Fy stori Rheilffordd 200
Un o fy atgofion cyntaf ar y rheilffordd oedd pan wnaeth nhad-cu fynd â mi o gwmpas iard Radur a sgwrsio gyda'r criw (roedd rheolau iechyd a diogelwch ychydig yn wahanol bryd hynny!), ond ces i fy nylanwadu gan ddiddordeb teuluol heb os nac oni bai, ac yn ddiweddar fe wnaethon ni ddarganfod bod un aelod o’n teulu ni wedi helpu i adeiladu Rheilffordd Dyffryn Taf.
Fy rôl gyntaf ar ôl gadael y brifysgol oedd yng nghanolfan alwadau Adran Ymholiadau National Rail, a oedd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd ar y pryd. Yna symudais ymlaen i weithio yn adran gwerthu tocynnau Scotrail - eto, roedd y swydd hon (yn ddigon rhyfedd) yng Nghaerdydd. Mae'r ddwy swydd yn sicr wedi dysgu popeth i mi am wallgofrwydd y system docynnau gyda'r holl opsiynau a rheolau di-ri - mae'n rhaid symleiddio hyn i sicrhau bod teithwyr yn deall y system.
Yn fuan ar ôl hynny, symudais i weithio i gwmni ymgynghori, WS Atkins. Roeddwn i’n gweithio yn y tîm cynllunio rheilffyrdd cenedlaethol lle gwnaethom gyflwyno dogfennau strategol ac achosion busnes ar gyfer llawer o brosiectau cenedlaethol, gan gynnwys High Speed Two (a ddechreuwyd fel yr Astudiaeth o Linell Cyflymder Uchel ar gyfer SRA), gwaith uwchraddio’r Thameslink, sawl rôl ymgynghorydd masnachfraint ac ailddatblygu gorsafoedd, gan gynnwys ailddatblygu gorsaf Stratford yn Llundain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn 2012.
Roedd hyn yn ystod dyddiau cynnar preifateiddio felly llawer o newidiadau yn cael eu gwneud i strwythur y rheilffyrdd ac o fewn y sefydliadau dan sylw.
Y newid mawr yn ystod y cyfnod hwn oedd nifer y teithwyr oedd yn teithio, ond roedd y rheilffyrdd yn ymdopi'n dda, gyda nifer cymharol isel o gynlluniau ehangu seilwaith. Mae'r patrwm cyffredinol hwn yn parhau i raddau helaeth hyd heddiw, hyd yn oed o ystyried cyfnod Covid, a dyma'r her fawr i'r diwydiant. Mae'r rhwydwaith yn llawn ac mae'n cyrraedd y pwynt lle mae'r pethau hawdd i'w datrys eisoes wedi cael eu gwneud. Mae angen buddsoddiad mawr arnom nawr ar y llinellau a'r gorsafoedd i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol.
Ar ôl gadael Atkins, gweithiais i mi fy hun ac roedd gennyf wahanol rolau yn yr Adran Drafnidiaeth, yr Adran Masnach Ryngwladol, a chwmnïau ymgynghori llai. Roedd gweithio i Lywodraeth y DU yn ddiddorol ac yn sicr yn hollol wahanol i'r meddylfryd yn y cwmnïau ymgynghori, ond helpais i gyflawni rhai llwyddiannau, gan gynnwys symleiddio systemau cymeradwyo mewnol a chofnodi'r gwerthoedd uchaf o allforion rheilffyrdd a gofnodwyd erioed.
Yn ystod y cyfnod hwn hefyd cefais fy nghyflwyno i gyfleoedd gwirfoddoli ar reilffordd Ffestiniog. Gweithiais gyda'r tîm gweithrediadau fel giard a signalwr, a wnes i fwynhau hynny’n fawr iawn. Rydych chi'n cwrdd â phobl wych sy'n rhannu eich diddordebau, ac mae llawer o'r rhain yn ffrindiau gydol oes i mi o hyd.
Mae'n anhygoel meddwl bod y rheilffyrdd wedi bod yn rhan annatod o lwyddiant y wlad ers 200 mlynedd a mwy. Dw i’n credu y bydd y rheilffyrdd o gwmpas am 200 mlynedd arall, ac mae'n debyg y byddant yn adnabyddadwy fel y rheilffyrdd ry’n ni'n eu hadnabod heddiw i raddau helaeth. O ystyried yr angen i leihau'r defnydd o geir ac allyriadau, hoffwn feddwl y byddwn mewn gwirionedd wedi ehangu'r rheilffordd gyda llinellau newydd fel HS2 (ac wedi trydaneiddio'r rhan fwyaf ohoni), a dw i hefyd yn disgwyl y byddwn yn gweld mwy o reilffyrdd ysgafn yn ein trefi a'n dinasoedd. Fodd bynnag, rhaid lleihau costau cynllunio ac adeiladu. Nid wyf yn argyhoeddedig, er gwaethaf y galwadau gan rai, y byddwn yn gweld trenau heb yrwyr yn cael eu masgynhyrchu.