Cymru a’r Gororau
S11, S14, S15
Sicrhau bod ein cadwyn gyflenwi yn 
cefnogi datblygiad cynaliadwy economi 
Cymru.
  •  Cwsmeriaid a diwylliant
  • Masnachol
  • Cadwyn gyflenwi
  • Busnesau bach a chanolig a mentrau 
    trydydd sector
S17, S26
Datblygu ein rhaglenni Metro i gefnogi 
hygyrchedd cyflogaeth.
  • Cynllunio a datblygu trafnidiaeth
  • Cwsmeriaid a diwylliant
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol
  • Gweithredwyr bysiau
M1, M4, M5

S1, S2, S3, S4, S5, S9, S11, S12
Cefnogi’r gwaith o ddatblygu economi 
hydrogen yng Nghymru.
  • Cynllunio a datblygu trafnidiaeth
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol
  • Sefydliadau addysgol
S21, S23, S24
Datblygu strategaeth twristiaeth 
gynaliadwy.
  • Cwsmeriaid a diwylliant
  • Grwpiau trydydd sector
  • Cadw
S1, S2, S27

 

Creu gweithlu amrywiol, sy’n gallu gwireddu ein gweledigaeth.

Rydyn ni’n cefnogi ein cydweithwyr i fod â’r hyder i fod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Rydyn ni’n gweithio’n galed i wella’r broses o recriwtio, cadw, dyrchafu, datblygu, a rhoi profiadau i’r bobl rydyn ni’n eu cyflogi.

Rydym ni am i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant fod yn rhan annatod o’n diwylliant. Rydym am i’n gweithwyr a’n partneriaid fod yn falch o weithio i ni.

Rydyn ni’n credu bod gweithlu amrywiol yn hanfodol i lwyddiant TrC a thrwy gofleidio safbwyntiau, barn, credoau a syniadau gwahanol, byddwn mewn sefyllfa well i wynebu heriau busnes a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd.

 

Byddwn yn sicrhau bod ein pobl yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi.

Byddwn yn sicrhau bod ein sefydliad yn amgylchedd teg a chynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cael cyfleoedd cyfartal i gyflawni eu potensial drwy:

  •  Cynnal arolwg EDI ddwywaith y flwyddyn a fydd yn help i nodi’r meysydd ffocws ar gyfer creu diwylliant cynhwysol i’n gweithwyr
  • Cefnogi ein gweithgorau sy’n cael eu harwain gan weithwyr er mwyn creu gweithle sy’n fwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol.

Byddwn yn gwella’r profiad i weithwyr er mwyn sicrhau eu hiechyd, eu lles, eu cynhyrchiant ac er mwyn eu cadw drwy:

  • Creu diwylliant o roi llais i weithwyr, sicrhau eu lles, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Darparu amgylchedd gweithio diogel ac iach gyda chyfleusterau lles.
  • Cyflawni’r amcanion a nodir yn ein Strategaeth Iechyd Corfforaethol.
  • Darparu cyfleoedd i gydweithwyr wella’u sgiliau drwy’r Strategaeth Dysgu a Datblygu.

Adeiladu sefydliad o arweinwyr sydd â’r pecynnau, yr adnoddau a’r gallu datblygu priodol i gyflawni ein hymrwymiadau sefydliadol yn effeithiol drwy: 

  • Datblygu a gweithredu Strategaeth Sgiliau ac Arweinyddiaeth sy’n cynnwys doniau cynnar, cyfleoedd i gydweithwyr presennol a sgiliau a recriwtio.
  • Datblygu ein rhaglen arweinyddiaeth fewnol, Arwain Gyda, i greu diwylliant arweinyddiaeth cadarnhaol a grymusol ar draws y sefydliad.

 

‘Arwain gyda’

Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd ein pobl ac yn deall y bydd buddsoddi yn ein harweinwyr yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol nid yn unig i unigolion, ond i’r sefydliad ac i’n cymunedau ehangach wrth i ni weithio tuag at gadw Cymru’n ddiogel ac yn symud.

 

Mae ein rhaglen arweinyddiaeth wedi’i chynllunio i ddarparu taith ddatblygu i arweinwyr presennol ac i ddarpar arweinwyr a chyfle i ddysgu sgiliau newydd, yn ogystal â chael adborth gan gydweithwyr a chymheiriaid ar eu harweinyddiaeth.

 

Rydym yn datblygu arweinwyr sydd â sgiliau ac ymddygiadau, gan sicrhau bod ganddynt yr adnoddau cywir sy’n angenrheidiol i ddiwallu ein hanghenion nawr ac yn y dyfodol

 

Lansiwyd ym 
mis Tachwedd 
2021
Cyflwynwyd 18
modiwl i 56 o 
gydweithwyr

 

Byddwn yn mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau tymor hir ac anghenion sector trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol drwy:

  • Cydweithio â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac asiantaethau lleol eraill i hysbysebu swyddi gwag, a helpu pobl leol i ennill y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt i wneud cais am y swyddi hyn
  • Darparu rhaglen gyrfaoedd a fydd yn cynnwys prentisiaethau, interniaethau a chynlluniau i raddedigion yn TrC

 

Nod Cyfarwyddiaethau TrC
Sicrhau y bydd ein sefydliad yn amgylchedd teg a chynhwysol.
  • Cwsmeriaid a diwylliant
Gwella profiad y gweithiwr.
  • Diogelwch, cynaliadwyedd a risg
  • Cwsmeriaid a diwylliant
Sicrhau bod gan ein harweinwyr y pecynnau, yr adnoddau a’r gallu datblygu i gyflawni ein hymrwymiadau sefydliadol yn effeithiol.
  • Cwsmeriaid a diwylliant
Mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau tymor hir ac anghenion sector trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol.
  • Cwsmeriaid a diwylliant

 

Llwytho i lawr

Cynllun datblygu cynaliadwy 2022-27 (PDF)