Datblygiad cynaliadwy diweddariad blynyddol 2023
Rhagair
Dyma ein diweddariad blynyddol cyntaf yn erbyn ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy newydd, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022. Yn Trafnidiaeth Cymru (TrC) rydyn ni’n creu dyfodol gwell i’n cwsmeriaid, ein cydweithwyr a’n cymunedau.
Rydyn ni’n ehangu cyfleoedd teithio aml-ddull, gan gysylltu teithio ar fysiau a threnau â cherdded, beicio ac olwyno. Mae hyn o fudd i’r amgylchedd ond mae hefyd yn hybu ffyrdd iachach o fyw ac yn cefnogi economi Cymru. Mae ein gwaith o drawsnewid Metro De Cymru yn parhau, gan ddod â chysylltiadau trafnidiaeth cyflymach, mwy effeithlon ac amgylcheddol gynaliadwy i gymunedau ar draws y rhanbarth.
Drwy ein mentrau sy’n gwella bioamrywiaeth, rydyn ni’n cefnogi cymunedau lleol ac yn helpu i warchod y byd naturiol. Rydyn ni’n frwd dros ddatblygu cynaliadwy a’r rôl hollbwysig y gallwn ni ei chwarae o ran creu dyfodol mwy gwyrdd. Mae ein rhaglenni hyfforddi mewnol pwrpasol yn cefnogi datblygiad ein harweinwyr drwy ddarparu dulliau iddynt ar gyfer cyfathrebu a gwneud penderfyniadau effeithiol, a sbarduno newid cadarnhaol yn ein sefydliad ac yn y diwydiant ehangach.
Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at ein cynnydd o fis Ebrill 2022 hyd at fis Mawrth 2023. Wrth i ni edrych ymlaen at ddod yn gorff a enwir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ym mis Ebrill, rydyn ni’n gweithio i wthio ffiniau o ran sut gallwn ni ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-ddull sy’n wirioneddol gynaliadwy. Er mwyn adlewyrchu rhagor o integreiddio â’n strategaethau busnes, byddwn yn addasu sut rydyn ni’n adrodd ar ein cynnydd yn y dyfodol a dyma fydd ein hadroddiad terfynol yn diweddaru yn erbyn ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy.
Cyflwyniad
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu atebion trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu anghenion y presennol heb roi anghenion cenedlaethau’r dyfodol yn y fantol. Mae ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy yn cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r ddeddf yn nodi fframwaith ar gyfer creu Cymru fwy ffyniannus, cydnerth a chynaliadwy.
Yn yr adroddiad hwn, rydyn ni’n rhoi diweddariad ar ein cynnydd yn erbyn ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy, gan dynnu sylw at ein llwyddiannau a’r heriau rydyn ni wedi’u hwynebu o ran cyflawni ein hamcanion. Rydyn ni’n darparu atebion trafnidiaeth gynaliadwy sy’n gwella lles amgylchedd cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol ar yr un pryd â sicrhau hyfywedd hirdymor ein sefydliad. Drwy gydweithio â’n rhanddeiliaid a’n partneriaid, gallwn wneud cyfraniad ystyrlon at greu dyfodol cynaliadwy i Gymru.
Rydyn ni wedi bod yn hwyluso cerdded neu feicio fel rhan o daith
Cenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd Trafnidiaeth Cymru
Rydyn ni’n newid ymddygiad teithio. Rydyn ni eisiau llai o deithiau mewn car a mwy o bobl yn cerdded, yn olwyno, yn beicio ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Rydyn ni’n adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth integredig, gan ddarparu teithio didrafferth a syml. Bydd ein rhwydwaith trafnidiaeth yn cyfrannu at gynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol hirdymor Cymru a’r Gororau.
Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw creu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid drwy rwydwaith trafnidiaeth diogel y mae Cymru’n falch ohono.
Gwerthoedd
- Bod yn ddiogel - iechyd, diogelwch a lles
- Bod y gorau - perfformiad uchel, yn ddi-oed
- Bod yn bositif - os gallwn ni, fe wnawn ni
- Bod yn gysylltiedig - mentrus a rhwydweithiol
- Bod yn deg - gonestrwydd a chydraddoldeb
- Creu llwyddiant ar y cyd - brwdfrydedd dros gael y fargen ora
Llywodraethu datblygu cynaliadwy
Yr Is-bwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles | ||||
Ein tîm arwain gweithredol | Cyfarwyddwr Diogelwch, Cynaliadwyedd a Risg | Panel cynghori ar ddatblygu cynaliadwyl |
||
Pennaeth Datblygu Cynaliadwy a Newid Hinsawdd | ||||
Strategaeth datblygu cynaliadwy | Treftadaeth ac effaith gynaliadwy | Ecoleg, bioamrywiaeth a’r amgylchedd | Newid hinsawdd ac ynni | |
Hyrwyddwyr datblygu cynaliadwy |
Gweinidogion Cymru |
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru |
Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru |
Y Saith Nod Llesiant |
Fe wnaethom ehangu ein gwasanaethau fflecsi yn 2022/23.
Cipolwg ar 2022/23
- Dyrannu £48m o gyllid grant i bob un o’r 22 Awdurdod Lleol ar gyfer cynlluniau Teithio Llesol
- Mannau parcio beiciau ychwanegol mewn 5 o’n gorsafoedd rheilffyrdd
- Lansio 22 o deithiau cerdded cymunedol gyda’r Cerddwyr
- Lansio ein fflyd gyntaf o fysiau heb allyriadau o bibelli
- Cwblhau ein rhaglen Llwybrau Gwyrdd, gan wella 25 o orsafoedd a chreu 5 safle gwyrdd cymunedol newydd
- Gosod 210 o ddiffibrilwyr sy’n achub bywydau yn ein gorsafoedd ar draws y rhwydwaith
- Creu a gwella 9 o Goed Cymunedol ledled Cymru
- Lansio ein trenau Class 231 a Class 230 cyntaf
Cynnydd yn 2022/23
Defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i wella’r rhwydwaith bysiau
Aethom ati i weithio mewn partneriaeth â’r cwmni gwybodaeth am symudedd, Cityswift, i ddefnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial a dadansoddi data i wella profiad teithwyr ar fysiau yng Nghymru.
Rhestr wirio Teithio Llesol
Mae ein tîm Teithio Llesol wedi datblygu rhestr wirio Teithio Llesol, adnodd mewnol i sicrhau bod pob prosiect yn ystyried ac yn cynnwys dulliau teithio llesol. Cynyddu’r gallu i bawb ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy.
Y Gronfa Teithio Llesol
Rydyn ni hefyd wedi darparu canllawiau a chyngor i bob un o’r 22 awdurdod lleol ar ddylunio a datblygu’r prosiectau a ariennir drwy’r rhaglen grantiau
Parcio beiciau
Yn ystod gwanwyn 2023, fe wnaethom osod mannau parcio beiciau yng ngorsafoedd rheilffyrdd Caergybi, Dinbych-y-pysgod, Cwmbrân, Llanharan a Phontarddulais.
Gwasanaeth bws newydd yng Ngogledd Cymru
Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, fe wnaethom gyflwyno gwasanaeth bws T8 TrawsCymru newydd rhwng Corwen, Rhuthun, yr Wyddgrug a Chaer.
Gwasanaeth Bws TrawsCymru newydd ar gyfer Gogledd Cymru
Lansiwyd ein gwasanaeth bws heb allyriadau newydd sbon yn 2022
Creu cyfleoedd i bobl ddewis opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy
Trenau Class 231 newydd
Fe wnaethom lansio’r cyntaf o’r trenau FLIRT (Fast Light Intercity and Regional Trains) Class 231 yng Nghaerffili ym mis Mawrth 2023.
Mae’r trenau newydd yn rhan o fuddsoddiad gwerth £800 miliwn mewn trenau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith Cymru a’r Gororau ac maen nhw’n darparu mwy o seddi, gwell hygyrchedd, system aerdymheru, socedi pŵer, sgriniau gwybodaeth i deithwyr a lle ar gyfer hyd at chwe beic.
Trydaneiddio ein rheilffordd
Cafodd y llinellau trydan cyntaf eu pweru ar 4 Ebrill 23, gan nodi carreg filltir bwysig o ran cyflawni prosiect Metro De Cymru.
Bydd trydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd yn arwain at ostyngiad o hyd at 87% mewn allyriadau erbyn 2030 o’i gymharu â’r rhwydwaith yn 2022. Mae Metro De Cymru wedi ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Gwyliwch ein fideo ar ein prosiect trydaneiddio
Trenau Class 230 wedi’u hadnewyddu
Rydyn ni wedi lansio’r trenau hybrid batri a diesel cyntaf i gael eu defnyddio mewn gwasanaeth i deithwyr rheolaidd yng Nghymru. Mae’r trenau’n darparu gwasanaeth mwy effeithlon ac eco-gyfeillgar gyda nodweddion fel toiledau cwbl hygyrch, socedi pŵer, gwybodaeth electronig i deithwyr, Wi-Fi ar y trên, raciau beiciau ac aerdymheru.
fflecsi
Mae bws fflecsi, ein gwasanaeth trafnidiaeth sy’n ymateb i’r galw, wedi ehangu i gynnwys nifer o bentrefi newydd yn Sir y Fflint, Sir Benfro ac ardal Bwcle.
Darllenwch yr astudiaeth achos fflecsi
Ein fflyd Class 398 yn paratoi i ymuno â’r gwasanaeth o 2024 ymlaen.
Pwyntiau gwefru cerbydau trydan
Ers 2021, rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran ehangu ein rhwydwaith o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar y rhwydwaith ffyrdd i hwyluso teithiau pell haws.
2021 - 2022 |
2022 - 2023 |
2023 Datblygiad parhaus |
4,000 o sesiynau |
Rydyn ni’n gosod wyth |
Ar hyn o bryd rydyn ni’n |
O’r cledrau i’r llwybrau yn tynnu sylw at deithiau cerdded hygyrch a llesol ger ein rhwydwaith.
Darparu’r cymhelliant i symud o ddefnyddio ceir preifat
Teithiau Cerdded Cymunedol
Yn ystod gwanwyn 2023, fe wnaethom gydweithio â’r Cerddwyr i hyrwyddo cerdded fel ffordd o wella iechyd a lles cymunedol. Mae’r bartneriaeth wedi datblygu 22 o deithiau cerdded sy’n addas i deuluoedd ledled Cymru a’r gororau, i gyd o fewn cyrraedd ar drên.
Teithiau cerdded tywys ar y trên
Canolfan Ymwelwyr Ffynnon Taf
Mae bron i 1,300 o ymwelwyr wedi mynychu’r 170 o sesiynau ymgysylltu, gan gynnwys ymweliadau gan randdeiliaid a’r cyfryngau. Yn ystod 2022/23 mae’r ganolfan wedi cael ei defnyddio ar gyfer gwaith cydweithredol gydag ysgolion lleol, Gyrfa Cymru, Cardiff Pedal Power a’r Cerddwyr.
Treialu ffyrdd 20mya
Fe wnaethom gefnogi Llywodraeth Cymru i fonitro effeithiau gweithredu terfynau cyflymder 20mya ar ffyrdd cyfyngedig mewn wyth ardal dreialu yn ystod 2022. Yn ystod y treial, roedd 64% o geir yn teithio ar neu o dan 24mya, o’i gymharu â 45% cyn y treial. Roedd cynnydd o 51% yn y defnydd o deithio llesol ar deithiau i’r ysgol mewn ardaloedd treialu.
Pecyn Cymorth Siarad am Drafnidiaeth
Rydyn ni wedi lansio pecyn cymorth newydd ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned i helpu i hwyluso trafodaethau am drafnidiaeth gyda chymunedau lleol iawn. Mae’r Pecyn Cymorth Siarad am Drafnidiaeth yn darparu dull cyson o ymgysylltu, cofnodi a gwerthuso ymgysylltiad â chymunedau ar faterion trafnidiaeth ac mae’n ein helpu i nodi a mynd i’r afael â’r rhwystrau sydd wedi cael eu codi gan y cyhoedd. Mae’r broses werthuso yn cynnwys proses “gwrando, dysgu a chysylltu’n ôl”, lle mae adborth yn cael ei roi i’r adran briodol a’i ddychwelyd i’r gymuned. Bu’r cynllun peilot yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid a grwpiau cymunedol, gan gynnwys grwpiau ar y cyrion, ysgolion a grwpiau ieuenctid.
Hyder i deithio
Mae’r prosiect “Hyder i Deithio” yn darparu fideos a phodlediadau i bobl ag anableddau cudd i’w helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’n bartneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru, Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol Arfordir Gogledd Orllewin Cymru a Dyffryn Conwy, Tape Music and Film, Creu Menter a’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Hyd yma, mae’r prosiect wedi cyflwyno i dros 200 o bobl ac wedi mynd ag oddeutu 70 o bobl ar deithiau.
Ymgyrchoedd Tocynnau
Er mwyn lleihau’r rhwystrau i’n rhwydwaith, fe wnaethom gyflwyno nifer o ymgyrchoedd sy’n cynnig tocynnau trên ymlaen llaw rhatach i gwsmeriaid. Lansiwyd ein cynnig Multiflex ym mis Ionawr gyda 12 tocyn am bris 6 ac roedd wedi’i anelu at gymudwyr rheolaidd. Yn fuan wedyn, fe wnaethom gyflwyno gostyngiad o 40% oddi ar docynnau trên ymlaen llaw ar gyfer teithiau dros 50 milltir. Roedd y gostyngiad o 50% rhwng Manceinion a Chaerdydd cyn y Nadolig yn cynnig tocynnau trên rhatach rhwng y ddwy ddinas hyn yn y cyfnod cyn y Nadolig. Gall teuluoedd hefyd fanteisio ar ein cynnig lle gall plant deithio am ddim yn ystod hanner tymor.
Ymgyrch O’r Cledrau i’r Llwybrau
Fe wnaethom ail-lansio’r ymgyrch twristiaeth lesol O’r Cledrau i’r Llwybrau ar y cyd â Croeso Cymru a Llwybr Arfordir Cymru. Mae’r ymgyrch bellach wedi ehangu i gynnwys menter Llwybrau Cymru Croeso Cymru, gan hyrwyddo opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer twristiaeth lesol. Rydyn ni wedi ychwanegu mwy o deithiau O’r Cledrau i’r Llwybrau ar wefan Trafnidiaeth Cymru, gan dynnu sylw at y llwybrau cenedlaethol sy’n hygyrch o orsafoedd trenau.
Un o’n trenau Class 231 newydd sbon ger Pontlotyn
Rhwydwaith trafnidiaeth sy’n dda i bobl a chymunedau Cymru
Rhwydwaith achub bywyd
Rydyn ni wedi gosod 210 o ddiffibrilwyr mewn gorsafoedd o amgylch rhwydwaith Cymru a’r Gororau. Yn ogystal â gosod y dyfeisiau hyn sy’n achub bywydau, mae’r tîm Ymgysylltu â’r Gymuned a Rhanddeiliaid wedi ffurfio partneriaeth ag Achub Bywydau Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnig digwyddiad hyfforddi yn rhad ac am ddim ar adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a defnyddio diffibrilwyr.
Darllenwch ein hastudiaeth achos ar ddiffibriliwyr
Rhaglen Cwsmeriaid yn Gyntaf
Lansiwyd ein rhaglen Cwsmeriaid yn Gyntaf yn 2022. Mae’r rhaglen yn helpu i greu agwedd gyson tuag at ein gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae’r fforymau’n rhoi cyfle i gydweithwyr rheng flaen gael yr wybodaeth ddiweddaraf am fusnes, codi materion a phryderon, ac archwilio disgwyliadau cwsmeriaid a dewisiadau ymddygiadol. Mae dros 200 o bobl wedi mynychu gweithdai hyd yma.
Os yw ein staff yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso, eu gwerthfawrogi a’u hysbysu, mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ein cwsmeriaid.
Gemma Southgate
Rheolwr Cwsmeriaid yn Gyntaf
Y Pencadlys Ymgysylltu
Fe wnaethom lansio’r Pencadlys Ymgysylltu, ein system ymgysylltu ar-lein. Mae’n caniatáu i’n timau gynnal gwybodaeth am brosiectau y maent yn gweithio arnynt ac mae’n cynnwys cyfres o adnoddau i reolwyr prosiectau ymgysylltu ac ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid.
Mae’r llwyfan yn galluogi trafodaeth drwy ddulliau fel fforymau, gan ddarparu llwyfan i rwydweithio a rhannu gwybodaeth amser real gyda’n tîm ymgysylltu.
Dweud eich dweud gan Trafnidiaeth Cymru
Rhwydwaith trafnidiaeth sy’n dda i’r amgylchedd
Coed Cymunedol
Roedd ein prosiect naw mis, Coed Cymunedol, yn gydweithrediad rhwng TrC a deg partner cymunedol sy’n cynnwys cynghorau lleol, mentrau cymdeithasol ac elusennau coetir a chymunedol. Roedd y prosiect gwerth £100,000 a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru a chynllun Coed Cymunedol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi wyth ardal ledled Cymru ar hyd llwybrau teithio llesol drwy greu, gwella a rheoli coetiroedd newydd a choetiroedd sy’n bodoli eisoes. Rhwydwaith trafnidiaeth sy’n dda i’r amgylchedd
Roedd yn cynnwys rhaglen o blannu, adfer a chadw coed a choetiroedd brodorol, gwella mynediad a chynnal a chadw coetiroedd ac arweiniodd at amrywiaeth o effeithiau cymdeithasol a lles.
Darllenwch yr astudiaeth achos Coed Cymunedol
- Roedd bron i 90% o wariant y prosiect gyda chyflenwyr o Gymru.
- Dros 60 o sesiynau ymgysylltu â’r gymuned a gwirfoddolwyr.
- Cofnodwyd dros 1,300 awr o oriau gwirfoddolwyr.
Llwybrau Gwyrdd
Yn 2022 fe wnaethom lwyddo i gwblhau ein prosiect Llwybrau Gwyrdd, gan wella bioamrywiaeth mewn 25 o orsafoedd a chefnogi pum cymuned leol gyda phrosiectau creu cynefinoedd. Cafodd y fenter 18 mis o hyd gefnogaeth gan 176 o wirfoddolwyr a weithiodd ochr yn ochr â’n Timau Datblygu Cynaliadwy a Rheilffyrdd Cymunedol i osod 125 o botiau planhigion mewn gorsafoedd a lleoli dros 300 o nodweddion gwyrdd.
Cefnogwyd y prosiect gan £100,000 o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol drwy Gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, gyda bron i 80% o’r cyllid yn cael ei wario gyda busnesau a sefydliadau lleol yng Nghymru.
Tudalen prosiect llwybrau gwyrdd
Adroddiad ar Ddyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6
Fe wnaethom gyhoeddi ein Hadroddiad ar Ddyletswydd Adran 6 sy’n nodi sut rydyn ni’n gweithio i gynnal a gwella bioamrywiaeth, hyrwyddo cadernid ecosystemau a gwreiddio’r ystyriaeth a roddir i’r rhain yn ein gweithgareddau, ein polisïau, ein cynlluniau, ein rhaglenni a’n prosiectau o ddydd i ddydd, fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Adroddiad ar Ddyletswydd Adran 6 2022
Gorsafoedd heb chwynladdwyr
Buom yn gweithio’n agos â grŵp Mabwysiadwyr Gorsaf Dinas Powys, Wild About Nature, a thimau cynnal a chadw’r orsaf er mwyn rhoi’r gorau i ddefnyddio chwynladdwyr yn agos at fannau addurnol a mannau sy’n gyfeillgar i beillwyr ar blatfform yr orsaf, a reolir gan y grŵp.
MSE Flex - Waliau cynnal â llystyfiant
Fel rhan o’n prosiect Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, rydyn ni’n defnyddio system waliau â llystyfiant Flex MSE i ledu’r arglawdd ym Mhentrebach wrth fynd i’r afael â rheoli erydiad. Mae’r ateb arloesol hwn yn defnyddio bagiau sy’n llawn cymysgedd o dywod a chompost y gellir ei hadu, gan ddatblygu’n wal sy’n llawn planhigion. Mae hefyd yn atal erydu pridd ac yn cefnogi bioamrywiaeth leol drwy dyfu planhigion peillwyr.
Bysiau trydan TrawsCymru
Ym mis Mawrth, fe wnaethom ddadorchuddio wyth bws cwbl drydan newydd sbon, heb allyriadau o bibelli, ar gyfer llwybr T1 TrawsCymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Y bysiau yw’r cam cyntaf tuag at gyflawni nod Llywodraeth Cymru o gael fflyd bysiau TrawsCymru heb allyriadau o gwbl erbyn 2026.
Gellir ailwefru’r bysiau’n llwyr mewn 1.5 awr a byddant yn cael eu cefnogi gan hyb gwefru newydd yn Sir Gaerfyrddin ynghyd â chyfleusterau newydd ar gyfer gyrwyr a’r bysiau. Mae’r gwasanaeth yn cynnig tocynnau integredig gyda gwasanaethau rheilffyrdd i gefnogi’r gwaith o gynllunio teithiau gyda phrisiau seiliedig ar bellter sy’n cynnig gwerth gwell am arian.
Gwneud ein hunain yn llai agored i niwed yn sgil newid hinsawdd
Ddechrau 2023, fe wnaethom gyhoeddi ein Cynllun Ymaddasu i’r Hinsawdd a Chydnerthedd. Nod y cynllun yw gwneud yr holl weithrediadau a rhwydweithiau trafnidiaeth yn fwy cadarn, gan gynnwys unrhyw wasanaethau teithio ychwanegol o dan fantell TrC yn y dyfodol. Mae’n mynd i’r afael â risg hinsawdd drwy bwysleisio gweithio gyda natur i wella cydnerthedd ein hasedau a lliniaru risgiau fel llifogydd.
I gefnogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun yn llwyddiannus, mae Grŵp Llywio Ymaddasu i’r Hinsawdd a Chydnerthedd wedi cael ei sefydlu, ac mae Fframwaith Asesu Risg Newid Hinsawdd wedi cael ei ddatblygu i asesu, rheoli ac adrodd ar risgiau hinsawdd.
Y Ddraig Werdd
Mae safon System Rheoli Amgylcheddol y Ddraig Werdd yn rhaglen ardystio 5-lefel ar gyfer busnesau a sefydliadau yng Nghymru sydd â’r nod o’u helpu i wella eu perfformiad amgylcheddol a’u harferion cynaliadwyedd. Eleni, daethom â’n swyddfa yn Llys Cadwyn a’n canolfannau arlwyo i fyny i Lefel 5 o Lefel 3 a’n gorsafoedd i Lefel 3 o Lefel 2. Mae hyn yn golygu bod Llys Cadwyn, ein tri depo cynnal a chadw trenau a’n pedair canolfan arlwyo ar y lefel uchaf erbyn hyn.
Mae’r ardystiad hwn yn dangos ymrwymiad Trafnidiaeth Cymru i wella’r amgylchedd yn barhaus ac rwy’n hyderus gydag ymdrechion ein cydweithwyr y byddwn yn parhau i adeiladu ar hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Sophie Duggan
Arweinydd Cydymffurfiaeth Amgylcheddol
Darllenwch astudiaeth achos y Ddraig Werdd
Gwirfoddolwyr yn plannu yng ngorsaf reilffordd Cydweli
Buddiol i ddiwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg
Gosodwaith celf
Yn ystod 22/23 fe wnaethom osod gwaith celf mewn chwe gorsaf reilffordd ledled Cymru gyda’n cymunedau. Cynhaliwyd y prosiect gyda Phartneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, preswylwyr, ysgolion a sefydliadau trydydd sector, gyda’r nod o fynd i’r afael â thresmasu, ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol.
Roedd y fenter hefyd yn ceisio creu ymdeimlad o berchnogaeth a balchder ymysg y cymunedau ac ymgysylltu ag addysg diogelwch rheilffyrdd, gan hyrwyddo cymunedau cydlynol a sgyrsiau a gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau.
Darllenwch yr astudiaeth achos Gosodwaith Celf
Cefnogi mynediad at ddigwyddiadau mawr
Rydyn ni’n parhau i sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad at ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr yng Nghaerdydd. Rydyn ni’n mynd ati’n rhagweithiol i ymdrin â chynnydd mawr mewn galw am drenau drwy ddarparu teithiau bws uniongyrchol wedi’u harchebu ymlaen llaw o leoliadau allweddol ledled Cymru a’r gororau, gan ein galluogi i leddfu’r pwysau ar y rhwydwaith rheilffyrdd a gwella profiad teithwyr.
Mynediad 2 am bris 1 i safleoedd Cadw
Yn ystod gwanwyn 2023, fe wnaethom ymuno eto â Cadw i gynnig 2 docyn mynediad am bris 1 ar gyfer eu hamrywiaeth helaeth o safleoedd hanesyddol ledled Cymru, os oedd ymwelwyr yn teithio yno ar y trên.
Mae Cadw yn gyfrifol am warchod a chynnal dros 120 o leoliadau sy’n arwyddocaol o ran diwylliant, ac mae llawer ohonynt yn agos at ein rhwydwaith.
Darllenwch astudiaeth achos Cadw
System Rheoli Cyfieithu
Rydyn ni’n cyflwyno System Rheoli Cyfieithu (TMS), adnodd cyfieithu peirianyddol, i helpu i gyfieithu dogfennau corfforaethol a chyflwyniadau yn y cyfryngau. Ar hyn o bryd mae cyfieithwyr yn defnyddio eu gwybodaeth i sicrhau cysondeb o ran cyd-destun a thôn, sy’n gallu arwain at lwyth gwaith trwm. Yn lle hyn, bydd y TMS yn dysgu gan gyfieithwyr dynol er mwyn gwella cywirdeb yr wybodaeth a gyfieithir yn gyson.
Bydd y system yn cefnogi cyfieithu ar gyfer rheoli llif gwaith, rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau, a chynnwys gwefan ac yn caniatáu ar gyfer ceisiadau cyfieithu annibynnol.
Chwe siaradwr Cymraeg newydd yn ein Canolfan Reoli Integredig
Fe wnaethom groesawu chwe chydweithiwr newydd sy’n siarad Cymraeg i’n Canolfan Reoli Integredig i ateb unrhyw alwadau pwynt cymorth, galwadau brys yn ein lifftiau a’r pwyntiau cymorth sydd ar gael yn y toiledau sy’n cael eu gosod ar hyd Llinellau Craidd y Cymoedd ar hyn o bryd. Mae’r tîm hefyd yn ein cefnogi i gyfieithu ein negeseuon gweithredol i sicrhau bod yr hyn sy’n cael ei arddangos yn Gymraeg ar ein trenau a’n gorsafoedd yn gywir. Mae ein cymorth wrth law i gwsmeriaid, ynghyd â’n gwaith uwchraddio technolegol, bellach yn ein galluogi i ddarparu cymorth 24/7 i’n cwsmeriaid Cymraeg a Saesneg.
Buddiol i’r economi ac i leoedd yng Nghymru
Cefnogi cyflenwyr lleol
Yn ein prosiectau a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, aethom ati i flaenoriaethu gwariant gyda chyflenwyr lleol, o Gymru. Cyflawnodd ein prosiect Llwybrau Gwyrdd 78% o’i wariant gyda chyflenwyr lleol o Gymru a chyflawnodd ein prosiect Coed Cymunedol 87%. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio contractwyr lleol ac arbenigol ar gyfer gwaith adfer, cadwraeth a mynediad a chael gafael ar goed a deunyddiau plannu o ganolfannau garddio, planhigfeydd a chyflenwyr cyfanwerthu o Gymru, sydd wedi’u lleoli’n agos at orsafoedd cyfagos ac ardaloedd y coetiroedd. Buddiol i’r economi ac i leoedd yng Nghymru.
Digwyddiadau Cwrdd â Chontractwyr y Fframwaith
Trefnodd ein tîm Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi ddau ddigwyddiad llwyddiannus ‘Cwrdd â Chontractwyr y Fframwaith’ yn Llandudno a Threfforest.
Roedd tua 200 o gyflenwyr yn bresennol yn y digwyddiadau, gyda 75% yn fusnesau bach a chanolig. Roedd y digwyddiadau’n helpu i greu cyfleoedd i fusnesau Cymru weithio gyda TrC a’i gontractwyr fframwaith, gan greu mwy o refeniw a chyfleoedd gwaith yng Nghymru. Roedd y digwyddiadau’n rhan o’r Fframwaith Addasu a Gwella Seilwaith Gorsafoedd.
Darparu gwerth cymdeithasol
Rydyn ni’n blaenoriaethu gwerth cymdeithasol yn ein contractau drwy ymgysylltu’n gynnar i ddeall beth sydd ei angen a sut gallwn gael effaith gadarnhaol. Rydyn ni’n glir ac yn gryno o ran ein canlyniadau dymunol er mwyn gadael etifeddiaeth gadarnhaol. Ym mlwyddyn ariannol 2021/22, fe wnaethom wario £27 miliwn gyda busnesau bach a chanolig ac roedd 41% o’n gwariant yng Nghymru.
Darparu Gwerth Cymdeithasol drwy weithgarwch masnachol cydweithredol ar YouTube
Fel rhan o brosiect Llinellau Craidd y Cymoedd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Cynghrair Craidd wedi:
- Darparu dros 700 o oriau gwirfoddoli i gefnogi dros 80 o brosiectau cymunedol, gan gynnwys 27 o fentrau plannu
- Darparu 127 wythnos o brofiad gwaith i bobl leol
- Cefnogi 81 o brentisiaid a graddedigion
- Recriwtio 18 o lysgenhadon STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) i ddarparu gweithgareddau ymgysylltu mewn dros 20 o ysgolion ac ymgysylltu â dros 1,500 o blant a phobl ifanc
- Hyfforddi 38 o swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl
Cefnogi contractwyr llai
Fe wnaethom gyflwyno Rhaglen Yswiriant a Reolir i berchnogion bach i helpu contractwyr bach i gael yswiriant atebolrwydd fforddiadwy i weithio ar y rheilffordd. Yn flaenorol, roedd yr yswiriant atebolrwydd £155m a oedd yn ofynnol ar gyfer gwaith rheilffyrdd yn anodd i gontractwyr bach ei gael oherwydd y gost a phroses gaffael arbenigol. Mae’r polisi newydd yn caniatáu i gontractwyr drefnu polisi £10m y gellir ychwanegu ato gyda pholisi trychineb rhwng £10m a £145m. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i fusnesau bach a chanolig weithio ochr yn ochr â chontractwyr fframwaith TrC heb waith gweinyddol ychwanegol. Fframwaith Gwella Seilwaith.
Arloesi
Rydyn ni’n gweithio gyda chwmnïau cyfnod cynnar a chyfnod canol i’w helpu i ddeall neu greu atebion a allai fod yn ddefnyddiol i’r sefydliad. Bydd enillydd y rhaglen sbarduno yn cael gwobr ariannol i ddatblygu eu prawf o gysyniad. Mae pum carfan wedi’u cynnal hyd yma. Mae dros 300 o ymgeiswyr wedi ymgeisio a 30 o gwmnïau wedi’u dewis.
Rydyn ni hefyd wedi lansio menter ar y cyd mewn gwasanaethau arloesi mewn partneriaeth â TrC, Keolis ac Amey. Mae wedi’i dylunio i gynnig mynediad at adnoddau eiddo deallusol a gwasanaethau ymgynghori i ddod ag arloesedd i gefnogi’r gwaith o redeg a gwella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer Cymru a’r gororau. Mae’r fenter ar y cyd yn defnyddio dadansoddeg symudedd a data GPS i archwilio’r galw am deithio a sut mae’n newid, hyd yn oed ar lefel leol.
Cinetig
Ym mis Mawrth, cynhaliwyd Cinetig, y digwyddiad hacathon cyntaf. Trefnwyd y digwyddiad cyntaf dros ddau ddiwrnod. Gwahoddwyd cymysgedd o gydweithwyr a myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd i feddwl am ateb arloesol ar gyfer troi gorsafoedd yn gyrchfannau.
Gwyliwch ein fideo Cinetig ar YouTube
Croesawyd 11 o raddedigion newydd i’n gweithlu ym mis Medi 2022
Creu gweithlu amrywiol, sy’n gallu gwireddu ein gweledigaeth
Lansio’r Hyb Menywod mewn Trafnidiaeth
Fe wnaethom weithio mewn partneriaeth â Menywod mewn Trafnidiaeth i lansio Hyb newydd yng Nghymru a fydd yn grymuso menywod yn y diwydiant i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial. Bydd Hyb newydd Cymru yn edrych ar sut gall gefnogi’r gweithlu benywaidd ymhellach ac annog mwy i’r diwydiant drwy helpu i chwalu unrhyw rwystrau cymdeithasol.
Mae’r Hyb Menywod mewn Trafnidiaeth yn cynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol i fenywod sy’n gweithio neu sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant trafnidiaeth. Mae’r rhaglen yn un o’r mentrau rydyn ni’n eu cynnal i leihau ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Creu gweithlu amrywiol, sy’n gallu gwireddu ein gweledigaeth.
Y Clwb 5%
Eleni, fe wnaethom ymuno â’r Clwb 5%, menter i hyrwyddo recriwtio prentisiaid, graddedigion a myfyrwyr a noddir, ac i roi cyfleoedd iddynt ennill a dysgu er mwyn datblygu eu sgiliau a chreu gyrfaoedd ystyrlon. Drwy ymuno â’r Clwb 5%, rydyn ni’n ymrwymo i gynyddu nifer y prentisiaid, myfyrwyr a noddir, a graddedigion ar raglenni ffurfiol i 5% o gyfanswm ein gweithlu yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Rhaglen i Raddedigion
Ym mis Medi, croesawodd TrC garfan o 11 o raddedigion newydd i TrC. Yn ystod y cynllun dwy flynedd, bydd y graddedigion hyn yn dilyn rhaglen gadarn sy’n cynnwys gweithio ar draws pedair disgyblaeth wahanol o fewn eu meysydd arbenigol. Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn rhaglen arweinyddiaeth, wedi’i chefnogi gan arweinwyr yn y diwydiant sy’n arbenigo mewn darparu’r math hwn o hyfforddiant. Ochr yn ochr â chael profiadau a sgiliau newydd, byddant hefyd yn gweithio tuag at ennill achrediadau proffesiynol yn eu priod feysydd.
Arwain gyda
Er mwyn helpu ein staff i gyflawni cenhadaeth Llywodraeth Cymru yn effeithiol, sef cadw Cymru’n ddiogel ac yn symud, rydyn ni’n buddsoddi yn natblygiad ein harweinwyr. Mae ein rhaglen ‘Arwain gyda’ wedi cael ei dylunio i gynorthwyo ein harweinwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u hymddygiad. Ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen, fe wnaethom gefnogi 46 o bobl.
Rydyn ni wedi creu gweithdy dau ddiwrnod i gefnogi ymhellach y rheini sydd wedi cwblhau’r rhaglen i ddod yn Arweinwyr Hunanymwybodol. Rydyn ni wedi gweithio gyda’r Hyb Hyfforddi i ddarparu hyfforddiant gweithredol un i un i chwech o’n Tîm Arwain Gweithredol.
Bydd yr adnoddau a’r technegau ar y rhaglen yn edrych ar ffyrdd o ystwytho ac addasu ein hymddygiadau i’r rhai sydd o’n cwmpas ac yn creu amgylchedd cadarnhaol sy’n herio dysgwyr yn gyson i greu ffyrdd newydd o feddwl o fewn ymddygiadau arwain ein harweinwyr presennol ac arweinwyr y dyfodol.
Mark Hector
Rheolwr Hyfforddi a Datblygu
Darllenwch ein hastudiaeth achos ‘Arwain gyda’
Y diweddaraf am y Rhaglen Llwybrau
Dechreuodd ein Rhaglen Llwybrau ym mis Rhagfyr 2021. Mae’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth i’r rheini sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn perygl o fod yn rhan ohoni. Mae ein llwybrau pwrpasol yn darparu cyflogaeth sefydlog a dibynadwy yn y diwydiant rheilffyrdd gan fynd i’r afael â rhwystrau yn y broses ymgeisio drwy weithdai cymunedol. Nod y rhaglen yw amrywio’r gweithlu a lleihau’r siawns o atgwympo.
Mae Llwybr y Dynion wedi symud o gyfnod peilot i gyfnod mwy sefydledig, gydag unigolion yn aros mewn rolau ar draws y diwydiant rheilffyrdd ac allan o’r system cyfiawnder troseddol. Mae cynllun peilot Llwybr y Menywod wedi llwyddo i gyflogi unigolion sydd wedi gadael y carchar.
Stori Brian - Y Llwybr at Ddyfodol Cadarnhaol
Yn TrC rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu rolau tymor hir a chynaliadwy i unigolion talentog o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Rydyn ni’n mynd ati i ddod o hyd i’r ymgeiswyr hyn yn ein cymunedau a darparu’r cymorth cofleidiol sydd ei angen arnyn nhw i gynyddu eu hyder, adsefydlu a gweithio tuag at ddyfodol rhag-gymdeithasol.
Ellen Somers