Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru: Adborth ar yr opsiynau cyhoeddi
Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru: Adborth ar yr opsiynau cyhoeddi
Crynodeb o adborth rhanddeiliaid
Diwygiad Terfynol
Dyddiad Cyhoeddi 29 Tachwedd 2024
1. Trosolwg
Yn ystod hydref 2024, fe wnaethom gysylltu â rhanddeiliaid i ddeall eu dewisiadau o ran y cyhoeddiadau ystadegol o Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru, pan fyddant ar gael. Fe wnaethom gysylltu â thros 150 o randdeiliaid a chawsom 35 ymateb, sef cyfradd ymateb o 23%. Roedd y rhanddeiliaid hyn wedi mynegi diddordeb yn yr Arolwg yn y gorffennol neu wedi mynychu un o’r Sesiynau Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yng ngwanwyn 2024.
Daw’r rhan fwyaf o’r ymatebion gan gydweithwyr sy’n ymwneud â pholisi trafnidiaeth, yn gweithio’n bennaf i Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a grwpiau llywodraeth leol. Byddwn yn parhau i fonitro adborth ac ymgysylltu â defnyddwyr a grwpiau sydd â diddordeb wrth i ni barhau i ddatblygu’r Arolwg.
2. 2. Canlyniadau ac adborth
2.1. Yr opsiynau cyhoeddi sy’n cael eu ffafrio
Gwnaethom gyflwyno pum opsiwn cyhoeddi gwahanol ar gyfer datganiadau pwnc-benodol, yn cynnwys enghraifft weledol o sut y byddent yn edrych, manylion am eu hyd, eu fformat, a pha mor gyflym y byddent ar gael i ddefnyddwyr. Gofynnwyd i’r ymatebwyr restru’r opsiynau yn ôl eu trefn blaenoriaeth nhw.
Mae’r ymatebion wedi cael eu sgorio ar raddfa o 1 i 5, lle mae 1 = yn cael ei ffafrio leiaf a 5 = yn cael ei ffafrio fwyaf. Mae’r sgoriau’n cael eu cyflwyno fel canran o 175, y sgôr uchaf sydd ar gael (35 * 5 = 175).
Ffigur 1: Dewis o opsiynau cyhoeddi (canran o'r sgôr uchaf)
Yr opsiwn cyhoeddi a gâi ei ffafrio fwyaf oedd adnodd siart rhyngweithiol, ac yna erthygl data canolig ei hyd a chrynodeb byr. Roedd y ddau opsiwn hirach, bwletinau manwl a llyfrau ffeithiau modd, yn llai poblogaidd. Mae Ffigur 1 yn dangos sut y sgoriodd yr opsiynau cyhoeddi.
2.2. Dewisiadau demograffig a daearyddol
Roeddem hefyd wedi gofyn i ymatebwyr am eu dewisiadau o ran dadansoddiadau demograffig a daearyddol i lywio blaenoriaethau dadansoddi. Roedd yr ymatebwyr yn cael dewis pob opsiwn a oedd yn cyd-fynd â’u diddordebau. Mae Ffigur 2 yn dangos canran yr ymatebwyr a ddewisodd yr opsiynau a oedd ar gael.
Ffigur 2: Dewis o ran newidynnau demograffig a daearyddol (canran yr ymatebwyr)
Ymddygiad a phatrymau trafnidiaeth yn ôl gallu yn y Gymraeg (43%) ac Ethnigrwydd (71%) oedd y lleiaf poblogaidd o’r opsiynau ymateb a gyflwynwyd. Roedd gweddill yr opsiynau i gyd yn sgorio’n uchel iawn. O ystyried absenoldeb hirdymor Arolwg Teithio Cenedlaethol sy’n benodol i Gymru, nid yw hyn yn syndod.
2.3. Achosion defnydd yr Arolwg
Mae’r Arolwg wedi’i ddylunio i fonitro cynnydd yn erbyn yr ymrwymiadau a amlinellir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 a thargedau Cymru Sero Net. Fodd bynnag, rydym wedi ymgorffori adborth gan randdeiliaid i sicrhau gwerth i grŵp ehangach o ddefnyddwyr. Pan ofynnwyd iddynt sut y byddant yn defnyddio data o’r Arolwg, soniodd ymatebwyr am amrywiaeth o ddefnyddiau polisi, gwerthuso a chynllunio:
- “Deall ymddygiad trafnidiaeth yng Nghymru a ledled Cymru”
- “Cyfrannu at ddatblygu polisi ar lefel genedlaethol a rhanbarthol a llywio’r gwaith o bennu cyllidebau”
- “Cynllunio trafnidiaeth a datblygu polisi ledled Cymru”
- “Tystiolaeth i gefnogi’r gwaith o asesu prosiectau”
- “Sefydlu’r llinell sylfaen ar gyfer patrymau teithio”
- “Deall effaith strategaeth drafnidiaeth genedlaethol dros amser”
Mae’r defnyddiau hyn yn ychwanegol at yr achosion defnydd a nodwyd yn y gwaith ymgysylltu a wnaed yn ystod hydref 2023 gyda chydweithwyr polisi, a rhanddeiliaid ehangach yng ngwanwyn 2024.
3. Y camau nesaf
Ar sail yr adborth hwn, bydd tîm prosiect yr Arolwg yn datblygu ac yn profi adnodd siart rhyngweithiol, ynghyd â datblygu fframwaith ar gyfer bwletinau byr ac erthyglau data. Byddwn yn ystyried adnoddau ychwanegol i fynegi cryfderau, gwendidau a chyd-destun ychwanegol y data i ddefnyddwyr yn gryno. Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a defnyddwyr i sicrhau bod yr adnoddau hyn yn diwallu anghenion eu defnyddwyr, ac i ddeall ymhellach eu dewisiadau o ran cynnwys er mwyn blaenoriaethu dadansoddiadau yn effeithiol.
Byddwn yn parhau i estyn allan at grwpiau rhanddeiliaid a defnyddwyr posibl wrth i’r Arolwg ddatblygu.
Atodiad A: Papur Opsiynau Cyhoeddi
Cyhoeddwyd y papur opsiynau cyhoeddi ar wefan Trafnidiaeth Cymru fel dogfen annibynnol.
Atodiad B: Holiadur
1. Enw Cyntaf
[Testun]
2. Cyfenw
[Testun]
3. Sefydliad (os yw’n berthnasol)
[Testun]
4. Cyfeiriad e-bost
[Testun]
5. Pa ddadansoddiadau daearyddol o ddata fyddech chi'n hoffi i ni eu cyhoeddi?
- Lefel Genedlaethol
- Lefel Ranbarthol
- Lefel Awdurdod Lleol
6. Pa ddadansoddiadau demograffig o ddata fyddech chi'n hoffi i ni eu cyhoeddi?
- Oed
- Rhyw
- Anabl/Ddim yn Anabl
- Gallu siarad Cymraeg
- Ethnigrwydd
- Dim un o'r uchod
7. Rhowch yr opsiynau cyhoeddi isod ar gyfer yr Arolwg yn nhrefn blaenoriaeth
- Crynodeb byr
- Siart rhyngweithiol
- Erthygl data
- Bwletin manwl
- Llyfr ffeithiau
8. A fydd y data a gesglir o ddiddordeb i chi pan gaiff ei gyhoeddi?
- Bydd
- Na fydd
9. Sut byddwch chi'n defnyddio data'r Arolwg?
[Testun]
10. Os hoffech chi weld y data'n cael ei gyhoeddi mewn ffordd arall, gyda dadansoddiadau daearyddol neu ddemograffig, rhowch wybod i ni yn y blwch isod.
[Testun]
11. Hoffwn gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau neu gyfleoedd ymgysylltu yn y dyfodol sy'n ymwneud ag Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru
- Iawn (drwy e-bost)
- Na