Rheilffordd 200: Dyffryn Clun

Wrth i Brydain baratoi i ddathlu 200 mlynedd ers y daith reilffordd gyntaf i deithwyr ar drên stêm, dyma edrych yn ôl ar rywfaint o'r hanes diddorol yng Nghymru a'r Gororau.

Rheilffordd Stockton a Darlington oedd yn rhedeg y daith gyntaf honno ar 27 Medi 1825 gyda thua 550 o deithwyr yn teithio 27 milltir mewn llai na thair awr a'r trên yn cyrraedd cyflymder o 15 mya. 

Drwy gyfrannu at y cam pwysig hwnnw yr oedd y cyflawniadau yng Nghymru i helpu i greu'r sbarc honno o chwyldro diwydiannol.

Mewn gwirionedd, Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls oedd y rheilffordd oedd yn codi pris i deithwyr am deithio arni - gyda cheffylau, nid locomotifau yn darparu'r pŵer tynnu.  O'r dyddiau cynnar hynny, gwelodd y ddinas yn ne-orllewin Cymru linellau teithwyr a nwyddau yn ymddangos yn ddi-stop dros y 60 mlynedd nesaf gyda'r trenau yn cefnogi ffrwyth llafur y  diwydiannau copr, glo a brics.

Heddiw, mae digon o olion o hyd i ddangos sut y gwnaeth y rheilffordd helpu i roi siâp i’r ddinas.

O deithio ar y trên i Dre-gwyr ar ochr orllewinol y ddinas, fe welwch ddechrau llwybr beicio ar yr hyn a oedd unwaith yn hen reilffordd oedd yn cysylltu Abertawe â Phontarddulais a thu hwnt.

Roedd nifer o leiniau cangen eisoes wedi'u hadeiladu yn cysylltu rheilffordd y Mwmbwls â glofeydd yn Nyffryn Clun, cyn i'r brif lein gael ei hadeiladu gan Gwmni Rheilffordd a Dociau Llanelli.  Fe wnaeth hyn eu helpu i gael mynediad i ardal a oedd wedi dod yn brif ganolfan ddiwydiant ac yn borthladd sy'n tyfu'n gyflym. Mewn dim amser, dechreuwyd cludo teithwyr ac o Dre-gwyr, roedd gorsafoedd yn Dunvant, Killay a Heol y Mwmbwls, a agorwyd ym 1867, cyn i'r lein gysylltu â therfynfa Gorsaf Fictoria Abertawe, sydd bellach yn ganolfan hamdden.

“Hoffem ei weld yn cael ei ailenwi'n ‘hen lwybr y rheilffordd',” meddai Barbara Parry o Brosiect Cymunedol Dyffryn Clun, sydd wedi bod yn helpu i ofalu am y Parc Gwledig am y 13 mlynedd diwethaf.

“Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gydag Adran Amgylcheddol Cyngor Abertawe i gael cyllid ar gyfer byrddau gwybodaeth a dehongli yn ogystal â chamau i'w gwneud yn fwy hygyrch, heb effeithio ar yr ymdeimlad o barc naturiol.”

Yn dilyn y grŵp yn mynd ati'n ddiweddar i glirio rhai o'r hen orsafoedd ar hyd y llwybr, gallwch nawr weld yn glir olion hen blatfformau Gorsafoedd Dunvant, Killay a Heol Mwmbwls. Gellir gweld hen dai'r orsaf hefyd yn Dunvant, tra yng Nghil-y-coed mae hen dŷ'r orsaf bellach yn dafarn ac yn meicrofragdy.

Mae'r lein yn rhedeg o Dre-gŵyr yr holl ffordd i lawr i lan y môr Abertawe yn Blackpill trwy ganol Dyffryn Clun. Ymhellach i'r gogledd mae rhannau eraill o'r hen linell wedi'u trosi'n llwybrau sy'n cysylltu Gorseinon â Phontarddulais ac o Dre-gŵyr ar draws i Benclawdd ar y Gŵyr.

Os edrych yn ofalus, gallwch weld hyd at naw caer danddaearol ar hyd y lein ac ar hyd leiniau'r dyffryn. Adeiladwyd y strwythurau concrit hyn fel mannau i amddiffyn y lein a'r isadeiledd yn ystod yr Ail Ryfel Byd a’i diogelu rhag ymosodiad.

Datblygwyd nifer o lwybrau hefyd sy'n mynd oddi ar y prif lwybr a all gyfeirio at fannau o ddiddordeb megis hen Waith Brics Dunvant, Gwaith Brics Dyffryn Clun a Phwll Glo Dyffryn Clun.

Roedd gan y diwydiannau hynny eu rheilffyrdd a'u tramffyrdd eu hunain yn Nyffryn Clun a gellir gweld gweddillion y rhain wrth archwilio'r ardal.

“Mae'r dyffryn hwn yn frith o hanes yn gysylltiedig â'r rheilffordd,” ychwanegodd Barbara.

“Roedd yn ardal dlawd tan y 1800au pan ddechreuodd llawer o ddiwydiannau bach ddechrau ymddangos yn Dunvant a Killay.

“Roedd gwaith brics amrywiol yn bodoli yma am dros 100 mlynedd gan ddefnyddio'r gwahanol leiniau trên, ac roedd sawl pwll glo yma hefyd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan oedd llawer o'r dynion yn y lluoedd arfog, aeth y menywod ati i glirio'r coed ar hyd y lein; fe'u gelwid yn ‘lumber Jills’ yn hytrach na ’lumber Jacks'."

Caeodd y lein yn y 1960au, ond dros y degawdau nesaf datblygwyd y llwybr a bellach, dyma'r ffordd ddelfrydol o archwilio dyffryn Clun yn gynaliadwy.

Am fwy o wybodaeth am Ddyffryn Clun, ei hanes a'r teithiau cerdded sy'n olrhain ei hanes, ewch i: clynevalleycommunityproject.uk.

I gael tocynnau i Orsaf Tre-gwyr i ddechrau eich taith am hanes rheilffordd bwysig, cliciwch yma.   

 

(Map yn dangos llinellau rheilffordd presennol a rhai “coll” yn ardal Abertawe. Mae'r llinellau llwyd yn dangos y rhai nad ydynt yn bodoli mwyach.)

A map showing current and “lost” railway lines in the Swansea area

 

(Dolen i fideo o un o’r trenau olaf ar y llwybr yn y 1960au.)

player.bfi.org.uk/free/film/watch-swansea-victoria-pontardulais-railway-1964-june-1964-online

 

(Tîm Prosiect Cymunedol Dyffryn Clun yn glanhau'r hen blatfformau yng Ngorsaf Killay.)

Work going on to clean up the old platforms at Killay Station by the Clyne Valley Community Project

 

(Yr orsaf fel at yr oedd yn y 1960au.)

The station as it was in the 1960s

 

(Enghraifft o daflen cerdded y mae'r grŵp yn eu cynhyrchu i ddangos safleoedd o ddiddordeb hanesyddol.)

An example of one of the walking leaflets the group produce to show sites of historical interest