Mae gan orsaf fach yn Sir Benfro ran unigryw mewn hanes y rheilffordd.

Yng ngorsaf drenau Pen-bre a Phorth Tywyn, gwerthwyd y tocyn “Edmundson” olaf ar 4 Chwefror 1990.

Dyluniwyd y tocynnau trên traddodiadol ar ffurf cerdyn gan feistr gorsaf drenau Carlisle, Thomas Edmunson, yn y 1840au, a chawson nhw eu defnyddio ledled Prydain am fwy na 150 o flynyddoedd.

Mae Emyr Phillips, cyn-berchennog ‘Pembrey Travel’, sy’n hawlio mai fe werthodd y tocyn olaf, wedi rhannu rhai o’i straeon syfrdanol o weithio yn yr orsaf am fwy nag 20 mlynedd.

“Cymerais berchnogaeth dros y swyddfa docynnau ym 1984 wedi imi golli fy swydd,” dywedodd Emyr, 84 oed.

“Roeddwn i wrth fy modd gyda rheilffyrdd ac roedd hyn felly’n gyfle i gyfuno gwaith a hobi.

“Yn y cyfnod hwnnw, roeddent yn awyddus i foderneiddio a chael gwared yn raddol â thocynnau Edmundson, gyda’r un olaf yn cael ei werthu yn Llundain ym 1989. Gwnaethom gadw ein rhai ni fodd bynnag, achos roeddent eisoes wedi cael eu creu a’r unig beth oedd angen ei wneud oedd rhoi stamp dyddiad arno. Ni felly yw’r rhai a wnaeth werthu’r un olaf ym Mhrydain i fenyw leol o’r enw Irene Rees ar 4 Chwefror, 1990!”

Wedi’i eni a’i fagu ym Mhorth Tywyn, dilynodd Emyr yn ôl-troed ei dad a oedd yn Rheolwr Gorsaf dros dro pan fyddai Rheolwyr eraill yn absennol yn holl orsafoedd i orllewin Port Talbot am 38 o flynyddoedd. Trosglwyddodd ei gariad at y rheilffordd i’w fab, Dylan, a fyddai’n ei helpu yn y swyddfa docynnau pob dydd ar ôl ysgol.

“Rwy’n cofio un diwrnod, roedd yr athrawon yn streicio, ac felly gwnaeth Dylan dreulio’r diwrnod gyda fi yn archwilio’n agos at yr orsaf, pan wnaeth ddod o hyd i sawl troedfedd o hen draciau rheilffordd “Broad Gauge” Brunel,” ychwanegodd Emyr.

“Mae’r rhain bellach yn amgueddfa Abertawe.

“Byddai llawer o bobl ddiddorol yn dod trwy’r orsaf, gan gynnwys chwaraewr snwcer o’r radd flaenaf, y diweddar, a’r arbennig, Terry Griffiths. Roedd e’n mynd i Sheffield un bore ond gwnaeth golli’i drên. Gwnes i ffonio’r ystafell reoli felly a gwnaethon nhw lwyddo i gadw ei gysylltiad ym Mhort Talbot er mwyn iddo wibio i fyny’r M4 ac ymuno â’r trên yno!

“Roedd yna hefyd ddyn lleol a wnaeth fynd i weithio ym Mecsico, Gwnaeth e fy ffonio i o fanna i drefnu’i docynnau i gyd yn y Gymraeg ac roedd ei docynnau a’i drefniadau teithio felly i gyd yn barod ar gyfer pan fyddai’n dychwelyd i Heathrow.

“Unwaith y mis, byddem yn anfon ein cyfrifon at y brif swyddfa yn Watford. Byddai’r fenyw yno’n gofalu amdanom a gwnaeth hyd yn oed benderfynu dod ar wyliau i Barc Gweledig Pen-bre. Rydyn ni wedi bod yn ffrindiau ers ‘ny ac rydyn ni o hyd yn cyfnewid cardiau Nadolig.”

O ran datblygiad tocynnau trên, am gyfnod byr, byddai tocynnau o hyd yn cael eu hysgrifennu wrth law cyn i’r tocynnau oren gael eu cyflwyno gyda’r lein fagnetig sy’n galluogi ichi fynd drwy’r gatiau tocynnau, ac sydd o hyd mewn gwasanaeth heddiw ochr yn ochr â chenhedlaeth newydd o docynnau digidol.

“Heddiw gallwch brynu’ch tocyn gartref ar eich ffôn, heb orfod dod lawr i’ch swyddfa docynnau lleol ym Mhorth Tywyn neu le bynnag yr ydych,” ychwanegodd Emyr.

“Treuliom sawl blynedd ragorol yno.”

Ymddeolodd Emyr o’r swyddfa docynnau ym Mhorth Tywyn ar ôl 22 mlynedd ond mae e o hyd yn ymweld â’r orsaf yn rheolaidd.

Dywedodd Dr Louise Moon, sy’n Arweinydd Rhaglen Rheilffordd 200 i Trafnidiaeth Cymru, “Wrth feddwl am hanes y rheilffordd, rydyn ni fel arfer yn meddwl am y trenau, ond heb y tocynnau a’r rheolaeth dda o gyfrifon cwsmeriaid, yn ogystal â phobl fel Emyr, ni fyddai’r rheilffyrdd wedi bod mor effeithlon ac ni fyddai gymaint o gysylltiadau a straeon mor bersonol i gyd-fynd â nhw.

“Mae stori Emyr yn ein hatgoffa am system syml ond effeithiol iawn a weithiodd am fwy na 150 o flynyddoedd. Cyn 1990, byddem ni, ein rhieni, ein mam-guod a thad-cuod neu hyd yn oed ein hen-famguod a thad-cuod, wedi defnyddio tocyn Edmundson ar gyfer taith trên.”

  • Dim ffioedd archebu
  • Dim tâl am ddefnyddio cerdyn
Dewiswch Ddyddiad GadaelAllanGadael ar ôl 20 Gor 2025, 19:30
Ychwanegu dychwelyd