Chamau Gweithredol - 01 Ebrill 2020
Fforwm Rhanbarthol Cymru a'r Gororau
Mynychwyr: Christian Schmidt, Tom Painter, Sean Croshaw, Heather Bolton, Matt Johnson, Jeremy Callard, Michelle Roles, Rhiannon-Jane Raftery, Sarah Spink, Adam Graham, Lee Robinson, Gethin Jones, Andrew Gainsbury, David Clark, Ben Clifford, Geraint Morgan, Hugh Evans, Melanie Lawton, Lois Park, Nichole Sarra, Lowri Joyce, Ceri Taylor, Katie Powis.
Ymddiheuriadau: Gerard Rhodes
Dyddiad: 01 Ebrill 2020
Amser: 10:00 – 12:00
Lleoliad: Microsoft Teams
Rhif eitem 1
Cofnodion: Cyflwyniadau ac Ymddiheuriadau – Nichole Sarra (NS) Trafnidiaeth Cymru
Gwnaed cyflwyniadau rhwng yr holl fynychwyr a rhoddwyd ymddiheuriadau gan Gerard Rhodes o Gyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer.
Esboniodd NS y trefniadau ymarferol sylfaenol ar gyfer y cyfarfod ynghyd â'r cyfle i godi cwestiynau drwyddi draw.
Rhif eitem 2
Cofnodion: Pwrpas a Chylch Gwaith Pensaernïaeth Gynghorol Trafnidiaeth Cymru - Gethin Jones (GJ) Trafnidiaeth Cymru
Rhoddodd GJ drosolwg o ddatblygiad a sefydlu Pensaernïaeth Gynghorol TrC, ynghyd â chylch gwaith a phwrpas y Fforymau rhanbarthol.
Holodd Tom Painter (TP) am berthynas Fforwm Trawsffiniol y DU sydd eisoes wedi'i sefydlu fel rhan o'r fframwaith llywodraethu ehangach ynghyd â'r berthynas â bwrdd goruchwylio Network Rail. Rhoddwyd sicrwydd o amgylch y ddau bwynt gan GJ, Lois Park (LP) a NS.
Camau gweithredol: GJ i ddarparu mwy o fanylion am y sgwrs gyda Network Rail.
Rhif eitem 3
Cofnodion: Amserlen Rhagfyr 2020 - David Clark (DC) Trafnidiaeth Cymru
Cyflwynodd DC newidiadau amserlen ac egwyddorion cynllunio trenau Rhagfyr 2020.
Holodd TP am y sefyllfa bresennol o ran Covid-19 ac amserlen Mai 2020. Esboniodd DC natur ansicr y cynigion cyfredol a bod trafodaethau yn parhau wrth gyflwyno amserlen Mai 2020.
Holodd Christian Schmidt (CS) sut y gellid cyflwyno ac adolygu cynigion amserlen. Cytunodd DC y byddai'r cynigion yn cael eu hastudio a'u hystyried ac y gellid eu cyflwyno trwy LP a NS.
Holodd Sean Croshaw (SC) am drafodaethau â Thasglu Adfer Canol Manceinion ynghylch coridor Castlefield. Esboniodd DC eu bod yn gweithio gyda'r partneriaid perthnasol ac ar y cyd â rhanddeiliaid. Holodd CS hefyd am weithio ar y cyd â chwmnïau gweithredu trenau (TOCs) eraill e.e. Prif Linell De Cymru lle mae nifer o weithredwyr trenau. Esboniodd DC y bydd TrC yn cydweithredu â gweithredwyr trenau eraill a rhoddodd esboniad byr o'r broses gynnig gyda Network Rail ynghylch newidiadau i'r amserlen.
Camau gweithredol: NS i anfon cynigion a gyflwynwyd gan CS i DC.
Gofynnodd JC am ddiweddariad ar gyflawni unrhyw orsafoedd newydd ar linell Cymru a’r Gororau - diweddariad i ddilyn.
Rhif eitem 4
Cofnodion: Gwasanaethau yn Lle’r Rheilffyrdd – Ben Clifford (BC) Trafnidiaeth Cymru
Cyflwynodd BC ddiweddariad ar y cynllun darparu gwasanaethau yn lle’r rheilffyrdd gyda llawer o fanylion yn y cyflwyniad a ddarparwyd.
Gofynnodd CS a oedd cyn-gynllunio ar gyfer gweithrediadau ad-hoc. Cadarnhaodd BC fod yna gynlluniau wrth gefn a ysgrifennwyd ymlaen llaw y gellir eu gosod allan i dimau TrC. Ychwanegodd fod angen rhyw lefel o fân newid arnyn nhw gan fod pob digwyddiad ychydig yn wahanol ond serch hynny mae yna gynlluniau sylfaenol y mae’r tîm yn eu defnyddio.
Rhif eitem 5
Cofnodion: Diweddariad am y Cerbydau – Andrew Gainsbury (AG) Trafnidiaeth Cymru
Cyflwynodd AG ddiweddariad ar y cerbydau. Pwysleisiodd fod cymaint o'r cyflenwyr yn gweld llai o weithluoedd oherwydd yr achosion o Covid-19, ac y gallai hyn gael effaith ar amserlenni'r rhaglen.
Holodd SC am yr opsiwn i ychwanegu unedau ychwanegol at yr archebion cyfredol, ynghyd ag ymholiad ynghylch sut y gall rhanddeiliaid helpu'r achos i gefnogi buddsoddiad pellach.
Dywedodd AG fod opsiynau yn y contract prynu ar gyfer unedau ychwanegol, os bydd angen. At hynny, mae'n debyg y byddai'r galw yn pennu unrhyw angen ychwanegol am unedau a bydd y capasiti cyffredinol yn cynyddu. Cytunodd NS i ddarparu mwy o fanylion i SC ac AG ar y pwyntiau a godwyd.
Codwyd cwestiwn hefyd ar ddyluniad y fflyd. Esboniodd AG fod sawl mewnbwn, ymgynghoriad ac ymchwil wedi'i wneud i ddarparu'r dyluniad cydymffurfiol ac wedi'i arwain gan ddefnyddwyr ar gyfer y fflyd newydd. Bydd brasfodelau o’r unedau, sydd i fod i gyrraedd yn fuan, yn cynorthwyo delweddu a theimlad cyffredinol yr unedau newydd.
Holodd SC ynghylch cerbydau MK4 a dichonoldeb eu defnyddio ar gyfer Mynydd dros dro ar rai rhannau o'r rhwydwaith. Cadarnhaodd AG eu bod yn edrych ar yr union fater yna ar hyn o bryd.
Camau gweithredol: NS i ddarparu manylion am sut y gall rhanddeiliaid gyflwyno achos busnes, er enghraifft cynyddu capasiti ar linellau.
Rhif eitem 6
Cofnodion: Rheilffordd Gymunedol – Melanie Lawton (ML) Trafnidiaeth Cymru
Cyflwynodd ML ddiweddariad ar y rhaglen rheilffyrdd cymunedol.
Cododd CS gwestiwn ynghylch perchnogaeth a phrydles hen adeiladau yng ngorsaf Cas-gwent. Esboniodd fod gweithgor yn bodoli i edrych ar Gas-gwent, sydd â chynrychiolaeth gan Network Rail a bod proses ar waith i gael trosglwyddiad prydles maes o law.
Holodd AG am gynrychiolaeth Partneriaeth Gymunedol Gogledd Swydd Gaer a chynigion i weithio gyda phartneriaethau rheilffyrdd cymunedol (CRPs) newydd. Esboniodd ML nad CRP yr ydym yn ei ariannu ar hyn o bryd ond rydym wrthi'n hyrwyddo sgyrsiau ar y posibilrwydd o brosiectau ar y cyd a allai ddefnyddio'r gronfa her.
Rhif eitem 7
Cofnodion: Eitemau Fforwm y Dyfodol / Unrhyw Fater Arall
Gofynnodd NS i'r Fforwm a oedd gan unrhyw fynychwyr awgrymiadau ar gyfer eitemau agenda yn y dyfodol.
Mae croeso i'r Fforwm anfon cynigion trwy e-bost at NS yn dilyn y cyfarfod. Bydd recordiad sain y cyfarfod hwn hefyd yn cael ei rannu.
Diolchodd NS i'r holl gyfranogwyr a dwyn y cyfarfod i ben.