Datblygu cynaliadwy diweddariad blynyddol 2021/22
Rhagair
Leyton Powell
Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd
Mae datblygu cynaliadwy yn rhan annatod o bopeth y mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn ei wneud. Cyhoeddwyd ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy cyntaf yn 2019. Roedd yn sôn am ein hamcanion a sut roeddem yn bwriadu cyflawni dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Ers hynny, rydym wedi gweithio’n galed i ddod o hyd i gyfleoedd a mynd ati mewn ffyrdd arloesol i helpu i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-ddull sy’n hygyrch, yn gynaliadwy ac yn effeithlon – rhwydwaith trafnidiaeth y bydd Cymru’n falch ohono.
Hwn yw ein trydydd adroddiad sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am hyn. Mae’n sôn am gynnydd a chyflawniadau blwyddyn ariannol 2021/22.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae TrC wedi parhau i dyfu wrth i ni groesawu ein cydweithwyr rheilffyrdd i’r sefydliad.
Mae ein Panel Cynghori ar Ddatblygu Cynaliadwy yn parhau i gefnogi ein gwaith drwy rannu eu harbenigedd a gwneud yn siŵr bod popeth a gyflawnwn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Law yn llaw â Chynghrair Craidd, ein Partneriaid Cyflenwi Seilwaith, rydym yn gweithio i ddiogelu ein rhwydwaith at y dyfodol, ac wrth edrych ymlaen, byddwn yn parhau i adeiladu ar ein gwaith da, dysgu o’n profiadau a dathlu ein llwyddiannau.
Natalie Rees
Pennaeth Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ar waith. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein Tîm Datblygu Cynaliadwy wedi tyfu. Mae hyn yn golygu bod modd i ni ddarparu mwy o adnoddau ac arbenigedd ar gyfer ein strategaethau datgarboneiddio ac addasu, ac archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer ein prosiectau sy’n gwella bioamrywiaeth ac yn hybu gwerth cymdeithasol ac arloesedd.
Mae ein rhwydwaith brwdfrydig o Hyrwyddwyr Datblygu Cynaliadwy o bob rhan o’r sefydliad yn dangos sut rydym yn gwneud yn siŵr bod datblygu cynaliadwy wedi’i wreiddio ym mhopeth a wnawn. Mae pawb yn gyfrifol am ddatblygu cynaliadwy yn TrC. Rydym yn hynod o falch o holl lwyddiannau ein cydweithwyr a’n partneriaid cyflenwi y sonnir amdanynt yn y diweddariad hwn.
O ran cyllid, rhaid nodi ambell uchafbwynt. Cawsom ddyfarniad gan Cadwch Gymru’n Daclus i barhau â’n gwaith mewn gorsafoedd i wella bioamrywiaeth ac adeiladu ar lwyddiannau’r prosiect Llwybrau Gwyrdd. Cafodd ein prosiect newydd, Coed Cymunedol, £100,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru i helpu cymunedau i blannu coed a rheoli coetiroedd.
Unwaith eto, roedd TrC yn un o noddwyr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Nod yr Academi yw helpu pobl yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i ddeall y ddeddf a datblygu cysylltiadau cydweithredol.
Mae Louis Mertens, Cydlynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, wedi cael profiad cadarnhaol, gan raddio o’r Academi yn ddiweddar.
Wrth edrych tuag at y dyfodol, byddwn yn rhyddhau ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy newydd yn ddiweddarach eleni. Bydd y cynllun hwn yn ein helpu i edrych o’r newydd ar ein nodau er mwyn gallu mynd ati’n effeithiol i fodloni amcanion ehangach ein sefydliad, cefnogi ein rhanddeiliaid eraill i wireddu eu hamcanion hwythau, a gwneud yn siŵr bod ein gwaith yn ystyriol o genedlaethau’r dyfodol.
Cyflwyniad
Dyma sut mae Datblygu Cynaliadwy yn cael ei ddiffinio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 -
“Y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant.”
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth aml-ddull sy’n hygyrch, yn gynaliadwy ac yn effeithlon, gan wneud yn siŵr bod cynaliadwyedd yn rhan annatod o’n sefydliad drwyddo draw.
Mae ein cynllun datblygu cynaliadwy yn nodi sut rydym yn:
- Gwneud yn siŵr bod datblygu cynaliadwy yn rhan o’n diwylliant ac wedi’i wreiddio ym mhopeth rydym yn ei wneud
- Pennu ein hymrwymiad a’n dull gweithredu mewn perthynas â datblygu cynaliadwy hyd at 2033
- Gosod targedau, camau gweithredu a chyfrifoldebau clir
- Bodloni gofynion polisïau a deddfwriaeth berthnasol
- Ymgymryd â gweithgareddau allweddol i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy
Mae’r Diweddariad hwn yn sôn am ein cynnydd wrth gyflawni ein hymrwymiadau i’r saith Nod Llesiant a’r pum Ffordd o Weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’n disgrifio’r gwaith y mae timau TrC a’n partneriaid wedi’i wneud rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022.
Mae’r astudiaethau achos yn rhoi rhagor o wybodaeth ac yn tynnu sylw at arferion gorau ar draws y sefydliad.
Mae rhagor o wybodaeth am waith TrC dros y flwyddyn ddiwethaf ar gael yn yr Adroddiad Blynyddol a’r Datganiadau Ariannol.
Cymru lewyrchus
Ein hymrwymiad
Byddwn yn ysgogi gweithgarwch economaidd ac yn hyrwyddo economi ffyniannus, arloesol a charbon isel, a fydd yn darparu cyflogaeth o ansawdd uchel i aelodau o’n tîm ac i’n cadwyn gyflenwi.
Byddwn yn gwarchod adnoddau naturiol ac yn gwella ansawdd yr amgylchedd yr ydym yn gweithredu ynddo drwy hyrwyddo defnydd cynaliadwy, lleihau gwastraff a sbarduno gwelliant parhaus.
Cyflogaeth
Rydym wedi lansio llawer o gynlluniau i gefnogi ein hymrwymiad i ddarparu gwaith o safon i aelodau ein tîm a sicrhau gwerth cymdeithasol.
Mae’r rhain wedi cynnwys y Rhaglen ‘Arwain gyda’, yr Academi Brentisiaethau, ein Cynllun i Raddedigion a’n Llwybr i Droseddwyr.
Mae galluogi pobl i gael gwaith, beth bynnag fo’u cefndir a’u hamgylchiadau, hefyd yn gysylltiedig â nod ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’.
Creu Dyfodol: Llwybr i Droseddwyr
Ym mis Medi 2021, lansiwyd cynllun newydd i roi cyfle i hyd at ddeg o bobl i weithio ar Fetro De Cymru, gyda’r swyddi wedi’u lleoli yng Nghanolfan Seilwaith Trefforest.
Mae’r Cynllun, sy’n bartneriaeth rhwng Carchar Ei Mawrhydi Prescoed, Coleg y Cymoedd, Seilwaith Amey Cymru a phartneriaid cyflenwi seilwaith TrC, yn cynnig profiadau galwedigaethol perthnasol.
Mae’r cynllun yn enghraifft o sut gallwn sicrhau gwerth cymdeithasol drwy ein prosiectau, y tu hwnt i’w cyflawni.
Cynllun i Raddedigion
Ym mis Medi 2021, croesawom chwech o raddedigion i’n cynllun cyntaf un ar gyfer graddedigion. Yn ystod y cynllun dwy flynedd, byddant yn dilyn rhaglen drylwyr sy’n cynnwys gweithio ar bedair disgyblaeth wahanol o fewn eu meysydd arbenigol.
Byddant hefyd yn elwa o gyfleoedd dysgu addysgol, yn datblygu sgiliau newydd ac yn gweithio tuag at ennill achrediadau proffesiynol yn eu meysydd arbenigol.
Byddant yn rhan o rai o’n prif brosiectau dros y ddwy flynedd nesaf, yn rhannu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiadau ac yn ein helpu i roi prosiectau gwerth miliynau o bunnoedd ar waith – prosiectau fydd yn siapio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Erbyn hyn, rydym wedi recriwtio ein hail gohort o raddedigion, yn barod at fis Medi, a bydd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a recriwtio ar gyfer y trydydd cohort yn dechrau yn ystod mis Gorffennaf.
Academi Brentisiaetha
Mae ein cohort cyntaf o brentisiaid wedi llwyddo i gwblhau Ffynnu, ein Hacademi Brentisiaethau.
Cefnogwyd pedwar prentis drwy’r rhaglen wrth iddynt ennill sgiliau ym maes cyllid, adnoddau dynol, data a’r cyfryngau cymdeithasol.
Bydd yr ail gohort o brentisiaid yn dechrau arni ym mis Medi 202
Astudiaeth achos - yr academi brentisiaethau
Y rhaglen ‘Arwain gyda’
Cyflwynwyd y rhaglen hon er mwyn helpu i gefnogi ein harweinwyr ac arweinwyr y dyfodol o safbwynt sgiliau ac ymddygiad, i sicrhau bod yr adnoddau priodol ganddynt i ddiwallu anghenion y presennol a’r dyfodol.
Bydd y rhaglen yn helpu i ddatblygu arweinwyr newydd, gan gefnogi ein pwrpas cyffredin i sicrhau diwylliant arwain cadarnhaol ym mhob rhan o’r sefydliad. Fe’i cynlluniwyd i ddatblygu ffyrdd newydd o feddwl a chreu pecynnau i’n harweinwyr eu defnyddio yn eu rôl.
Bydd y rhaglen yn galluogi ein harweinwyr i gyflawni eu potensial i’r eithaf, i fod â’r agwedd briodol, gan fod yn gysylltiedig ac yn deg, ac i sicrhau bod pawb yn rhannu llwyddiant.
Adeiladu cynaliadwy
Rydym wedi gweithio’n agos gydag Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru i wneud yn siŵr bod ein prosiectau’n cyflawni yn erbyn 25 o ddangosyddion perfformiad allweddol sy’n dangos sut mae ein prosiectau’n cyrraedd nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru
Ein prosiectau: Derbyniodd Trosbont Ffynnon Taf, Gorsaf Bow Street a Gorsaf Parcffordd Glannau Dyfrdwy i gyd statws Rhagorol gan Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru.
Mae’r broses yn nodi pa gamau a gymerwyd ar adegau pwysig mewn prosiect sydd wedi arwain at ganlyniadau llwyddiannus.
Gellir defnyddio’r hyn a ddysgir ar brosiectau eraill. Mae gofyn bod pob prosiect yn ymdrin â datblygu cynaliadwy mewn ffordd gyfannol ac yn sicrhau cydbwysedd rhwng ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Defnyddir dangosyddion perfformiad allweddol i ddangos llwyddiant, gan adlewyrchu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Cynllun arall sy’n helpu i gyflawni’r ymrwymiad hwn yw’r Cynllun Adeiladwyr Ystyriol, a ddefnyddiwyd gan ein partner, AIW, wrth adeiladu Depo Ffynnon Taf.
Astudiaeth achos - gorsaf parcffordd glannua dyfrdwy
Astudiaeth achos - gorsaf Bow Street
Adeiladwr Ystyriol Ffynnon Taf
Ers 2019, mae Seilwaith Amey Cymru (AIW) wedi bod yn adeiladu Depo Metro De Cymru yn Ffynnon Taf ar ein rhan, drwy’r Cynllun Adeiladwyr Ystyriol.
Fel rhan o’r cynllun hwnnw, mae AIW wedi ymdrin â’i gyfrifoldebau tuag at genedlaethau heddiw ac yfory mewn ffordd ragweithiol, a hynny o ran sut mae’n rheoli gwastraff, yn cynnal archwiliadau i gadw’r safle’n lân, ac yn dwyn gwerth yn ôl i’r gymuned.
Astudiaeth achos - trosbont Ffynnon
Y ‘Gynghrair Rheilffyrdd’ gyntaf i gael ardystiad ISO
Mae’r partneriaid yn ein cadwyn gyflenwi wedi cael eu hardystio am eu perthynas fusnes gydweithredol.
Craidd
Drwy weithio gyda’n Partneriaid Cyflenwi Seilwaith, Seilwaith Amey Cymru, Alun Griffiths, Balfour Beatty a Siemens Rail, rydym wedi ffurfio Cynghrair Rheilffyrdd o’r enw Cynghrair Craidd.
Ar 29 Tachwedd, derbyniodd Cynghrair Craidd ardystiad ISO44001 – Systemau Rheoli Perthnasoedd Busnesau Cydweithredol. Rydym bellach yn rhan o’r Gynghrair Rheilffyrdd gyntaf yn y byd i gael ei hardystio’n ffurfiol. Mae ISO yn ardystiad a gefnogir gan y llywodraeth drwy’r British Assessment Bureau ar gyfer safonau ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Mae’r Gynghrair yn gweithio’n galed i weddnewid Llinellau Craidd y Cymoedd i adeiladu Metro De Cymru.
Bydd hyn yn gwella cysylltedd yn sylweddol drwy Dde Cymru ac yn rhoi mynediad at gyfleoedd gwaith, hamdden ac eraill i bobl Cymru.
Mae’r prosiect Metro wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a bydd yn cysylltu llwybrau rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol eraill.
Economi
Yn ein diweddariad diwethaf, soniwyd am y dull ‘economi gylchol’ arloesol a ddefnyddiwyd yn ein swyddfa yn y pencadlys ym Mhontypridd.
Mae hyn yn cyflawni un o’n hamcanion, sef ysgogi gweithgarwch economaidd a hyrwyddo economi ffyniannus, arloesol a charbon isel.
Gwobr Gwerth Cymdeithasol ar gyfer Dodrefn
Ym mis Tachwedd 2021, ni oedd enillwyr ‘Gwobr Cenedlaethau Ffyniannus y Dyfodol’ a gyflwynwyd mewn digwyddiad ar-lein – Cynhadledd Gwerth Cymdeithasol Genedlaethol 2021: Cymru – Arwain y Symudiad, ar 16 ac 17 Tachwedd 2021.
Roedd cynigion yr enillwyr yn cael eu dangos ar-lein a’u cyhoeddi yn llyfryn y gynhadledd, gyda chyfle i’w cyflwyno yn ystod y seremoni wobrwyo.
Mae’r wobr Gwerth Cymdeithasol ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol “ar gyfer sefydliad sydd wedi cyfrannu at gymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy’n cydnabod terfynau’r amgylchedd byd-eang ac felly’n defnyddio adnoddau’n effeithlon ac yn unol â’r galw”.
Rydym hefyd yn ysgogi gweithgarwch economaidd ac yn hyrwyddo economi ffyniannus, arloesol a charbon isel drwy ein cadwyn gyflenwi, ac mae Labordy TrC yn darparu cymorth i fusnesau newydd ym maes technoleg.
Astudiaeth achos - dodrefn Llys Cadwyn
Labordy TrC
Mae ein pedwerydd cohort o’r ‘Rhaglen Sbarduno Arloesi’ wedi cychwyn ar eu siwrnai yn Labordy modern TrC yng Nghasnewydd.
Gyda’r tri cohort blaenorol, mae’r rhaglen eisoes wedi ein gweld yn gweithio gyda 25 o gwmnïau sy’n dechrau arni. Ers hynny, mae llawer o’r rhain wedi dechrau gweithio gyda ni, ac yn darparu atebion arloesol y gallwn ni eu defnyddio mewn perthynas â thrafnidiaeth.
Defnyddio adnoddau’n gynaliadwy
Cyflawni ein hymrwymiad i warchod adnoddau naturiol a hyrwyddo defnydd cynaliadwy, lleihau gwastraff a hybu gwelliannau parhaus.
Rydym yn trydaneiddio ein hased rheilffordd yn Neddwyrain Cymru drwy’r broses Trydaneiddio Clyfar, gan ddefnyddio’r egwyddor o “adeiladu llai, adeiladu’n ddeallus, adeiladu’n effeithlon”.
Bydd hyn yn helpu i leihau allyriadau carbon yn y dyfodol, sy’n gysylltiedig â nod ‘Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’.
Trydaneiddio Metro De Cymru
Yn y gorffennol, mae trydaneiddio wedi bod yn ffordd ddrud ac anodd o wella seilwaith oherwydd bod gan reilffyrdd y DU lawer o dwneli a phontydd isel, sy’n golygu nad oes digon o le i gyfarpar llinellau uwchben.
Erbyn hyn, mae gwelliannau mewn technoleg yn golygu bod modd i ni roi batris yn y trenau fel eu bod yn gallu rhedeg am gyfnodau heb gysylltiad â chyfarpar llinellau uwchben.
Oherwydd hyn, rydym wedi gallu osgoi mwy na 60 o ymyriadau sifil neu draciau cymhleth, gan arbed amser ac arian, a lleihau effaith cyflawni Metro De Cymru ar ein cymdogion ac ar yr amgylchedd.
I’n helpu i gyflawni ein hymrwymiad i hybu defnydd cynaliadwy, lleihau gwastraff a hybu gwelliannau parhaus, rydym yn rhoi pwyslais ar ‘atgyweirio yn gyntaf’ yn ein rhwydwaith er mwyn osgoi defnydd diangen.
Atgyweirio i Sicrhau Ansawdd Gwasanaeth
Bydd ein Tîm Ansawdd Gwasanaeth yn cadw golwg ar yr elfennau o’n rhwydwaith sy’n ymwneud â chwsmeriaid, gan adrodd yn ôl os nad ydynt yn cwrdd â’r safon. Pan fydd diffyg yn dod i’r amlwg, gall y tîm asesu a ydynt am atgyweirio’r ased sydd dan sylw ynteu gael un newydd yn ei le.
Cynhaliodd y tîm dros 1000 o atgyweiriadau yn 2021.
Cymru gydnerth
Ein hymrwymiad
Byddwn yn gwella ein cydnerthedd ac yn addasu i’r newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol, ac yn rheoli risg amgylcheddol drwy gynllunio, monitro, adolygu a, lle bo’n briodol, newid ein camau gweithredu.
Byddwn yn lleihau diraddiad cynefinoedd ac adnoddau naturiol, ac yn amddiffyn a gwella bioamrywiaeth.
Er mwyn mynd i’r afael â’n hymrwymiad i wella cydnerthedd ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol, rydym yn datblygu Cynllun Cydnerthedd ac Addasiadau Carbon a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod tymor yr hydref 2022.
Cynllun Cydnerthedd ac Addasiadau Carbon
Mae ein cynllun yn dangos beth fyddwn yn ei wneud i sicrhau bod cydnerthedd mewn perthynas â’r hinsawdd yn cael ei wreiddio ym mhopeth a wnawn er mwyn mynd ati’n effeithiol i ddiogelu rhwydwaith trafnidiaeth Cymru.
Mae’r ddogfen hon yn cynnwys asesiad o ba mor fregus yr ydym ar hyn o bryd i dywydd gwael, a pha mor fregus fyddwn ni yn y dyfodol, drwy ddefnyddio’r wyddoniaeth ddiweddaraf ym maes newid hinsawdd a thystiolaeth gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd.
Bwriad y cynllun yw rhoi sylw i’r prif risgiau sy’n effeithio ar y sector trafnidiaeth yng Nghymru, fel y nodir yn y trydydd Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd. Byddwn hefyd yn cynnal yr Asesiadau hyn ar draws ein rhwydweithiau, ein gwasanaethau a’n gweithgareddau.
Daeth yn amlwg y bydd cyfres o gamau cychwynnol yn gwella ein cydnerthedd yn y dyfodol – bydd cynlluniau cyflawni pwrpasol yn cael eu llunio ar ôl cwblhau Asesiadau Risg ar y rhwydwaith.
Er mwyn mynd i’r afael â’r nifer uchel o boteli plastig sy’n cael eu defnyddio, lleihau gwastraff a chefnogi pobl sy’n wynebu effaith tywydd anffafriol, rydym wedi bod yn gosod y cyntaf o 23 pwynt ail-lenwi poteli dŵr mewn gorsafoedd ledled Cymru.
Ail-lenwi Poteli Dŵr
Rydym wedi gosod pwyntiau ail-lenwi yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog, Machynlleth a Llandudno, ac yn bwriadu gosod rhai mewn 20 o orsafoedd eraill cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.Gorsaf Caerdydd Canolog oedd y gyntaf i gael pwynt ail-lenwi poteli dŵr ym mis Ionawr. Yn ystod y 5 mis cyntaf, llwyddodd y pwynt dŵr i arbed dros 4,000 o boteli o ddŵr.
Hysbysebir y pwyntiau ar ap Refill ac ar refill.org.uk, lle gellir mewngofnodi i ddod o hyd i’ch pwynt ail-lenwi agosaf. Bydd mwy o orsafoedd yn cael eu hychwanegu at yr ap pan fyddant ar gael yn nes ymlaen eleni.
Cydnerthedd mewn perthynas â´r hinsawdd
Er mwyn ein galluogi i gyflawni ein hymrwymiad i gryfhau ein cydnerthedd i newid yn yr hinsawdd, rydym yn cyflwyno system i fonitro’r tywydd ar hyd ein rhwydwaith.
System monitro tywydd
Mae Llinellau Craidd y Cymoedd yn fwy tebygol o gael eu poeni gan dywydd, oherwydd ffactorau daearyddol fel topograffi a rhwydweithiau afonydd cymhleth, felly rydym wedi cyflwyno ein system ein hun i gael rhagolygon o’r tywydd.
Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o ddata’n ymwneud â’r tywydd a daearyddiaeth leol, mae 7 gosaf dywydd yn cael eu gosod yn y mannau canlynol ar hyn o bryd.
- Bae Caerdydd
- Pontypridd
- Treherbert
- Aberdâr
- Merthyr Tudful
- Cwmbargoed
- Rhymni
Bydd y gorsafoedd tywydd yn rhoi data ar yr y newidynnau canlynol sy’n ymwneud â’r tywydd:
- Cyflymder a chyfeiriad y gwynt
- Hyrddiau o wynt
- Lleithder
- Cyfanswm glawiad
- Glawiad bob awr
- Tymheredd
- Gwasgedd barometrig
- Mynegai UV
- Pelydriad heulog
- Sychdarthu, anweddu a thrydarthu
- Mynegai Tymheredd Lleithder Haul Gwynt (THSW)
- Proffil gwlybaniaeth pridd (Cwmbargoed yn unig)
- Gwlypter y Dail (Cwmbargoed yn unig)
Yng ngorsaf dywydd Cwmbargoed, mae antena amrediad hir a fydd yncadw golwg ar safle tirlithriad am leithder y pridd a pha mor wlyb yw’r dail – gan ein gwneud yn fwy cydnerth pan fydd y tywydd yn anffafriol.
Byddwn yn defnyddio’r un lefelau rhybudd cenedlaethol ar gyfer risg o dywydd â’r rhai a ddefnyddir gan Network Rail. Bydd y tîm Rheoli Asedau yn cadw golwg ar y rhagolygon yn y safleoedd hyn, drwy raglenni bwrdd gwaith a symudol, gan helpu ein timau i ymateb i unrhyw ddigwyddiadau tywydd anffafriol sy’n effeithio ar Linellau Craidd y Cymoedd, a pharatoi ar eu cyfer.
Byddwn yn edrych yn fanylach ar y potensial ar gyfer monitro ansawdd aer ar draws Llinellau Craidd y Cymoedd.
Ecoleg a bioamrywiaeth
I gyflawni ein hymrwymiad i leihau dirywiad cynefinoedd naturiol ac adnoddau naturiol, a gwarchod a gwella bioamrywiaeth, lansiwyd ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth fis Mehefin y llynedd
Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth
Roedd ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yn amlinellu’r blaenoriaethau y byddwn yn rhoi sylw iddynt er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn amddiffyn, yn gwella ac yn hyrwyddo bywyd gwyllt, bioamrywiaeth a’n hecosystemau ym mhob rhan o’n gwaith.
Mae’r egwyddorion hyn yn caniatáu i ni ddangos ein bod yn cydymffurfio â Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac yn cynnwys targedau uchelgeisiol, er enghraifft, dim colled net o ran bioamrywiaeth (a lle bo modd, enillion net) yn ein gweithgareddau erbyn 2024.
Erbyn hyn, mae’r nod hwn yn rhan annatod o bob prosiect newydd; gydag asesiad o Enillion Net Bioamrywiaeth wedi’i gynnwys fel mater o drefn pryd bynnag y bo’n berthnasol.
Mae nodau eraill yn cynnwys cyfathrebu a thryloywder ynghylch ein gwaith ar fioamrywiaeth, arferion prif ffrwd gorau, cydweithio ac ymgysylltu â sefydliadau bywyd gwyllt a chymunedau lleol, a rhoi cynlluniau bioamrywiaeth ehangach ar waith.
Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda grwpiau mabwysiadu gorsafoedd i reoli mannau plannu yn y ffordd orau bosibl i helpu bywyd gwyllt yn y gorsafoedd, gan gynnwys newid amseroedd torri a lleihau defnydd o chwynladdwr.
Ar ben hyn, rydym wedi integreiddio bioamrywiaeth ac ecoleg yn gadarn yn ein prosesau gwneud penderfyniadau fel rhan o’n hagwedd gyffredinol at fusnes, a hynny ar gychwyn prosiect, ochr yn ochr â gwaith hyfforddi tîm ehangach, a chodi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd ecoleg.
Llwybrau Gwyrdd
Eleni gwelwyd ein Prosiect Llwybrau Gwyrdd #NATUR yn dwyn ffrwyth ar ôl dyfarniad llwyddiannus o £100,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol drwy gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru. Bydd y prosiect yn cyflwyno nodweddion gwyrdd ac yn gwella bioamrywiaeth mewn 25 o orsafoedd ledled Cymru ac mewn 5 ardal gymunedol wrth ymyl gorsafoedd.
Mae maniffesto Llywodraeth Cymru yn ein hymrwymo i “50 o gynlluniau creu cynefinoedd mewn gorsafoedd rheilffordd a chyfnewidfeydd trafnidiaeth” erbyn 2024. Mae’r prosiect yn cynnig 25 o gynlluniau tuag at y targed hwn, fel cam cyntaf rhaglen sydd â’r nod o gyflawni’r ymrwymiad.
O ran y gorsafoedd eu hunain, mae’r prosiect ar hwyl go iawn, gyda’r rownd gyntaf o fannau gwyrdd a chynefinoedd newydd wedi’u creu yng ngorsafoedd Caerffili, Bae Caerdydd a Phontypridd.
Bydd gwaith yn cael ei gwblhau mewn 22 o orsafoedd ar draws Cymru cyn gaeaf 2022. Mae’r nodweddion gwyrdd yn cynnwys plannu i ddenu peillwyr, blychau
bywyd gwyllt ac ardaloedd sy’n apelio at y synhwyrau mewn gerddi – pob un yn helpu i greu a chefnogi llwybrau gwyrdd yn ein gorsafoedd. Mae’r prosiect wedi cyfrannu at ddatblygu’r Rhaglen Mabwysiadu Gorsafoedd, wedi creu mwy o gyfleoedd i wirfoddoli, wedi gwella’r profiad i deithwyr mewn gorsafoedd ac wedi darparu mwy o fannau a gweithgareddau llesol ar gyfer staff.
Drwy weithio gyda’n pum partner cymunedol – The Enbarr Foundation, Neuadd Bentref Ffynnon Taf, Cambrian Village Trust, Rhandiroedd Bron Fair a Twyn Community Hub – rydym wedi creu a gwella mannau gwyrdd a rhannau eraill o’u safleoedd.
Mae’r prosiect wedi cefnogi twf a datblygiad gwirfoddoli gwyrdd yn y gymuned ac wedi creu swydd dros dro yn The Enbarr Foundation yng Ngogledd Cymru.
Mae ein prosiect cymunedol diweddaraf, sy’n gweithio gyda’r Cambrian Village Trust yng Nghwm Clydach, yn enghraifft wych o gydweithio gyda chymunedau a’n partneriaid yn y diwydiant i roi gwelliannau bioamrywiaeth ar waith - sydd hefyd yn dwyn budd i bobl drwy greu mynediad at fannau gwyrdd.
Ar ôl cael grant gan Cadwch Gymru’n Daclus, rydym hefyd wedi cyflwyno nodweddion gwyrdd ychwanegol yng ngorsaf drenau Caerfyrddin.
Cymru iachach
Ein hymrwymiad
Byddwn yn hyrwyddo rhwydwaith trafnidiaeth sy’n gyfartal yn gymdeithasol, yn gynhwysol, yn iach ac yn ddiogel ar gyfer holl aelodau ein tîm.
Teithio Llesol
Mae galluogi pobl i deithio’n fwy llesol yn un ffordd o gyfrannu at y nod o greu ‘Cymru iachach’.
Y Fframwaith Monitro Cenedlaethol ar gyfer Teithio Llesol
Rydym wedi drafftio Fframwaith Monitro Cenedlaethol ar gyfer Teithio Llesol, a fydd yn creu sylfaen dystiolaeth gadarn i fesur effaith cyllid ar gyfer prosiectau teithio llesol yng Nghymru.
Bydd yn cefnogi’r Fframwaith Monitro ehangach ar gyfer Strategaeth Trafnidiaeth Cymru, Llwybr Newydd.
Grŵp Swyddogion Teithio Llesol
Rydym wedi lansio’r Grŵp Swyddogion Cenedlaethol ar gyfer Teithio Llesol a’r Fforwm Gynghori Genedlaethol ar Deithio Llesol, gan alluogi ein rhanddeiliaid i gyfrannu at ein gwaith a helpu i siapio ein cynlluniau.
Mae ein Grŵp Swyddogion Teithio Llesol yn fforwm allweddol ar gyfer rhannu gwybodaeth am y Gronfa Teithio Llesol gydag awdurdodau lleol a chasglu eu hadborth ar y broses.
Rhwydwaith Cymdeithasol Go Iawn
Mae’r ymgyrch hon yn hyrwyddo cerdded, seiclo a defnyddio bws neu drên fel ffyrdd cynaliadwy o deithio. Mae’n ceisio annog pobl i edrych ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn ffordd wahanol a gwneud newidiadau tymor hir a byr i’r ffordd y maent yn teithio.
Ymddangosodd yr hysbyseb teledu ar ITV ar 1 Ebrill 2022.
Gwylio Rhwydwaith Cymdeithasol Go
Lles ar ein rhwydwaith
Er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i hyrwyddo rhwydwaith trafnidiaeth sy’n gyfartal yn gymdeithasol, yn gynhwysol, yn iach ac yn ddiogel i bawb, rydym wedi darparu offer sy’n gallu helpu i achub bywydau ar draws ein rhwydwaith.
Diffibrilwyr mewn gorsafoedd
Ym mis Ionawr, aethom ati i osod y diffibrilwr cyntaf o 200 ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau. Bydd hyn yn rhoi mynediad i unrhyw un a allai fod angen yr offer hollbwysig hwn i achub bywyd. Fel rhan o’r cynllun, bydd dros 80% o’n gorsafoedd yn cael diffibrilwyr dros gyfnod o 18 mis, a byddant ar gael i’r cyhoedd 24 awr y dydd.
Mae diffibrilwyr yn ddyfeisiau cludadwy sy’n gallu rhoi sioc drydanol i’r galon pan fydd hi wedi stopio curo, fel arfer o ganlyniad i ataliad sydyn ar y galon.
Gall defnyddio diffibriliwr o fewn tri munud i ataliad ar y galon wella siawns rhywun o oroesi cymaint â 70%.
Mae diffibrilwyr yn gallu achub bywydau. Mae’n bleser gennym ddweud ein bod mewn sefyllfa i osod y dyfeisiau hyn ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau.
Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth, ac fel rhan o’n gwaith gyda’r darparwr, Aero Healthcare, bydd ein staff yn cael cynnig hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r diffibrilwyr hyn.
Rydym am i rwydwaith Cymru a’r Gororau fod y rhwydwaith mwyaf diogel yn y DU, ac un rhan bwysig o hyn yw gwneud yn siŵr bod yr adnoddau priodol yn ein gorsafoedd i helpu pobl mewn argyfwng.
Rydym hefyd yn gweithio gydag amrywiol elusennau a chydweithwyr ym maes gofal iechyd sy’n ein helpu i gynllunio sut i ddarparu hyfforddiant ar yr offer hwn sy’n achub bywydau yn ddwfn yn ein cymunedau.
Karl Gilmore
Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd
Bwyta’n iachach
Mae gwella ein harlwy yn ffordd arall o gyflawni ein hymrwymiad ar gyfer ‘Cymru iachach’. Rydym wedi bod yn rhan o Fwrdd Gweithredu Cenedlaethol Pwysau Iach: Cymru Iach ers iddo gael ei sefydlu.
Blas
Rydym yn ail-lansio ein gwasanaeth arlwyo o dan y brand sy’n eiddo i TrC - Blas. Rydym yn creu gwasanaethau arlwyo a fydd yn helpu i weddnewid sut mae pobl yn meddwl am fwyd ar drenau. Disgwylir i’r gwasanaeth newydd gael ei lansio ym mis Rhagfyr.
Rydym yn edrych o’r newydd ar y bwyd a’r diod sy’n cael eu gwerthu, gan adeiladu ar enw da ein tîm arlwyo uchel eu parch. O dan y brand newydd, rydym yn gweithio gyda chyflenwyr lleol a chyflenwyr o Gymru i gynnig bwydlenni iach a thymhorol sy’n defnyddio cynhwysion ffres a lleol. Mae hyn yn ein helpu i gyflawni strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru. Bydd y brand hefyd yn cynnwys gwasanaeth ar ei newydd wedd, rhaglen hyfforddi newydd ar gyfer staff a chynhyrchion newydd.
Mae anghenion ein cwsmeriaid yn newid, ac mae angen i’n gwasanaeth arlwyo newid hefyd os ydym am iddo fod yn llwyddiant masnachol.
Mae cwsmeriaid yn fodlon gwario mwy am lefelau priodol o wasanaeth a chynhyrchion o’r radd flaenaf.
Mae gweithredwyr trenau eraill wedi gweld cynnydd sylweddol mewn refeniw ar ôl cyflwyno gwasanaeth archebu o’ch sedd, er enghraifft.
Rydym yn mynd i adeiladu ar enw da ein tîm arlwyo er mwyn gwneud yn siŵr bod Blas yn frand bwyd sydd at ddant pobl, ac y maent yn hapus i’w argymell i eraill.
Piers Croft
Pennaeth Gwasanaethau Trafnidiaeth
Cymru sy’n fwy cyfartal
Ein hymrwymiad
Byddwn yn darparu mynediad i systemau trafnidiaeth diogel, fforddiadwy, hygyrch a chynaliadwy i bawb, gan wella diogelwch ar y ffyrdd, yn bennaf drwy ehangu trafnidiaeth gyhoeddus a rhoi sylw arbennig i anghenion pobl dan anfantais.
Byddwn yn darparu cyfleoedd i weithio a hyfforddi, gan nodi bylchau mewn sgiliau a chynnig prentisiaethau a hyfforddiant.
Byddwn yn parchu hawliau sylfaenol ac amrywiaeth ddiwylliannol, ac yn hybu lles meddyliol a chorfforol.
Ffyrdd newydd o deithio
Er mwyn ein galluogi i gyflawni ein hymrwymiad i adnabod bylchau mewn sgiliau a chynnig hyfforddiant a phrentisiaethau, rydym wedi tynnu sylw ysgolion a cholegau at rôl STEM wrth gyflawni ein prosiectau.
Modelau Trên Ffynnon Taf
Mae depo Ffynnon Taf yn gartref i fwy na Metro De Cymru. Dyma lle rydym yn cadw ein modelau o drenau newydd hefyd. Fersiynau pren maint llawn o’r trenau newydd fydd yn dod i’r rhwydwaith yw’r modelau hyn.
Rydym wedi cynnal sawl ymweliad â’r safle, gan gynnwys ymweliadau gyda grwpiau o golegau ac ysgolion, er mwyn rhoi cyfle iddynt ddysgu am y technolegau sy’n cael eu cyflwyno, a rôl STEM wrth gyflawni ein prosiectau.
Astudiaeth Achos - Modelau Trên
Y Siarter Plant a Phobl Ifanc
Rydym wedi ymrwymo’n gyhoeddus i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau o amgylch plant a phobl ifanc, fel eu bod yn gallu defnyddio ein gwasanaethau’n hyderus ac yn ddiogel. Mae’r Siarter Plant a Phobl Ifanc yn nodi ymrwymiadau hollbwysig ar gyfer plant a phobl ifanc, gan gynnwys datblygu grŵp cynghori i sicrhau ein bod yn ystyried safbwyntiau pobl ifanc.
Daeth Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, i ymuno â TrC ac Ysgol Gynradd Ffynnon Taf i lansio’r Siarter, gan gymryd rhan mewn pob math o weithgareddau addysgiadol yn Safle Modelau Trên Ffynnon Taf.
Dim ond un elfen o amrywiaeth o weithgareddau TrC gydag ysgolion yw’r siarter. Yn 2021, bu’r tîm Ymgysylltu â’r Gymuned a Rhanddeiliaid yn gweithio gyda Network Rail a Heddlu Trafnidiaeth Prydain i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau gyda naws mabolgampau sy’n cyfleu negeseuon am ddiogelwch ar y rheilffyrdd.
Mewn ymweliadau eraill gan ysgolion, mae plant wedi cael cyfle i ddysgu am rôl Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg mewn gwasanaethau trên, ac am yrfaoedd ar y rheilffyrdd.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i barchu hawliau sylfaenol ac amrywiaeth ddiwylliannol, rydym wedi diweddaru ein dulliau o fynd i’r afael â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn TrC i gynnwys mwy o gydweithwyr.
Grŵp Adnoddau Gweithwyr
Rydym wedi creu Grwpiau Adnoddau Gweithwyr er mwyn ffurfio rhwydwaith o fforymau - proffesiynol a chymdeithasol - ar gyfer gweithwyr sy’n rhannu diddordeb neu hunaniaeth gyffredin ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Bydd aelodau’r Grwpiau yn cyfarfod bob mis i drafod a mynd i’r afael â themâu a materion sy’n berthnasol i’w grŵp a chefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol a digwyddiadau mewnol. Bydd hyn yn cefnogi’r gwaith sy’n cael ei ‘arwain gan y cyflogwr’ a fydd yn cael ei ddatblygu gan y Gweithgorau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
ymgyrch #mynameis
Y llynedd, bu Elfen Amlddiwylliannol ein Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn gweithio’n agos gyda Race Equality Matters i lansio’r ymgyrch #mynameis.
Mae’r ymgyrch yn annog pawb i nodi ar eu llofnod e-bost sut mae dweud eu henw, fel bod cydweithwyr yn gwybod sut i’w ynganu.
Er y gall fod yn amlwg sut mae ynganu llawer o enwau, a’u bod yn hawdd i’w dweud, efallai nad yw enwau eraill mor gyfarwydd.
Mae hyn yn ein galluogi i gael sgyrsiau gonest ac agored sy’n cefnogi cydraddoldeb hiliol, y Gymraeg a niwroamrywiaeth, wrth i ni eiriol i sicrhau urddas, parch, amrywiaeth a chynhwysiant fel rhan o’n fframwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Gofynnwyd i’n Swyddog Diogelwch, Inein Victor Garrick, fod yn wyneb i ymgyrch Race Equality Matters.
Hygyrchedd
Mae gennym ymrwymiad i ddarparu mynediad at systemau trafnidiaeth diogel, fforddiadwy, hygyrch a chynaliadwy i bawb, gan wella diogelwch ar y ffyrdd, yn bennaf drwy ehangu trafnidiaeth gyhoeddus a rhoi sylw arbennig i anghenion pobl dan anfantais.
Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi gwella ein gwefan ac yn cynnig Cymorth wrth Deithio a mathau eraill o gymorth fel y Ddolen Sain.
Gwefan fwy hygyrch
Lansiwyd ein gwefan newydd sbon ym mis Medi, a oedd yn dod â hen wefannau’r Grŵp a’r Rheilffyrdd at ei gilydd i ddarparu siop un stop i ddefnyddwyr. Yn ogystal â gwybodaeth am bwy ydym ni a phrosiectau sydd ar y gweill, gall defnyddwyr brynu tocynnau trên, cynllunio teithiau, a dod o hyd i wybodaeth am deithio ar drên, teithio ar fws a theithio llesol.
Fel rhan o’n Strategaeth Presenoldeb Digidol, mae dod â’r ddau safle at ei gilydd yn gam pwysig tuag at greu gwasanaeth gwell i’n cwsmeriaid, gan eu galluogi i gael gafael yn rhwydd ar wybodaeth ar gyfer eu holl anghenion trafnidiaeth. Roedd argraffiadau cwsmeriaid yn ffactor enfawr o ran dyluniad a phrofiad defnyddwyr o’r safle.
Mae taith y defnyddiwr yn rhan bwysig o’r safle newydd, ac mae’r wybodaeth yn gwbl hygyrch a dwyieithog.
Gwefan fwy hygyrch
Cymorth wrth Deithio yw’r system sy’n caniatáu i deithwyr sydd angen cymorth ychwanegol pan fyddant yn teithio drefnu i gael cymorth ar gyfer eu taith ar y trên. Rydym am i bawb allu teithio’n hyderus, felly i’r rheini sy’n bwriadu defnyddio ein gwasanaethau i deithio, gall cwsmeriaid ofyn am gymorth ymlaen llaw – hyd at ddwy awr cyn amser cychwyn y daith, unrhyw adeg o’r dydd.
Mae ein tîm Cymorth wrth Deithio ar gael dros y ffôn 24 awr y dydd (heblaw am Ddydd Nadolig), neu gallwch ddefnyddio ein proses archebu ar-lein 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos (heblaw am Ddydd Nadolig).
Cofiwch fod modd i gwsmeriaid “gyrraedd a mynd” heb archebu cymorth ymlaen llaw, neu os ydynt wedi archebu ar-lein ond heb gael cadarnhad eto.
Astudiaeth Achos - Cymorth wrth Deithio
Robok - Diogelwch ar y Rheilffyrdd sy’n Seiliedig ar Ddata
Am y tro cyntaf, byddwn yn defnyddio technoleg arloesol i helpu i wella diogelwch wrth groesfannau rheilffyrdd.
Drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a synwyryddion, gallwn gasglu data am ba fath o ddefnyddwyr (cerddwyr, beicwyr neu ddefnyddwyr cadair olwyn) sy’n defnyddio croesfan, sut maent yn ei defnyddio ac am ba hyd.
Bydd y defnydd newydd hwn o dechnoleg deallusrwydd artiffisial sy’n bodoli’n barod ar gyfer diogelwch rheilffyrdd yn golygu bod modd i ni, drwy weithio gyda Network Rail, greu amgylcheddau sy’n fwy diogel ac yn haws eu defnyddio ar y rheilffyrdd, ar gyfer cymunedau sy’n eu defnyddio.
HEAR - Opsiwn Arall yn lle Dolen Sain
Mae Labordy Trafnidiaeth Cymru a GoMedia wedi bod yn treialu ffordd gosteffeithiol newydd o roi profiad tebyg i’r hyn a geir drwy ddolen sain ar drenau.
Mewn treial caeedig, defnyddiwyd technoleg mewn tri thrên TrC i alluogi pobl sydd ag ap Trafnidiaeth Cymru i glywed neu weld cyhoeddiadau dros eu ffôn, gan ddefnyddio’r wi-fi ar y trên heb unrhyw galedwedd arall.
Bydd defnyddwyr gyda’r ap yn cael cyhoeddiadau’n awtomatig yn Gymraeg neu’n Saesneg, a gallant hefyd chwarae cyhoeddiadau blaenorol a dewis a ydynt am glywed enw pob gorsaf yn cael ei chyhoeddi ynteu dim ond yr orsaf maen nhw’n mynd iddi.
Y gobaith yw y bydd y dechnoleg hon yn galluogi pobl â nam ar eu clyw i ddefnyddio’r gwasanaethau rheilffyrdd yn fwy hyderus.
Er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i ddarparu mynediad at systemau trafnidiaeth diogel, fforddiadwy, hygyrch a chynaliadwy i bawb, rydym wedi bod yn helpu ffoaduriaid Wcráin wrth iddynt gyrraedd Cymru.
Ffoaduriaid o Wcráin yn cael teithio am ddim ar drenau
Rydym yn helpu Llywodraeth Cymru gyda ‘mannau cyrraedd’ er mwyn rhoi cymorth uniongyrchol i deithwyr o Wcráin. Sefydlwyd y canolfannau hyn mewn mynedfeydd i Gymru, gan gynnwys gorsaf drenau Caerdydd a Wrecsam.
Gall teithwyr o Wcráin gael cyngor yn y canolfannau ynglŷn â pharhau i deithio ar rwydwaith TrC.
Y nod yw sicrhau bod ffoaduriaid o’r canolfannau hyn yn mynd ymlaen i deithio i un o ganolfannau croeso Llywodraeth Cymru neu at deulu, ffrindiau neu noddwyr y mae’r rheini sy’n chwilio am loches eisoes yn gwybod pwy ydynt.
Cymru o gymunedau cydlynus
Ein hymrwymiad
Byddwn yn defnyddio ein gorsafoedd i roi gwybodaeth i bobl ac i roi gwybod iddynt am ddigwyddiadau lleol a digwyddiadau eraill ledled Cymru, ac i ymgysylltu â chymunedau lleol i wneud yn siŵr bod eu buddiannau wrth galon ein penderfyniadau.
Byddwn yn cynnig rhwydwaith trafnidiaeth sy’n fwy integredig, gyda gwell cysylltedd rhwng gorsafoedd a chymunedau.
Teithio Llesol
Er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i gynnig rhwydwaith trafnidiaeth mwy integredig gyda gwell cysylltedd rhwng gorsafoedd a chymunedau, rydym wedi bod yn rhoi grantiau i Awdurdodau Lleol ar gyfer Teithio Llesol, wedi edrych ar opsiynau cynaliadwy ar gyfer y daith o Gasnewydd i Gaerdydd, ac yn datblygu cynlluniau teithio llesol ar gyfer gorsafoedd.
Rydym hefyd wedi dechrau integreiddio tocynnau bws ar rai gwasanaethau a chyflwyno’r cynllun fflecsi i ragor o gymunedau.
Rhaglen y Gronfa Teithio Llesol
Rydym wedi datblygu systemau a phrosesau newydd i weinyddu dyraniadau grant ar gyfer prosiectau teithio llesol, sy’n golygu bod cyfanswm o dros £57 miliwn yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol drwy Raglen y Gronfa Teithio Llesol.
Rydym hefyd wedi darparu canllawiau a chyngor i bob un o’r 22 awdurdod lleol ar ddylunio a datblygu’r prosiectau a ariennir drwy’r rhaglen grantiau, gan gyfrannu at ehangu rhwydweithiau teithio llesol ledled Cymru.
Cynlluniau Rhwydwaith Gorsafoedd Teithio Llesol
Ar y cyd ag awdurdodau lleol, rydym wedi datblygu rhwydweithiau teithio llesol arfaethedig a dyluniadau rhagarweiniol ar gyfer llwybrau unigol sy’n cysylltu â 15 o’n gorsafoedd rheilffordd.
Byddant yn creu opsiynau teithio eraill heblaw am ddefnyddio car preifat ar ôl cael eu darparu.
Uned Gyflawni Burns
Rydym wedi bod yn cefnogi’r gwaith sy’n parhau ar argymhellion Uned Gyflawni Burns, gan ganolbwyntio ar wella mynediad at opsiynau ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy rhwng Casnewydd a Chaerdydd ar hyd coridor yr A48 a Llwybr 88 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
fflecsi
Rydym yn parhau i gyflwyno ein gwasanaeth fflecsi ledled Cymru. Yn yr un modd â bysiau confensiynol, gall pawb ddefnyddio fflecsi. Mae’r gwasanaeth yn helpu i deithwyr fynd o gwmpas drwy eu codi a’u gollwng mewn mannau penodol, ac nid ar hyd llwybr bws sefydlog yn unig.
Rydym wedi gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i gyflwyno ein gwasanaeth bws fflecsi diweddaraf, sy’n gwasanaethu tref Rhuthun a’r cyffiniau.
Mae’n ymuno â chynlluniau peilot fflecsi yn Ninbych a Phrestatyn yn Sir Ddinbych, yn ogystal â naw ardal arall ledled Cymru.
Dyma’r gwasanaeth fflecsi cyntaf i gynnwys cerbyd trydan – mae’r bws mini yn cael ei yrru gan fatri, heb ddim allyriadau o bibelli.
Mae’n gam mawr ymlaen yn ymdrech y sector bysiau i arloesi a darparu gwasanaethau bws glân a chynaliadwy i gymunedau lleol.
Tocyn 1Bws
Y tocyn 1Bws a gyflwynwyd ar draws awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru yw’r cam mawr cyntaf i symleiddio’r model prisiau i deithwyr yng Nghymru.
O 17 Gorffennaf 2021 ymlaen, roedd cwsmeriaid a oedd yn defnyddio unrhyw un o’r 27 o weithredwyr bysiau yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam yn gallu prynu tocyn diwrnod am £5.70 sy’n cael ei dderbyn ar bob gwasanaeth lleol, yn ogystal â bysiau i Gaer, yr Eglwys Wen a Machynlleth.
Mae’r tocyn newydd hwn wedi agor y drws i 200 a mwy o lwybrau bysiau ledled Gogledd Cymru, gan alluogi cwsmeriaid i deithio ar gymaint o wasanaethau ag y dymunant yn ystod y dydd.
T1 Traws Cymru i Docynnau Rheilffordd
Mae tocynnau integredig ar gyfer trenau a bysiau wedi cael eu trafod ers tro byd fel ffordd o wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy deniadol, ac roedd yn ymddangos mai’r siwrnai o Gaerfyrddin i Aberystwyth oedd yn cynnig y cyfle gorau i dreialu integreiddio tocynnau fel hyn.
Yn lle bod angen i gwsmeriaid fynd ar wahanol wefannau ac apiau i brynu tocynnau ar gyfer teithio ar fws ac ar drên, erbyn hyn gallant brynu un tocyn ar gyfer y rhannau o’u siwrnai sy’n defnyddio TrC a T1 TrawsCymru.
Mae modd prynu’r tocyn ar wefan ac ap TrC ac o swyddfeydd tocynnau penodol.
Budd i’r gymuned
Rydym yn awyddus iawn i fod yn gymydog da i’r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt.
Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn mynd ati’n ddiwyd i chwilio am gyllid ar gyfer prosiectau cymunedol ac yn cynnig manteision cymunedol drwy ein prosiectau.
Cymydog ystyriol Ffynnon Taf
Ers 2019, mae Seilwaith Amey Cymru (AIW) wedi bod yn adeiladu Depo Metro De Cymru yn Ffynnon Taf ar ein rhan, drwy’r Cynllun Adeiladwyr Ystyriol.
Mae AIW wedi cynhyrchu byrddau gwybodaeth i’r cyhoedd, wedi trefnu gemau pêl-droed 5 bob ochr ac wedi cynnal arwerthiannau ar gyfer elusennau lleol.
Mae diffibrilwyr y maent wedi’u gosod ar y safle ar gael i’r cyhoedd drwy’r rhwydwaith Cylchdeithiau cenedlaethol.
Maent wedi bod yn delio â rhoddion bwyd a dillad ar y safle, ac wedi ailgylchu paledi gwastraff i greu ceffyl siglo pren ar gyfer Action for Kids a chynnwys paledi mewn cyfleusterau eraill ar y safle.
Maent hefyd yn darparu ystafell dawel i staff, yn ogystal â ‘chyflwyniadau diogelwch’ cyson ar gyfer lles ac iechyd meddwl, sy’n cael eu darparu gan oruchwyliwr y safle.
Coetiroedd Cymunedol
Mae TrC ac 11 o bartneriaid cymunedol ar draws Cymru wedi cael £100,000 gan Gynllun Coed Cymunedol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.
Bydd y prosiectau a ariennir gan y cynllun grant hwn yn helpu i lywio syniadau Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad hirdymor y Goedwig Genedlaethol ar gyfer Cymru.
Mae’r prosiect naw mis yn gydweithrediad gyda sefydliadau drwy Gymru gyfan, gan gynnwys cynghorau lleol, mentrau cymdeithasol ac elusennau cymunedol a rhai sy’n ymwneud â choetiroedd.
Gyda’n partneriaid, byddwn yn creu safleoedd newydd ar gyfer coetiroedd ac yn gwella coetiroedd sydd eisoes yn bodoli mewn naw ardal ar hyd a lled Cymru.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys llwybr cerdded coetir trefol newydd sy’n cysylltu un o’n gorsafoedd trenau â choetir presennol cyfagos, a chreu gwarchodfa natur newydd ar faes parcio segur.
Ynghyd â chreu mannau ar gyfer hamdden a natur, bydd y coetiroedd yn helpu i wella bioamrywiaeth a gwella llesiant ein cymunedau.
Profiad teithwyr
Er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i gynnig rhwydwaith trafnidiaeth sy’n fwy integredig, gyda gwell cysylltedd rhwng gorsafoedd a chymunedau, rydym wedi lansio panel ymgynghori â chwsmeriaid - Sgwrs.
Sgwrs
Bu’r tîm Masnachol a Phrofiad Cwsmeriaid yn gweithio’n agos gyda darparwr y llwyfan adborth digidol, Maru/Matchbox, i gyflwyno panel cwsmeriaid rhithiol hwylus a phwrpasol o’r enw Sgwrs.
Mae’r llwyfan newydd hwn ar gyfer ymgynghori â chwsmeriaid yn rhoi cyfle i gwsmeriaid roi adborth agored a gonest am eu profiad o ddefnyddio ein gwasanaethau a’u syniadau ynghylch dyfodol y rhwydwaith trafnidiaeth, gan ddefnyddio arolygon ar-lein, fforymau sgwrsio a sesiynau rhyngweithiol.
Gall timau o bob rhan o TrC ddefnyddio’r panel o fil o bobl i gynnal ymchwil i’r farchnad er mwyn cefnogi ein prosiectau a helpu i siapio’r gwaith o weddnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’r Gororau.
Mae modd i’n cymunedau gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud drwy ein Podlediad – Jest y Tocyn.
Podlediad Jest y Tocyn
Rydym wedi lansio podlediad - Jest y Tocyn. Gellir gwrando arno ar Spotify neu wefan TrC – mae 13 pennod i ddewis ohonynt yn y pum mis cyntaf.
Mae’r podlediad yn trafod pob math o bynciau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus a chynaliadwyedd yng Nghymru a’r gororau. Gall y gwrandawyr glywed am amryw o brosiectau diweddar, gan gynnwys diweddariadau ar Fetro De Cymru, ein prosiect Llwybrau Gwyrdd a’r Daith Drên Odidog.
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Ein hymrwymiad
Byddwn yn hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru drwy ymgysylltu â Chyngor Celfyddydau Cymru, Croeso Cymru, Cadw a thrydydd partïon eraill i hyrwyddo celfyddydau, diwylliant, treftadaeth Cymru a’r iaith Gymraeg.
Byddwn hefyd yn hyrwyddo celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yr ardaloedd eraill rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Y Gymraeg
Fel corff cyhoeddus, rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae ein Ap Teithwyr newydd yn rhoi’r gallu i’n cwsmeriaid a’n teithwyr ddefnyddio’r Gymraeg wrth deithio.
Ap Teithwyr Newydd
Mae’r Ap Teithwyr newydd yn cynnwys nodweddion gwell, ac am y tro cyntaf, gwasanaeth dwyieithog.
Bydd y gwelliannau hyn yn ei gwneud yn haws i gwsmeriaid gael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf a phrynu tocynnau’n gyflym ac yn rhwydd.
Bydd modd i gwsmeriaid brynu a rheoli tocynnau o’u ffonau clyfar a dilyn eu taith mewn amser real.
Mae’r ap newydd ar gyfer ffonau clyfar yn gam mawr ymlaen yn y gwasanaeth
rydym yn ei ddarparu i gwsmeriaid. Mae mwy o bobl nag erioed yn ei ddefnyddio i
brynu tocynnau a chael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf am deithiau.
Mae’r datblygiad hwn hefyd yn cynnwys gwasanaeth dwyieithog am y tro cyntaf ac
mae’n llawer haws defnyddio’r nodweddion allweddol.
Dim ond un cam yw hwn ar y llwybr i gyflwyno ap trafnidiaeth gyhoeddus integredig
yn y pen draw - ap a fydd yn darparu gwybodaeth am deithiau a thocynnau ar gyfer
gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau ledled Cymru.
Dave Williams
Cyfarwyddwr TG a Gwasanaethau Digidol
Llwybrau Diwylliannol
Er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i hyrwyddo’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth, rydym wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc ac artistiaid yn y Fenni.
Casgleb - Peak Cymru
Prosiect cydweithredol newydd gan Peak Cymru mewn partneriaeth â TrC a LUMIN yw Casgleb.
Er mwyn creu adnoddau diwylliannol newydd yng ngorsaf drenau’r Fenni, yn ystod 2022, rydym yn edrych ar ddyfodol cynaliadwy Cymru gyda phobl ifanc, artistiaid a mentrau cydweithredol a staff Trafnidiaeth Cymru.
Iaith yw ffocws ein gwaith, a photensial mannau dwyieithog y tu allan i sefyllfaoedd ffurfiol.
I hyrwyddo iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru, cafodd prosiect twristiaeth newydd - Cledrau Cymru - ei lansio ym mis Mawrth. Fe’i lansiwyd yng Ngorsaf Caerdydd Canolog gan y Gweinidog dros yr Economi, Vaughan Gething, a’r hanesydd rheilffyrdd a’r cyflwynydd teledu, Tim Dunn.
Cledrau Cymru
Mae’r prosiect hwn yn annog mwy o bobl i deithio o amgylch Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus. Rydym wedi gweithio gyda Croeso Cymru i ariannu’r fenter newydd ar y cyd.
Bydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr fwynhau rhai o’r rheilffyrdd harddaf yn y byd.
Mae gwefan benodol ar gael: www.cledraucymru.co.uk, i ymwelwyr allu cynllunio eu taith o amgylch Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus, a dewis o themâu atyniadau i ymwelwyr.
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Ein hymrwymiad
Byddwn yn lleihau ein heffaith amgylcheddol fydeang a’n heffaith ar gymunedau tramor drwy gaffael yn gyfrifol.
Byddwn yn cydymffurfio â rheoliadau bioamrywiaeth rhyngwladol ac yn lleihau ein hôl troed carbon.
Carbon
Rydym yn cydymffurfio â Gofynion Adrodd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Sector Cyhoeddus o ran allyriadau carbon. Yn ein blwyddyn waelodlin roedd ein hallyriadau yn 242,756.
Mae ein hallyriadau wedi cynyddu eleni, ar ôl i ni fynd yn ôl i’r amserlen safonol yn dilyn cyfyngiadau Covid-19, ac oherwydd cerbydau rheilffyrdd newydd.
Gweithgarwch allyrru | tCO2e |
Cwmpas 1 (allyriadau uniongyrchol) | |
Nwy | 584 |
Tanwyddau | 84,571 |
Cwmpas 2 (allyriadau anuniongyrchol o ynni sy’n cael ei gyflenwi drwy’r grid) | |
Trydan | 2,736 |
Cwmpas 3 (allyriadau anuniongyrchol eraill) | |
Nwy (colledion ymhellach i fyny’r gadwyn) | 100 |
Tanwydd (colledion ymhellach i fyny’r gadwyn) | 19,393 |
Gwastraff ac ailgylchu | 19 |
Cyflenwad dŵr | 12 |
Trin dŵr | 21 |
Cadwyn gyflenwi | 196,879 |
Trydan (colledion ymhellach i fyny’r gadwyn) | 1,018 |
Cynhyrchu ynni adnewyddadwy | 0 |
Milltiroedd busnes | 25 |
Milltiroedd busnes (colledion ymhellach i fyny’r gadwyn) | 7 |
Cymudo | 144 |
Milltiroedd cymudo (colledion ymhellach i fyny’r gadwyn) | 40 |
Allyriadau defnyddio tir | |
Allyriadau net o asedau tir TrC | -702 |
Cyfanswm allyriadau 2021/22 | 304,846 |
Llwybr Allyriadau
Rydym wrthi’n datblygu ein Llwybr Allyriadau, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen eleni.
Bydd yn rhoi sylw i’n siwrnai o ran allyriadau rhwng 2022 a 2030, ac yn cynnwys cyfres o gamau gweithredu y byddwn yn ceisio eu cyflawni i gefnogi’r targed cyffredin ar gyfer y sector cyhoeddus, sef sero-net erbyn 2030. Bydd ein cynnydd yn cael ei wirio’n flynyddol yn erbyn cyfres o dargedau.
Mae gwaelodlin ein Llwybr Allyriadau wedi’i gosod yn erbyn allyriadau 2020/21.
Mae ein gwaith adrodd ar allyriadau yn cael ei wneud drwy ddilyn Canllaw Llywodraeth Cymru i’r Sector Cyhoeddus ar gyfer Adrodd ar Garbon Sero-Net, fel rhan o’n gofynion o dan darged sero-net ar y cyd 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Er mwyn cael gwell dealltwriaeth ynghylch yr allyriadau o’n cadwyn gyflenwi, rydym yn lansio prosiect arloesol i ddatblygu dull cyfrifyddu mwy cyfannol a dod o hyd i gyfleoedd posibl i leihau allyriadau.
Er mwyn cefnogi targed Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau o drafnidiaeth, rydym wedi bod yn cyflawni Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan Llywodraeth Cymru
Gwefru Cerbydau Trydan
Gosodwyd ein pwynt gwefru cyflym cyntaf ar gyfer cerbydau trydan yn y Bala. Yn ystod y chwe mis cyntaf, defnyddiwyd y pwynt gwefru fwy na 760 o weithiau, gan gyflenwi dros 15,000 kWh i bron i 600 o yrwyr unigryw. Roedd defnyddwyr wedi gyrru dros 45,000 o filltiroedd ac wedi arbed 8.7 tunnell o garbon.
Ar hyn o bryd mae gennym dri safle arall sydd wedi cael eu hadeiladu, gyda’r bwriad y bydd modd eu defnyddio i wefru cerbydau ym mis Gorffennaf ac Awst. Disgwylir y bydd 15 o safleoedd eraill gyda phwyntiau gwefru ar gael erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
Rydym hefyd wedi bod yn gwella sgiliau’r tîm er mwyn iddynt allu deall carbon yn well drwy Hyfforddiant Llythrennedd Carbon ardystiedig.
Hyfforddiant Llythrennedd Carbon
Rydym wedi darparu Hyfforddiant Llythrennedd Carbon i 19 o Hyrwyddwyr Datblygu Cynaliadwy a chydweithwyr.
Cyflwynwyd yr hyfforddiant gan Cynnal Cymru, ac roedd yn helpu cyfranogwyr i gael gwell dealltwriaeth o sut y gall newid yn yr hinsawdd effeithio arnom ni’n bersonol.
Dros wythnos, dysgodd y cyfranogwyr sut i ddatblygu eu hymatebion eu hunain i newid yn yr hinsawdd a lleihau eu hôl troed carbon ac ôl troed pobl eraill.
Er mwyn lleihau effaith ein gwastraff a helpu i leihau sbwriel môr, rydym wedi ymrwymo i gael gwared â phlastig untro yn raddol.
Targed Di-blastig
Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar blastig untro o’n gwasanaethau. Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn ymchwilio i bob maes lle defnyddir plastig untro ac yn ymchwilio i ddewisiadau eraill posibl.