Strategaeth Trethi Grŵp Trafnidiaeth Cymru
Strategaeth Trethi Grŵp Trafnidiaeth Cymru
Fel grŵp yn y DU gyda throsiant dros £200m, mae’n rhaid i TrC gyhoeddi strategaeth trethi o dan Atodlen 19 o Ddeddf Cyllid 2016.
Pwrpas
Mae’r ddogfen hon yn nodi’r polisi trethi ar gyfer Trafnidiaeth Cymru (TrC) a’i is-gwmnïau (“Grŵp TrC neu ni”) a’n dull gweithredu ar gyfer cynnal ei faterion sy’n ymwneud â threthi yn y DU a delio â risgiau treth yn y DU.
Mae Bwrdd TrC wedi cymeradwyo’r ddogfen.
Bydd y ddogfen yn cael ei hadolygu o bryd i’w gilydd a bydd Bwrdd TrC yn cymeradwyo unrhyw newidiadau.
Mae’r strategaeth trethi yn berthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 a’r blynyddoedd ariannol dilynol.
Ein Sefydliad
Mae TrC yn gwmni nid-er-elw, sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru. Mae TrC yn bodoli i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o ansawdd uchel y mae pobl Cymru’n falch ohono.
Cyfeiriad swyddfa gofrestredig TrC yw 3 Llys Cadwyn, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 4TH.
Ein Strategaeth Trethi
- Ein dull o gynllunio trethi
Mae Grŵp TrC yn dilyn dull cyfrifol o gynllunio trethi, gan geisio sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r holl gyfreithiau a rheoliadau perthnasol a lleihau rhwymedigaethau treth ar yr un pryd. Mae ein gwaith cynllunio trethi yn cyd-fynd â’n cynllun busnes blynyddol a’n strategaeth gorfforaethol pum mlynedd. Rydym yn ystyried yr effaith bosibl ar ein henw da a’n perthynas â rhanddeiliaid. -
Llywodraethu a rheoli risg
Mae Grŵp TrC wedi sefydlu fframwaith llywodraethu cadarn ar gyfer trethi gyda rolau a chyfrifoldebau, polisïau a gweithdrefnau clir, a phrosesau monitro ac adrodd rheolaidd. Mae ein dull rheoli risg yn cynnwys nodi ac asesu risgiau treth, rhoi mesurau rheoli ar waith i liniaru’r risgiau hyn a monitro ac adolygu ein cydymffurfiaeth â threthi yn barhaus. -
Cydymffurfio a threthi ac adrodd ar drethi
Mae Grŵp TrC wedi ymrwymo i gyflawni ein holl rwymedigaethau cydymffurfio â threthi, gan gynnwys llenwi ffurflenni treth a thalu trethi yn brydlon. Rydym yn cadw cofnodion treth cywir a chyflawn ac rydym wedi rhoi mesurau rheoli ar waith i sicrhau bod ein hadroddiadau treth yn gywir ac yn gyflawn. -
Perthynas â Chyllid a Thollau EF (CThEF)
Mae Grŵp TrC yn cynnal perthynas adeiladol a thryloyw â CThEF, sy’n cynnwys cyfathrebu ac ymgysylltu’n rheolaidd â CThEF ar faterion treth. Mae Grŵp TrC yn ceisio datrys unrhyw anghydfodau gyda CThEF drwy drafodaeth agored ac adeiladol. -
Agwedd tuag at risgiau treth
Nod Grŵp TrC yw lleihau risgiau treth a sicrhau y cydymffurfir â’r holl ddeddfau a rheoliadau perthnasol. Nid yw Grŵp TrC yn ymwneud â chynlluniau i osgoi talu treth nad ydynt yn cyd-fynd â bwriad deddfwriaeth trethi. Rydym yn ceisio cyngor proffesiynol gan gynghorwyr treth cymwys lle bo hynny’n briodol. -
Datgeliad cyhoeddus
Mae Grŵp TrC wedi ymrwymo i dryloywder yn ein materion sy’n ymwneud â threthi ac mae wedi cyhoeddi’r strategaeth hon yn unol â gofynion Llywodraeth y DU. Bydd Grŵp TrC yn parhau i adolygu a diweddaru ei strategaeth trethi i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol.
I grynhoi, mae strategaeth trethi Grŵp TrC yn cyd-fynd â gwerthoedd craidd ac egwyddorion busnes TrC. Mae Grŵp TrC wedi ymrwymo i gynnal safonau uchel o ran tryloywder a chydymffurfio â threthi. Mae Grŵp TrC yn rheoli risgiau treth y DU drwy brosesau llywodraethu, rheoli risg a chydymffurfio priodol. Rydym yn gweithio’n agos gyda CThEF i sicrhau perthynas gydweithredol a chydweithrediadol. Mae agwedd Grŵp TrC at gynllunio trethi yn gyfrifol ac yn unol â bwriad deddfwriaeth trethi. Rydym yn barod i dderbyn lefel isel o risg ar gyfer trethiant y DU yn unig.
Cwmpas
Endidau yn y cwmpas
Trafnidiaeth Cymru (rhiant-gwmni)
Is-gwmnïau TrC
- Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf
- Pullman Rail Ltd
- Gwasanaethau Arloesi TrC Cyf
- Rheolwr Seilwaith Cymru Last Resort Ltd (segur)