Fy stori Rheilffordd 200 - Ed Crane
“MAE’N teimlo fel castell a rhyw ddydd hoffwn ei drosglwyddo i fy merch.”
Dyma’r hyn y mae Ed Crane, aelod o dîm gweini Trafnidiaeth Cymru sydd â chysylltiad rhyfeddol i Orsaf Drenau Amwythig, yn ei ddweud.
Fel rhan o Rheilffordd 200, mae Ed yn falch i rannu ei hanes a’i gysylltiad at orsaf a diwydiant rheilffordd y sir.
Wedi iddo ymuno â’r tîm yn 2019, gwnaeth yr achydd awyddus, Ed, ddechrau ymchwilio hanes yr adeilad syfrdanol.
“Roeddwn i’n ymwybodol bod ochr fy mam yn perthyn i’r teulu Penson,” dywedodd Ed, 38, sydd bellach yn gweithio fel cludwr.
“Ond wrth imi ymchwilio ymhellach, gwnes i ddarganfod taw Thomas Mainwaring Penson, sef fy hen, hen, hen, hen, hen, hen ewythr, oedd y dyn a wnaeth ddylunio’r orsaf ym 1848/49.
“Ac wrth fynd i’r swyddfeydd, ces i hyd yn oed mwy o sioc wrth weld plac o’m hen, hen ewythr, Ted Crane, a wnaeth weithio yn yr orsaf ac a oedd ymysg y 50,000 cyntaf i ymladd ym mrwydr y Somme.
“Roedd tad-cu fy mam hefyd yn yrrwr i British Rail ac roedd fy nhad-cu ar ochr fy nhad yn Ddiffoddwr Tân ar gyfer injans hefyd, felly mae yna gysylltiad teuluol enfawr.”
Ganwyd Thomas Mainwaring Penson yng Nghroesoswallt a wnaeth ddilyn esiampl ei dad gan ddod yn Bensaer, Syrfëwr a Dylunydd. Byddai’n mynd ymlaen i weithio â rhai o gewri’r chwyldro diwydiannol gan gynnwys Thomas Brassey ac Isambard Kingdom Brunel.
Gan chwarae rôl hanfodol yn natblygiad y rheilffordd rhwng Caer, Amwythig a'r gororau, byddai’n mynd ati i ddylunio chwe gorsaf drên sy’n cynnwys gorsafoedd Gobowen, Rhiwabon a Church Stretton.
Ond Gorsaf Gyffredinol Amwythig oedd yr orsaf a fyddai’n sefyll allan fel coron ar y cyfan. Adeiladwyd mewn steil Fictoraidd a Thuduraidd gothig ac mae ochr flaen yr adeilad yn cynnwys addurniadau yn y steil hon yn ogystal â gargoiliau, i gyd-fynd â sawl adeilad allweddol arall yn y dref yn yr adeg, yn enwedig ysgol Amwythig.
Daeth ei ddyluniai’n wir ddiolch i’r contractwr rheilffordd enwog, Thomas Brassey. Ar y dechrau, roedd yr orsaf ar ddwy lawr uchaf yr adeilad, ac ychwanegwyd mynedfa ar y lefel waelod ym 1899.
Mae’r gargoiliau’n cynnwys pennau Tuduriaid a dynion a menywod canoloesol megis Syr Henry Percy, un o’r ymgyrchwyr ym Mrwydr Amwythig. Mae’r pennau hefyd yn cynnwys y llewpardiaid steil Amwythig, a adnabyddir fel “loggerheads”.
“Yn wir, mae treulio ychydig o amser yno gan edrych i fyny at yr hyn sydd uwch eich pennau ar yr adeilad yn werth chweil gan ei fod yn rhyfeddol,” ychwanegodd Ed.
“Mae wir yn teimlo fel castell ac un dydd, hoffwn ei drosglwyddo i fy merch os oes ganddi ddiddordeb mewn gweithio i’r rheilffordd.
“Drwy weithio yma, dwi wedi dod i ddeall eich bod yn sefydlu gwir deulu rheilffordd. Nid yn unig teulu biolegol neu bobl sydd wedi priodi i mewn i’ch teulu ond y bobl rydych yn eu casglu ar hyd y ffordd.
“Wrth gwrs, mae’n bwysig edrych ymlaen yn ogystal ag edrych yn ôl ac rydw i’n gobeithio gweld y rheilffordd yn mynd o nerth i nerth dros y 200 mlynedd nesaf wrth i bobl ddewis ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio ac ymweld â’n tref brydferth.”
Dros y blynyddoedd, gwnaeth y niferoedd o orsafoedd yn Amwythig ostwng nes i orsaf Amwythig fod yr unig un ar ôl. Nid ydym yn gwybod yn gwmws pryd wnaethon nhw ollwng ‘Cyffredinol’ o’r teitl ond gall fod mor gynnar â 1905.
Dywedodd Arweinydd y Rhaglen Rheilffordd 200 Trafnidiaeth Cymru, Dr Louise Moon: “Mae pobl fel Ed yn dod â Rheilffordd 200 yn fyw gyda straeon rhyfeddol o gysylltiadau i orsafoedd a llinellau trên.
“Dengys ei wybodaeth ynghylch yr orsaf yn ogystal â’i angerdd tuag at orffennol a dyfodol yr orsaf y dylem ddathlu’n gorffennol ond hefyd edrych ymlaen at sut all y rheilffordd yr ydym wedi ei etifeddu gweithio i genhedloedd y presennol a’r dyfodol, gan ysbrydoli diddordeb yn y diwydiant drwy ddysgu mwy amdano.
“Mae gan orsaf Amwythig hanes mor hen a rhyfeddol ac rydym yn gobeithio rhannu mwy amdano gyda phawb yn hwyrach yn y flwyddyn.”