Gwybodaeth am GCRE

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd yn ‘siop un stop’ ar gyfer arloesi ar y rheilffyrdd, o ymchwil a datblygu, drwy brofi a dilysu, i arloesi ar y prif reilffyrdd i deithwyr a chludo nwyddau.

 

Wedi’i leoli ar hen safle glo brig Nant Helen a Golchfa Onllwyn yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phowys yn Ne Cymru, bydd y cyfleuster 550 hectar yn cynnwys dwy ddolen brawf, un ohonynt yn drac cerbydau trydan cyflym 6.9km gydag uchafswm cyflymder o 177km/a, a'r llall yn drac prawf 4km 65km/a. Bydd cyfleusterau eraill yn cynnwys amgylchedd profi dau blatfform, cyfleusterau storio a chynnal a chadw cerbydau, swyddfeydd rheoli a gweithrediadau, llety staff, cyfleusterau staff siyntio a chysylltiadau â’r brif linell gyfagos.

 

Hefyd, bydd amgylcheddau profi diogel IP o’r radd flaenaf; cyfarpar, systemau a chyfleusterau datblygu cyfathrebu. Rhagwelir y bydd cyfleusterau addysg, hyfforddiant, ymwelwyr a chynadleddau i gyd ar gael yn y safle ehangach.

 

Mae gwefan lawn wrthi’n cael ei datblygu ar hyn o bryd, ond mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at enquiries@gcre.wales os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth.