Mae Traveline Cymru Nawr Yn Rhan O Drafnidiaeth I Gymru.
Rydym yn adeiladu ar arbenigedd a sylfeini cryf tîm Traveline Cymru fel bod cynllunio teithiau o ddrws i ddrws yn symlach yng Nghymru.
Ein nod yw cynyddu nifer y teithiau trwy deithio llesol neu drafnidiaeth gyhoeddus 40% erbyn 2040, sef y targed a osodwyd yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru - Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021.
Rydyn ni eisiau ysbrydoli pobl i feddwl yn wahanol am sut maen nhw'n teithio ac i gerdded, gyrru olwyn, seiclo a theithio ar drafnidiaeth gyhoeddus fel eu dewis ddewisol.
Bydd creu gwasanaeth cynllunio taith a fydd yn gydymaith teithio arbenigol i chi yn ei gwneud hi’n haws dewis trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol drwy wella’r ffordd rydych chi’n cynllunio’ch teithiau o’r dechrau i’r diwedd.
Mae’n waith mawr ac mae llawer y mae angen i ni ei wneud i wneud dewisiadau cynaliadwy yn haws. Gyda’n gilydd, gallwn annog mwy o bobl i feddwl am y ffordd y maent yn teithio.
Cynllunio Eich Taith Nesaf
Rydym yn parhau i ddarparu’r un gwasanaethau cynllunio taith a data. Er y gallech sylwi ar newidiadau bach i wefan Traveline Cymru, bydd y wybodaeth arbenigol yr ydych yn dibynnu arni ar gael o hyd. Yn y tymor hwy, rydym yn adeiladu gwasanaeth cynllunio taith ar gyfer y dyfodol.
I gael help i gynllunio teithiau gallwch gael mynediad i Traveline Cymru drwy’r wefan, ap neu drwy’r tîm canolfan gyswllt dwyieithog pwrpasol drwy ffonio 0800 464 00 00.