Statws presennol y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd

Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys yn 2021. Mae nifer o gontractwyr haen un wedi cael eu penodi erbyn hyn, gan gynnwys Grŵp Walters yn Hirwaun sy’n gweithio gydag Atkins i baratoi’r safle ar gyfer y gwaith adeiladu.

Mae Arcadis yn datblygu’r dyluniad systemau rheilffyrdd ac mae Mott MacDonald yn canolbwyntio ar y strategaeth ynni sero-net. Mae tîm amlddisgyblaethol wedi cael ei benodi hefyd i lunio uwchgynllun cyffredinol ar gyfer trawsnewid y safle. Mae 5th Studio, Expition Engineering, Jonathan Cook Landscape Architects, Faithful & Gould, Fairhurst, PRD, Wildwood Ecology a Thirty 4/7 wrthi’n datblygu cynllun gofodol cyfannol a fydd yn ymgorffori’r cyfleuster profi traciau gan gynnwys cynigion ar gyfer tirwedd y safle cyfan yn y dyfodol, ynghyd â chynllun arloesol sy’n cynnwys llety i ymwelwyr ar gampws. Bydd y broses ddylunio integredig hon yn cynnwys ymgynghori â’r cyhoedd er mwyn cynnwys ac integreiddio barn trigolion lleol.

Rhennir y prosiect yn dri cham craidd:

  • Cam 1 – Darparu seidins ar gyfer cerbydau o fis Mehefin 2023 ymlaen
  • Cam 2 – Adeiladu dwy ddolen brawf wedi’u trydaneiddio, un ddolen brawf gyflym 6.9Km o hyd, a dolen brawf seilwaith 4.5km, ynghyd â seilwaith ac adeiladau ategol o 2024 ymlaen
  • Cam 3: Ychwanegu mwy o gyfleusterau cadw, cynnal a chadw a chomisiynu ynghyd â chyfleusterau ymchwil, gwesty a pharc busnes yn 2025 ac yn barhaus.

Rydym yn disgwyl i gam cyntaf y gwaith o adeiladu’r uwchgynllun gael ei gwblhau erbyn canol 2025.