Prestatyn
Mae fflecsi Prestatyn yn wasanaeth delfrydol i unrhyw un sy’n dymuno gwneud taith fer i ganol y dref o’r ardaloedd preswyl. Mae mannau gwych i ymweld â nhw gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, gan gynnwys glannau tywodlyd hir Traeth Barkby neu adfeilion hanesyddol Baddonau Rhufeinig y dref. I’r cerddwyr yn eich plith, Prestatyn ydy diwedd Llwybr Clawdd Offa (neu’r dechrau, yn dibynnu sut rydych chi’n edrych arno).
Pethau i’w gwneud
- Crwydrwch ar hyd Traeth Barkby helaeth - gyda’i dwyni tywod gwyllt a mannau picnic hyfryd mae’n lle delfrydol i dreulio diwrnod gyda’r teulu.
- Dilynwch ôl troed y Rhufeiniaid ac ymweld ag adfeilion Baddonau Prestatyn - nid nepell o Melyd Avenue; bydd ein gwasanaeth fflecsi yn eich helpu i gyrraedd yno.
- Gwisgwch eich esgidiau cerdded ac ewch ar hyd Llwybr Clawdd Offa - gan ddilyn y gwrthgloddiau hynafol a orchmynnwyd gan y Brenin Offa i nodi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Cysylltiadau pellach
- Mae gorsaf drenau Prestatyn ar brif linell Gogledd Cymru, gyda chysylltiadau i Landudno a’r gogledd-orllewin, yn ogystal â chysylltiadau i Gaer, Manceinion, Birmingham, Caerdydd, a Llundain Euston.
- Cysylltu â gwasanaethau bysiau lleol.
Archebu ymlaen llaw
7 diwrnod.
Cŵn ar y bws
Ie. Yn ôl disgresiwn y gyrrwr ar yr amod eu bod yn lân, yn ymddwyn yn dda ac yn cael eu cadw ar dennyn.