Datganiad Cydymffurfio TrC
Datganiad Cydymffurfio TrC
Cefndir
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cael ei enwi yn gorff sy’n cynhyrchu ystadegau swyddogol yng Ngorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017. Diffinnir Ystadegau Swyddogol yn Adran 6 Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Mae TrC yn gorff hyd braich, sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru. Rydym yn cymryd rhan yn system ystadegol y DU drwy Brif Ystadegydd Llywodraeth Cymru a’r Pennaeth Proffesiwn ar gyfer Ystadegau.
Mae TrC yn gweithredu fel cynghorydd arbenigol ac eiriolwr i Lywodraeth Cymru dros faterion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth. Rydym yn darparu cyngor technegol i lywio a datblygu polisi trafnidiaeth. Rydym hefyd yn cyflawni swyddogaeth fonitro, gan asesu’r cynnydd tuag at dargedau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth a amlinellir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, Cyllidebau Carbon Cymru Sero Net, a gweithredu terfynau cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig. Fodd bynnag, mae TrC yn annibynnol ar osod polisi, ac nid yw’n arfer unrhyw swyddogaethau statudol.
Defnyddio’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae Awdurdod Ystadegau’r DU yn cyhoeddi’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (y Cod), sy’n darparu’r fframwaith ar gyfer cyhoeddi ystadegau sy’n gwasanaethu budd y cyhoedd.
Fel cynhyrchwyr ystadegau swyddogol sydd wedi’u rhestru, mae TrC wedi ymrwymo i ddefnyddio’r Cod fel fframwaith ar gyfer darparu ystadegau cadarn a thryloyw o ansawdd uchel sy’n sail i drafodaeth gyhoeddus.
Mae TrC yn chwarae rhan allweddol yn monitro effeithiau’r terfynau cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig. Ar ben hynny, rydym yn datblygu Arolwg Teithio Cenedlaethol i Gymru, a hynny ar y cyd â Llywodraeth Cymru. I adlewyrchu’r cynnydd yng nghwmpas TrC, rydym yn bwriadu datblygu ein capasiti adrodd ystadegol sy’n cael ei arwain gan egwyddorion y Cod.
Datblygu gallu i adrodd
Ar ôl penodi ystadegydd i weithredu fel y Prif Swyddog Ystadegau, rydym yn gweithio i ddatblygu ein capasiti adrodd yn y ffyrdd canlynol:
- Cyhoeddi datganiad cydymffurfio gyda’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
- Datblygu a chyhoeddi polisi sy’n llywodraethu diwygiadau a chywiriadau
- Datblygu a chyhoeddi polisi ar lywodraethu data
- Mabwysiadu a gweithredu polisi mynediad cyn rhyddhau ar ystadegau swyddogol
- Cyhoeddi datganiadau ystadegol sydd ar y gweill ymlaen llaw ar galendr cyhoeddi Ystadegau Cymru
- Gwella hygyrchedd a thryloywder yr adroddiadau drwy wneud y canlynol:
- Cyhoeddi adroddiadau mewn fformatau data hygyrch (e.e. HTML)
- Cyhoeddi data crai ategol ochr yn ochr ag adroddiadau (ar fformat Taenlen OpenDocument)
- Cyhoeddi bwletinau ystadegol byrrach ochr yn ochr ag adroddiadau technegol
- Cydweithio â rhanddeiliaid a defnyddwyr data i ddiwallu eu hanghenion.
Parhau i ddefnyddio’r Cod
Ochr yn ochr â gwella’r capasiti adrodd, mae TrC yn defnyddio egwyddorion y Cod yn y gwaith a wnaed ar fonitro cyflymderau 20mya a datblygu Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru.
Monitro’r broses o roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar waith ar ffyrdd cyfyngedig
Mae TrC yn gyfrifol am fonitro effeithiau’r terfynau cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn erbyn set o ddangosyddion perfformiad allweddol.
Roedd y polisi terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ym mis Medi 2023 o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd. Yn dilyn argymhellion gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar adroddiadau TrC, rydym wedi adolygu ein strategaeth fonitro ac wedi gweithredu i wella tryloywder a hygyrchedd y data. Mae hyn yn cynnwys:
- Cyhoeddi pob adroddiad monitro technegol mewn fformat hygyrch (HTML)
- Cyhoeddi bwletinau ystadegol byr sy’n rhoi manylion y prif negeseuon
- Cyhoeddi tablau data crai i gefnogi’r negeseuon o’r adroddiadau monitro
Ar ben hynny, rydym wedi cyhoeddi datganiad cydymffurfio gwirfoddol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, sy’n rhoi rhagor o fanylion am sut rydym yn cyd-fynd â’r fframwaith.
Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru. Bydd hyn yn casglu data ar agweddau ac ymddygiad teithio gan bobl sy’n byw yng Nghymru, gan fynd i’r afael ag anghenion data allweddol a nodwyd fel rhan o Fframwaith Monitro Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Rydym wedi penodi'r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) yn bartner cyflenwi i ddatblygu'r arolwg. Mae’r Cod wedi darparu fframwaith ar gyfer sut rydym yn datblygu’r arolwg. Er enghraifft:
- Recriwtio ystadegydd yn TrC ac ymgysylltu ag arbenigwyr i sicrhau bod yr arolwg yn cael ei ddatblygu gyda chapasiti proffesiynol addas.
- Gweithio gydag arbenigwyr pwnc i ddeall ein gofynion data ac ystyried amrywiaeth o ffynonellau data posibl, gan sicrhau addasrwydd a defnyddio dulliau y gellir eu cymharu’n rhyngwladol.
- Cydweithio â rhanddeiliaid polisi, cynllunwyr trafnidiaeth a grwpiau allanol wrth ddatblygu a mireinio cynnwys yr arolwg er mwyn sicrhau bod yr ystadegau’n rhoi cipolwg perthnasol a gwerthfawr i’r defnyddwyr.
- Cynnal sawl rownd o brofion ansoddol i fireinio’r cwestiynau a sicrhau bod y data’n seiliedig ar ffynonellau addas.
- Lansio prawf peilot mawr ar y we i asesu ansawdd ein cwestiynau yn erbyn yr anghenion data.
- Rheoli data peilot yn unol â’r holl rwymedigaethau statudol mewn modd diogel
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid a defnyddwyr data posibl drwy ddulliau gwahanol (e.e. Grŵp Defnyddwyr Ystadegau Economaidd).
Mae rowndiau dilynol o brofion ansoddol, profion meintiol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cael eu cynllunio.
Rydym wrthi’n cyhoeddi adroddiadau o gamau datblygu a gwerthuso cychwynnol yr arolwg er mwyn dangos tryloywder yn y broses ddatblygu.