Wrth i’r byd wynebu chwyldro diwydiannol, gwnaeth beiriannwr gyrraedd de Cymru ag ystod o syniadau newydd am ffyrdd o wneud pethau’n wahanol. 

Ei enw oedd Richard Trevithick a byddai ei syniad ef yn sbarduno taith stêm gyntaf y byd.

221 blynedd wedi’r diwrnod hanesyddol hwnnw ym mis Chwefror 1804, mae Trafnidiaeth Cymru ar fin wynebu chwyldro rheilffordd newydd. Er nad yw trydaneiddio’n unrhyw beth newydd i Brydain, bydd trydaneiddio llinellau Cymoedd de Cymru yn bendant yn garreg filltir hynod o bwysig yn hanes y rheilffordd.

Wrth drydaneiddio llinellau a chyflwyno trenau-tram a fydd yn eich cludo o Ferthyr i Gaerdydd mewn 44 munud yn unig, yn lle defnyddio systemau sydd wedi bodoli ers yr Oes Victoria, bydd y prosiect hwn yn hynod o drawsnewidiol.

Mae arloeswyr rheilffordd a diwydiannol o’r Oes Georgia a Victoria wrth gwrs yn gyfystyr â’r prosiectau gwnaethant eu cyflawni, gydag enwau megis Trevithick, Stephenson, Brassey a Brunel yn ymddangos yn rheolaidd yn y rhan fwyaf o astudiaethau am y chwyldro diwydiannol.

Fodd bynnag, prin na ellir priodoli prosiectau heddiw i un person yn unig. Ni allai llawer enwi peirianwyr a wnaeth arwain ar waith y Cledrau Croesi na thrawsnewidiad gorsaf London Bridge, er enghraifft.

Roedd y cynlluniau ar gyfer Cymoedd de Cymru’n rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru i adeiladu system rheilffordd o’r radd flaenaf ac ar wahân i amhariad y cyfnod Covid, maent bellach ar y trywydd iawn.

Dywedodd y Prif Swyddog Seilwaith, Dan Tipper

Mae’n fraint enfawr i allu buddsoddi cystal mewn i ardaloedd sydd heb dderbyn unrhyw beth o’r lefel hon yn y blynyddoedd diwethaf.

Pan wnaeth peiriant Trevithick y daith gyntaf honna, roedd Cymru am chwarae rôl enfawr yn y chwyldro diwydiannol wrth i sawl gwaith haearn, pwll glo a ffowndri lansio ar draws y wlad.

Gallai’r buddsoddiad newydd hwn mewn Seilwaith a Threnau Newydd, yn ogystal â chynnydd sylweddol mewn cysondeb y gwasanaethau, fod yn ddatblygiad enfawr i’r cymunedau hyn.

Nid yn unig ydyn ni’n gobeithio gwella sefyllfa ariannol yr ardal gyda gwasanaethau trafnidiaeth gwell, rydyn ni hefyd yn gobeithio ysbrydoli cenhedlaeth newydd o beirianwyr y dyfodol.

Ym Merthyr, mae llwybr Penydarren yn marcio’r llwybr a wnaeth peiriant Trevithick ar 21 Chwefror 1804. Roedd y gŵr Cernywaidd wedi dylunio’r locomotif ar gyfer Samuel Homfrey, sef perchennog y gweithfeydd haearn. Gwnaeth lwyddo i gario 10 twnnel o haearn mewn pum tryc am naw milltir ar gyflymder o bron 5 milltir yr awr o Abercynon. Yn ôl yr hanes, gwnaeth 70 o weithwyr neidio i mewn hefyd ond ni chafodd ei drin fel y trên i gwsmeriaid cyntaf. Mewn gwirionedd, ni dderbyniodd y llwyddiant hwn lawer o sylw gan y wasg ar y pryd, ac er i Reilffordd Abertawe a’r Mwmbwls gludo teithwyr a fyddai’n talu am docyn tair blynedd wedi hyn, cafodd eu coetsis nhw eu tynnu gan geffylau yn lle stêm.

Byddai’n cymryd 21 mlynedd lawn cyn i’r daith locomotif rhwng Stockton a Darlington weithredu ym 1825, a’r gred yw mai dyma yw’r daith drên gyntaf i gwsmeriaid a dyma pam rydym yn marcio Rheilffordd 200 eleni.

Gyda buddsoddiadau rheilffordd newydd ar y gweill yn y blynyddoedd i ddod, tybed beth yw’r camau nesaf mewn arloesedd a diwydiant i’r rhwydwaith trenau yng Nghymru.

Gallwch ddilyn camau troed Trevithick ar y llwybr yma.

Gellir gweld copi o locomotif Penydarren yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, a leolir tua 20 munud ar droed o Orsaf Drenau Abertawe.