Terfyn cyflymder 20mya safonol ar ffyrdd cyfyngedig

Submitted by Content Publisher on

Terfyn cyflymder 20mya safonol ar ffyrdd cyfyngedig

Dogfen fframwaith monitro

 

Diwygiad Terfynol
Dyddiad Cyhoeddi
Medi 2023

 

1. Cyflwyniad

1.1 Cefndir

Mae’r ddogfen hon yn egluro sut bydd Trafnidiaeth Cymru yn monitro effeithiau cychwynnol y terfyn cyflymder safonol 20mya cenedlaethol newydd. Mae’r ddogfen hon yn egluro beth sy’n cael ei fonitro a sut bydd y monitro’n digwydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno terfyn cyflymder safonol o 20mya ar ‘ffyrdd cyfyngedig’ ledled Cymru.¹  Hwn fydd y cynllun cenedlaethol cyntaf o’i fath yn y DU a bydd yn dod i rym ar 17 Medi 2023.

Yn dilyn argymhellion Adroddiad Terfynol Grŵp Tasglu 20mya Cymru (Gorffennaf 2020), fe weithiodd Llywodraeth Cymru gydag Awdurdodau Lleol i weithredu terfynau cyflymder 20mya mewn wyth ardal dreialu yn ystod 2021-2022. Cyfeirir at yr ardaloedd treialu fel Cam 1 y rhaglen 20mya. Rhestrir yr wyth ardal dreialu yn nhabl 1, yn nhrefn y dyddiadau gweithredu.

Tabl 1: Ardaloedd treialu cam un 20mya

Ardal dreialu cam 1 Awdurdod lleol Dyddiad gweithredu
Llandudoch Sir Benfro 16 Mehefin 2021
Saint-y-brid Bro Morgannwg 09 Gorffennaf 2021
Llanelli (Gogledd) Sir Gaerfyrddin 20 Awst 2021
Bwcle Sir y Fflint 28 Chwefror 2022
Caerdydd (Gogledd) Caerdydd 11 Mawrth 2022
Cil-ffriw Castell-nedd Port Talbot 16 Mawrth 2022
Y Fenni Sir Fynwy 18 Mai 2022
Glannau Hafren (Caerwent, Cil-y-coed, Magwyr, Gwndy) Sir Fynwy 18 Mai 2022

 

1.2 Y rhesymeg dros ymyrryd

Mae’r rhesymeg dros ostwng terfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig i 20mya yn llawer ehangach na dim ond lleihau cyflymder traffig. Bwriedir iddi fod yn rhaglen fawr ar gyfer newid ymddygiad a fydd o fudd i gymunedau ac felly i lesiant pobl yng Nghymru.

Disgwylir y bydd cyflwyno terfyn cyflymder is ar gyfer traffig yn lleihau tebygolrwydd a difrifoldeb gwrthdrawiadau ar ein ffyrdd. Bydd hyn yn arwain at lai o gerddwyr a beicwyr yn cael eu hanafu’n ddifrifol neu’n angheuol. Mae’r terfyn cyflymder is wedi’i ddylunio i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru mai cerdded, olwyno a beicio fydd y dulliau naturiol o ddewis ar gyfer teithiau byr bob dydd.²

¹ Diffinnir ffyrdd cyfyngedig gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel ffyrdd sydd â goleuadau stryd bob 200 llath o leiaf.
Oni nodir fel arall, y terfyn cyflymder safonol ar ffyrdd cyfyngedig oedd 30mya.

² Mae’r weledigaeth hon wedi'i nodi yng Nghanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol (Gorffennaf 2021).

 

Drwy leihau nifer yr anafiadau a’r marwolaethau ar ein ffyrdd, a lleihau effeithiau negyddol defnyddio ceir ar yr amgylchedd ehangach, rhagwelir y bydd y newid i 20mya yn arwain at fanteision pellgyrhaeddol.³ Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Mwy o bobl yn cerdded, yn beicio ac yn olwyno (teithio llesol), a fydd yn lleihau nifer y siwrneiau byr mewn ceir mewn ardaloedd adeiledig.
  • Mwy o ryngweithio cymdeithasol mewn cymunedau, gan arwain at well cydlyniant cymdeithasol.
  • Canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol gwell, yn sgil mwy o weithgarwch corfforol a mwy o ryngweithio cymdeithasol.
  • Lleihau costau i’r GIG a threthdalwyr, a lleihau llwyth gwaith y GIG o ganlyniad i lai o wrthdrawiadau (a llai o anafiadau) ar ein ffyrdd.
  • Lleihau costau i’r GIG o ganlyniad i’r deilliannau iechyd corfforol a meddyliol gwell sy’n deillio o fwy o deithio llesol.
  • Economïau lleol cryfach mewn ardaloedd lle’r oedd problemau cyflymder traffig wedi effeithio arnynt yn flaenorol, o ganlyniad i fwy o ymwelwyr a mwy o weithgarwch ym maes manwerthu a lletygarwch.
  • Cyfrannu at nodau ac amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig “i alluogi lleoedd i gynorthwyo iechyd a llesiant pobl a chymunedau” o fewn y nod ‘Cymru iachach’.

Er y rhagwelir y manteision pellgyrhaeddol hyn, ni ellir eu mesur a’u priodoli’n hawdd i un ymyriad polisi. Mae llawer o ymyriadau polisi Llywodraeth Cymru wedi’u hanelu at sicrhau manteision llesiant tebyg. Er mwyn asesu effaith gweithredu terfyn cyflymder 20mya, mae amcanion mesuradwy penodol a fydd yn cyfrannu at y manteision cymdeithasol ehangach wedi cael eu sefydlu. Mae’r amcanion hyn i’w gweld yn adran 2 y ddogfen hon.

³ Mae’r rhestr hon o fanteision pellgyrhaeddol yn seiliedig ar ‘Yr Achos dros Newid’ sydd yn adroddiad Tasglu 20mya Cymru, Gorffennaf 2020

 

1.3 Strwythur y fframwaith monitro 

Mae’r fframwaith monitro hwn yn darparu dull strwythuredig o fonitro effeithiau trefn gyntaf gweithredu terfyn cyflymder safonol cenedlaethol o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig. Mae’r fframwaith monitro’n nodi amcanion y newid i’r terfyn cyflymder, y dangosyddion a ddefnyddir i fesur llwyddiant a’r data sydd i’w gasglu am gyfnod o hyd at bum mlynedd ar ôl gweithredu.

Prif elfennau’r fframwaith monitro yw:

  • Amcanion - datganiadau sy’n egluro’r hyn y dylid ei gyflawni drwy weithredu terfyn cyflymder safonol o 20mya.
  • Dangosyddion perfformiad allweddol - y brif set o fetrigau a fydd yn cael eu defnyddio i asesu cynnydd yn erbyn yr amcanion.
  • Dulliau casglu data - y ffyrdd y bydd data’n cael ei gasglu a’i ddefnyddio i ddadansoddi’r dangosyddion perfformiad allweddol.

Mae’r dull gweithredu a nodir yn y fframwaith monitro hwn eisoes wedi cael ei brofi a’i ddefnyddio i strwythuro adroddiad monitro interim cam 1, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023.⁴

Mae’r gwaith monitro’n parhau yn yr wyth ardal dreialu cam 1 a bydd y data a geir o’r ardaloedd hyn yn cyfrannu at fonitro effeithiau’r cyflwyno cenedlaethol. Bydd data o weddill Cymru yn cael ei ychwanegu at setiau data ardaloedd treialu cam 1.

⁴ Terfyn cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig cam 1: Adroddiad monitro interim, TrC, Mawrth 2023

 

2. Amcanion a dangosyddion perfformiad allweddol

2.1 Amcanion

Roedd Adroddiad Terfynol Grŵp Tasglu 20mya Cymru (Gorffennaf 2020) yn cyflwyno rhestr gychwynnol o ‘ganlyniadau a ddymunir’ ar gyfer gweithredu 20mya. Mae’r rhain bellach wedi’u grwpio o dan dri amcan craidd: 

  1. Gostwng nifer yr anafiadau a'r marwolaethau.
  2. Annog newid mewn ymddygiad teithio.
  3. Lleihau’r effeithiau negyddol y mae defnyddio cerbydau yn ei chael ar yramgylchedd yn ehangach.

Mae pum amcan mesuradwy penodol ar gyfer gweithredu 20mya wedi’u gosod o fewn y tri amcan craidd, fel y nodir yn ffigur 1. Yr amcanion hyn yw:

  • Gostwng nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifolar y rhwydwaith ffyrdd.
  • Annog newid moddau o geir preifat i gerdded a beicio ar gyfer teithiau byrrachmewn ardaloedd adeiledig.
  • Lleihau goruchafiaeth cerbydau modur mewn rhyngweithiadau rhwngcerbydau a cherddwyr.
  • Lleihau allyriadau carbon o drafnidiaeth o ganlyniad i newid moddau o geirpreifat i gerdded a beicio ar gyfer teithiau byrrach mewn ardaloedd adeiledig.
  • Cynnal neu wella ansawdd yr aer lleol o ganlyniad i gyflymder traffig mwy llyfna llai o gyflymu ac arafu.

 

2.2 Dangosyddion perfformiad allweddol

Dangosyddion perfformiad allweddol (DPA) yw’r brif set o fetrigau a fydd yn cael eu defnyddio i asesu cynnydd yn erbyn yr amcanion. Mae Ffigur 2 yn dangos y deuddeg DPA a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer y cymal cyflwyno cenedlaethol.

I wirio’r effaith y mae gweithredu cyfyngiadau cyflymder 20mya wedi’i chael ar gyflymder traffig, bydd y tri DPA canlynol yn cael eu monitro:

  • canran y traffig sy’n cydymffurfio â’r terfyn cyflymder o 20mya [DPA 1.1]
  • newid mewn cyflymder yr 85fed canradd [DPA 1.2]⁵
  • newid mewn cyflymder cymedrig [DPA 1.3]

Mae saith DPA sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r amcanion. Dyma’r mesurau:

  • cyfradd y damweiniau i blant sy’n cerdded (rhwng 5 ac 11 oed), yn ôl rhyw a'r pumedau amddifadedd, ac yn ôl rhyw a dosbarthiad trefol neu wledig (DPA 2.1)⁶
  • cyfradd y damweiniau i gerddwyr a beicwyr 12-74 oed yn ôl rhyw a'r pumedau amddifadedd, ac yn ôl rhyw a dosbarthiad trefol neu wledig (DPA 2.2)
  • cyfradd y damweiniau i bobl hŷn sy’n cerdded a seiclo (dros 75 oed), yn ôl rhyw a'r pumedau amddifadedd, ac yn ôl rhyw a dosbarthiad trefol neu wledig (DPA 2.3)
  • newid mewn agwedd tuag at ddefnyddio teithio llesol mewn ardaloedd adeiledig (DPA 3.1)⁷
  • newid o ran ymddygiad ildio cerbydau a cherddwyr (DPA 3.2)⁸
  • newid mewn ansawdd aer lleol yn seiliedig ar grynodiadau nitrogen deuocsid (NO2) (DPA 4.1)
  • newid mewn allyriadau carbon deuocsid (CO2) (DPA 4.2)

Mewn ymateb i bryderon penodol a nodwyd yn Adroddiad Terfynol Grŵp Tasglu 20mya Cymru, bydd dau DPA ychwanegol yn cael eu monitro. Y rhain yw:

  • Amseroedd teithio cerbydau ac amrywiad o ran amseroedd teithio ar y prif lwybrau (DPA 1.4). Mae hyn yn defnyddio’r gwahaniaeth rhwng y 5ed canradd ac amseroedd teithio'r 95ain canradd fel procsi ar gyfer dibynadwyedd amseroedd teithio.
  • Newid yn agweddau’r cyhoedd at derfynau cyflymder 20mya (DPA 5.1). Bydd hyn yn ystyried canfyddiadau o gyflymderau traffig, sŵn traffig ac effeithiau ar gymunedau, a bydd yn asesiad ansoddol yn seiliedig ar ganfyddiadau’r arolwg.

⁵ Y cyflymder y mae 85% o yrwyr yn gyrru arno neu'n is mewn amodau llifo’n rhwydd.
⁶ Mae’r term ‘pumedau amddifadedd’ yn cyfeirio at Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, sy’n sgorio ardaloedd yng Nghymru yn ôl eu lefelau cymharol o amddifadedd lluosog.
⁷ Mae teithio llesol yn cyfeirio at deithiau sy’n cael eu gwneud drwy gerdded, olwyno a beicio.
⁸ Defnyddir y term ‘ildio’ yn y ddogfen hon yn lle ‘rhoi blaenoriaeth’.

 

Ffigur 1: Amcanion gweithredu terfyn cyflymder safonol o 20mya

Mesur polisi: Gostwng y terfyn cyflymder safonol ar ffyrdd cyfyngedig i 20mya
Gwella llesiant pobl yng Nghymru (canlyniadau iechyd, rhyngweithio cymdeithasol, costau’r GIG, economïau lleol) Gostwng nifer yr anafiadau a'r marwolaethau Gostwng nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y rhwydwaith ffyrdd
Annog newid mewn ymddygiad teithio Annog newid moddau o geir preifat i gerdded a beicio ar gyfer teithiau byrrach mewn ardaloedd adeiledig
Lleihau goruchafiaeth cerbydau modur mewn rhyngweithiadau rhwng cerbydau a cherddwyr
Lleihau’r effeithiau negyddol y mae defnyddio cerbydau yn ei chael ar yr amgylchedd yn ehangach Lleihau allyriadau carbon o drafnidiaeth
Cynnal neu wella ansawdd aer lleol

 

Ffigur 2: Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer asesu effeithiau gweithredu’r terfyn cyflymder 20mya safonol

Amcanion Dangosyddion Perfformiad Allweddol
  1.1: Cydymffurfiaeth traffig â’r terfyn cyflymder o 20mya 1.2: Newid mewn cyflymder 85fed canradd 1.3: Newid yn y cyflymder cymedrig
1.4: Amseroedd teithio cerbydau ac amrywiad o ran amseroedd teithio ar y prif lwybrau (gwahaniaeth rhwng amseroedd teithio y 5ed a’r 95fed canradd)
Gostwng nifer y cerddwyr a beicwyr sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y rhwydwaith ffyrdd 2.1: Cyfradd y damweiniau i blant sy’n cerdded (rhwng 5 ac 11 oed), yn ôl rhyw a'r pumedau amddifadedd, ac yn ôl rhyw a dosbarthiad trefol neu wledig 2.3: Cyfradd y damweiniau i bobl hŷn sy’n cerdded a seiclo (dros 75 oed), yn ôl rhyw a'r pumedau amddifadedd, ac yn ôl rhyw a dosbarthiad trefol neu wledig
2.2: Cyfradd y damweiniau i gerddwyr a beicwyr 12-74 oed yn ôl rhyw a'r pumedau amddifadedd, ac yn ôl rhyw a dosbarthiad trefol neu wledig

Annog newid modd o geir preifat i gerdded a beicio

Lleihau goruchafiaeth cerbydau modur mewn rhyngweithiadau rhwng cerbydau a cherddwyr

3.1: Newid mewn agweddau tuag at ddefnyddio teithio llesol mewn ardaloedd adeiledig 3.2: Newid o ran ymddygiad ildio cerbydau a cherddwyr

Lleihau allyriadau carbon o drafnidiaeth

Cynnal neu wella ansawdd aer lleol

4.1: Newid yn ansawdd yr aer lleol - NO2 4.2: Newid o ran allyriadau CO2
  5.1: Newid yn agweddau’r cyhoedd at derfynau cyflymder 20mya

 

3. Gofynion data

3.1 Trosolwg

Mae’r terfyn cyflymder 20mya safonol cenedlaethol newydd ar ffyrdd cyfyngedig mewn grym o 17 Medi 2023 ymlaen. Mae data gwaelodlin perthnasol eisoes wedi cael ei gasglu i ganiatáu ar gyfer cymariaethau cyn ac ar ôl. Mae Tablau 2 a 3 yn crynhoi’r trefniadau casglu data gwaelodlin.

Bydd casglu data yn parhau yn yr wyth ardal dreialu cam 1 (sydd eisoes â chyfyngiad cyflymder o 20mya) ac ardaloedd rheoli cam 1 cysylltiedig ar ôl rhoi’r terfyn cyflymder 20mya safonol cenedlaethol ar waith. Bydd casglu data yn yr ardaloedd hyn yn dod yn rhan o’r rhaglen fonitro ôl-weithredu barhaus safonol. Bydd data hefyd yn cael ei gasglu o rannau eraill o Gymru. Mae Tablau 2 a 3 yn crynhoi’r trefniadau casglu data gwaelodlin ar ôl-gweithredu.

 

3.2 Amserlenni

Mae pedair rhan i’r rhaglen monitro 20mya gyffredinol:

  • Gwaelodlin Cam 1: Cwblhawyd y gwaith o gasglu data yn ardaloedd treialu cam 1 yn ystod 2021-22, cyn cyflwyno’r terfynau cyflymder 20mya cam 1. Mae’r gwaith hwn wedi’i gwblhau, ac fe gyhoeddwyd adroddiad monitro interim cam 1 ym mis Mawrth 2023.⁹
  • Monitro Cam 1: Casglu data yn ystod Cam 1 (2021 i 2023), ond cyn gweithredu terfynau cyflymder 20mya cenedlaethol. Mae’r gwaith o gasglu data wedi’i gwblhau, gyda data wedi’i gasglu hyd at fis Tachwedd 2022 yn cael ei gynnwys yn adroddiad monitro cam 1. Bydd data a gesglir hyd at fis Mai 2023 yn cael ei gyhoeddi mewn ail adroddiad yn hydref 2023.
  • Gwaelodlin genedlaethol: Casglu data yn ardaloedd rheoli cam 1 ac mewn ardaloedd ychwanegol ledled Cymru cyn cyflwyno terfynau cyflymder cenedlaethol o 20mya. Mae’r gwaith o gasglu data sylfaenol wedi’i gwblhau a bydd yn cael ei ddadansoddi a’i gyhoeddi yn unol â’r amserlenni adrodd cenedlaethol a esbonnir yn adran 4.
  • Monitro cenedlaethol: Casglu data o fis Medi 2023 ymlaen a fydd hefyd yn cael ei gyhoeddi yn unol â’r amserlenni adrodd cenedlaethol sy’n cael eu hegluro yn adran 4.

Bydd rhai setiau data’n cael eu casglu’n achlysurol, tra bydd setiau data eraill yn cael eu casglu’n barhaus. Mae amserlenni casglu data wedi’u nodi yn nhablau 2 a 3.

⁹ Terfyn cyflymder 20mya safonol ar ffyrdd cyfyngedig cam 1: Adroddiad monitro interim, TrC, Mawrth 2023

 

3.3 Data sylfaenol

Data sylfaenol math 1: Cyflymder a chyfanswm traffig a dosbarthiad cerbydau

Bydd dyfeisiau monitro yn cael eu gosod i gael y data sydd ei angen ar gyfer pob un o’r tri DPA sy’n gysylltiedig â chyflymder (DPA 1.1-1.3). Bydd y data’n pennu a yw’r terfyn cyflymder 20mya newydd wedi arwain at newid mewn cyflymder traffig.

Bydd data am gyfanswm traffig, cyflymder traffig a dosbarthiad cerbydau a geir o’r dyfeisiau hyn hefyd yn cael eu defnyddio i lywio amcangyfrifon o allyriadau carbon (DPA 4.2). Bydd hyn yn cynnwys dadansoddiad dros gyfnod o flwyddyn o leiaf cyn y gellir adrodd ar unrhyw amcangyfrifon.

Data sylfaenol math 2: Rhyngweithiadau cerbydau a cherddwyr

Bydd camerâu’n cofnodi’r rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr mewn nifer fach o leoliadau croesi. Bydd y data’n anhysbys a, gan ddefnyddio meddalwedd arbenigol, bydd y dadansoddiad yn pennu sut mae gyrwyr yn ymateb i gerddwyr sy’n bwriadu croesi’r ffordd neu eisoes yn croesi’r ffordd (DPA 3.2).

Data sylfaenol math 3: Ansawdd aer ar ochr y ffordd

Bydd data a geir o ddyfeisiau monitro ansawdd aer yn cael ei ddadansoddi i nodi a oes unrhyw wahaniaeth rhwng lefelau nitrogen deuocsid (NO2) ar safle lle mae'r terfyn cyflymder wedi'i ostwng i 20mya a safle cyfagos lle mae'r terfyn cyflymder wedi aros ar 30mya (DPA 4.1). Er na fydd yn bosibl priodoli unrhyw wahaniaethau mewn lefelau NO2 yn uniongyrchol i weithredu terfynau cyflymder 20mya, bydd yn bosibl cadarnhau a oes gwahaniaethau mewn ansawdd aer yn bodoli ai peidio.

Data sylfaenol math 4: Arolygon agweddau ansoddol

Byddwn yn edrych ar agweddau a chanfyddiadau pobl sy’n byw mewn ardaloedd lle mae’r terfyn cyflymder wedi cael ei ostwng gan ddefnyddio arolygon agweddol ar ôl cyflwyno’r cynllun yn genedlaethol. Bydd yr arolygon yn cynnwys cwestiynau ar agweddau tuag at ddefnyddio dulliau teithio llesol (cerdded, olwyno a seiclo) ar gyfer siwrneiau lleol mewn ardaloedd adeiledig (DPA 3.1), a byddant hefyd yn ystyried canfyddiadau ymatebwyr ar faterion yn ymwneud â chyflymder traffig, sŵn traffig ac effeithiau ar gymunedau (DPA 5.1). Bydd ffocws penodol ar grwpiau mwy agored i niwed mewn cymdeithas wrth gasglu data agweddol.

Prif leoliadau data

Bydd data sylfaenol yn cael ei samplu o leoliadau ledled Cymru, fel y nodir yn nhabl 2. Bydd arolygon camerâu rhyngweithiol rhwng cerbydau a cherddwyr a monitro ansawdd aer ar ochr y ffordd yn parhau yn ardaloedd cam 1 a safleoedd rheoli cysylltiedig yn unig. Bydd monitro cyflymder traffig ac arolygon agweddau ansoddol yn cael eu cynnal ledled Cymru.

 

3.4 Data eilaidd

Data eilaidd math 1: Data cyflymder rhwydwaith priffyrdd MasterMap yr Arolwg Ordnans (OS)

Mae’r data hwn yn seiliedig ar ddata GPS o systemau llywio mewn cerbydau. Bydd yn cael ei ddefnyddio fel amcangyfrif eilaidd ar gyfer y newid mewn cyflymderau cyfartalog deugyfeiriadol ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru, gyda chyfartaleddau blynyddol yn cael eu cyfrifo ar gyfer gwahanol gyfnodau amser yn ystod y dydd (DPA 1.3).

Data eilaidd math 2: Data am wrthdrawiadau STATS19

Bydd data STATS19 yn cael ei ddefnyddio i asesu a allai’r terfyn cyflymder 20mya safonol newydd fod wedi effeithio ar gyfraddau damweiniau ar y ffyrdd ledled Cymru (DPA 2.1-2.3). Mae’r data’n cael ei gasglu fel mater o drefn gan heddluoedd ac yna mae’n cael ei wirio a’i ddarparu i Lywodraeth Cymru bob chwarter.

Bydd cyfraddau’r anafiadau’n cael eu cyfrifo ar sail poblogaeth yr ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (LSOAs) lle digwyddodd y gwrthdrawiadau. Bydd data ar gyfer pob LSOA yn cael ei gyfuno yn ôl rhyw, pumedau amddifadedd (yn seiliedig ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) a gwledigrwydd ar gyfer Cymru gyfan.¹⁰

Data eilaidd math 3: Presenoldeb a derbyniadau i ysbytai

Ar y cyd â data STATS19, defnyddir data presenoldeb a derbyn i ysbytai i asesu i ba raddau y gallai gweithredu’r terfyn cyflymder o 20mya fod wedi effeithio ar gyfraddau anafiadau ledled Cymru (DPA 2.1-2.3). Mae ysbytai’n cofnodi’r rhesymau dros fod yn bresennol mewn adrannau brys a derbyniadau cleifion mewnol, a’r ffocws ar gyfer y dadansoddiad hwn yw codau V01 i V09 o ICD-10.¹¹ Cyrchir data o fyrddau iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd cyfraddau’r anafiadau’n cael eu cyfrifo ar sail poblogaethau’r LSOA lle mae’r rheini sy’n cael eu hanafu’n byw, gan nad yw ysbytai yn cofnodi lleoliadau damweiniau. Bydd data ar gyfer pob LSOA yn cael ei gyfuno yn ôl rhyw, pumedau amddifadedd a gwledigrwydd ar gyfer Cymru gyfan.

Data eilaidd math 4: Data amser teithiau priffyrdd GPS

Bydd data telemateg cerbydau, a gyrchir drwy gontract presennol Llywodraeth Cymru gydag INRIX, yn pennu i ba raddau y gallai gweithredu terfyn cyflymder 20mya fod wedi arwain at newid i ddibynadwyedd amseroedd teithio (DPA 1.4). Cesglir y data o systemau GPS mewn cerbydau, gan ddarparu sampl o oddeutu 2-3% o gerbydau sy’n teithio yng Nghymru. Mae rhyngwyneb defnyddiwr INRIX yn caniatáu i goridorau ffyrdd penodol gael eu dadansoddi.

Data eilaidd math 5: Data systemau GPS bysiau

Byddwn yn defnyddio data prydlondeb gwasanaethau bysiau ar gyfer hyd llawn sampl o lwybrau bysiau sy’n pasio drwy ardaloedd adeiledig a dynnwyd o system CitySwift, a gyrchwyd drwy gontract presennol Trafnidiaeth Cymru (TrC). Bydd y data’n nodi newidiadau o ran dibynadwyedd amseroedd teithio ar fysiau (DPA 1.4).

¹⁰ Mae ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (LSOA) yn rhanbarthau daearyddol o’r DU sydd wedi’u dylunio i wella’r broses o adrodd ar ystadegau ardaloedd bach. Fel arfer, mae gan bob LSOA boblogaeth breswyl o rhwng 1,000 a 3,000 o bobl. Mae oddeutu 1,900 o LSOAs yng Nghymru.
¹¹ Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD), 10fed diwygiad. Mae’r codau V01 i V09 ar gyfer cerddwyr sy’n cael eu hanafu mewn gwrthdrawiadau trafnidiaeth.

 

3.5 Crynodeb o’r data a gasglwyd

Mae tablau 2 a 3 yn crynhoi’r data sydd i’w gasglu, dulliau casglu data, pwy sy’n gyfrifol, lleoliadau ac amserlenni.

Tabl 2: Ffynonellau data sylfaenol

Math o ddata Trosolwg o’r data a gasglwyd Amserlenni
Defnyddio data (DPA) Dull Cyfrifoldeb Lleoliadau Gwaelodlin Ar ôl gweithredu
Cyflymder a chyfanswm traffig a dosbarthiad cerbydau

Asesu’r newid mewn cyflymder traffig (1.1, 1.2, 1.3)

Amcangyfrif o’r newid mewn allyriadau carbon (4.2)

Cyflymder traffig a dyfeisiau monitro dosbarthiad cerbydau fel tiwb niwmatig, radar neu ddolen barhaus TrC, gan weithio gyda’r awdurdodau priffyrdd perthnasol. Bydd TrC yn caffael arolygon yn ganolog os bydd angen.

Cam 1 - o leiaf 50 o leoliadau ar draws wyth ardal dreialu cam 1 a safleoedd rheoli cam 1

Cenedlaethol - o leiaf 50 o leoliadau ychwanegol ar draws ystod o ardaloedd adeiledig gan ystyried maint y boblogaeth a chymysgedd trefol/gwledig¹²

Cam 1 - 2021-22, isafswm o bedair wythnos o ddata

Cenedlaethol - Gorffennaf a Medi 2023, isafswm o bedair wythnos o ddata

Arolygon rheolaidd parhaus ym mhob lleoliad. Isafswm o bedair wythnos o ddata bob chwe mis.
Rhyngweithiadau cerbydau a cherddwyr Cymariaethau ildio cerddwyr (3.2) Arolygon camera wedi’u cynnal gan gwmni arolygu arbenigol TrC i gaffael yn ganolog Un lleoliad ym mhob un o dair ardal cam 1 (Y Fenni, Bwcle, Caerdydd) a thri safle rheoli (Gilwern, Queensferry, Caerdydd) Dim gwaelodlin (oherwydd y pandemig). Gellir defnyddio safleoedd rheoli i asesu newidiadau cefndir. Yn gyfnodol - dau i dri chyfnod (pythefnos o hyd) bob blwyddyn
Ansawdd aer ar ochr y ffordd Newid yn ansawdd yr aer lleol - lefelau NO2 (4.1) Synwyryddion ansawdd aer wrth ymyl y ffordd gerbydau TrC i gaffael yn ganolog Tair ardal cam 1 gyda safleoedd rheoli 30mya cyfagos. Y Fenni, Caerdydd a Magwyr (Glannau Hafren). Cam 1 a chenedlaethol - defnyddio safleoedd rheoli 30mya i gymharu Am 18 mis, gan adrodd ar ôl chwech a deunaw mis.
Arolygon agweddau ansoddol Asesiad ansoddol o agweddau a chanfyddiadau teithio llesol (3.1, 5.1) Arolygon a gynhaliwyd gan sefydliad ymchwil arbenigol Llywodraeth Cymru a TrC Sampl poblogaeth cenedlaethol, gyda mwy o bwyslais ar grwpiau mwy agored i niwed sy’n byw mewn ardaloedd lle mae’r terfyn cyflymder wedi gostwng. Ddim yn berthnasol Blynyddol

¹² Yr ardaloedd a ddewiswyd ar gyfer monitro cyflymder traffig ychwanegol: Cwmbrân/Pont-y-pŵl, Llanbedr Pont Steffan, Llanddowror, Llanrug, Casnewydd (Allt-yr-yn), Y Drenewydd, Doc Penfro, Bae Penrhyn, Abertawe, Tylorstown, Wrecsam

 

Tabl 3: Ffynonellau data eilaidd

Math o ddata Trosolwg o’r data a gasglwyd Amserlenni
Defnyddio data (DPA) Dull Cyfrifoldeb Lleoliadau Gwaelodlin Ar ôl gweithredu
Haen data cyflymder cymedrig yr OS Asesu’r newid mewn cyflymderau cyfartalog ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru (1.3) Haen data cyflymder rhwydwaith priffyrdd MasterMap yr OS TrC i gael setiau data wedi’u diweddaru bob blwyddyn Darpariaeth genedlaethol Set ddata Mai 2022 i Fai 2023 (cyrchwyd ym mis Mai 2023) Diweddariad blynyddol
Data am wrthdrawiadau STATS19 I nodi newidiadau mewn cyfraddau damweiniau yn ôl oedran, rhyw, lefel amddifadedd, categori trefol neu wledig (2.1-2.3) Datganiad chwarterol STATS19. Cyfrifir cyfraddau’r anafiadau ar sail yr LSOA lle digwyddodd y gwrthdrawiad. Llywodraeth Cymru i gyflenwi data STATS19 wedi’i ddilysu i TrC

Darpariaeth genedlaethol

Defnyddio de-orllewin Lloegr (data STATS19 swyddogol) a Gogledd Iwerddon (data PSNI) at ddiben cymharu a rheoli

Adolygu data o bum mlynedd cyn gweithredu (2015 i 2019 yn gynhwysol) Bob blwyddyn am hyd at bum mlynedd
Presenoldeb a derbyniadau i ysbytai I nodi newidiadau mewn cyfraddau damweiniau yn ôl oedran, rhyw, lefel amddifadedd, categori trefol neu wledig (2.1-2.3) Cofnodi presenoldebau ac allyriadau gan ganolbwyntio ar godau ICD-10 V01 i V09. Cyfrifir cyfraddau’r anafiadau ar sail yr LSOA lle digwyddodd y gwrthdrawiad. Iechyd Cyhoeddus Cymru i dderbyn setiau data wedi’u diweddaru’n flynyddol gan fyrddau iechyd Yn genedlaethol o bob bwrdd iechyd yng Nghymru Adolygu data o bum mlynedd cyn gweithredu (2015 i 2019 yn gynhwysol) Bob blwyddyn am hyd at bum mlynedd
Data amser teithiau priffyrdd GPS Asesu dibynadwyedd amseroedd teithio cerbydau ar y prif lwybrau (1.4)  Dadansoddi amseroedd teithiau INRIX (data seiliedig ar GPS), gan ddefnyddio amseroedd teithio 5ed a 95ain canradd TrC i dynnu’r data perthnasol o gronfa ddata INRIX

Cam 1 - llwybrau allweddol (i) A40 Y Fenni, (ii) B5128 Bwcle, (iii) A469 Caerdydd, (iv) B4245 Glannau Hafren

Cenedlaethol - o leiaf bum llwybr ychwanegol ledled Cymru

Coladu data o chwe mis cyn gweithredu Adolygu bob chwe mis ar ôl gweithredu
GPS bysiau Asesu dibynadwyedd amseroedd teithio yn benodol ar gyfer gwasanaethau bysiau (1.4) Data sy’n seiliedig ar GPS a ddarparwyd gan CitySwift TrC i dynnu’r data perthnasol o gronfa ddata CitySwift Nifer fach o lwybrau’n pasio drwy ystod o ardaloedd adeiledig Coladu data o chwe mis cyn gweithredu Adolygu bob chwe mis ar ôl gweithredu

 

3.6 Data rheoli

Safleoedd rheoli ar gyfer monitro cyflymder traffig a ‘rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr’

Mae effaith bosibl pandemig y coronafeirws ar fonitro cyflymder traffig ardaloedd treialu cam 1 a rhyngweithio rhwng cerbydau a cherddwyr wedi cael ei hystyried. Bydd safleoedd rheoli sy’n gwbl ar wahân i ardaloedd cam 1 yn cael eu cynnwys yn y rhaglen fonitro i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am dueddiadau cefndirol, os oes angen.

Bydd data o’r safleoedd rheoli hefyd yn darparu data ‘cyn gweithredu’ defnyddiol ar gyfer y cyflwyno cenedlaethol y gellir ei gymharu â data ‘ar ôl gweithredu’ yn yr un lleoliadau.

Safleoedd rheoli ar gyfer monitro ansawdd aer

Mae safleoedd rheoli ar gyfer monitro ansawdd aer wedi’u lleoli ar yr un darn o ffordd â’r prif safleoedd monitro, ond ar ran terfyn cyflymder 30mya sy’n parhau y tu hwnt i’r terfyn cyflymder 20mya newydd. Felly, mae’r synhwyrydd rheoli wedi’i leoli lle nad oes disgwyl i gyflymder traffig newid. Mae’r prif synhwyrydd monitro gerllaw mewn lleoliad lle disgwylir i gyflymder traffig newid.

Rheoli ystadegau gwrthdrawiadau a phresenoldeb mewn ysbytai

Mae angen i ni ddod o hyd i ddata cymharu a rheoli ar gyfer gwrthdrawiadau a phresenoldeb mewn ysbytai o ran arall o’r DU. Bydd hyn yn helpu o ran dod i gasgliadau ynghylch a yw ffyrdd mewn ardaloedd adeiledig yng Nghymru yn dod yn fwy diogel. Mae gan dde-orllewin Lloegr a Gogledd Iwerddon ddosbarthiad a dwysedd poblogaeth sy’n debyg i Gymru ac felly maen nhw’n addas at ddibenion cymharu. Ni ellir defnyddio’r Alban at y diben hwn gan fod llawer o awdurdodau lleol yr Alban eisoes yn gweithredu rhaglenni 20mya sylweddol.

 

4. Adrodd

4.1 Amserlenni adrodd ffurfiol

Trafnidiaeth Cymru sy’n gyfrifol am adrodd yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol a nodir yn y fframwaith monitro hwn a chasglu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau data a dadansoddwyr arbenigol.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn paratoi adroddiad interim ar effeithiau cychwynnol y terfyn cyflymder safonol cenedlaethol o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ar sail data a gasglwyd hyd at chwe mis ar ôl gweithredu (mis Hydref 2023 i fis Mawrth 2024). Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2024. Bydd adroddiad pellach ar y flwyddyn lawn gyntaf o weithredu yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2024. Bydd adroddiadau ffurfiol yn cael eu cynnal yn flynyddol ar ôl hynny.

Bydd crynodebau data cyflymder traffig yn cael eu cyhoeddi cyn yr adroddiadau ffurfiol. Bydd set gyntaf ddata cyflymder ar ôl gweithredu yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2024.