Telerau ac amodau
Gwobr:
Noson yn Gaer a thocyn trên Safonol o unrhyw leoliad ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru.
Telerau ac amodau
Trefnydd a chymryd rhan
1. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan Trafnidiaeth Cymru, 3 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH
2. Igymryd rhan, mae'n rhaid i chi gyflwyno eich manylion cyswllt yn trc.cymru/ennill.
3. Bydd yr enillydd yn derbyn tocynnau trên dwyffordd o’u dewis, darddiad ar rwydwaith rheilffordd Trafnidiaeth Cymru i Gaer, ynghyd ag arhosiad dros nos mewn gwesty partner. Gwobr yn ddilys tan Hydref 2025, i eithrio diwrnodau digwyddiadau mawr ym Caer ac yn amodol ar argaeledd. Mae tocynnau trên yn ddilys ar gyfer gwasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru yn unig ac yn amodol ar argaeledd. Bydd gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r tocyn ar gyfer teithio yn cael ei darparu i'r enillydd gyda'i docyn.
4. Mae'r gystadleuaeth hon yn agored i aelodau o'r cyhoedd sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth drwy ymgyrch Trafnidiaeth Cymru rhwng 21 Chwefror a 28 Chwefror 2025. Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu'n hŷn.
5. Gallwch gymryd rhan am ddim, ni fydd yn golygu unrhyw ffioedd ychwanegol i'r cyfranogwyr ac nid yw'n dibynnu ar brynu nwyddau o'r blaen.
6. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cadw'r hawl i eithrio unrhyw bleidleisiau y mae'n credu eu bod yn dwyllodrus neu'n seiliedig ar gamymddwyn.
7. Nid yw Trafnidiaeth Cymru a'i asiantau yn derbyn dim cyfrifoldeb dros faterion technegol nac unrhyw broblemau y gallai Cystadleuwyr eu hwynebu wrth gyflwyno cais.
8. Mae'r raffl yn agored i chi gymryd rhan rhwng 09:00 21 Chwefror 2025 a 18:00 28 Chwefror 2025.
9. Dim ond un cais a ganiateir i bob person. Ni fydd ceisiadau dyblyg neu geisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried.
Rancio a gwobrau
10. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap.
11. Bydd un enillydd yn cael ei ddewis ar neu cyn 1 Mawrth 2025.
12. Byddwn yn cysylltu â'r enillydd drwy'r cyfeiriad e-bost a roddwyd wrth roi cynnig ar y gystadleuaeth. Os nad yw'r enillydd yn derbyn y wobr o fewn 2 wythnos i gael yr hysbysiad e-bost yn dweud ei fod wedi ennill y wobr, bydd pob hawl i'r wobr yn cael ei cholli.
13. Bydd yr enillydd yn cael y wobr o fewn 30 diwrnod i ni gysylltu.
14. Drwy gymryd rhan, rydych chi'n cytuno bod gan Trafnidiaeth Cymru hawl i gysylltu â chi am y wobr rydych chi wedi'i hennill drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
15. Does dim modd trosglwyddo'r wobr a does dim modd ei gwerthu, ei newid na'i chyfnewid am arian.
16. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cadw'r hawl i newid, terfynu neu atal y wobr hon dros dro os yw, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, yn credu bod angen gwneud hynny, ond ni fydd Trafnidiaeth Cymru yn arfer yr hawl hon yn afresymol.
17. Bydd penderfyniad Trafnidiaeth Cymru yn derfynol, ac ni fydd unrhyw ohebu ynghylch hyn.
18. Gofynnir i'r enillwyr a ydynt yn fodlon i Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi eu bod yn enillydd cystadleuaeth ar ei sianeli cymdeithasol, ond nid yw hyn yn orfodol.
Ymwadiad a hawlfraint
19. Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am y canlynol:
a) darparu gwasanaethau trafnidiaeth y tu hwnt i gwmpas hawliau'r wobr.
b) unrhyw broblemau technegol neu golledion mewn perthynas â chymryd rhan yn y gystadleuaeth, yn ogystal â hawliadau ac iawndal sy'n ymwneud ag unrhyw daith a gymerir wrth ddefnyddio tocynnau trên, ac sy'n deillio o hynny.
c) anallu i deithio o fewn y cyfnod y mae'r tocynnau'n ddilys ar ei gyfer.
Datganiad preifatrwydd
Data wedi'u prosesu
20. Drwy eich cais, rydych yn darparu'r data personol canlynol:
a) Enw Cyntaf ac Enw Olaf yr ymgeisydd.
b) Cyfeiriad e-bost yr ymgeisydd.
c) Gorsaf gartref.
d) Cod post.
21. Trafnidiaeth Cymru yw'r endid sy'n gyfrifol am gasglu a phrosesu eich data personol. Yn ei weithgareddau prosesu, mae Trafnidiaeth Cymru a'r holl endidau sy'n prosesu data personol yn cydymffurfio â gofynion cyfraith preifatrwydd. Mae hyn yn golygu, ymysg pethau eraill, bod Trafnidiaeth Cymru yn gwneud y canlynol:
- Nodi'n glir at ba ddibenion y mae'n prosesu data personol;
- Ymdrechu i gyfyngu ar gasglu data personol i'r rheini sydd eu hangen at ddibenion cyfreithlon yn unig;
- Yn gofyn am eich caniatâd penodol chi yn y lle cyntaf i brosesu eich data personol mewn achosion lle mae angen eich caniatâd;
Pwrpas prosesu
22. Drwy gymryd rhan, rydych yn cydnabod eich bod yn ymwybodol o'r broses o gasglu eich data personol a'ch bod yn rhoi eich caniatâd i brosesu a throsglwyddo data o'r fath mewn perthynas â'r gystadleuaeth hon.
23. Drwy gymryd rhan, tybir eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn a'r polisi preifatrwydd.
Cysylltwch â: Trafnidiaeth Cymru, 3 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH