Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru - Penderfyniadau: Ar ôl dadansoddi Peilot 1
Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru - Penderfyniadau: Ar ôl dadansoddi Peilot 1
Crynodeb:
Dimensiwn |
Argymhelliad NatCen | Penderfyniad TrC/Llywodraeth Cymru |
---|---|---|
Cyfnod galw yn ôl |
Cadw’r cyfnod galw’n ôl o ddau ddiwrnod a lleihau lefel y manylion a gesglir | Wedi derbyn |
Dyluniad y dyddiadur |
Dyddiadur rhyngddalennog | Wedi derbyn |
Safle’r dyddiadur |
Yn hwyrach ymlaen yn y broses (ar ôl yr holiadur) | Wedi derbyn |
Dewis fesul cartref |
Dull “hyd at ddau oedolyn” | Wedi derbyn |
Sgriniau crynodeb |
Datblygu a phrofi sgriniau crynodeb i newid manylion teithiau | Wedi gwrthod |
Defnyddioldeb mapiau |
Defnyddio codau bras ar gyfer lleoliadau amwys, profi’r sicrwydd preifatrwydd, a rhoi gwybod am leoliadau hysbys yn awtomatig (h.y. cartref) | Wedi’i derbyn fel eitem ddatblygu yn y tymor hir |
1. Cyfnod galw yn ôl y dyddiadur
Argymhelliad NatCen: Cadw’r cyfnod galw’n ôl o ddau ddiwrnod a lleihau lefel y manylion a gesglir
Penderfyniad TrC/Llywodraeth Cymru: Wedi derbyn
Rhesymeg:
- Byddai newid i ddyddiadur teithio undydd yn gofyn am gynnydd sylweddol ym maint sampl blynyddol WNTS, ac felly costau, er mwyn cadw’r un lefel o fanylder disgwyliedig.
- Mae’r dyddiadur teithio a ddefnyddir mewn profion meintiol wedi cael ei adolygu a’i symleiddio i leihau’r baich cofnodi data i ymatebwyr.
- Mae rhagor o welliannau i’r dyddiadur teithio yn cael eu datblygu i’w wneud yn fwy ymarferol cyn y prif lansiad.
2. Safle a dyluniad y dyddiadur
Argymhelliad NatCen: Cynllun dyddiadur rhyngddalennog sy’n hwyrach ymlaen yn y broses (ar ôl yr holiadur)
Penderfyniad TrC/Llywodraeth Cymru: Wedi derbyn
Rhesymeg:
- Roedd cyfradd gadael yr ymatebwyr yn is pan oedd y dyddiadur yn hwyrach ymlaen yn y broses.
- Mae darparu’r dyddiadur yn hwyrach ymlaen yn y broses yn fwy priodol wyneb yn wyneb oherwydd prosesau gwaith maes, fel cysylltu â’r rhyngrwyd a symud gliniadur rhwng y gweithiwr maes a’r ymatebydd.
- Roedd dyddiaduron rhestredig a dyddiaduron rhyngddalennog wedi rhestru nifer debyg o deithiau pan oeddent yn hwyrach ymlaen yn y broses.
- Mae’r dyddiadur rhyngddalennog yn cael ei ystyried yn fwy sgyrsiol ac yn llai o faich i ymatebwyr.
Byddwn yn monitro perfformiad y dyddiadur teithio yn ofalus ac yn ystyried ffyrdd o leihau baich yr ymatebwyr ymhellach. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer datblygu unrhyw ddyddiaduron teithio yn y dyfodol.
3. Dewis ymatebwyr fesul cartref
Argymhelliad NatCen: Dull “hyd at ddau oedolyn”
Penderfyniad TrC/Llywodraeth Cymru: Wedi derbyn
Rhesymeg:
- O’i gymharu â data Cyfrifiad 2021, nid oedd y dull dewis ar hap a brofwyd yn cynhyrchu sampl llawer mwy cynrychioladol. Roedd hyn yn awgrymu lefelau o ddiffyg cydymffurfio.
- Roedd y dull “hyd at ddau oedolyn” wedi arwain at sampl cynhyrchiol mwy.
- Mae’r dull “hyd at ddau oedolyn” yn symlach ac yn darparu gwell gwerth am arian.
Bydd proffil demograffig yr ymatebwyr yn cael ei fonitro dros amser i brofi a yw’r canfyddiadau hyn yn dal yn ddibynadwy. Byddwn yn adolygu’r meini prawf dewis ymatebwyr fesul cartref dros amser.
4. Sgriniau crynodeb
Argymhelliad NatCen: Datblygu a phrofi sgriniau crynodeb y gellir eu golygu i newid manylion teithiau
Penderfyniad TrC/Llywodraeth Cymru: Wedi gwrthod
Rhesymeg:
- Isel iawn oedd nifer y gwallau a gofnodwyd, gyda’r rhan fwyaf yn codi mewn dyddiaduron teithio rhestredig. Mae maint y gwaith datblygu i gyflwyno sgriniau crynodeb yn drech na’r manteision posibl.
- Oherwydd trefn y cwestiynau, mae’r broses o gywiro gwallau yn symlach ar gyfer y dyddiaduron rhyngddalennog. Felly, mae sgriniau crynodeb yn ychwanegu at faich yr ymatebydd.
- Mae’r cwestiynau yn y dyddiadur teithio wedi cael eu mireinio ymhellach, gan dargedu ffynhonnell gwallau’r ymatebwyr.
Bydd yr eitem hon yn parhau i gael ei hadolygu, a byddwn yn ailedrych ar y penderfyniad hwn dros amser.
5. Defnyddioldeb mapiau
Argymhelliad NatCen: Defnyddio codau bras ar gyfer lleoliadau amwys, profi sicrwydd preifatrwydd, a mewnbynnu lleoliadau hysbys yn awtomatig (h.y. cartref)
Penderfyniad TrC/Llywodraeth Cymru: Wedi’i derbyn fel eitem ddatblygu yn y tymor hir
Rhesymeg:
- Bydd gwella’r codio ar gyfer lleoliadau amwys, a mewnbynnu lleoliadau hysbys (h.y. cartref) yn gwella cywirdeb y data a geir.
- Bydd datblygu defnyddioldeb mapiau yn broses ailadroddol, ochr yn ochr â chodio unrhyw gyfweliadau dros y ffôn a llenwi dyddiaduron teithio all-lein.