Rydym am i chi gael eich ysbrydoli i feddwl yn wahanol am drafnidiaeth gyhoeddus fel y gallwch wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy.

Dysgwch fwy am sut y gallwch chi chwarae eich rhan isod.

 

Gwnewch ddewisiadau teithio mwy cynaliadwy heddiw

Mae'r pandemig wedi gwneud i ni i gyd feddwl yn wahanol am yr hyn sy'n bwysig i ni a'r ffordd rydyn ni'n byw ein bywydau.

Rydyn ni i gyd yn awyddus i ddychwelyd i ymweld â theulu a ffrindiau a mynd allan.  Mae gan deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ran bwysig i'w chwarae i'n helpu i wneud hyn.

Credwn fod ystyr gwreiddiol 'rhwydwaith cymdeithasol' wedi mynd ar goll.  Ar un adeg, roedd yn golygu cerdded gyda ffrind, peidio â sgrolio gwefannau, ymweld â dinasoedd godidog, yn hytrach nag ymweld â gwefannau.

Rydym am ail afael yn ystyr 'rhwydwaith cymdeithasol'.  Gall teithio gyda ni eich helpu i ailgysylltu â'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i chi.

Rydyn ni eisiau ysbrydoli pobl i deithio'n fwy cynaliadwy p'un a ydyn nhw'n ailgysylltu â ffrindiau a theulu, yn ailddarganfod y lleoedd maen nhw'n eu caru, yn ymweld â lleoedd newydd, neu'n dychwelyd i'r gwaith.

Gwyliwch ein hysbyseb am ysbrydoliaeth.

Y tu ôl i’r llenni ar y rhwydwaith cymdeithasol go iawn

 

 

Am beth mae ein hymgyrch?

Rydym am ysbrydoli pobl i deithio'n fwy cynaliadwy ar fws, trên, beic neu ar droed pan fyddant yn cyfarfod â'u ffrindiau, yn teithio i hamddena neu'n dychwelyd i'r gwaith.

Rydym am ailgysylltu pobl

Gadawodd effeithiau gwrthgymdeithasol y pandemig lawer ohonom yn teimlo’n ynysig, ond rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi fod pobl yn gallu teithio i ymweld â theulu a ffrindiau eto.  Rydym am i bobl ddewis trafnidiaeth gyhoeddus wrth ailgysylltu â phobl a theimlo’n hyderus yn gwneud hynny.

Rydyn ni'n ailgysylltu lleoedd

Rydym bob un wedi colli’r gallu i fynd allan oherwydd y pandemig ond nawr rydyn ni eisiau i bobl ddewis trafnidiaeth gyhoeddus pan maen nhw'n ymweld â'r lleoedd maen nhw'n eu caru.

Rydyn ni'n helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith

Mae'r pandemig wedi golygu bod llawer ohonom wedi newid y ffordd rydym yn gweithio, ac rydym am i bobl deithio'n ddiogel gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y gwaith.