Mae Trafnidiaeth Cymru, yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, wedi datblygu modelau trafnidiaeth (cynrychioliadau cyfrifiadurol o’r system drafnidiaeth) ar gyfer Cymru gyfan

Mae ein modelau yn cynrychioli car, bws a thrên, yn ogystal â cherdded a beicio i gyrraedd gorsafoedd rheilffordd a safleoedd bysiau. Mae’r modelau yn cynnwys gwybodaeth am y teithiau mae pobl yn eu gwneud gan ddefnyddio pob modd o drafnidiaeth.

Mae tri model trafnidiaeth strategol ar gyfer Cymru gyfan:

  • Model Trafnidiaeth Gogledd Cymru
  • Model Trafnidiaeth De-orllewin a Chanolbarth Cymru
  • Model Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru

Mae’r rhain yn eiddo i Lywodraeth Cymru ac yn cael eu rheoli, eu cynnal a’u diweddaru gan Trafnidiaeth Cymru

 

Bydd y modelau trafnidiaeth yn:

  • Rhoi gwell syniad i ni o sut mae’r system drafnidiaeth yn gweithio
  • Ein galluogi i asesu effeithiau tebygol gwahanol senarios datblygu ar drafnidiaeth
  • Darparu ffordd o brofi amrywiaeth o atebion trafnidiaeth newydd fel y gallwn ni gynnig cynlluniau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl

I gael rhagor o wybodaeth am modelu, please lawrlwythwch ein cyflwyniad.