Trafnidiaeth Cymru Strategaeth Effaith Carbon Isel - 2019-2020
Cipolwg
Yn Trafnidiaeth Cymru rydym yn barod i chwarae ein rhan wrth helpu i leihau allyriadau carbon Cymru.
100% ynni adnewyddadwy ar Linellau Craidd y Cymoedd erbyn 2023
50% o ynni adnewyddadwy wedi ei gynhyrchu yng Nghymru erbyn 2025
Dros £7 miliwn o wariant ar dechnoleg adnewyddadwy
Allyriadau trafnidiaeth Cymru 2016
3.73 MtCO2 e - 55% Ceir
0.94 MtCO2 e - 16% Tryciau ysgafn
0.93 MtCO2 e - 14% Tryciau trwm a bysiau
0.42 MtCO2 e - 6% Cludo rhyngwladol
0.32 MtCO2 e - 5% Cludo domestig
0.15 MtCO2 e - 2% Trafnidiaeth arall
0.10 MtCO2 e - 1% Trenau
0.07 MtCO2 e - 1% Hediadau rhyngwladol
Rhagair
Mae hinsawdd y byd yn newid yn gyflym. Mae tystiolaeth yn dangos mai bodau dynol sy’n gyfrifol am y mwyafrif o gynhesu byd-eang.
Ym mis Ebrill 2019, Llywodraeth Cymru oedd y gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddatgan ‘Argyfwng Hinsawdd’, ac erbyn Mehefin 2019 cyhoeddodd Pwyllgor y Deyrnas Unedig ar Newid Hinsawdd (UKCCC) argymhelliad newydd ar gyfer gostyngiad o 95% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy dderbyn yr her newydd hon, ac aeth un cam ymhellach drwy addo cyflawni allyriadau sero net erbyn 2050.
Er mwyn helpu i gyflawni’r nod uchelgeisiol hwn, rydym wedi gweithredu Strategaeth Effaith Carbon Isel i leihau’r allyriadau sy’n deillio o’n gwasanaethau.
Mae dros 3 miliwn o bobl yn dibynnu ar seilwaith trafnidiaeth y wlad yn ddyddiol, a’n nod yw helpu trafnidiaeth yng Nghymru i ddod yn wirioneddol gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae datgarboneiddio trafnidiaeth yn her sylweddol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae allyriadau trafnidiaeth wedi aros yn sefydlog ar y cyfan er bod effeithlonrwydd cerbydau wedi bod yn gwella’n raddol. Yng Nghymru, mae teithio mewn ceir a cherbydau modur eraill yn cyfrannu at oddeutu 2,000 o farwolaethau bob blwyddyn, a achosir yn bennaf gan nitrogen deuocsid, osôn a deunydd gronynnol yn yr awyr.
Yn y tymor byr, y ffordd fwyaf effeithiol o leihau allyriadau CO2 Cymru fydd annog rhagor o bobl i gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Er mwyn ategu hyn, rydym yn gwneud buddsoddiad sylweddol yn y gwasanaeth rheilffyrdd a’r system metro newydd. Rydym yn
ailwampio delwedd a dibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru i’w gwneud yn ddewis amgen mwy dymunol yn lle gyrru.
Bydd y gwelliannau rydyn ni’n eu gwneud yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau datgarboneiddio uchelgeisiol Cymru, gan hefyd leihau anghydraddoldebau, gwella iechyd corfforol a meddyliol, a helpu i leihau llygredd aer.
Rydym yn llawn cyffro wrth gynorthwyo Llywodraeth Cymru i gofleidio’r newid hwn drwy fuddsoddi mewn seilwaith a chyflwyno ein cerbydau newydd.
Ein gyrwyr
Strategaeth newid yn yr hinsawdd ar gyfer Cymru
Cyflawni gostyngiad o leiaf 40% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru erbyn 2020 mewn cymhariaeth â llinell sylfaen 1990
Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel
Gosod y sylfeini i Gymru ddod yn genedl carbon isel
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithio tuag at yr un canlyniad
Y Cytundeb Grant
Yn nodi ein hymrwymiadau i leihau carbon
Ein hymrwymiadau
- Rydym yn lleihau allyriadau trenau drwy fesurau effeithlonrwydd cerbydau a thanwydd
- Rydym yn uwchraddio ein cerbydau presennol dros y 3 blynedd nesaf
- Mae ein holl drydan yn cael ei gaffael o ffynonellau adnewyddadwy gyda 50% o hyn i’w gynhyrchu yng Nghymru erbyn 2025.
- Drwy drydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd, byddwn yn gallu sicrhau nad yw gwasanaethau ar hyd y llwybrau hyn yn defnyddio unrhyw danwydd disel, gan gyflawni 100% o filltiroedd teithwyr o dan bŵer dim carbon.
- Rydym yn darparu seilwaith i ategu defnyddio cerbydau trydan
- Gosod storfa feiciau i annog ein teithwyr i feicio i orsafoedd
Rydym hefyd wedi ymrwymo i osod y canlynol yn ein gorsafoedd:
- Paneli solar (PV),
- Goleuadau LED mwy effeithlon
- Pwyntiau gwefru cerbydau trydan
Saith nod llesiant
Mae ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy yn dangos ein hymrwymiad tuag at bob un o’r saith Nod Llesiant. Fodd bynnag, y ddau sydd fwyaf perthnasol i’r Strategaeth hon yw ‘Cymru Gydnerth’ a ‘Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang’.
Ein pum ffordd o weithio
Atal
Bydd gweithredu ein Strategaeth Effaith Carbon Isel mewn perthynas â thraffig a milltiroedd traffig yn lleihau allyriadau cymaint ag sy’n rhesymol bosibl ac yn helpu i atal cynnydd pellach mewn tymheredd byd-eang yn ogystal â chanlyniadau eraill cynhesu byd-eang.
Hirdymor
Er y bydd gwaith i alluogi trydaneiddio Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd yn achosi peth aflonyddwch yn y tymor byr, unwaith y bydd wedi'i gwblhau bydd hyn yn gwella ansawdd yr aer.
Integreiddio
Trwy ddarparu llwybrau beicio diogel a lle storio beiciau diogel byddwn yn integreiddio’r rheilffordd â theithio llesol yn y gymuned ac yn hyrwyddo’r newid i ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.
Cydweithio
Rydym yn cydweithio â nifer o sefydliadau eraill i sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth o reilffordd carbon isel.
Cymryd Rhan
Ein bod ni gyd yn gweithio tuag at yr un nod.
Amserlen
Mabwysiadu Strategaeth Effaith Carbon Isel
Blwyddyn ariannol: 18/19 to 26/27
Sefydlu targedau lleihau carbon
Blwyddyn ariannol: 18/19 to 26/27
Cyfrif yn flynyddol yr allyriadau carbon amcangyfrifedig a gynhyrchir wrth gyflawni ein gwasanaethau
Blwyddyn ariannol: 18/19 to 26/27
Gweithredu Strategaeth Effaith Carbon Isel mewn perthynas â thraffig a milltiroedd traffig i safleoedd ac oddi yno
Blwyddyn ariannol: 18/19 to 26/27
Cyflawni a gweithredu Gwasanaethau Rheilffordd, Gwaith Seilwaith a Gwasanaethau Llinellau Craidd y Cymoedd gan ystyried yr amcan dim carbon
Blwyddyn ariannol: 18/19 to 26/27
Gwneud isafswm o £5 miliwn o wariant ar dechnolegau adnewyddadwy erbyn diwedd 2026
Blwyddyn ariannol: 18/19 to 25/26
Cronfa dros £2 filiwn ar gael ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy
Blwyddyn ariannol: 18/19 to 21/22
Gweithredu Strategaeth Effaith Carbon Isel
Blwyddyn ariannol: 18/19
Uwchraddio cerbydau yn raddol i gyfrannu at ostyngiad mewn carbon
Blwyddyn ariannol: 18/19 to 20/21
Pennu targedau lleihau carbon unwaith y bydd llinell sylfaen carbon wedi ei chynhyrchu ar gyfer 2018/19
Blwyddyn ariannol: 18/19 to 19/20
Y gwasanaeth trenau sy’n cwmpasu Llinellau Craidd y Cymoedd i ddefnyddio dim tanwydd diesel a chyflawni 100% dim carbon
Blwyddyn ariannol: 18/19 to 21/22
Gosod systemau cynghori gyrwyr ar gerbydau presennol
Blwyddyn ariannol: 18/19 to 19/20
Caffael 100% o drydan o ffynonellau adnewyddadwy gyda 50% o hyn yn dod o ffynonellau adnewyddadwy o Gymru
Blwyddyn ariannol: 18/19
Gosod paneli Solar yn yr 20 adeilad gorsaf mwyaf a dau Depo
Blwyddyn ariannol: 20/21 to 24/25
Gosod gwefryddion cerbydau trydan mewn 10% o fannau parcio mewn meysydd parcio newydd
Blwyddyn ariannol: 18/19 to 21/22
Ein hamcanion
1. Byddwn yn gweithredu ein strategaeth effaith carbon isel.
Rydym yn mabwysiadu’r strategaeth effaith carbon isel hon i helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n deillio o ddarparu ein gwasanaethau yn unol â’r egwyddorion a’r nodau a nodir yng nghyhoeddiad Llywodraeth Cymru: ‘Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer Cymru’
Strategaeth i’w hysgrifennu ar y cyd a’i gweithredu.
Byddwn hefyd yn gweithredu strategaeth effaith carbon isel mewn perthynas â thraffig a milltiroedd traffig i helpu i fonitro a lleihau’r symudiadau i safleoedd ac oddi yno ar gyfer cludo’r gweithlu a deunyddiau.
2. Byddwn yn cyfrifo’r amcangyfrif o allyriadau carbon a fydd yn cael eu cynhyrchu wrth gyflawni ein gwasanaethau a byddwn yn darparu amcangyfrif blynyddol a dadansoddiad o sut y cyfrifwyd hyn.
Bydd yr Ymddiriedolaeth Garbon yn ein cynorthwyo i gasglu’r data gofynnol ac yna’n cyfrifo ein hôl troed carbon gweithredol, ar gyfer ein swyddfeydd, gorsafoedd a depos yn ogystal â cherbydau a chludiant dan ein perchnogaeth ar gyfer blwyddyn waelodlin 2018/19.
Yna darperir offeryn ôl troed sefydliadol wedi ei seilio ar Safon Gorfforaethol Protocol Nwyon Tŷ Gwydr fel y gallwn gyfrifo ôl troed carbon ein gweithrediadau uniongyrchol.
3. Byddwn yn sefydlu targedau lleihau carbon erbyn 1 Ebrill 2020.
Ar ôl cyfrif ein llinell sylfaen carbon weithredol (Cwmpas 1 a 2) ar gyfer blwyddyn 2018/19, byddwn yn sefydlu targedau lleihau carbon.
4. Lle bo hynny’n rhesymol ymarferol, byddwn yn darparu ac yn gweithredu gwasanaethau trenau, gwaith seilwaith a gwasanaethau Llinellau Craidd y Cymoedd gan ystyried amcan Llywodraeth Cymru o ddim carbon.
Bydd cyflwyno’r Cerbydau Metro arddull “tram-trên” newydd gyda gallu rhedeg hybrid 25kV/batri yn 2023 yn ein galluogi i gyflawni’r rhwymedigaeth hon.
Byddwn hefyd yn gweithio i leihau ein hôl troed carbon ymhellach drwy:
- Gosod mesuryddion ynni craff i fonitro’r defnydd o ynni a dangos syniadau/tystiolaeth o sut gellir lleihau hyn
- Llogi cerbydau/peiriannau cwbl drydan/hybrid i leihau allyriadau
- Gosod pwyntiau gwefru/defnyddio pwyntiau gwefru presennol ar gyfer cerbydau a helpu i hyrwyddo ‘ynni gwyrdd’
- Defnyddio monitorau cab/cerbyd i gofnodi a chyflenwi adborth i yrwyr ynghylch effeithlonrwydd tanwydd a dangos sut gellir gwella hyn
- Defnyddio cyfrifiannell carbon i gofnodi allyriadau carbon drwy gydol y prosiect a dangos ffyrdd o leihau’r defnydd o garbon
- Gosod paneli Solar mewn compowndiau/gorsafoedd
- Dangos gohebiaeth/tystiolaeth o ddefnyddio peiriannau/offer/gorsafoedd gwefru neu debyg pŵer solar
5. Erbyn 31 Rhagfyr 2023 fan bellaf, byddwn yn sicrhau na fydd y gwasanaeth trenau sy’n cwmpasu Llinellau Craidd y Cymoedd yn defnyddio unrhyw danwydd disel ac yn cyflawni 100% o gapasiti milltiroedd teithwyr o dan bŵer dim carbon (heblaw am Ddigwyddiadau Arbennig ac adferiad o aflonyddwch).
Mae trenau newydd Metro Tri-Modd (diesel, batri a thrydan) yn cael eu cyflwyno yn 2023:
- Saith uned trên Tri-Modd gyda 3-cherbyd
- 17 trên Tri-Modd gyda 4-cherbyd
- 36 Tram-trên gyda tri-cherbyd
Bydd y trenau Tri-Modd yn defnyddio cymysg o trydan a bateri i bweru trenau o Rhymni a Choryton gyda disel ar llinell Bro Morgannwg, Y Barri a Phenarth.
Bydd y Tram-trên yn defnyddio pŵer trydanol a bateri ar gyfer trenau Merthyr Tydfil, Aberdâr a Threherbert.
Ni fydd Llinellau Craidd y Cymoedd yn defnyddio unrhyw tanwydd diesl.
6. Byddwn yn uwchraddio ein trênau er mwyn gostwng ein allyriant carbon.
Bydd cerbydau newydd yn cael eu cyflwyno i ddisodli ein Pacers. Bydd y trenau hyn y cynnwys gwell mesuriadau effeithlonrwydd er mwyn help lleihau ein allyriadau.
Fodd bynnag, bydd y gostyngiad mwyaf mewn allyriadau carbon oherwydd newid i ddewisiadau teithio mwy cynaliadwy fel trafnidiaeth gyhoeddus a beicio. Mae enghreifftiau o sut byddwn yn hyrwyddo’r newid hwn yn cynnwys:
- creu llwybrau beicio diogel i’n gorsafoedd
- rhoi mannau storio beiciau diogel mewn gorsafoedd
- darparu gwybodaeth deithio gyfredol, hygyrch
- gosod gwefryddion cerbydau trydan yn rhai o’n lleoliadau
7. Erbyn Ebrill 2020, byddwn yn gosod systemau cynghori gyrwyr ar gerbydau er mwyn rhoi adborth i yrwyr ar berfformiad effeithlonrwydd tanwydd.
Ar hyn o bryd, mae systemau cynghori gyrwyr wedi eu gosod ar ein holl fflyd ac eithrio’r c153 a’r DVT (Driving Van Trailer).
8. Byddwn yn sicrhau bod 100% o’n trydan yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, gyda 50% o hyn yn cael ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy yng Nghymru erbyn 2025. Byddwn yn monitro ac yn adrodd ar y canrannau hyn.
Mae ein holl drydan yn cael ei ddarparu gan SSE ar eu tariff Gwyrdd. Mae’r tariff hwn yn darparu tystysgrifau REGO (Gwarant Tarddiad Ynni Adnewyddadwy) ar gyfer pob awr megawat o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir. Mae’r defnydd a ddefnyddir yn cael ei gyfateb â chyfaint cyfatebol o drydan adnewyddadwy a gynhyrchir o ffynonellau gwynt a hydro ar raddfa fawr a’i allforio i’r Grid Cenedlaethol. Mae adroddiad misol hefyd ar gael i ddangos sut cynhyrchwyd yr ynni.
9. Yn amodol ar arolygon a chael y cymeradwyaethau angenrheidiol, byddwn yn gosod paneli solar ar adeiladau’r 20 gorsaf mwyaf a dau depo rhwng Ebrill 2021 ac Ebrill 2024.
Byddwn yn gosod paneli solar yn:
Y Fenni – 130m2
Pen-y-bont ar Ogwr – 130 m2
Bangor – 118 m2
Henffordd– 250 m2
Llanllieni – 100 m2
Caergyb – 380 m2
Llanelli – 100 m2
Casnewydd – 380m2
Prestatyn -194m2
Amwythig - 320m2
Wrecsam Cyffredinol – 300m2
10. Bydd cronfa gwerth £2,339,000 ar gael ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys gosod paneli Solar PV mewn gorsafoedd a depos lle bo hynny’n ymarferol, biniau ailgylchu newydd mewn gorsafoedd a chynlluniau cynaeafu dŵr glaw newydd erbyn Ebrill 2023.
Byddwn yn gwario £5,000,000 ar dechnolegau adnewyddadwy, gan gynnwys gosod paneli ffotofoltäig, goleuadau LED ac offer cynaeafu dŵr glaw erbyn Ebrill 2026.
Rydym hefyd wedi creu rhestr o orsafoedd rydym yn teimlo sy’n lleoliadau delfrydol i gael cynlluniau cynaeafu dŵr glaw:
Y Fenni
Aberystwyth
Bangor
Caerdydd Canolog
Caerfyrddin
Bae Colwyn
Y Fflint
Henffordd
Caergybi
Cyffordd Llandudno
Yn ystod ein harolygon cychwynnol, fe wnaethon ni nodi nifer y biniau ailgylchu sydd yn ein gorsafoedd ar hyn o bryd (a’u cyflwr) a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i’n tywys wrth fuddsoddi mewn biniau ailgylchu newydd.
Mae goleuadau LED yn effeithlon iawn, yn cynnig gostyngiadau sylweddol yn y defnydd o ynni ac maen nhw ar gael ar gyfer bron pob defnydd. Maen nhw hefyd yn allyrru llai o wres na bylbiau traddodiadol yn ogystal â meddu ar fywydau gweithredu hirach. Gan weithio ar y cyd â Network Rail (sy’n berchen ar y canopïau a’r goleuadau yn ein gorsafoedd), byddwn yn gosod y rhain lle bynnag y bo modd. Byddwn hefyd yn sicrhau bod goleuadau LED yn cael eu gosod yn ein lleoliadau eraill ac yn defnyddio mesurau arbed ynni ychwanegol fel switshis amser, PIR a synwyryddion golau dydd.
11. Byddwn yn cefnogi cynnydd yn y seilwaith gwefru Cerbydau Trydan drwy osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn 10% o’r mannau parcio sydd ar gael mewn meysydd parcio newydd. Byddwn hefyd yn gosod pwyntiau gwefru mewn gorsafoedd addas eraill ar draws y rhwydwaith i sicrhau bod y seilwaith yno i ategu defnyddio cerbydau trydan.
Ar hyn o bryd, bydd y rhestr ganlynol o orsafoedd yn cael ei hystyried ar gyfer gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan.
Bangor
Y Barri
Caerdydd Canolog
Caer
Henffordd
Casnewydd
Port Talbot
Radur
Cyffordd Twnnel Hafren
Amwythig
Caerfyrddin
Hwlffordd
Pen-y-bont ar Ogwr
Wrecsam Cyffredinol
Bae Colwyn
Dinbych-y-pysgod
Atodiad 1
Targedau amgylcheddol
“Allyriadau Cwmpas 1, 2 a 3”
Cwmpas 1: allyriadau yw’r rhain sy’n codi’n uniongyrchol o ffynonellau sy’n eiddo i ni neu sy’n cael eu rheoli gennym ni - er enghraifft, o danwydd a ddefnyddir i wresogi neu bweru adeiladau neu gerbydau pŵer
Cwmpas 2: dyma’r allyriadau a gynhyrchir gan drydan a brynwyd a ddefnyddir gennym ni a’n contractwyr a’r gadwyn gyflenwi
Cwmpas 3:mae’r allyriadau hyn yn ganlyniad i’n gweithgareddau, yn ogystal â’n contractwyr a’n cadwyn gyflenwi, ond maen nhw’n dod o ffynonellau nad ydyn nhw’n eiddo i’r sefydliadau hyn nac o dan eu rheolaeth. Mae hyn yn cynnwys allyriadau sy’n gysylltiedig â gwastraff, dŵr, teithio busnes, cymudo a chaffael.
1. Carbon (CO2e) Allyriadau cwmpas 1 Tyniant Llinellau Craidd y Cymoedd (disel)
Targed: Gostyngiad o 100% erbyn diwedd 2023
Mesur:
- Cilogram fesul uned o gilometr Capasiti Cario Teithwyr (Targed)
- Cilogram fesul km teithwyr (dim targed)
- Cyfanswm y Tunelli (dim targed)
Amlder adrodd: Yn flynyddol
2. Allyriadau Cwmpas 1 Carbon (CO2e) Tyniant Cymru a’r Gororau (disel)
Targed: Gostyngiad o 30% erbyn diwedd 2023
Mesur:
- Cilogram fesul uned o gilometr Capasiti Cario Teithwyr (Targed)
- Cilogram fesul km teithwyr (dim targed)
- Cyfanswm y Tunelli (dim targed)
Amlder adrodd: Yn flynyddol
3. Allyriadau Cwmpas 2 Carbon (CO2e) - trydan a gaffaelir gan yr ODP
Targed: Gostyngiad o 100% erbyn diwedd 2023
Mesur: Cyfanswm y tunelli
Amlder adrodd: Yn flynyddol
4. Allyriadau Cwmpas 3 Carbon (CO2e) - Carbon wedi ei ymgorffori mewn unrhyw Brosiect Cysylltiedig (fel y’i diffinnir yn Atodiad 1 o Atodlen 3B i’r Cytundeb Grant
Targed: A gytunwyd fel rhan o’r Cyfnod Dylunio Rhagarweiniol a Darganfod. Y nod yw dim carbon net.
Mesur: Cyfanswm y tunelli fesul prosiect unigol
Amlder adrodd: Diwedd y prosiect unigol
5. Allyriadau Cwmpas 3 Carbon (CO2e) - Gweithrediadau Cymru a’r Gororau
Targed: N/A
Mesur:
- Cyfanswm y tunelli o garbon a arbedwyd drwy newid moddol
- Cyfanswm y tunelli o garbon a arbedwyd drwy’r gwasanaeth gan dybio y byddai teithiau teithwyr a wnaed ar y trên wedi eu gwneud ar y ffordd
Amlder adrodd: Yn flynyddol
6. Allyriadau Cwmpas 3 Carbon (CO2e) - Gweithrediadau Llinellau Craidd y Cymoedd
Targed: N/A
- Cyfanswm y tunelli ogarbon a arbedwyd drwy newid moddol
- Cyfanswm y tunelli o garbon a arbedwyd drwy’r gwasanaeth gan dybio y byddai teithiau teithwyr a wnaed ar y trên wedi eu gwneud ar y ffordd
Amlder adrodd: Yn flynyddol
7. Ynni a thanwydd o ffynonellau adnewyddadwy o Gymru neu ardaloedd a wasanaethir gan TrC
Targed: 50%
Mesur: Oriau Kilowatt (kWh),thermau, litrau % o gyfanswm y trydan % o danwydd a ffynonellau ynni eraill
Amlder adrodd: Yn flynyddol
8. Gwastraff yn cael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi i’w ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ddefnydd adfer arall, gan gynnwys gwastraff i wres/ynni
Targed: 95% erbyn diwedd 2020.
Mesur: % o gyfanswm y gwastraf
Rerporting frequency: Yn flynyddol
9. Gwastraff i safleoedd tirlenwi
Targed: 5% erbyn diwedd 2020
Mesure: % o gyfanswm y gwastraf
Amlder adrodd: Yn flynyddol
10. Llygredd aer
Targed: Gostyngiad o 100% yn achos Llinellau Craidd y Cymoedd a gostyngiad o 80% i Cymru a’r Gororau erbyn diwedd 2023
Mesur:
- cliogram neitrogen Yn flynyddol ocsid fesul km teithwyr (targed)
- Cyfanswm y Tunel
Report frequency: Yn flynyddol
11. Llygredd aer
Targed: N/A
Mesur:
- Cyfanswm y tunellineitrogen ocsid a arbedwyd drwy newid moddol
- Cyfanswm y tunelli NOx a arbedwyd drwy’r gwasanaeth trenau gan dybio y byddai teithiau teithwyr a wnaed ar y trên wedi eu gwneud ar y ffordd
Report frequency: Yn flynyddol
12. Hysbysiadau gorfodi/gwybodaeth
Targed: Dim
Mesur: Nifer a dderbyniwyd
Amlder adrodd: Yn flynyddol
13. Dirwyon neu erlyniadau amgylcheddol
Targed: Dim
Mesur: Nifer a dderbyniwyd
Amlder adrodd: Yn flynyddol
14. Digwyddiadau amgylcheddol
Targed: Dim
Mesur: Adroddwyd drwy system rheoli amgylcheddol
Amlder adrodd: Yn flynyddol
15. Cofnodion hyfforddiant amgylcheddol
Targed: 100% o weithwyr wedi eu briffio/hyfforddi
Mesur: % o bersonél wedi eu briffio/hyfforddi
Amlder adrodd: Yn flynyddol