Rydyn ni’n ail-ddychmygu trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru
Rydyn ni’n adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, integredig ac aml-ddull er mwyn hybu teithio cynaliadwy.
Gwyliwch ein ffilm o'r ymgyrch.
Pam ein bod yn gwneud y rhwydwaith cymdeithasol go iawn?
Rydyn ni wedi lansio ymgyrch hirdymor i’n hannog ni i gyd i wneud teithio cynaliadwy yn flaenoriaeth wrth i ni ddychwelyd i fywyd go iawn, ailgysylltu â’n ffrindiau a’n teulu wyneb yn wyneb, ymweld â’r llefydd rydyn ni’n eu caru a dychwelyd i’n gweithleoedd.
Yr ymgyrch ‘Y Rhwydwaith Cymdeithasol Go Iawn’ yw ymgyrch drafnidiaeth gyhoeddus aml-ddull gyntaf Cymru ac mae’n hyrwyddo cerdded, beicio, defnyddio bysiau a threnau fel ffordd gynaliadwy o deithio. Nod yr ymgyrch yw annog pobl i ailddychmygu trafnidiaeth gyhoeddus a gwneud newidiadau tymor byr a thymor hirach i’r ffordd maen nhw’n teithio.
Ailddarganfod, ailgysylltu, dychwelyd
Wedi’i ffilmio mewn lleoliadau ar draws Cymru, mae’r ymgyrch proffil uchel yn dangos y bobl gyffredin sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i ymweld â theulu a ffrindiau, mynd allan a theithio i’r gwaith.
Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, rydyn ni’n annog mwy o bobl i deithio’n gynaliadwy, gan gynnwys cerdded a beicio, bysiau a threnau.
Ailddarganfod
Y llefydd nad ydych chi wedi ymweld â nhw ers tro.
Ailgysylltu
Gyda theulu a ffrindiau, dydych chi ddim wedi dod at eich gilydd yn dda yn ddiweddar.
Dychwelyd
I fywyd gwaith sy’n fwy cytbwys o ran y gweithle a’r cartref.