Peidiwch â thresmasu ar y rheilffordd.

Efallai y bydd eich dillad yn goroesi, ond wnewch chi ddim.

Rydyn ni wrthi'n gosod llinellau trydan uwchben ar hyd llinellau craidd y cymoedd, er mwyn i drenau Metro newydd allu gwasanaethu
eich ardal. Diolch i'r Metro bydd cyfleoedd newydd ar gael, ond bydd peryglon newydd hefyd i'r rhai sydd ddim yn parchu'r rheilffordd.

Nid siop ail law go iawn yw Dim Ail Gyfle, ond neges. Llynedd roedd dros 1,000 o achosion o dresmasu ar linellau craidd y cymoedd.
Nawr bod 25,000 folt trydan yn rhedeg drwy'r llinellau, gall tresmasu olygu marwolaeth.

Llwyth o hen ddillad ail law gan bobl na dyfodd yn hen.

Peidiwch â dilyn y ffasiwn. Parchwch y rheilffordd.

Electrified t-shirt

Electrified skirt

Electrified bag

Electrified hat

Electrified bum bag

Electrified top

 

TIP FFASIWN | PEIDWCH A THRESMASU AR Y RHEILFFORDD GALL LLINELLAU TRYDAN LADD | DIM AIL GYFLE

 

I'r rhai sydd ddim yn parchu'r rheilffordd, rydyn ni'n gobeithio y bydd Dim Ail Gyfle yn annog chi i ailfeddwl eich ymddygiad,
ac i'n miloedd o deithwyr sydd yn teithio'n gyfrifol, hoffem sicrhau eich bod mor ddiogel ag erioed.

 

AM RAGOR O WYBODAETH YNGLŶN Â DIM AIL GYFLE, OLE, A PHRYD Y BYDD EICH LLINELL YN CAEL EI THRYDANEIDDIO