Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth

Submitted by DanEdw on

Rhagair

Leyton Powell

Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd
Trafnidiaeth Cymru

Diogelu ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yw un o heriau mwyaf ein hoes.

Roedd Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 yn tynnu sylw at ddirywiad parhaus ym mywyd gwyllt Cymru, ynghyd â newidiadau helaeth yn amlder, dosbarthiad ac ecoleg bywyd gwyllt o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Heb newid diwylliant, byddwn yn parhau i golli ein bywyd gwyllt am ddegawdau i ddod. Mae’n rhaid i ni fanteisio ar bob cyfle i groesawu llwybrau mwy gwyrdd a mwy cynaliadwy, a gwerthfawrogi a diogelu ein hasedau naturiol a fydd yn ein helpu i gyflawni hyn, ac yn ei wneud hyd yn oed yn well ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae gwarchod ein bywyd gwyllt yn rhan allweddol o’r amcan hwn. Mae llawer o’n rheilffyrdd, ein ffyrdd a’n llwybrau beicio yn gyfoeth o fywyd gwyllt; yn gartref i lawer o wahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid sy’n defnyddio’r cynefinoedd hyn i gysgodi, cymudo, bwydo a bridio.

Mae’n hanfodol ein bod yn ystyried bioamrywiaeth ac ecosystemau yn ein hamgylchedd naturiol, ac yn gwerthfawrogi’r cyfraniad pwysig y gallwn ei wneud i fioamrywiaeth Cymru a’r DU gyfan fel darparwr trafnidiaeth.

Mae Deddf yr Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn darparu seiliau cadarn i ni gyflawni’r uchelgais hwn. Mae’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth hwn yn nodi’r egwyddorion y bydd Trafnidiaeth Cymru yn eu mabwysiadu i sicrhau ein bod yn gwarchod, yn gwella ac yn hyrwyddo bywyd gwyllt, bioamrywiaeth a’n hecosystemau drwy gydol ein gweithrediadau. Nid yw’r cynllun yn ddiben ynddo’i hun, ond yn hytrach yn ddogfen fyw a chydweithredol sydd wedi’i chynllunio i gael ei haddasu a’i diweddaru i sicrhau ein bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau bywyd gwyllt a chadwraeth Cymru. Yn ei hanfod, mae’n nodi sut y byddwn yn cyrraedd lle y mae angen inni fod.

Laura Jones

Ecolegydd
Trafnidiaeth Cymru 

Mae gan ein rhwydweithiau trafnidiaeth yng Nghymru rôl hanfodol i’w chwarae wrth amddiffyn a gwella ein hamgylchedd naturiol.

Mae’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth hwn yn rhan allweddol o’n cynaliadwyedd ehangach yn Trafnidiaeth Cymru; yn gyrru ymlaen i atal dirywiad rhywogaethau, diraddio cynefinoedd a gwarchod ein bioamrywiaeth a’n hecosystemau trwy ein holl gweithrediadau.

Ein dyhead yw - a bydd o hyd yn - gall trafnidiaeth gyfrannu’n bositif at amddiffyn a gwella ein bywyd gwyllt.

Oak leaf

Nikhil Seth

Ysgrifennydd Cyffredinol y
Cenhedloedd Unedig

Beth mae Cymru’n ei wneud heddiw, bydd y byd yn ei wneud yfory

Cyflwyniad

Ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (CGP) yn darparu’r fframwaith cyffredinol ar gyfer gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau yn ein cwmni.

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu sut byddwn yn diogelu ac yn gwella bioamrywiaeth, wrth ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gwell, mwy integredig a mwy cynaliadwy.

Mae’r cynllun hwn yn rhan hanfodol o gyflawni ein gweledigaeth o’n gweithrediadau’n cael eu cyflawni’n gynaliadwy ar gyfer diogelwch, perfformiad, yr amgylchedd, ein cwsmeriaid a’n cymdogion. Mae cydweithio ac ymgysylltu’n agos â’n rhanddeiliaid a chymunedau lleol i fanteisio i’r eithaf ar y buddion y gallwn eu sicrhau i fioamrywiaeth yn rhan hanfodol o hyn.

Mae’r cynllun hwn ar gyfer holl weithwyr Trafnidiaeth Cymru (TrC) a’n partneriaid, sydd naill ai’n gweithio’n uniongyrchol i warchod a gwella bioamrywiaeth, neu y gallai eu gwaith effeithio arno mewn rhyw ffordd. Cynigir camau gweithredu yn y cynllun hwn dros gyfnod cychwynnol o bum mlynedd, a fydd yn cael eu hadolygu ar ddiwedd y cyfnod hwn gan y Tîm Datblygu Cynaliadwy.

Mae’r cynllun hwn yn cael ei gymeradwyo gan dîm arwain Trafnidiaeth Cymru ac mae’n cael ei gyfleu i bob gweithiwr ac mae ar gael i’r cyhoedd a phartïon sydd â diddordeb ar gais.

Beth yw Bioamrywiaeth?

Mae bioamrywiaeth yn derm i ddisgrifio’r cyfoeth a’r amrywiaeth o bethau byw sydd ar y ddaear, o famaliaid i bryfed, ffyngau, coed i flodau gwyllt, a’r cynefinoedd maen nhw’n byw ynddyn nhw a’r cymunedau maen nhw’n eu ffurfio.

Mae llesiant pawb - yn economaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn amgylcheddol - yn dibynnu ar ecosystemau iach a chadarn. Mae’r amgylchedd naturiol yn darparu cyflogaeth ac yn cynnal cymunedau ledled Cymru. Mae miloedd yn gweithio ym meysydd ffermio, coedwigaeth, pysgodfeydd, twristiaeth a hamdden, ac mae’r rhain i gyd yn dibynnu ar adnoddau naturiol.

Pwysigrwydd y Cynllun

Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu ein bywyd gwyllt a’r amgylchedd yn briodol fel rhan o’n gwaith. Rydym yn darparu prosiectau ac yn berchen ar dir sy’n bwysig i fywyd gwyllt, yn ogystal â’i reoli – mae ymylon ffyrdd a rheilffyrdd er enghraifft, yn darparu mosaig cynefinoedd bioamrywiol gan eu bod fel arfer wedi cael llai o ymyrraeth ac aflonyddwch gan bobl. Ar ben hynny, maent yn darparu lefel brin o gysylltedd cynefinoedd ar raddfa tirwedd. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn chwarae ein rhan i helpu i ddiogelu, gwarchod a gwella bioamrywiaeth Cymru, a gosod targedau a chamau gweithredu clir i ddangos sut rydym yn gwneud hyn.

Mae cysylltiad cryf rhwng ein gwaith ar fioamrywiaeth a’n blaenoriaethau eraill, fel y nodir yn ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy. Mae atebion sy’n seiliedig ar natur yn helpu i leihau faint o ddeunyddiau crai newydd rydym yn eu defnyddio, lleihau ein hallyriadau carbon, helpu i greu amgylchedd mwy bioamrywiol, gwella a diogelu ein hadnoddau naturiol a chynyddu cydnerthedd ecosystemau o ran effeithiau fel newid yn yr hinsawdd, rheoli cynefinoedd a llygredd.

Bioamrywiaeth o dan fygythiad

Ers 1970, mae’r pwysau cynyddol ar dirweddau a morweddau amrywiol Cymru wedi arwain at golledion ac enillion i fioamrywiaeth. Mae adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 yn dangos bod bywyd gwyllt Cymru, ar gyfartaledd, wedi dirywio yn ystod y degawdau diwethaf, gyda rhai rhywogaethau’n dirywio’n gyflym ac eraill yn diflannu.

Mae ein hamgylchedd naturiol dan bwysau sylweddol ac mewn perygl. Mae’r pwysau ar fywyd gwyllt yn dod o lawer o ffynonellau gwahanol, gan gynnwys rheoli amaethyddol, trefoli, llygredd, newidiadau hydrolegol a phresenoldeb cynyddol rhywogaethau estron goresgynnol. Mae newid hinsawdd hefyd yn achosi newidiadau eang i amrywiaeth, dosbarthiad ac ecoleg bywyd gwyllt Cymru, a bydd yn parhau i wneud hynny am ddegawdau i ddod.

Mae angen i ni weithredu nawr er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu cael mynediad at aer glân, dŵr, bwyd, deunyddiau crai a chyfleoedd i fwynhau natur.

  • 52% dirywiad yn nifer y glöynnod byw a gwyfynod yng Nghymru er 1976
  • 73 rhywogaethau sydd eisoes wedi diflannu yng Nghymru
  • 17% o rywogaethau dan fygythiad difodiant o Gymru

Deddfwriaeth a pholisi

Mae amcanion a nodau’r cynllun hwn wedi cael eu llywio a’u harwain gan ddeddfwriaeth, cynlluniau a pholisi bywyd gwyllt perthnasol (Atodiad 1) gan gynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau hyn gyda’i gilydd yn cydnabod pwysigrwydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau, a’r camau y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus eu cymryd – gan gynnwys y rheini sy’n gyfrifol am seilwaith trafnidiaeth – er mwyn diogelu a gwella’r rhain yng Nghymru.

Byddwn yn adrodd ar ein cydymffurfiaeth, ein camau gweithredu a’n cynnydd o ran ein targedau a’n nodau bioamrywiaeth i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, o dan Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau yn Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ddiweddaru a, phan fydd angen, yn adlewyrchu newidiadau yn y fframwaith rheoleiddio.

Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol,
yfoeth Naturiol Cymru

Mae pwysau amgylcheddol yn achosi dirywiad bioamrywiaeth byd-eang ar gyfraddau na welwyd o’r blaen yn hanes pobl... Mae natur yn chwarae rhan hanfodol o ran darparu bwyd, ynni, meddyginiaethau ac adnoddau genetig. Mae’r gwasanaethau ecosystemau a ddarperir gan gynefinoedd cydnerth – fel amddiffyn rhag llifogydd a thynnu carbon deuocsid – hefyd yn mynd i gael eu colli... Os na wneir newidiadau nawr, bydd colledion bioamrywiaeth a’r effaith negyddol ar fanteision natur i bobl yn parhau

Nodau ac amcanion

Nod y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth hwn yw darparu trosolwg strategol o gadwraeth bioamrywiaeth o fewn Trafnidiaeth Cymru a nodi pa wybodaeth, data a mesurau sydd eu hangen er mwyn i ni fonitro’r targedau hyn a dangos ein cynnydd gyda’r rhain.

Mae’r cynllun hwn yn seiliedig ar bum prif amcan

  1. Dim colled net o ran bioamrywiaeth
  2. Cyfathrebu a thryloywder
  3. Prif ffrydio arferion gorau
  4. Cydweithio
  5. Mentrau bioamrywiaeth

Diogelu a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau

Byddwn yn sicrhau bod unrhyw effeithiau ar fioamrywiaeth ac ecosystemau yn cael eu hasesu a'u lliniaru'n briodol.

Yn unol â'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau sy'n rhan o Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, byddwn yn sicrhau bod mecanweithiau priodol ar waith i amddiffyn rhag colli bioamrywiaeth, sicrhau cyfleoedd gwella a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau yn ein gweithrediadau.

Byddwn yn treialu prosesau priodol, fel dull gweithredu Llywodraeth Cymru tuag at Budd Net ar gyfer Bioamrywiaeth. Bydd hyn yn ein helpu i fesur ein heffaith ar fioamrywiaeth yn ddibynadwy ac yn gywir, a lliniaru'r rhain lle bo angen. O 2024 ymlaen, byddwn yn sicrhau na chollir bioamrywiaeth yn gyffredinol oherwydd ein gweithrediadau ac yn ceisio cynyddu a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau fel rhan o hyn.

Yn ogystal â deall effeithiau posibl ein gwaith, byddwn yn ymgorffori'r egwyddorion hyn yn ein polisïau, ein strategaethau a'n gweithgareddau busnes bob dydd.

Dyma rai o’r elfennau integredig y byddwn yn eu cyflwyno i gyflawni hyn yn yr hirdymor:

Casglu a rhannu data

Byddwn yn creu ‘cronfa ddata asedau’ i gasglu ystod eang o ddata ecolegol o bob rhan o'n rhwydwaith. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i sefydlu'r llinell sylfaen bioamrywiaeth, gan ein helpu i ddeall yn well yr hyn sydd gennym ar hyn o bryd, yr hyn y mae angen i ni ei ddiogelu ac y gallwn effeithio arno, neu bydd o fewn ein gweithrediadau y gallwn ei wella. Mae hyn yn cynnwys caniatáu i ni nodi pryd rydym yn cynnal neu'n cynyddu bioamrywiaeth o ganlyniad i'r gwaith a wnawn. Mae hyn yn ei dro yn ein galluogi i flaenoriaethu gwaith yn seiliedig ar ‘ragfynegi, atal a gwella’ yn hytrach nag ‘ymateb a lliniaru'.

Yn ogystal â dadansoddi cynefinoedd ar lefel uchel gan ddefnyddio arolygon bwrdd desg, byddwn yn defnyddio ffynonellau dibynadwy eraill o ddata o gofnodion amgylcheddol a chronfeydd data rhywogaethau a chynefinoedd mynediad agored. Bydd hyn yn ei dro yn cael ei ategu gan waith dilysu yn ystod teithiau cerdded ar y safle er mwyn ailasesu a/neu ddiweddaru y data sydd gennym eisoes ynghylch cynefinoedd a rhywogaethau.

Rheolaeth wybodus

Yn y tymor hwy, bydd ein cronfa ddata asedau yn llywio ein cynlluniau rheoli llystyfiant blynyddol ac yn darparu cynlluniau rheoli lefel safle penodol i ddiogelu a/neu wella bioamrywiaeth mewn unrhyw ardal benodol.

Bydd defnyddwyr yn gallu mewngofnodi i'r gronfa ddata a gweld lle mae materion a chyfleoedd ecolegol posibl (megis prosiectau gwrthbwyso gyda rhanddeiliaid lleol) wedi'u nodi. Bydd yr wybodaeth hon hefyd yn ein galluogi i weithredu strategaethau ar draws ein llwybrau ar gyfer bioamrywiaeth yn ystod y gwaith arferol o reoli llystyfiant.

Cyfathrebu a thryloywder

Rydym yn addo cyfathrebu ac ymgysylltu â’n staff, rhanddeiliaid a’r cyhoedd am y gwaith rydym yn ei wneud a pham

Cyhoedd am y gwaith rydym yn ei wneud a pham Mae bod yn agored ac yn dryloyw am ein gweithrediadau – yn fewnol (gan gynnwys ein staff ochr rheilffyrdd) ac yn allanol – i’n rhanddeiliaid ac i’r cyhoedd – yn bwysig iawn fel bod pawb yn deall beth, pryd, sut a pham rydym yn gwneud y gwaith rydym yn ei wneud.

Er enghraifft, er mwyn sicrhau cyfanrwydd y rhwydwaith, mae’n rhaid i ni weithiau dynnu coed a llystyfiant sy’n peri risg i’n seilwaith trafnidiaeth ac (felly) i’r cymunedau lle rydym yn gweithio. Rydym yn cydnabod yr effaith y mae hyn yn ei chael ar fioamrywiaeth a sut y gall hyn effeithio ar eraill, gan gynnwys ein cymdogion.

Byddwn yn glir ac yn dryloyw ynghylch hyd, graddfa a rhesymau ein gweithrediadau a’n gwaith cysylltiedig, a fydd yn cael ei gyfleu mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys dolenni gwe pwrpasol ar ein gwefan a thrwy ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Bydd y rhain yn cynnwys gwybodaeth fanwl am beth i’w ddisgwyl, a sut mae unrhyw ran benodol o’n gwaith yn gysylltiedig â’r cynllun hwn.

Drwy weithio gyda’n cymdogion ac ymgysylltu â’n rhanddeiliaid, gallwn weithio’n well – gyda’n gilydd – i gyflawni ein nodau bioamrywiaeth

Prif ffrydio arferion gorau

Rydyn ni’n prif ffrydio bioamrywiaeth yn ein gweithrediadau fel mater o drefn, bob amser yn seiliedig ar arferion gorau

Byddwn yn prif ffrydio bioamrywiaeth yn ein penderfyniadau a’n gweithrediadau fel mater o drefn; pan fydd llywodraethu priodol wedi’i wreiddio a’i gymeradwyo ar lefel bwrdd, adran a phrosiect. Bydd hyn yn sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei chynnwys ochr yn ochr â chyflawni ein gwaith adeiladu a chynnal a chadw a rheoli asedau, ar yr un pryd â sicrhau bod amodau iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni. Bydd egwyddorion arferion gorau sylfaenol ar gyfer ecoleg a bioamrywiaeth yn cael eu defnyddio yn unol â’n hamcan bioamrywiaeth Dim Colled Net, gan ddefnyddio’r hierarchaeth lliniaru bob amser ym mhob achos: Osgoi > Lleihau > Lliniaru > Gwrthbwyso.

Drwy ddefnyddio’r dull hwn, gallwn reoli ein risgiau amgylcheddol yn well drwy gynllunio, monitro, adolygu a, lle bo’n briodol, newid ein gweithredoedd. Mae hyn yn cynnwys chwilio’n rheolaidd am gyfleoedd i wella cydnerthedd ein hecosystemau drwy ddiogelu, cysylltu, gwella a chreu’r rhain yn ein gweithrediadau, fel rheoli llystyfiant wedi’i dargedu a phlannu coed yn strategol. Wrth wneud hyn, byddwn hefyd yn edrych ar gyfleoedd i integreiddio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau ecosystem ehangach, fel rheoli carbon, dŵr a llifogydd.

Bydd hyfforddiant ar gyfer ein staff a’n contractwyr yn rhan annatod o’r amcan hwn, gydag adnoddau priodol yn eu lle ar gyfer yr holl staff sydd ei angen. Bydd ein rheolwyr asedau tir, ein peirianwyr a’n staff ochr rheilffyrdd yn cael eu cynghori a’u hyfforddi i adnabod cyfleoedd rheoli cynefinoedd a risgiau i fioamrywiaeth

Drwy weithio’n agos gyda’n staff a’n rhanddeiliaid i gefnogi newid, byddwn yn creu newid mewn diwylliant lle mae bioamrywiaeth yn cael ei choleddu ar bob lefel.

Cydweithio ac ymgysylltu

Mae cydweithredu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, sefydliadau bywyd gwyllt a chymunedau lleol yn hynod werthfawr ac mae’n hanfodol i sicrhau hirhoedledd a llwyddiant parhaus unrhyw waith cadwraeth bioamrywiaeth a wnawn nawr, ac yn y dyfodol

Trwy weithio’n agos gydag eraill, gallwn wneud penderfyniadau gwell, mwy gwybodus - er enghraifft cysylltu enillion net bioamrywiaeth prosiect â blaenoriaethau cadwraeth natur lleo

Dros y pum mlynedd nesaf, rydym yn bwriadu gweithio'n agos gyda chyrff, sefydliadau a grwpiau allweddol, megis:

  • Llywodraeth Cymru
  • Partneriaid cymunedol
  • Rhwydwaith Gweithredu Plaladdwyr
  • Y Cyngor Coed • Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Lleol
  • Adnoddau Naturiol Cymru
  • Network Rail
  • Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru
  •  Grŵp Rhywogaethau Anfrodorol Goresgynnol Cymru
  • Grwpiau cadwraeth natur lleo

Rydym hefyd yn cymryd rhan yn Community Rail; strategaeth lywodraethol sy’n ceisio cynnwys pobl leol yn natblygiad a gwelliant yr amgylchedd rheilffordd. Mae Partneriaethau Cymunedol yn grwpiau o bobl ymroddedig sy’n gweithio gyda’r diwydiant rheilffyrdd ac Awdurdodau Lleol i hyrwyddo rheilffyrdd a gwella gorsafoedd, gwasanaethau a mynediad.

Trwy hyn gallwn wella ein dealltwriaeth o anghenion ein cymunedau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, a fydd yn dylanwadu’n gadarnhaol ar ein gweithrediadau.

Mentrau bioamrywiaeth

Mae ein hymrwymiad i fioamrywiaeth yn ymestyn ymhell y tu hwnt i wneud yr hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud – rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i gynyddu bioamrywiaeth ac mae gennym weledigaethau uchelgeisiol ar gyfer sut y gallwn wneud hyn

Rydym eisiau gosod esiampl fel arweinydd mewn rhwydweithiau trafnidiaeth trefol a gwledig, a hyrwyddo Cymru fel un sy’n arwain y ffordd fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy o’r radd flaenaf

Byddwn yn buddsoddi mewn amrywiaeth o nodweddion a fydd yn gwella bioamrywiaeth, fel:

  • Byddwn yn ymrwymo i gronfa seilwaith gwyrdd bob 5 mlynedd i gefnogi mentrau ein Cynllun Gwella Gorsafoedd, fel toeau gwyrdd ar lochesi beiciau a waliau byw mewn gorsafoedd.
  • Byddwn yn datblygu Gorsafoedd Gwyrdd ac yn rhoi mwy o waith celf yn y gorsafoedd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n llawn cymeriad ac yn adlewyrchu eu tirnodau lleol.
  • Byddwn yn cefnogi Cronfa Menter Bioamrywiaeth a fydd yn annog elusennau a sefydliadau academaidd i weithredu mentrau fel blychau cynefin, gwestai pryfed a garddio bywyd gwyllt o amgylch ein rhwydwaith rheilffyrdd ac yn yr amgylchedd ehangach
  • Byddwn ni’n dod o hyd i gyfleoedd i sicrhau bod ein hasedau tir yn cael cymaint o fudd â phosibl o ran bioamrywiaeth, gan gynnwys adfer ecosystemau sydd wedi dirywio a phlannu gwrychoedd i fod yn ffensys ffin newydd, fel strwythurau ffin amgen pan fo’n bosibl
  • Rydyn ni’n gweithio ar amrywiaeth o fentrau sydd â’r nod o ddiogelu pryfed peillio, gan gynnwys lleihau plaladdwyr wrth reoli’r tir a phlannu sy’n gyfeillgar i bryfed peillio.

Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys canfod buddsoddiad addas a chyfleoedd cyllido i’n helpu i gyflawni ein nodau.

Our projects

Llanwern off-site mitigation tree planting

As part of mitigation for construction of a Major Events Stabling Line (MESL) at Llanwern, an ecological mitigation approach was proposed which included both on and off-site habitat creation and management to ensure a net gain of biodiversity was achieved.

A compensation ratio of 2:1 was used, with over 6 hectares of new planting comprising both on and offsite habitats to mitigate for the of 2.9 hectares of habitat that would be lost as a result of the development. This included wet woodland, broadleaved woodland and scrub planting to benefit dormice, reptiles, bats and birds. Additional on-site mitigation included long term woodland management, habitat box installation and refugia creation.

Core Valleys Lines

Appropriate inclusion of biodiversity will form an integral part of vegetation management and standard protocols on the Core Valley Lines. For example, frequency and timing of cuts, critical areas for protection and opportunities for enhancement.

This includes targeted and appropriate long-term control and management and biosecurity as standard for invasive non-native species and diseases, which can cause our native species to decline.

For example, ash dieback (Hymenoscyphus fraxineusis) is a chronic fungal disease that has already devastated many ash trees across Europe and could lead to the loss of over 90% of one of our most common broadleaved trees

Station Adopters

Our Adopt a Station scheme aims to improve links and relationships with local communities near railway stations.

Through these partnerships we can promote the use of green spaces and infrastructure at or around our stations to enhance the resilience of ecosystems.

We plan to increase the number of adopted stations in the next few years. We have many great examples where volunteers maintain station gardens to a very high standard, even winning national awards.

Atodiad 1: Deddfwriaeth a pholisi

Deddfwriaeth, cynlluniau a pholisïau allweddol y DU ar gyfer bioamrywiaeth a chadwraeth yng Nghymru a’r DU

Deddfwriaeth/Polisi Disgrifiad
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn sefydlu’r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i gynllunio a rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig. Y nod yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy mewn ffordd a chyfradd sy’n diwallu anghenion cenedlaethau’r presennol heb amharu ar anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi rhestr o’r organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd sydd bwysicaf at ddibenion cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru. Mae adran 7 o’r Ddeddf yn disodli’r ddyletswydd yn adran 42 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd. O dan Adran 10 (1) y Ddeddf, mae gofyniad am ddangosyddion allweddol a elwir yn Ddangosyddion Cenedlaethol. Y rhai sy’n ymwneud ag ecoleg yw: Dangosydd Cenedlaethol 43 – Ardaloedd o ecosystemau iach yng Nghymru a Dangosydd Cenedlaethol 44 – Statws amrywiaeth biolegol yng Nghymru
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) yw’r prif ddull ar gyfer amddiffyn anifeiliaid, planhigion a chynefinoedd yn y DU yn ddeddfwriaethol. Mae hyn yn cynnwys atal planhigion goresgynnol rhag lledaenu yn y gwyllt, wedi’i restru o dan Atodlen 9 i’r Ddeddf.
Y Gyfarwyddeb Cynefinoedd Mae Cyfarwyddeb Cynefinoedd 1992 (Cyfarwyddeb 92/43/ EEC) yn nodi’r fframwaith cyfreithiol sy’n ei gwneud yn ofynnol i aelod-wladwriaethau’r UE ddiogelu safleoedd cynefin sy’n cynnal rhywogaethau bregus a gwarchodedig, fel y’i rhestrir yn y Gyfarwyddeb. Mae’r angen am asesiad o’r effeithiau ar safleoedd Natura 2000 (enw cyfunol safleoedd dynodedig Ewropeaidd, gan gynnwys Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig) wedi’i nodi yn Erthygl 6 y Gyfarwyddeb. Mae’r Gyfarwyddeb yn cael ei throsi i gyfraith y DU drwy Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017) (y “Rheoliadau Cynefinoedd”) a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd)
Gorchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 Mae’r Gorchymyn hwn yn caniatáu gorfodi Rheoliad Rhywogaethau Estron Goresgynnol 1143/2014 yr UE ar atal a rheoli rhywogaethau goresgynnol estron o blanhigion ac anifeiliaid yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys y trwyddedau, y caniatâd a’r rheolau perthnasol ar gyfer cadw rhywogaethau goresgynnol estron. Mae’r rhain yn rhywogaethau sy’n peri risg o effeithiau niweidiol ledled y DU, fel bod angen gweithredu wedi’i dargedu ledled y DU.
Deddf Cynllunio Tref a Gwlad (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) Rheoliadau 2017 Mae’r rheoliadau’n nodi gweithdrefn ar gyfer nodi’r prosiectau hynny a ddylai fod yn destun Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, ac ar gyfer asesu, ymgynghori a dod i benderfyniad ar y prosiectau hynny sy’n debygol o gael effeithiau amgylcheddol sylweddol ar fioamrywiaeth, treftadaeth ddiwylliannol, pridd, hinsawdd, dŵr a thirwedd.
Polisi Cynllunio Cymru 2018 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru. Prif amcan Polisi Cynllunio Cymru yw sicrhau bod y system gynllunio’n cyfrannu at gyflawni datblygu cynaliadwy ac yn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru (gan gynnwys bioamrywiaeth a rhwydweithiau ecolegol) fel sy’n ofynnol dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a deddfwriaeth allweddol arall.
Polisi Adnoddau Naturiol 2017 Mae’r Polisi Adnoddau Naturiol hwn yn canolbwyntio ar wella’r ffordd mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli. Mae hyn yn rhan allweddol o’r fframwaith cyflawni ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, a sefydlwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru). Mae hefyd yn hanfodol os yw cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol am barhau i fwynhau’r manteision y maent yn eu darparu. O’r herwydd, mae hefyd yn allweddol at gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Cynllun Amgylchedd 25 Mlynedd 2018 Mae’n gosod nodau ar gyfer gwella’r amgylchedd o fewn cenhedlaeth a’i adael mewn gwell cyflwr nag a gawsom ef. Mae’n nodi sut y byddwn ni yn y llywodraeth yn gweithio gyda chymunedau a busnesau i wneud hyn. Mae hyn yn cynnwys aer a dŵr glân, planhigion a bywyd gwyllt sy’n ffynnu, lleihau’r risgiau o beryglon amgylcheddol, defnyddio adnoddau naturiol yn gynaliadwy, lliniaru newid yn yr hinsawdd a gwella bioddiogelwch
Confensiwn Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol 1992 a Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn darparu fframwaith statudol ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth. Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Adrannau’r Llywodraeth a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i roi sylw i gadwraeth bioamrywiaeth a chynnal rhestrau o rywogaethau a chynefinoedd y dylid cymryd neu hyrwyddo camau cadwraeth ar eu cyfer, yn unol â’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol.
Ail Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR2020) Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi cyflwr adnoddau naturiol Cymru ac yn adeiladu ar y sylfaen dystiolaeth yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol cyntaf (2019). Mae’r adroddiad yn dangos rhai o’r heriau, y blaenoriaethau a’r cyfleoedd allweddol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Cynllun Adfer Natur Cymru Yn integreiddio ac yn adlewyrchu Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru, sy’n cyd-fynd â’r dystiolaeth, y blaenoriaethau, yr amcanion a rhwymedigaethau adrodd Llywodraeth Cymru, gweithredoedd rhanddeiliaid ar fioamrywiaeth ac yn nodi’r camau pellach sydd eu hangen yn y tymor byr a’r tymor hir.