Chamau Gweithredu - 10 Tachwedd 2020
Fforwm Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru
Dyddiad: 10 Tachwedd 2020
Amser: 10:00 – 12:00
Lleoliad: Microsoft Teams
Yn bresennol
Alex Hinshelwood, Rheolwr System Asedau Llwybrau ac Integreiddio, Network Rail (AH)
Amanda Phillips, Rheolwr Rhaglenni a Chomisiynu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (AP)
Angela Stradling, Swyddog Aelodaeth a Digwyddiadau, Cymdeithas Twristiaeth Sir Gaerfyrddin (AS)
Ann Elias, Trafnidiaeth Strategol, Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion (AE)
Cath Swain, Rheolwr Uned Trafnidiaeth Integredig, Cyngor Abertawe (CS)
Ceri Rees, Cydlynydd Prosiect a Strategaeth Trafnidiaeth, Cyngor Sir Penfro (CR)
Chris Peake, Rheolwr Porthladd, Irish Ferries (CP)
David Beer, Uwch Reolwr (Cymru), Transport Focus (DBe)
David Edwards, Cadeirydd, Cwmni Datblygu Llinell Calon Cymru (DE)
Goerge Reid, Cyfarwyddwr, Cymdeithas Twristiaeth Sir Gaerfyrddin (GR)
Gwilym Dyffri Jones, Pennaeth Campws Caerfyrddin a Champws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (GDJ)
Jayne Cornelius, Swyddog Teithio Cynaliadwy, Prifysgol Abertawe (JC)
Lisa Denison, Rheolwr Datblygu, Cwmni Datblygu Llinell Calon Cymru (LD)
Samara Hicks, Cydlynydd Moderneiddio Trafnidiaeth, Cyngor Sir Caerfyrddin (SHi)
Samuel Hadley, Pennaeth Cyfathrebu (Cymru), Network Rail (Sha)
Simon Charles, Rheolwr Strategaeth a Seilwaith Trafnidiaeth, Cyngor Sir Caerfyrddin (SC)
Steve Hopkins, Twristiaeth a Marchnata (SHo)
Thomas Lyndon, Rheolwr Materion Cyhoeddus, Great Western Railway (TL)
Yn bresennol o TrC
Andrew Gainsbury, Rheolwr Stoc Cerbydau (AG)
Arron Bevan-John, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned (Clerc) (ABJ)
Carolyn Hodrien, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned (CH)
Dafydd Williams, Rheolwr Perfformiad Rheilffyrdd (DW)
Geraint Morgan, Rheolwr Rheilffyrdd Cymunedol (De) (GM)
Gethin Jones, Rheolwr Cymorth Busnes (GJ)
Helen Dale, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned (HD)
Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol (HE)
James Price, Prif Weithredwr (JP)
Katie Powis, Rheolwr Rhanddeiliaid (Cadeirydd) (KP)
Kelsey Barcenilla, Ymgysylltu â’r Gymuned (KB)
Lewis Brencher, Cyfarwyddwr Cyfathrebu (LB)
Louis Mertens, Ymgysylltu â’r Gymuned (LM)
Lowri Joyce, Rheolwr Rhanddeiliaid (LJ)
Silke Boak, Dadansoddwr Argraffiadau'r Cwsmer (SB)
Ymddiheuriadau
Bruce Roberts, Ysgrifennydd, Clwb Busnes Bae Abertawe (BR)
Carl Milne, Rheolwr Porthladd, Stena Line (CM)
Davis Beaney, Cadeirydd, Cymdeithas Twristiaeth Sir Gaerfyrddin (DBea)
Dennis O’Connor, Rheolwr Cyswllt Twristiaeth, Twristiaeth Sir Benfro (DO)
Dr. Rhian Hayward MBE, Prif Weithredwr (Campws Arloesi a Menter), Prifysgol Aberystwyth (RH)
Heather Anstey-Myers, Prif Weithredwr, Siambrau Masnach De a Chanolbarth Cymru (HAM)
Jennifer Barfoot, Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol, Cyswllt De Orllewin Cymru (JB)
Lois Park, Pennaeth Ymgysylltu â Chymunedau a Rhanddeiliaid, Trafnidiaeth Cymru (LP)
Zoe Antrobus,Rheolwr, 4theRegion (Cynnal, Cyswllt De Orllewin Cymru) (ZA)
Sylwer: Lluniwyd y cofnodion canlynol gan yr ysgrifenyddiaeth ar gyfer y fforwm hwn, sef Arron Bevan-John, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned.
Ceir crynodeb isod o’r cyflwyniadau a’r pynciau a drafodwyd/cwestiynau a godwyd – ac ni fwriedir iddynt fod yn gofnod air am air o’r sesiwn.
Eitem rhif 1
Cofnodion: Cyflwyniadau ac Ymddiheuriadau
Croesawodd KP bawb a oedd yn bresennol a chynhaliwyd cyflwyniadau. Nodwyd hefyd y rheolau cadw tŷ cyffredinol a’r canllawiau technegol.
Cyflwynodd KP ABJ fel y Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned ar gyfer rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Eitem rhif 2
Cofnodion: Yr Amserlen a’r Canllawiau Teithio Diweddaraf – Dafydd Williams (DW)
Cyflwynodd DW y newidiadau parhaus i’r cyfyngiadau teithio yng Nghymru oherwydd effaith Covid19 a’r newidiadau a ddeilliodd o hynny i amserlenni rheilffyrdd. Tynnwyd sylw at ystod o ddiweddariadau, gan gynnwys effaith y cyfyngiadau atal byr, y dylanwadau ar newidiadau i amserlenni, a’r amrywiad yn y galw am wasanaethau o’i gymharu â’r un pryd yn 2019. Dywedodd DW fod adborth gan randdeiliaid wedi bod yn allweddol i ddarparu dull newydd a hyblyg o ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd gorau, yn enwedig gan ysgolion a cholegau. Cyflwynodd DW ddiweddariadau ar amserlenni ar gyfer 2021.
Holodd LD (ar lafar) sut yr ystyriwyd effaith yn ogystal â galw fel maen prawf ar gyfer adfer gwasanaethau yn achos llinellau gwledig. Eglurodd DW fod Covid19 wedi cael effaith ar draws y rhwydwaith a’i fod yn parhau i gael effaith. Aeth DW ymlaen ymhellach i gadarnhau y bydd trafodaethau gyda rhanddeiliaid yn parhau drwy’r tîm rhanddeiliaid i ddeall y galw ac i helpu i siapio’r gwaith o uwchraddio amserlenni yn y dyfodol. Eglurodd KP ei fod wedi bod yn gyfnod anodd i reilffordd Calon Cymru (HoWL) gyda sawl digwyddiad, yn ogystal â Covid19, yn cael effaith ar wasanaethau a chadarnhaodd y byddai’n parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y pwnc hwn.
Dywedodd JC (trwy’r sgwrs) y byddai Prifysgol Abertawe yn croesawu’r cyfle i gydweithio â Trafnidiaeth Cymru i wella teithio llesol i fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Abertawe yn ogystal â gwella cysylltiadau trafnidiaeth aml-foddol. Atebodd DW (ar lafar) gan ddweud bod Trafnidiaeth Cymru yn croesawu’r cyfle i gydweithio. Dywedodd KP (trwy’r sgwrs) y gellid trefnu cyfarfod i drafod hyn ymhellach.
Dywedodd SHo (trwy’r sgwrs) y byddai’r tîm digwyddiadau yng Nghyngor Abertawe yn croesawu’r cyfle i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar ddarparu gwasanaethau ar gyfer cyngherddau sydd wedi’u trefnu, gyda nifer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu’r flwyddyn nesaf yn denu 15k o bobl a mwy. Dywedodd SHo hefyd y byddai arena ddigidol Abertawe yn agor yng ngwanwyn 2022, gan ddenu pobl o bob cwr o Gymru i ddigwyddiadau mawr yn y ddinas. Unwaith eto, byddai Cyngor Abertawe yn croesawu’r cyfle i gael trafodaethau i sicrhau bod y trefniadau trafnidiaeth yn eu lle ar gyfer pobl sy’n ymweld â’r ddinas ar gyfer cyngerdd ac sydd am fynd adref. Atebodd DW (trwy’r sgwrs) i egluro bod Trafnidiaeth Cymru yn croesawu’r cyfle i weithio gyda rhanddeiliaid ac i siarad â KP i sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei chynnwys yn y calendr cynllunio blynyddol.
Diweddariad ar Ddyfodol Contract Cymru a’r Gororau – James Price (JP)
Rhoddodd JP y wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol contract rheilffyrdd Cymru a’r Gororau. Soniodd JP pam mae’r penderfyniad wedi cael ei wneud i newid y ffordd mae TrC yn gweithredu o ystyried yr effaith ariannol ddifrifol mae Covid-19 wedi’i chael ar weithredu gwasanaethau. Nododd JP y model cyflawni a llywodraethu newydd ar gyfer TrC, gan gynnwys y gweithredwr newydd (is-gwmni sy’n eiddo cyhoeddus) a fydd ar waith o fis Chwefror 2021 ymlaen, sef Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig. Diolchodd JP i aelodau’r fforwm am eu hamser a dymunodd yn dda i bawb.
Diolchodd JC i JP am ei amser a chroesawodd y cyfle i Brifysgol Abertawe gymryd rhan yn y fforwm. Gwnaeth JC awgrymiadau ynghylch cynyddu’r cyfleoedd i fyfyrwyr ddefnyddio teithio drwy ddarparu opsiynau tocynnau hyblyg. Croesawodd JP y sylwadau hyn a gofynnodd a yw Prifysgol Abertawe wedi’i chynnwys mewn trafodaethau ar gam datblygu Metro De-orllewin Cymru. Eglurodd SB ei bod yn croesawu’r cyfle i siarad â JC ar yr arolwg gwneud synnwyr ac y byddai’n hoffi cyfnewid manylion.
Y diweddaraf am y Stoc Cerbydau – Andrew Gainsbury (AG)
Rhoddodd AG gyflwyniad manwl ar gerbydau, gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith Covid-19 ar y gadwyn gyflenwi, sydd wedi golygu rhywfaint o oedi gyda’r fflyd newydd. Cadarnhaodd AG fod y rhaglen i wella’r fflyd wedi parhau er gwaethaf yr heriau. Trafododd AG fel yr oedd hyfforddiant criwiau bellach wedi ailddechrau, gyda chapasiti cyfyngedig, i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynnal.
Dywedodd LD (ar lafar) y byddai Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Rheilffordd Calon Cymru (HoWL) yn hoffi trafod y posibilrwydd o gyflwyno cerbyd hyblyg i HoWL yn 2023 a fyddai’n darparu lle ar gyfer beiciau a bagiau. Atebodd AG drwy ddweud bod y sylwadau wedi cael eu hystyried ac mai nawr yw’r amser i godi’r materion hyn ynghylch y ffordd orau i Trafnidiaeth Cymru ddefnyddio ei fflyd yn y dyfodol.
Gofynnodd DB a oes lle o hyd i gyfrannu at ddyluniad a chynllun y cerbydau yn y dyfodol. Eglurodd AG fod Covid19 wedi ei gwneud hi’n anodd i weld ‘brasfodelau’ o drenau, gan eu bod yn Sbaen, ond os byddai modd iddynt gael eu hanfon i’r DU, bydd cyfle’n cael ei ddarparu i randdeiliaid gael mewnbwn.
Cam gweithredu: KP i drefnu cyfarfod gyda JC y tu allan i’r fforwm.
KP i gysylltu â SHo i drafod bwydo’r wybodaeth hon yn ôl i’r cynlluniwr blynyddol.
Galluogi rhanddeiliaid i roi sylwadau ar frasfodelau/delweddau o drenau pan fyddant ar gael.
Eitem rhif 3
Cofnodion: Ailadeiladu hyder teithwyr mewn trafnidiaeth gyhoeddus ar ôl Covid19 – Lewis Brencher (LB)
Rhoddodd LB gyflwyniad yn trafod pa mor bwysig fydd rôl adborth gan randdeiliaid o ran sicrhau bod y galw a’r disgwyliadau’n cael eu diwallu ar ôl Covid19. Trafododd LB fewnwelediad yr Arolwg Gwneud Synnwyr ac yna gofynnodd ddau gwestiwn i aelodau’r fforwm y gofynnwyd iddynt rannu i ystafelloedd ymneilltuo a rhoi adborth i’r prif gyfarfod.
Cwestiwn 1: Beth yw’r prif rwystrau a allai atal pobl rhag dychwelyd i drafnidiaeth gyhoeddus ar ôl COVID19?
Bu aelodau’r Fforwm yn trafod y cwestiwn ac yn rhoi adborth i gydweithwyr y fforwm yn y brif ystafell. Roedd y trafodaethau’n cynnwys:
• Newidiadau i arferion teithio a’r ffaith bod pobl nawr yn fwy tebygol o weithio gartref.
• Dryswch ynghylch lefel y gwasanaeth sydd ar gael.
• Pryderon o ran hyder oherwydd efallai nad yw pobl wedi teithio am gyfnodau sylweddol. • Ansicrwydd ynghylch rheolau.
Cwestiwn 2: Beth allwn ni i gyd ei wneud fel partneriaid i annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol?
Bu aelodau’r Fforwm yn trafod y cwestiwn ac yn rhoi adborth i gydweithwyr y fforwm yn y brif ystafell. Roedd y trafodaethau’n cynnwys:
• Sicrhau cwsmeriaid bod trenau a gorsafoedd yn cael eu glanhau’n drylwyr yn rheolaidd.
• Yr angen am drafnidiaeth gyhoeddus gydgysylltiedig i wneud siwrneiau’n haws.
• Tynnu sylw at werth am arian/opsiynau i arbed arian ar deithio drwy docynnau hyblyg, cynlluniau teyrngarwch ac archebu rhatach ymlaen llaw. • Darparu opsiynau i deithwyr ar gyfer y ‘filltir olaf’ e.e. beiciau a mapiau ar gyfer llwybrau cerdded.
Diolchodd LB i aelodau’r fforwm am eu hamser.
Cam gweithredu: Bydd adborth gan randdeiliaid yn cael ei ddefnyddio i helpu i siapio cynlluniau. Bydd adroddiad adborth ar wahân sy’n casglu’r mewnbwn o’r gweithdy penodol hwn a’r sesiynau sy’n cael eu hailadrodd gyda grwpiau rhanddeiliaid eraill ar gael yn gynnar yn 2021 ac yn cael ei rannu mewn fforymau yn y dyfodol.
Eitem rhif 4
Cofnodion: Y diweddaraf am Waith Adfer Llangennech – Samuel Hadley ac Alex Hinshelwood (Network Rail)
Rhoddodd SHa y wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad oddi ar y cledrau a ddigwyddodd yn Llangennech ddiwedd yr haf. Rhoddodd SHa drosolwg o’r ymateb yr oedd Network Rail wedi bod yn ei ddarparu ar y cyd â gwasanaethau partner, sef aelodau cymunedol lleol, cynrychiolwyr etholedig, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyfoeth Naturiol Cymru, Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Trafnidiaeth Cymru, i sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Eglurodd AH fod y gwaith glanhau yn Llangennech bellach wedi’i gwblhau i raddau helaeth, gyda gwaith monitro amgylcheddol parhaus ar yr ardal yn parhau drwy gydol y gaeaf ac i’r gwanwyn. Dylid cwblhau’r gwaith o atgyweirio’r cledrau a’r archwiliadau diogelwch ddechrau 2021, sy’n golygu y gall rhan ddeheuol Rheilffordd Calon Cymru ailagor.
Dywedodd LD (drwy’r sgwrs) ei bod wedi clywed bod helwyr cocos yn dal i boeni am effaith amgylcheddol barhaus y digwyddiad. Dywedodd SHa y byddai’n rhoi gwybod am hyn i gydweithwyr yn Cyfoeth Naturiol Cymru.
Cam gweithredu: SHa i fwydo’r sylwadau yn ôl.
Eitem rhif 5
Cofnodion: Eitemau’r Fforwm yn y Dyfodol / Unrhyw Fater Arall
Dywedodd KP y byddai TrC yn croesawu awgrymiadau gan aelodau’r fforwm ar gyfer eitemau i’w rhoi ar yr agenda yn y fforwm nesaf ac yng nghyfarfodydd y fforwm yn y dyfodol.
Diolchodd KP i aelodau’r fforwm am eu presenoldeb a dymunodd yn dda i bawb.
Bwriedir cynnal y fforwm nesaf ym mis Chwefror/Mawrth 2021.