Menywod Caerdydd yn gweithio ar y rheilffordd a’r dociau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Fel rhan o Rheilffordd 200 - a’n gwaith ar dreftadaeth ehangach - rydyn ni’n gweithio â phartneriaid academaidd i ymchwilio agweddau amrywiol o hanes a threftadaeth y rheilffordd ledled Cymru a’r gororau. I ddechrau ein cyfres ac i nodi Mis Hanes Menywod yn ogystal â chydnabod Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth 2025, mae Dr Mike Esbester o’r prosiect Railway Work, Life and Death, wrthi’n archwilio menywod a oedd yn gweithio ar y rheilffordd a’r dociau yng Nghaerdydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. 

“Mae menywod wedi gweithio ar y rheilffyrdd Cymreig ers oesoedd. Yn aml iawn, mae’r gwaith hwnnw wedi cael ei anghofio. Weithiau, mae’n ymddangos yn y lleoedd mwyaf annisgwyl. Gan fod mis Mawrth yn Fis Hanes Menywod, mae’n ein hannog i ymchwilio’r menywod Cymreig ar y rheilffyrdd yr ydym wedi anghofio amdanynt.

Ceir Eline Arnold fel enghraifft. Ganwyd ym Mryste ym 1888 ond erbyn 1911, roedd yn byw â’i gŵr, Percy, ym Merthyr Tydfil. Erbyn 1921, roedd Eline wrthi’n brysur â’i ‘dyletswyddau yn y cartref’ - yn ddi-os yn gofalu am eu merch a’r cartref. Tan hynny, doedd dim sôn am y rheilffordd. Byddai’n hollol bosib colli ei rôl fer - ond sylweddol - ar y rheilffordd.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn syth wedi hynny, cyflogwyd Eline Arnold gan Gwmni Rheilffordd Caerdydd (Cardiff Railway Company). Roedd hi ymysg sawl menyw arall a wnaeth ymuno â’r gwasanaeth trenau yn y cyfnod o argyfwng cenedlaethol hwn.

Roedd nifer o fenywod yn gweithio ar reilffyrdd y DU cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn aml iawn, byddent yn gweithio mewn rolau a ystyriwyd i fod ‘yn addas’ ar gyfer menywod - rolau megis glanhau’r swyddfeydd, gweini ar aelodau staff mewn gwestai ym mherchnogaeth y rheilffordd, gwnïo mewn gweithdai’r rheilffyrdd, agor a chau croesfannau rheilffordd fel ceidwadwyr drws.

Gwnaeth y Rhyfel Byd Cyntaf gynnig mwy o gyfleoedd gwaith i fenywod mewn amryw o leoedd gan gynnwys ar y rheilffyrdd. Er enghraifft, gwnaeth rhai ddechrau glanhau peiriannau ar Reilffordd y Barri. Gellir darllen mwy yma. Roedd Elizabeth Trevelyan yn un o sawl menyw a gyflogwyd yn Nhondu, fel signal wraig.

Yn aml iawn rydyn ni dim ond yn dod i ddysgu am waith menywod ar y rheilffyrdd, yn anffodus, o ganlyniad i ddamwain wrth weithio sydd wedi gadael cofnod i ni. Mae’r cofnodion hynny yn werthfawr gan eu bod yn ein galluogi i ddod o hyd i wybodaeth am waith menywod ar y rheilffyrdd. Mae hyn yn rhan o’r gwaith a wneir yn y prosiect Railway Work, Life and Death, sy’n gyfuniad o waith gan brifysgol Portsmouth, Amgueddfa Reilffordd Genedlaethol a’r Ganolfan Gofnodion Modern (Modern Records Centre) ym mhrifysgol Warwick.

Yn y prosiect, mae timau cysegredig o wirfoddolwyr wrthi’n trosi cofnodion o ddamweiniau, er mwyn iddynt fod ar gael i bawb ac er mwyn eu defnyddio i ymchwilio gwaith ar y rheilffordd yn ogystal â’r gweithwyr yno cyn 1939. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ymuno â’r gwaith hwn gan edrych ar agweddau o waith ar y rheilffordd a damweiniau aelodau staff o’r gorffennol yng Nghymru. Mae hyn yn rhan o waith treftadol TrC ar gyfer blwyddyn Rheilffordd 200 ac ymhellach.

Roedd Eline Arnold yn ‘ganfyddiad’ annisgwyl arall o fewn y cofnodion a ddefnyddir gan y prosiect ‘Railway Work, Life and Death’. Roedd hi’n un o sawl menyw a wnaeth weithio i ‘Gwmni Reilffordd Caerdydd’ yn nociau Bute. Yn ddi-os, roedd hi’n gweithio yn lle’r dynion tra’u bod yn ymuno â’r Lluoedd Arfog. Mae’n ymddangos y gwnaeth hi a’r menywod eraill gychwyn ar eu gwaith yn y dociau rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 1917. Byddent yn gwneud gwaith llaw, sef gwaith llwytho a dadlwytho cerbydau, yn arbennig.

Yn ôl y cofnodion, digwyddodd ddamwain gyntaf Eline ar 4 Ebrill 1918, pan gwympodd o gerbyd ar y rheilffordd wrth ddadlwytho balast. Cafodd niwed i’w chefn ac o ganlyniad, roedd yn absennol o’r gwaith am chwe diwrnod. Ar 10 Gorffennaf 1918, cafodd straen i’w braich a’i hochr wrth dynnu lifer. Nid yw’n ymddangos y gwnaeth fynd o’r gwaith fodd bynnag. Ac yn olaf, ar 11 Medi 1918, cwympodd wrth gerdded tuag at gerbydau yr oedd ar fin eu dadlwytho. Gwnaeth taro’i phen ar rywbeth, ond eto, nid yw’n ymddangos ei bod wedi cymryd amser o’r gwaith. Er iddynt fod yn fân anafiadau, maent yn adlewyrchu’r heriau a wynebwyd gan fenywod a dynion wrth weithio ar y dociau a’r rheilffordd.

Roedd Eline yn aelod o Undeb Cenedlaethol ar gyfer gweithwyr ar y rheilffordd o fis Gorffennaf 1917 tan fis Mehefin 1919, pan, mae’n debyg, y gwnaeth adael y gwasanaeth trenau. Er oedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfnod anarferol, mae’n hwyluso’n gallu i ddod o hyd i wybodaeth am fenywod ar y rheilffordd gan eu gwneud nhw’n fwy gweladwy - gan gynnwys drwy eu damweiniau. 

Mae yna ddarn hirach am Eline Arnold a menywod Cymreig ar y rheilffordd yma.

Mae Mike Esbester yn Uwch Ddarlithydd mewn Hanes ym mhrifysgol Portsmouth. Mae e’n cyd-arwain y prosiect Railway Work, Life and Death project, sy’n gyfuniad o waith rhwng Portsmouth, Amgueddfa Reilffordd Genedlaethol, a’r Ganolfan Gofnodion Modern (Modern Records Centre) ym mhrifysgol Warwick. Mae ei ymchwil yn ffocysu ar hanes y rheilffyrdd, trafnidiaeth a symudedd, ac ar hanes diogelwch, risg ac atal damweiniau.