Penrhyn Llŷn
fflecsi Pen Llŷn yn dechrau gweithredu ddydd Sadwrn 24 Mai - ddydd Sul 7 Medi.
Arfordir gwych a chefn gwlad sydd heb ei ddifetha - mae’n hawdd gweld pam mae Penrhyn Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Gyda digon o draethau a phentrefi bach hyfryd i’w harchwilio, gall gwasanaeth fflecsi tymhorol Penrhyn Llŷn eich helpu i wneud y gorau o’ch amser yn y rhan brydferth hon o Gymru.
Pethau i’w gwneud
-
Beth am ddarganfod hanes Penrhyn Llŷn drwy ymweld â’i amgueddfa forwrol yn Nefyn.
-
Gallwch ymweld â sawl traeth gwahanol pan fyddwch yn mynd am dro ar hyd Llwybr hardd Arfordir Cymru.
-
Mae copa uchaf Llŷn, sef Carn Fadryn, yn cynnig golygfeydd panoramig syfrdanol ar draws y penrhyn - a oedd unwaith yn fryngaer o’r Oes Haearn.
-
Newidiwch ar gwch i Ynys Enlli nid nepell o bwynt pellaf y Penrhyn. Mae’n cael ei adnabod fel ‘Yr Ynys ag 20,000 o Seintiau’, a dyma’r Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf yn Ewrop. Mae’r ynys yn agored i ymwelwyr rhwng mis Mawrth a mis Hydref.
Cysylltiadau pellach
-
Cysylltu â Rheilffordd y Cambrian ym Mhwllheli ar gyfer teithiau i Aberystwyth ac Amwythig.
-
Llwybrau bysiau lleol tuag at Barc Cenedlaethol Eryri.
Archebu ymlaen llaw
30 diwrnod.
Cŵn ar y bws
Ie. Yn ôl disgresiwn y gyrrwr ar yr amod eu bod yn lân, yn ymddwyn yn dda ac yn cael eu cadw ar dennyn.