Cais Rhyddid Gwybodaeth TrC – Swyddogion Diogelwch

Submitted by Content Publisher on

Swyddogion diogelwch

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019

Diolch i chi am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar 11 Hydref 2019. Roeddech wedi gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

Faint o swyddogion diogelwch oedd ar drenau yng Nghymru yn ystod y tri mis diwethaf, rhwng yr amseroedd canlynol: 0700 a 1000, 1600 a 1900, ac 2000 a 0000

Rwy’n ysgrifennu atoch i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ystyried o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), a bod Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cwblhau’r broses o chwilio am yr wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani.

Ar ôl ystyried eich cais, rydym wedi penderfynu bod yr wybodaeth roeddech wedi gofyn amdani wedi’i heithrio rhag cael ei rhyddhau o dan adran 38 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000), sy’n datgan bod gwybodaeth yn wybodaeth wedi’i heithrio os byddai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn arwain at y canlynol, neu’n debygol o arwain at hynny— (a) peryglu iechyd corfforol neu iechyd meddwl unrhyw unigolyn, neu (b) peryglu diogelwch unrhyw unigolyn.

Mae Adran 38 yn eithriad wedi’i gymhwyso. Felly, hyd yn oed os yw’r wybodaeth roeddech chi wedi gofyn amdani wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu, rhaid i ni ystyried a phenderfynu a yw cynnal yr eithriad yn fwy buddiol i’r cyhoedd na datgelu’r wybodaeth.

Rydym yn cydnabod bod deall sut mae swyddogion diogelwch yn cael eu lleoli ar drenau TrC yn fuddiol i’r cyhoedd er mwyn cynnig sicrwydd i gwsmeriaid, ac y byddai hynny’n helpu TrC i fod yn dryloyw. Ond, yn yr achos yma, rydym yn teimlo y gallai rhannu’r wybodaeth yma beryglu diogelwch teithwyr a rhoi TrC mewn perygl. Felly, mae’n fwy buddiol i’r cyhoedd i ni beidio â datgelu’r wybodaeth yma.

Rydym yn ceisio cyflawni ein cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac rydym yn cymryd cwynion am geisiadau gwybodaeth o ddifri. Os ydych chi’n anfodlon â’r ffordd rydym wedi delio â’ch cais am wybodaeth, gallwch ofyn am adolygiad mewnol.

Mae adolygiad mewnol yn gyfle i'ch cais gwreiddiol am wybodaeth gael ei ystyried o’r newydd gennym ni. Uwch aelodau staff Trafnidiaeth Cymru fydd yn cynnal yr adolygiad. Byddan nhw’n adolygu’r gronoleg, crynodeb o’r ffeithiau ac unrhyw ddogfennau ategol.

Fe allai hynny olygu bod rhanddeiliaid mewnol eraill yn cael eu cynnwys yn y broses. Mae’n bosib y byddwn hefyd yn trafod eich achos â’r rheini a oedd wedi delio â’ch cais gwreiddiol.

Gallwch gyflwyno’ch cwyn yn ysgrifenedig drwy lythyr neu e-bost:

Rhyddid Gwybodaeth/Freedom of Information, Trafnidiaeth Cymru, South Gate House, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW;

E-bost: freedomofinformation@tfw.wales

Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn pum diwrnod gwaith a, phan fydd yn bosibl, byddwn yn ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi beth yw canlyniad yr adolygiad. Os byddwch chi’n dal yn anfodlon, gallwch gyflwyno apêl i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Yn gywir

Trafnidiaeth Cymru