Adnoddau athrawon

Ymunwch â ni ar ein y Daith Drên Odidog i ddysgu mwy am gynaliadwyedd, straeon ein cenedl a gyrfaoedd ym maes trafnidiaeth. 

Rydym wedi datblygu pecyn gyda’r offer a’r ysbrydoliaeth y bydd eu hangen arnoch i ddod â disgyblion ar y Daith Drên Odidog

Mae'r pecyn dysgu rhyngweithiol yn cynnwys 23 o weithgareddau, ynghyd ag awgrymiadau trafod ychwanegol, ar gyfer eich dosbarth Cyfnod Allweddol 2. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru, gan ei gwneud hi’n hawdd gweld sut rydych chi’n cyrraedd y targedau newydd. 

 

 

Our People

 

 

Bydd eich disgyblion yn dysgu am drafnidiaeth a’r effaith gadarnhaol y gallwn ei chael ar yr amgylchedd drwy newid rhai o’n harferion trafnidiaeth ein hunain. Ein nod yw helpu eich dosbarth i ddatblygu ymdeimlad cryf o ddinasyddiaeth fyd-eang a'u hysbrydoli i ddefnyddio mathau cynaliadwy o drafnidiaeth. 

Agor y pecyn adnoddau  

I’ch helpu, rydym wedi cynhyrchu canllaw i athrawon i gyd-fynd â’r pecyn dysgu rhyngweithiol, sy’n cynnwys 6 chynllun gwers. 

Mae’r gwersi’n amrywiol, yn cwmpasu pob un o’r pedwar ‘Diben Dysgu’ ac yn cysylltu â meysydd cwricwlwm Gwyddoniaeth, Dyniaethau a Llythrennedd. 

teacher pack welsh

Lawrlwythwch nawr

 

Eisiau dysgu'r Daith Drên Odidog heb y pecyn dysgu rhyngweithiol? 

Mae ein holl elfennau gwersi ar gael fel PowerPoints a delweddau felly gallwch chi adeiladu eich gwersi eich hun gan ddefnyddio ein graffeg. 

Llawrlwythwch y ffeiliau yma.