Adroddiad Ansawdd Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, 2022-23
Trosolwg
Mae’r adroddiad hwn yn nodi ansawdd gwasanaethau Llinellau Trafnidiaeth Cymru am Flwyddyn Reilffyrdd 2022-23.
Gwybodaeth a thocynnau
Dangosydd | Ansawdd Gwasanaethau |
Darparu gwybodaeth am deithio yn ystod y daith | Mae gwybodaeth ar gael yn bersonol neu’n ysgrifenedig o unrhyw un o'n 52 o orsafoedd sydd â staff. Mae gwybodaeth yn cael ei harddangos yn amlwg drwy ein system gwybodaeth electronig i deithwyr ar bob platfform ac mewn casys posteri sefydlog. Mae system annerch y cyhoedd yn cyhoeddi gwybodaeth mewn gorsafoedd ac ar drenau. Mae gan ein sianeli digidol, fel Twitter a WhatsApp, staff ar gael i ateb ymholiadau gan gwsmeriaid rhwng: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 07:00 i 20:00 Dydd Sadwrn, 08:00 i 20:00 Dydd Sul, 11:00 i 20:00 Mae gwasanaeth ffôn ar gael rhwng 08:00 a 20:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 1100 a 2000 ar ddydd Sul. Gall cwsmeriaid weld amserlenni a chael ateb i’w hymholiadau ar ein gwefan a drwy ein sgwrsfot. |
Sut ymdrinnir â cheisiadau am wybodaeth yn yr orsaf | Gellir gwneud ceisiadau’n bersonol yn ein gorsafoedd (os oes staff yno). Mewn gorsafoedd lle nad oes staff, gellir gwneud ceisiadau dros y ffôn, ar y wefan neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae mannau cymorth ar gael mewn rhai gorsafoedd lle gall cwsmeriaid siarad â staff yr ystafell reoli. Mae strategaeth yn ei lle ar gyfer mannau cymorth er mwyn cynyddu nifer y gorsafoedd sydd â mannau cymorth fel y bydd man cymorth ar gael ymhob gorsaf. Bydd pob cais yn cael ei drin cyn gynted â phosibl. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn digwydd ar unwaith os bydd yr wybodaeth ar gael yn rhwydd. |
Sut darperir gwybodaeth am amserlenni trenau, prisiau a phlatfformau | Gyda newidiadau arfaethedig - gan gynnwys rhai ar gyfer gwaith peiranyddol, newidiadau i amserlenni, tocynnau, a gwybodaeth am Covid-19 - rydym yn defnyddio dull cymysg, amlsianel i roi gwybod i’n cwsmeriaid. Mae’r dull hwn yn cynnwys:
|
Cyfleusterau prynu tocynnau | Gall cwsmeriaid brynu tocynnau mewn sawl ffordd. Mae’r rhain yn cynnwys:
Mae gan Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru 34 o beiriannau tocynnau arian a cherdyn, a 200 o beiriannau tocynnau cardiau yn unig, a hynny yn 142 o’n 248 o orsafoedd. Mae’r Tîm Manwerthu yn monitro argaeledd y peiriannau gwerthu tocynnau bob dydd. Gallant gael mynediad at y peiriannau gwerthu tocynnau o bell er mwyn eu haildanio os bydd nam arnynt. Mae Tîm y Gorsafoedd yn ail-lenwi stoc tocynnau ac yn gwagio arian yn y gorsafoedd lle mae staff. Pan fo’n bosibl, maent yn datrys namau mecanyddol yn uniongyrchol gan roi gwybod i gyflenwr y peiriannau tocynnau os na ellir eu trwsio, a byddan nhw’n dod yno i'w trwsio fel rhan o’r contract cynnal a chadw. Mae’r cyflenwr yn adnewyddu stoc tocynnau, ac mae’n cynnal a chadw’r peiriannau mewn gorsafoedd lle nad oes staff. |
Dangosydd | Ansawdd Gwasanaethau |
Argaeledd staff yn yr orsaf am wybodaeth a gwerthu tocynnau | Yn ein gorsafoedd mawr, rydym yn darparu Mannau Gwybodaeth sydd wedi’u nodi’n glir ac sy’n cynnwys staff, ac mae’r rhain ar agor pan fydd y swyddfa docynnau ar agor. Gall staff y Mannau Gwybodaeth wneud y canlynol:
Mae Mannau Gwybodaeth yn fannau cyfarfod i deithwyr sydd wedi archebu cymorth wrth deithio.
|
Sut darperir gwybodaeth i bobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedig | Mae fformatau eraill (fel print bras, Braille neu fersiynau sain) o’n holl dogfennau ar gael yn rhad ac am ddim gan y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. Rydym yn darparu dogfennau print bras cyn pen saith diwrnod ar ôl cael eich cais, ac unrhyw fformatau eraill cyn gynted â phosib. Cysylltwch â:
|
Prydlondeb gwasanaethau ac egwyddorion cyffredinol ar gyfer ymdopi â tharfu ar wasanaethau
a) Oedi
Dangosydd | Llinellau Craidd y Cymoedd | Ar Draws Ffin Cymru |
% y gwasanaethau a gyrhaeddodd ar amser neu roedd oedi o lai na thri munud | 82.8% | 70.7% |
% y gwasanaethau a gafodd eu hoedi rhwng tri a 59 munud | 17.2% | 29.1% |
% y gwasanaethau a gafodd eu hoedi rhwng 60 a 119 munud | 0.0% | 0.2% |
% y gwasanaethau a gafodd eu gohirio am 120 munud neu fwy | 0.0% | 0.0% |
% y cysylltiadau a gollwyd â gwasanaethau trên eraill | Dd/G gan nad yw'n bosibl mesur y ffigwr ar hyn o bryd. | Dd/G gan nad yw'n bosibl mesur y ffigwr ar hyn o bryd. |
b) Tarfiadau
Dangosydd | Ansawdd Gwasanaethau |
Bodolaeth a disgrifiad byr o gynlluniau wrth gefn, cynlluniau rheoli argyfyngau | Mae gan Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig gynlluniau wrth gefn a dogfennau sy'n helpu i gyfrannu at wneud penderfyniadau pan fydd tarfu'n digwydd. Mae’r Cynllun Cyflenwi Gwasanaethau Gweithrediadau yn amlinellu’r trefniadau wrth gefn os bydd prinder cerbydau, gwasanaethau â blaenoriaeth, gwasanaeth manwl llwybr wrth lwybr a strategaethau trefniannau byr. Mae cynlluniau cyflenwi tymhorol yn lliniaru heriau posibl y gall gwahanol ddigwyddiadau tywydd eu hachosi. Mae cynlluniau wrth gefn yn cynnwys yr holl lwybrau Network Rail y mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig yn eu gweithredu. Maent yn rhoi manylion camau i’w cymryd gan bob cwmni trên sy’n darparu gwasanaethau yn yr ardaloedd hyn, os bydd llinellau’n cael eu cau neu os tarfir ar y gwasanaeth mewn unrhyw ffordd arall. Mae’r rhain yn cael eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn ystyried adborth cwsmeriaid, newidiadau ym mhatrwm y gwasanaeth a darpariaeth cerbydau, gyda’r nod o wella profiad cwsmeriaid yn barhaus. |
c) Canslo gwasanaethau
Dangosydd | Ansawdd Gwasanaethau |
Canslo gwasanaethau fel rhan o bob gwasanaeth yn y % fesul categori o wasanaeth (rhyngwladol, domestig, pellter hir, rhanbarthol a threfol/maestrefol) | Cafodd 4.18% o wasanaethau Llinellau Craidd y Cymoedd eu canslo. Cafodd 4.32% o wasanaethau Trawsffiniol Cymru eu canslo. |
Glendid cerbydau a chyfleusterau gorsafoedd (ansawdd yr aer mewn cerbydau, hylendid cyfleusterau glanweithiol, ac ati)
Dangosydd | Ansawdd Gwasanaethau |
Cyfnodau Glanhau | Cyfnodau glanhau - Gorsafoedd Rydym wedi ymrwymo i ddarparu lefelau eithriadol o hylendid a glanweithdra yn ein gorsafoedd. Mae ein tîm ansawdd gwasanaeth a rheolwyr gorsafoedd wedi parhau i fonitro glanweithdra drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Cyfnodau glanhau - Ar drên Ar hyn o bryd rydym yn darparu’r gweithgareddau canlynol:
|
Mesuriad technegol ar gyfer ansawdd aer (e.e. lefel CO2 mewn ppm) | Mae Ansawdd Aer yn faes ffocws pwysig i Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf, yn enwedig ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Phapur Gwyn ar Aer Glân – sy’n rhagflaenu cynigion ar gyfer Bil Aer Glân (Cymru). Rydym yn gweithio gyda'r Bwrdd Safonau a Diogelwch Rheilffyrdd (RSSB) i osod monitorau ac i fonitro ansawdd yr aer yng Nghaergybi a Chaer. O safbwynt y diwydiant, mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig yn cefnogi'r Bwrdd RSSB ar eu Prosiect ar Dargedau Ansawdd Aer T1233, yn ogystal â bod yn bresennol yn y grŵp llywio. Yn ddiweddar, aethom ati i newid ein gweithdrefn ar gyfer injans llonydd yn dilyn argymhellion Nodyn Cyfarwyddyd y Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd: Lleihau Allyriadau Diesel Mewn Gorsafoedd a Depos’ (drafft Ebrill 2021). Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cymryd rhan yn y prosiect rhwydwaith rheoli ansawdd aer gorsafoedd, a fydd yn golygu bod monitro ansawdd aer yn cael ei wneud mewn pum gorsaf fawr yng Nghymru yn 2022-23. Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig wedi cynnal treialon gyda chyflenwyr i ddod o hyd i atebion arloesol i fonitro ansawdd aer ar ein rhwydwaith. Mae’r gwaith hwn yn barhaus. |
Argaeledd toiledau | Mae ein canllaw ‘Gwasanaethau Rheilffyrdd Hygyrch: Helpu Teithwyr Hŷn ac Anabl’ yn egluro pa gyfleusterau sydd ar gael yn ein gorsafoedd. Mae’n cynnwys manylion ynglŷn ag oriau staff, toiledau a sgriniau gwybodaeth. Bydd fflyd newydd o drenau’n cael ei chyflwyno’n raddol rhwng nawr a mis Rhagfyr 2023. Rydym yn diweddaru ein gwefan hygyrchedd pan fydd pob math o drên yn cael ei adnewyddu neu ei dynnu’n ôl, neu ei ddisodli. Mae’r dudalen yn cynnwys manylion am y toiledau sydd ar gael ar bob math o fflyd a pha mor hygyrch ydyn nhw. |
Arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid
Cynhaliwyd yr Arolwg Teithwyr National Rail diwethaf yng ngwanwyn 2020 , a dyna pam mae’r ffigurau isod yn dod o’r cyfnod cynharach hwnnw.
Dangosydd Ansawdd y Gwasanaeth | Canran y cwsmeriaid a oedd yn fodlon |
Prydlondeb trenau | 73% (Gwanwyn 2020) |
Gwybodaeth i deithwyr os bydd oedi | 35% (Gwanwyn 2020) |
Cywirdeb ac argaeledd gwybodaeth am amseroedd trenau/platfformau | 85% (Gwanwyn 2020) |
Cynnal a chadw sy’n gyson dda/cyflwr rhagorol y trenau | Cynnal a thrwsio 67% (Gwanwyn 2020) |
Lefel uchel o ddiogelwch ar y trên/yn yr orsaf | 73% Gorsaf a 74% ar y trên (Gwanwyn 2020) |
Glanweithdra y tu mewn i'r trên | 75% (Gwanwyn 2020) |
Darparu gwybodaeth ddefnyddiol am deithio yn ystod y daith | 64% (Gwanwyn 2020) |
Amseroedd ymateb i geisiadau am wybodaeth mewn gorsafoedd | 86% (Gwanwyn 2020) |
Argaeledd toiledau o ansawdd da ymhob trên | Mae toiledau ar gael ymhob trên ac mae’r cyfleusterau toiledau wedi sgorio 50% yn NRPS y Gwanwyn 2020 |
Glanweithdra a chynnal a chadw gorsafoedd i safon uchel | Glanweithdra 70% cynnal a chadw 64% (Gwanwyn 2020) |
Hygyrchedd gorsafoedd a threnau | Mae ein canllaw ‘Gwasanaethau Rheilffyrdd Hygyrch: Helpu Teithwyr Hŷn ac Anabl’ yn rhestru ein gorsafoedd i gyd ac yn egluro pa gyfleusterau sydd ar gael ynddynt, gan gynnwys yr oriau staffio, toiledau a sgriniau gwybodaeth. Mae ein tudalen we sy’n rhoi sylw i hygyrchedd gorsafoedd (https://trc.cymru/gwybodaeth/teithwyr/teithio-hygyrch/hygyrchedd-gorsafoedd) yn rhoi gwybodaeth am ein trefniadau presennol i helpu teithwyr anabl a hŷn i deithio ar ein trenau. Mae’n cynnwys manylion am ein cyfleusterau yn y gorsafoedd. Mae’n darparu manylion cyswllt a gwybodaeth ddefnyddiol a all fod eu hangen arnynt i gynllunio eu teithiau.
|
Dangosydd | Ansawdd Gwasanaethau |
Darparu cymorth i bobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedig | Yn ôl eu trwyddedau gweithredu, mae’n rhaid i gwmnïau trenau a gorsafoedd sefydlu a chydymffurfio â Chynllun Teithio Hygyrch, a rhaid i hwnnw gael ei gymeradwyo gan y Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd. Mae’r Cynllun yn nodi, ymysg pethau eraill, y trefniadau a'r cymorth gan weithredwr i ddiogelu buddiannau pobl anabl sy'n defnyddio’r gwasanaeth ac i hwyluso defnydd o'r fath. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://trc.cymru/gwybodaeth/teithwyr/teithio-hygyrch Gall ein Tîm Cymorth wrth Deithio roi cyngor, archebu cymorth a threfnu tocynnau ar gyfer eich taith, dim ots pwy yw'r cwmni trên. Gallwch gysylltu â'r tîm drwy ffonio 03330 050 501 rhwng 08:00 ac 20:00 bob dydd, ar wahân i ddydd Nadolig. Dyma yw rhif gwasanaeth Testun y Genhedlaeth Nesaf ar gyfer pobl sydd ag anawsterau clywed a siarad - 18001 03330 050 501. |
Delio â chwynion - Ad-daliadau ac iawndal am beidio â chydymffurfio â safonau ansawdd gwasanaeth
Dangosydd | Ansawdd Gwasanaethau |
Y weithdrefn sydd ar waith | Mae gennym broses glir a chryno ar waith ar gyfer delio â chwynion. Mae’r manylion ar gael yma: https://trc.cymru/amdanom-ni/tryloywder/trefn-deilo-a-chwynion. Mae'r weithdrefn hon yn cael ei hadolygu'n rheolaidd gan Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd. Cafodd yr adolygiad diwethaf ei gynnal ddiwedd 2021. Bydd hyn yn cael ei adolygu ym mis Hydref 2023. |
Nifer y cwynion a’r canlyniad | 21,581 |
Categorïau ar gyfer cwynion | Y pum cwyn fwyaf cyffredin oedd:
|
Cwynion a dderbyniwyd | 21,581 |
Cwynion a broseswyd | Fe wnaethom ymateb i 97% o'r cwynion o fewn 20 diwrnod gwaith. |
Amseroedd ymateb ar gyfartaledd | Fe wnaethom ymateb i 97% o'r cwynion o fewn 20 diwrnod gwaith, ac ymatebwyd i 36% o fewn 10 diwrnod gwaith. |
Camau gwella posibl wedi’u cymryd | Rydym yn adolygu ein tri chategori uchaf o gwynion bob cyfnod ac yn gweithredu i wella’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig yn barhaus. Eleni, rydym wedi parhau i gyfathrebu'n glir y profiad y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl wrth deithio gyda ni yn ystod cyfnodau o weithredu diwydiannol a phrinder cerbydau. Rydym yn cynhyrchu cynnwys ar gyfer ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol a fideo yn rheolaidd i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gwybod beth i'w ddisgwyl, beth rydym yn ei wneud i'w cadw'n ddiogel a'r camau y gallant eu cymryd i deithio'n hyderus. Rydym yn adolygu ein cyswllt perfformiad cwsmeriaid bob wythnos gyda’r tîm perfformiad, gan ganfod y trenau sy’n cael yr effaith fwyaf ar gwsmeriaid ac i wneud cynlluniau i wella’r gwasanaethau hyn a fydd yn effeithio ar y 2 gategori uchaf o gwynion. |
Cymorth a ddarperir i bobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedig
Dangosydd | Ansawdd Gwasanaethau |
Y weithdrefn gymorth sydd ar waith | Yn ôl eu trwyddedau gweithredu, mae’n rhaid i gwmnïau trenau a gorsafoedd sefydlu a chydymffurfio â Chynllun Teithio Hygyrch, a rhaid i hwnnw gael ei gymeradwyo gan y Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd. Mae’r Cynllun yn nodi’r trefniadau a'r cymorth gan weithredwr i ddiogelu buddiannau pobl anabl sy'n defnyddio’r gwasanaeth ac i hwyluso defnydd o'r fath. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://trc.cymru/gwybodaeth/teithwyr/teithio-hygyrch |
Nifer yr achosion o gymorth fesul categori o wasanaeth (rhyngwladol/domestig, pellter hir, rhanbarthol a threfol/maestrefol) | 52,174 o adroddiadau cymorth wedi’u cofnodi gyda’r Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd. |