
Datgarboneiddio teithiau bws yng Nghymru
Ar hyn o bryd mae trafnidiaeth yn cyfrif am 17% o allyriadau carbon Cymru. Bydd lleihau’r rhain yn hanfodol i Gymru gyrraedd ei nod o sero net erbyn 2050 a mynd i’r afael â’r bygythiad o newid yn yr hinsawdd, fel y nodir yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Mae dewis y bws dros y car eisoes yn ffordd fwy cynaliadwy o deithio. Gallai dim ond un siwrnai bws arall bob mis leihau allyriadau carbon deuocsid 2 filiwn tunnell y flwyddyn.
Rydyn ni’n helpu i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru i fysiau fod yn ddi-allyriadau erbyn 2035.
I gyflawni hyn, mae bysiau newydd gydag allyriadau isel iawn yn dechrau cael eu defnyddio. Mae ymchwil ac arloesi’n digwydd a fydd yn caniatáu i fysiau ddefnyddio tanwyddau glanach a thrydan.
Bysiau trydan
Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio fflyd bysiau TrawsCymru drwy gyflwyno mwy o fysiau trydan di-allyriadau, gan ddisodli cerbydau disel sy’n achosi llygredd.
Byddant yn helpu i wneud teithiau bws yn fwy gwyrdd – o ddull o deithio sy’n achosi llai o lygredd na’r car i ffordd ddi-allyriadau o wneud siwrneiau lleol. Boed hynny i deithio i’r gwaith, i’r ysgol, i’ch apwyntiad yn yr ysbyty neu i grwydro ar y penwythnos.
Y llwybr TrawsCymru cyntaf i ddefnyddio bysiau trydan yw’r gwasanaeth T1 Aberystwyth-Caerfyrddin. Bydd y bysiau modern hyn wedi’u lleoli mewn depo newydd yng Nghaerfyrddin a byddant yn disodli cerbydau disel sy’n achosi llygredd. Bydd mwy o’r rhain ar lwybrau eraill TrawsCymru yn fuan.

Bysiau sy’n cael eu pweru gan hydrogen
Mae bysiau hydrogen yn cael eu pweru drwy gymysgu ocsigen a nwy hydrogen. Mae hyn yn achosi adwaith cemegol ac yn cynhyrchu trydan i bweru modur y cerbyd, heb unrhyw allyriadau carbon. Yr unig gynnyrch gwastraff yw dŵr.
Rydyn ni’n ymchwilio i’r posibilrwydd o dreialu bysiau cell tanwydd hydrogen yn Abertawe fel rhan o’n gwaith i gefnogi twf fflyd bysiau hydrogen yng Nghymru. Bydd y cynllun yn lleihau llygredd ac yn caniatáu i bobl leol deithio mewn ffordd eco-gyfeillgar.