Chamau Gweithredu - 12 Tachwedd 2020
Fforwm Rhanbarthol Cymru a'r Gororau
Dyddiad: 12 Tachwedd 2020
Amser: 10:00 – 12:00
Lleoliad: Microsoft Teams
Yn bresennol
Adam Graham, Cynllunydd Trafnidiaeth, Cyngor Warrington
Alison Torrens, Swyddog Gweithredol, Prifysgolion Gorllewin Canoldir Lloegr (AT)
Ann Elias, Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol Canolbarth Cymru – Trafnidiaeth Strategol, Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru
David Beer, Uwch Reolwr (Cymru), Transport Focus (DB)
David Jones, Rheolwr Datblygu’r Rheilffyrdd, Rhanbarth Dinas Lerpwl (DJ)
Heather Bolton, Cynllunydd Trafnidiaeth, Cyngor Telford a Wrekin (HB)
Mark Hooper, Arweinydd Prosiect, Visit Shropshire
Matt Johnson, Rheolwr Prosiectau Strategol ac Arweinydd Rheilffyrdd, Cyngor Swydd Amwythig
Michelle Roles, Rheolwr Rhanddeiliaid Cymru, Transport Focus
Mike Learmond, Uwch Reolwr Datblygu Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach (ML)
Neva Mowl, Swyddog Amgylcheddol, Prifysgol Dinas Birmingham (ar ran Prifysgolion Cyfun Gorllewin Canoldir Lloegr)
Paul Colman, Prif Swyddog Gweithredol, Siambr Fasnach a Diwydiant De Swydd Gaer
Paul Jones, Pennaeth Gwasanaethau Dinas, Cyngor Casnewydd
Peter West, Rheolwr Masnachol, Yr Adran Drafnidiaeth
Rhiannon-Jane Raftery, Cydlynydd Datblygu Rheilffyrdd Cymunedol, Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol
Richard Gibson, Pennaeth Cyfathrebu, Crosscountry Trains
Ridhi Kalaria, Rheolwr Partneriaethau, Sustrans Gorllewin Canoldir Lloegr
Robert Niblett, Swyddog Cynllunio, Cyngor Sir Swydd Gaerloyw
Sean Croshaw, Rheolwr Rheilffyrdd Strategol, Trafnidiaeth Manceinion Fwyaf
Sheila Dee, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol, Caer – Partneriaeth Rheilffordd Amwythig
Tim Mitchell, Uwch Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth, Cyngor Dinas Birmingham
Toby Rackliff, Arweinydd Strategol Polisi Rheilffyrdd, Gweithredwr Rheilffyrdd Gorllewin Canolbarth Lloegr (TR)
Tracey Messner, Rheolwr Materion Cyhoeddus, Network Rail
Victoria Hammond, Uwch Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth, Cyngor Sir Swydd Henffordd (VH)
Yn bresennol o TrC
Andrew Gainsbury, Rheolwr Stoc Cerbydau (AG)
Arron Bevan-John, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned
Carolyn Hodrien, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned
Ceri Taylor, Rheolwr Rhanddeiliaid
Dafydd Williams, Rheolwr Perfformiad Rheilffyrdd
Geraint Morgan, Rheolwr Rheilffyrdd Cymunedol (GM)
Helen Dale, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned
James Price, Prif Weithredwr
Kate Clark, Cynghorydd Polisi
Katie Powis, Rheolwr Rhanddeiliaid
Lewis Brencher, Cyfarwyddwr Cyfathrebu (LB)
Lois Park, Pennaeth Ymgysylltu â Chymunedau a Rhanddeiliaid (LP)
Louis Mertens, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned (Clerc)
Lowri Joyce, Rheolwr Rhanddeiliaid (LJ)
Nichele Sarra, Rheolwr Rhanddeiliaid
Silke Boak, Dadansoddwr Argraffiadau'r Cwsmer (SB)
Ymddiheuriadau
Christian Schmidt, Rheolwr Rhaglenni a Phrosiectau Trafnidiaeth, Cyngor Sir Fynwy
Eddie Muraszko, Arweinydd Marchnad Canolbarth Lloegr, Gogledd a Gorllewin Cymru, Yr Adran Drafnidiaeth
Fay Easton, Pennaeth Rhanddeiliaid a’r Gymuned, Rheilffordd Gorllewin Canolbarth Lloegr
Gerard Rhodes, Uwch Swyddog Trafnidiaeth, Cyngor Caer a Gorllewin Swydd Gaer
Jeremy Callard, Rheolwr Strategaeth Trafnidiaeth, Cyngor Swydd Henffordd
Michelle Mitchell, Arweinydd Grŵp, Uned Trafnidiaeth Integredig, Cyngor Tor-faen
Matt Powell, Cynllunydd Trafnidiaeth, Cyngor Telford a Wrekin
Richard Hibbert, Pennaeth Trafnidiaeth Strategol, Cyngor Dwyrain Swydd Gaer
Robert Gravelle, Rheolwr Hygyrchedd a Chynhwysiant, Rheilffyrdd TrC (RG)
Sarah Spink, Arweinydd Partneriaethau Strategol, Cyswllt Canolbarth Lloegr
Steve Gardner-Collins, Cyfarwyddwr, Visit Gloucestershire
Tom Painter, Rheolwr Cyflawni Masnachfraint, Rheilffordd Gorllewin Canolbarth Lloegr
Sylwer: Lluniwyd y cofnodion canlynol gan yr ysgrifenyddiaeth ar gyfer y fforwm hwn, sef Louis Mertens, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned.
Ceir crynodeb isod o’r cyflwyniadau a’r pynciau a drafodwyd/cwestiynau a godwyd – ac ni fwriedir iddynt fod yn gofnod air am air o’r sesiwn.
Eitem rhif 1
Cofnodion: Cyflwyniadau ac Ymddiheuriadau
Cyflwynodd Nichole Sarra (NS), Rheolwr Rhanddeiliaid ar gyfer y Gororau, Trafnidiaeth Cymru, y fforwm a Louis Mertens (LM) y swyddog ymgysylltu â’r gymuned newydd ar gyfer ardal y Gororau.
Estynnodd NS wahoddiad i’r rhai a oedd yn bresennol i gyflwyno eu hunain yn y blwch sgwrsio.
Eglurodd NS y canllawiau cadw tŷ sylfaenol ar gyfer y cyfarfod ynghyd â’r cyfle i godi cwestiynau drwy gydol y cyfarfod.
Rhoddodd LM yr agenda yn y sgwrs.
Esboniodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Trafnidiaeth Victoria Hammond (VH) o Gyngor Swydd Henffordd y byddai’n mynychu’r fforymau yn lle Jeremy Callard yn y dyfodol.
Gofynnodd Heather Bolton (HB), Cynllunydd Trafnidiaeth, Cyngor Telford a Wrekin (drwy’r sgwrs) a oedd cofnodion y fforwm blaenorol ar gael.
Eglurodd Lowri Joyce (LJ), Rheolwr Rhanddeiliaid yn TrC (drwy’r sgwrs) y cafwyd problem dechnegol yn dilyn y cyfarfod diwethaf gyda’r swyddogaeth sgwrsio Microsoft Teams, y mae TrC wedi bod yn gweithio i’w datrys. Fodd bynnag, ers hynny, mae TrC wedi cael gwybod bod y sgwrs o’r sesiwn hon, yn anffodus, yn anadferadwy. Canlyniad hyn oedd, heb y testun sgwrsio lle cynhaliwyd y rhan fwyaf o gwestiynau ac atebion, nad oedd TrC yn gallu llunio cofnodion cynhwysfawr ar gyfer y fforwm blaenorol, ond byddai cofnodion y cyfarfod hwn yn cael eu rhannu.
Cynigiodd Robert Gravelle (RG), Rheolwr Hygyrchedd, Trafnidiaeth Cymru (trwy’r sgwrs) os oedd gan unrhyw un gwestiynau y gallai fod angen iddo eu hateb, y gallen nhw gysylltu ag ef ar ôl y cyfarfod.
Eitem rhif 2.1
Cofnodion: Diweddariad ar Ddyfodol Contract Cymru a’r Gororau – James Price (JP), Prif Weithredwr, Trafnidiaeth Cymru
Rhoddodd JP drosolwg o’r newidiadau a oedd yn digwydd i’r trefniadau contract rhwng Llywodraeth Cymru, (Awdurdod) Trafnidiaeth Cymru a Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru o ganlyniad i bandemig parhaus COVID-19.
Rhoddodd LM ddolen yn y sgwrs ar gyfer darllen ymhellach ar yr eitem hon.
• Dolen 1 – Masnachfraint Rheilffyrdd Llywodraeth Cymru o dan Reolaeth y Cyhoedd
• Dolen 2 – Trawsnewid Rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru Er gwaethaf COVID-19
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau am yr eitem hon.
Eitem rhif 2.2
Cofnodion: Yr Amserlen a’r Canllawiau Teithio Diweddaraf – Dafydd Williams (DW), Rheolwr Perfformiad Rheilffyrdd
Cyflwynodd DW y newidiadau i’r gwasanaeth rheilffyrdd o ganlyniad i COVID-19 gan gynnwys ffactorau sy’n effeithio ar yr amserlen. Eglurodd DW fod COVID-19 wedi golygu bod TrC, ar gyfartaledd, yn gweithredu 85% o’r gwasanaeth ar rwydwaith Cymru a’r Gororau, yn weddol debyg i weithredwyr eraill yn y DU. Nododd DW fod yn rhaid i’r amserlen fod yn hyblyg i unrhyw ofynion newydd posibl.
Rhoddodd DW drosolwg o sut roedd yr amserlen wedi cael ei diwygio hyd yma mewn ymateb i adborth, gan gynnwys adfer rhai gwasanaethau a darparu bysiau i gryfhau capasiti a chadw pellter cymdeithasol ar wasanaethau rheilffyrdd.
Rhoddodd LM ddolen yn y sgwrs i dudalen yn amlinellu trenau newydd sy’n ymuno â’r rhwydwaith.
Yn dilyn y cyflwyniad, tynnodd NS sylw at gwestiwn yn y sgwrs: Gofynnodd VH beth arall oedd wedi cael ei roi ar waith ers i wasanaeth Henffordd gael ei adfer ac a oedd dibyniaeth ar fysiau wedi lleihau. Atebodd DW fod TrC wedi adfer gwasanaeth rheilffordd rhwng Caerdydd / Henffordd yn ystod oriau brig y bore (sy’n cyrraedd Henffordd tua 8.15) a oedd wedi lleihau’r angen i ddefnyddio cymaint o’r gwasanaeth bysiau wrth gefn. Ychwanegodd DW y byddai cerbydau MK 4 pan fyddant yn cael eu cyflwyno yn rhoi mwy o ddarpariaeth o Gasnewydd i Amwythig. Ailadroddodd DW hefyd fod y ddarpariaeth bysiau yn bwysig ar gyfer darpariaeth wrth gefn tra bo gwasanaethau’n parhau i fod â llai o gapasiti, ar adegau pan oedd gwasanaethau rheilffyrdd mewn sefyllfa i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cyrraedd sefydliadau addysgol. Ychwanegodd NS fod TrC hefyd wedi cryfhau gwasanaeth sy’n ychwanegu cerbyd ychwanegol at y gwasanaeth rhwng Caerdydd a Henffordd sy’n cyrraedd am 8:55. Roedd hyn hefyd wedi helpu i leihau nifer y myfyrwyr sy’n gorfod defnyddio’r gwasanaeth bysiau wrth gefn. Mae TrC yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos er mwyn gwneud yn siŵr bod y ddarpariaeth bysiau ar y lefel angenrheidiol, eglurodd NS.
Ychwanegodd Lois Park (LP) Pennaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a’r Gymuned yn y: Ar 12 Hydref, adferodd TrC wasanaeth trên yn y bore i orsaf Henffordd o’r De (lle gwelwn y rhan fwyaf o’r galw). Yn debyg i’r amserlen cyn pandemig COVID, mae’r gwasanaeth hwn yn rhedeg am 06:55 o Gaerdydd (yn galw yng Nghasnewydd 07:14, Cwmbrân 07:24, Pont-y-pŵl a New Inn 07:30 a’r Fenni 07:42) ac yn cyrraedd Henffordd am 08:14, lle mae’r gwasanaeth hwn wedyn yn dod i ben. Mae hyn yn ychwanegol at ddau wasanaeth trên brig arall yn y bore o’r de, sy’n cynnwys yr un sy’n cyrraedd Henffordd am 08:55 ac sydd wedi cael ei ‘gryfhau’ gyda cherbyd ychwanegol yn ddiweddar (ers 29 Medi) a’r un sy’n cyrraedd am 07:38. Mae hyn yn ychwanegol at y bysiau wrth gefn sy’n parhau yn eu lle yn y cyfamser.
Gofynnodd Alison Torrens (AT), Swyddog Gweithredol Prifysgolion Gorllewin Canolbarth Lloegr (drwy’r sgwrs) a yw TrC yn gallu cynllunio ar gyfer teithio myfyrwyr prifysgol o gwmpas y Nadolig. Atebodd LJ drwy’r sgwrs: Mae TrC wedi dechrau trafodaethau gyda phrifysgolion ac mae’n gofyn beth sy’n debygol o ddigwydd ac am amseroedd tebygol er mwyn i TrC allu rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr ymlaen llaw. Mae TrC hefyd yn cael sgyrsiau mewnol gyda’r tîm digwyddiadau sy’n gallu cynllunio a rheoli torfeydd mawr i sicrhau cydnerthedd fel stiwardiaid a staff diogelwch. Bydd gwiriwr capasiti TrC newydd yn annog myfyrwyr i gynllunio ymlaen llaw cymaint â phosibl. (https://trc.cymru/statws-gwasanaeth/gwiriwr-capasiti).
Gofynnodd Geraint Morgan (GM), Rheolwr Rheilffyrdd Cymunedol (De), Trafnidiaeth Cymru (drwy’r sgwrs) os gellir cyflwyno gwasanaeth i adlewyrchu’r galw, faint o amser y byddai’n ei gymryd i ymddangos yn yr amserlen gyhoeddus? Atebodd DW: mae unrhyw newidiadau i wasanaethau yn cael eu hanelu at gael eu llwytho i fyny i amserlenni cyhoeddus cyn gynted â phosibl, ond efallai mai dim ond ychydig ddyddiau cyn rhedeg y byddant yn ymddangos yn yr amserlen gyhoeddus oherwydd yr angen i’w dilysu gyda Network Rail.
Gofynnodd Mike Learmond (ML), Uwch Reolwr Datblygu, Ffederasiwn Busnesau Bach (drwy’r sgwrs), bod Llywodraeth Cymru, yn y tymor hwy, wedi gosod targed o gyflawni 30% o weithwyr yn gweithio gartref. Sut mae’r targed hwnnw’n effeithio ar gapasiti TrC a chynllunio’r galw? Atebodd LP drwy’r sgwrs y bydd yr amserlen yn aros yn hyblyg i addasu i ofynion newydd (h.y. llai o oriau brig a mwy o deithio hamdden). Mae TrC yn cyflwyno gwasanaethau rheilffyrdd ychwanegol yn raddol wrth iddyn nhw ddychwelyd at amserlen lawnach gyda mwy i’w hychwanegu dros y misoedd nesaf, ond bydd yr amserlen yn parhau i fod yn ‘wahanol’ i’r hyn a oedd cyn Covid am gryn amser. Mae TrC yn parhau i adolygu’r amserlen ar sail data teithwyr, canllawiau Llywodraeth Cymru a grwpiau busnes (drwy drafodaethau bord gron gyda’r CBI a’r Ffederasiwn Busnesau Bach) ac arweinwyr busnes er mwyn deall eu gofynion wrth i ni lywio ein ffordd allan (gobeithio) o’r pandemig.
Eitem rhif 2.3
Cofnodion: Diweddariad ar y Stoc Cerbydau – Andrew Gainsbury (AG), Rheolwr Cerbydau, Trafnidiaeth Cymru
Rhoddodd AG ddiweddariad ar y cerbydau sy’n cael eu hychwanegu at y rhwydwaith a’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud hyd yma o ran adnewyddu a darparu trenau newydd.
Rhannodd LM ddolen yn y sgwrs at daith ryngweithiol o amgylch rhai o’r trenau newydd ar y rheilffyrdd o Gaerdydd i Cheltenham.
Gofynnodd Toby Rackliff (TR) Arweinydd Strategol, Polisi Rheilffyrdd yng Ngweithrediaeth Rheilffyrdd Gorllewin Canolbarth Lloegr (drwy’r sgwrs) ar ba lwybrau y bwriedir rhedeg y dosbarth 197 sydd â dosbarth 1af? Atebodd AG y bydd trenau 197 gyda dosbarth 1af yn cael eu ddefnyddio ar wasanaethau rhwng Manceinion ac Abertawe.
Gofynnodd David Jones (DJ), Rheolwr Datblygu’r Rheilffyrdd yn Rhanbarth Dinas Lerpwl (drwy’r sgwrs) pa bryd yn 2021 mae’r trenau D230 yn debygol o fod ar waith? Atebodd AG fod mynediad dosbarth 230 i wasanaeth yn ddibynnol iawn ar y cynnydd gyda hyfforddiant gyrwyr, ond yn realistig mae’n debygol o fod yn wanwyn neu hyd yn oed ddechrau haf 2021, er y byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i wella ar hyn.
Eitem rhif 3
Cofnodion: Ailadeiladu Hyder Teithwyr mewn Trafnidiaeth Gyhoeddus ar ôl COVID-19 – Lewis Brencher (LB), Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Trafnidiaeth Cymru
Cyflwynodd LB y gweithdai cyfathrebu. Rhoddodd LM gyfarwyddiadau drwy sgwrs am ymuno ag ystafelloedd ymneilltuo.
Nododd TR nad oedd yn gallu mynd i’r ystafelloedd ymneilltuo. Roedd DJ hefyd yn cael trafferth ymuno.
Nododd TR fwy o anhawster gyda Teams ac awgrymodd y gallai fod oherwydd ei fod yn ddefnyddio Teams ar iPad. Awgrymodd Sheila Dee, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol yng Nghyngor Wrecsam (SD) bod ei Apple Mac hefyd yn gofyn am ganiatâd ychwanegol i gael mynediad at y dolenni a ddarparwyd ar gyfer yr ystafell ymneilltuo.
Rhannwyd y cyfranogwyr yn bum grŵp i roi adborth ar ddau gwestiwn:
Cwestiwn 1: Beth yw’r prif rwystrau a allai atal pobl rhag dychwelyd i drafnidiaeth gyhoeddus ar ôl COVID?
Crynodeb o’r ymatebion isod:
• Arferion wedi eu sefydlu oherwydd COVID, llawer o bobl yn awr yn dewis defnyddio eu car
• Pa mor hawdd yw defnyddio, trefnu ar-lein a gwirwyr capasiti
• Nodi ffyrdd newydd y bydd pobl yn defnyddio’r rheilffyrdd (mwy ar gyfer hamdden)
• Ofn a diffyg hyder wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd COVID, a diffyg hyder wrth ddefnyddio tocynnau electronig
• Defnyddio masg wyneb yn atal pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
• Poeni am brofiadau blaenorol a dibynadwyedd yn y dyfodol, colli cysylltiadau ac aros o gwmpas
• Cost tocynnau
Rhoddodd LM adborth i Grŵp 1 ac eglurodd fod ofn amgylcheddau newydd a bod pobl wedi sefydlu arferion trafnidiaeth newydd, gan ofni COVID. Roedd y car yn cael ei weld fel swigen ac fel amgylchedd diogel. Aeth LM ymlaen i esbonio bod y grŵp hefyd wedi trafod effaith gwisgo masg wyneb ac a fyddai hynny’n atal pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â sut roedd swyddfeydd yn newid, arferion gweithio cyfunol a sut roedd hyn yn newid arferion gwaith. Yn olaf, ychwanegodd LM ar ran grŵp 1 eu bod yn gweld ymddygiad trafnidiaeth yn newid yn yr ystyr nad oedd y cymudo mor gryf, ond bod mwy yn teithio ar gyfer hamdden. Roedd teimlad, ychwanegodd LM, fod pobl ar ddechrau eu gyrfaoedd yn awyddus i fynd yn ôl i amgylchedd swyddfa.
Rhoddodd DJ adborth ar ran Grŵp 4 ac eglurodd nad yw pobl eisiau bod yn agos at ei gilydd, fel yr ydych yn aml ar drên ac mewn gorsaf brysur. Nid yw llai o wasanaethau trên o gymorth gyda hyn, ac mae mwy o bobl yn aros yn y gorsafoedd. Ychwanegodd DJ ei bod yn anodd cael pobl yn ôl allan o’u ceir, ac ar drenau a oedd yn ychwanegu at y ddau fater cyntaf a godwyd.
Esboniodd David Beer (DB) Wales Senior Manager, Transport Focus, ar ran Grŵp 2, fod Transport Focus yn gwneud gwaith ymchwil yn wythnosol a’u bod wedi dysgu, er bod pobl yn poeni nad oedd pobl yn gwisgo masgiau wyneb a’u bod yn poeni am COVID, mai pobl nad oedd yn teithio oedd y rhain. Roedd y bobl a oedd yn teithio yn teimlo’n ddiogel, felly roedd bwlch o ran canfyddiad yr oedd angen rhoi sylw iddo. Ychwanegodd DB fod angen mynd i’r afael â’r negeseuon ynghylch teithio oherwydd ar ddechrau cyfyngiadau symud y DU, dywedodd Llywodraeth y DU wrth bobl am beidio â theithio, ac mae’r neges hon wedi aros ac eto mae’r sefyllfa’n llawer mwy dryslyd erbyn hyn. Mae pobl yn croesi’r ffin yn rheolaidd, os yw’r orsaf leol yng Nghymru ond eu bod yn byw yn Lloegr. Efallai nad yw’r bobl hyn yn siŵr a allant deithio felly mae angen llawer mwy o eglurder ynghylch yr hyn y gall pobl ei wneud a’r hyn na allant ei wneud, ac mae angen i’r cyfan fod ar yr un wefan. Nododd DB fod gwefan TrC ar hyn o bryd yn cyfeirio defnyddwyr at y wefan reilffyrdd genedlaethol i weld gwybodaeth am Loegr nad oedd yn deg yn ôl DB. Eglurodd DB hefyd efallai nad oes gan bobl yr offer i gael gafael ar adnoddau ar-lein. Efallai fod yr un bobl yn teithio o un orsaf heb staff i’r llall, heb beiriannau tocynnau ac efallai eu bod yn meddwl tybed beth mae’n rhaid iddyn nhw ei wneud a beth yw’r rheolau. Eglurodd DB fod gan bobl gwestiynau ac ofnau am yr hyn sy’n digwydd os nad oes giard os ydynt yn mynd oddi ar y trên ac a ydynt yn mynd i gael eu herio gan swyddogion diogelu refeniw a bod angen mynd i’r afael â’r ofnau hynny. Dywedodd DB, lle nad yw’r giardiaid yn cerdded i lawr y trenau, nad oes gan rai o’r gorsafoedd hyn wasanaethau. Nododd DB bod hynny’n drueni mai dim ond yng Nghymru y mae hynny’n digwydd a gofynnodd am iddo gael ei newid.
Eglurodd LP fod grŵp 5 wedi sôn yn bennaf am gost, arferion a hyder. O ran cost, nododd LP fod llawer o gwsmeriaid yn cael eu gadael yn anhapus oherwydd na chafodd pobl ad-daliadau ar docynnau tymor a oedd yn golygu eu bod yn llai hyderus ynghylch prynu tocynnau yn y dyfodol. O ran arferion, mae llawer o bobl wedi dewis dechrau symud mewn car a bydd yn her eu symud yn ôl ac mae angen inni feddwl sut yr ydym am wneud hynny gyda phrisiau tocynnau hyrwyddo. O ran hyder, mae angen inni feddwl am y bobl hynny na fyddant erioed wedi ddefnyddio’r rheilffyrdd, pobl ifanc sy’n cael eu cludo o gwmpas gan eu mam a’u tad. Ychwanegodd LP fod angen i ni feddwl am sut rydyn ni’n eu dwyn yn ôl yn hyderus.
Nododd ML ar ran grŵp 3, ei fod yn cael trafferth dod yn ôl at y brif sgwrs. Eglurodd i’r grŵp siarad am hyder defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus ac annog pobl i fynd yn ôl i’r system drafnidiaeth gyhoeddus drwy roi sicrwydd eu bod yn ddiogel. Ychwanegodd ML eu bod hefyd wedi siarad am natur newidiol y gwaith, gyda mwy a mwy o bobl yn gweithio gartref ac yn debygol o barhau i wneud hynny ar ôl i’r pandemig ddod i ben. Awgrymodd ML y gallai’r hen fodel tocyn tymor fod yn anodd os nad yw pobl yn teithio bum diwrnod yr wythnos ac os oes llai o deithio i’r gwaith, sut mae hyrwyddo teithio hamdden? Daeth ML i ben drwy awgrymu y gallai fod yn werth edrych ar system fwy integredig gyda thalebau tai bwyta a theithio at ddibenion hamdden.
Cwestiwn 2: Beth allwn ni i gyd ei wneud fel partneriaid i annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol?
Crynodeb o’r ymatebion isod:
• Gwella cyfathrebu a darparu gwybodaeth
• Dewisiadau tocynnau hyblyg, a thocynnau symlach (gan gynnwys arlwyo)
• Cyfleoedd trafnidiaeth aml-foddol, amserlennu sy’n cysylltu dulliau â’i gilydd
• Hyrwyddo’r manteision, negeseuon cadarnhaol ynghylch cyflymder a’r amgylchedd
• Mwy o bresenoldeb yn y gymuned ac ar gyfryngau cymdeithasol
• Cynnyrch hyrwyddo i annog pobl i ddefnyddio rheilffyrdd
• Helpu pobl i deimlo’n ddiogel
• Ei gwneud yn haws i bobl beidio â defnyddio eu ceir
Rhoddodd DJ adborth eto ar ran Grŵp 4, gan ddweud bod cyfathrebu yn bwynt allweddol. Roedd angen i bobl fod yn ymwybodol pa bryd fydd trenau’n gweithredu a chael sicrwydd y bydd y trên yno pan fyddant yn mynd amdani. Mae angen iddynt hefyd deimlo’n ddiogel ar y trên a bod cadw pellter cymdeithasol yn cael ei gynnal. Roedd DJ hefyd yn galw am well integreiddio rhwng dulliau trafnidiaeth, gan gynnwys gwell llwybrau cerdded a beicio a gwneud yn siŵr bod pobl yn gyrru i’r orsaf yn hytrach na gyrru eu taith yn ei chyfanrwydd. Nododd DJ fod y mater olaf yn ymwneud â’r steil bresennol o docynnau nad yw’n addas ar gyfer y dyfodol ac mae angen i ni ystyried gwahanol fathau o docynnau.
Rhoddodd TR adborth ar ran Grŵp 5. Nododd bwysigrwydd cael cynnyrch tocynnau sy’n addas ar gyfer y realiti newydd, ac sy’n cynnig hyblygrwydd. Eglurodd TR ei bod yn bwysig atgyfnerthu’r negeseuon cadarnhaol “mae’r rheilffordd yn ddiogel i deithio”, mae’r siawns o gael eich heintio ar y rheilffordd yn fach. Mae’n bwysig defnyddio’r data hwnnw mewn ffordd gadarnhaol, gan ei gymharu â gweithgareddau eraill, yn ogystal â dangos sut rydyn ni’n lleihau risg, eglurodd TR. Aeth TR ymlaen i ddweud y bydd y realiti newydd yn golygu annog teithio dewisol, lle bydd mwy o bobl yn dewis rheilffyrdd ar gyfer gweithgareddau nag o’r blaen. Aeth TR ymlaen i ddweud bod ei grŵp wedi siarad am ostyngiadau sylweddol i ddechrau er mwyn cael pobl yn ôl ar y rheilffyrdd. Siaradodd Grŵp 5 hefyd am gardiau rheilffordd ac a oedd pethau y gellid eu gwneud yno i ail-annog pobl a oedd yn defnyddio cardiau rheilffordd yn flaenorol i ddefnyddio’r system rheilffyrdd.
Rhoddodd ML adborth ar ran Grŵp 3, gan nodi bod y Ffederasiwn Busnesau Bach yn cynnal trafodaethau â Trafnidiaeth Cymru ynghylch gostyngiadau i aelodau ac y byddai’n hoffi ailedrych ar hyn. Nododd fod gan gyflogwyr mwy gytundebau gyda Trafnidiaeth Cymru. Y broblem fawr i ML oedd gwneud y broses o ymgysylltu â TrC yn symlach rhwng TrC, Rheilffyrdd TrC a Keolis Amey. Eglurodd ML na ellid cytuno yn ystod trafodaethau gyda TrC (a’r cwmni) pwy fyddai’n noddi eitem yr oedd y Ffederasiwn Busnesau Bach wedi’i chyflwyno i’w hystyried. Awgrymodd ML fod angen iddo fod yn symlach yn y dyfodol, gyda llinellau cyfathrebu clir i helpu mudiadau i gefnogi naratif trafnidiaeth gynaliadwy. Awgrymodd ML ymgynghoriad gwell hefyd ar bethau fel stopio mewn gorsafoedd, fel llwybrau cyflymach rhwng Caergybi a Chaerdydd. Byddai ML yn hoffi cael gwell ymgynghoriad yma gydag aelodau a gyda’r cyhoedd.
Rhoddodd LM adborth ar ran Grŵp 1, a soniodd am gyfathrebu i leddfu’r ofn o COVID a chyfleoedd ar gyfer tocynnau hyblyg, cyfleoedd ar gyfer teithio aml-foddol, beiciau ar drenau a rhoi cyfleoedd i’r cyhoedd fynd yn ôl ar drenau a gwneud yn siŵr bod y system archebu a’r system docynnau yn ddigon dealladwy.
Cyflwynodd DB adborth ar ran Grŵp 2. Eglurodd mai’r farn gan reilffyrdd cymunedol oedd eu bod yn aros i groesawu pawb yn ôl ond roeddent yn aros am arweiniad clir yn ogystal â chwestiynau gan gymunedau lleol ynghylch sut y maent am deithio a beth yw eu hofnau a’u pryderon. Rhoddodd DB enghraifft o’r hyn y gallai anghenion pobl fod: “Rydw i eisiau bod yn annibynnol, rydw i eisiau fy rhyddid yn ôl, rydw i eisiau ymweld â llefydd eto,” a holodd sut y dylid mynd i’r afael â’r rhain. Aeth ymlaen i esbonio bod angen strategaeth glir dan arweiniad y Llywodraeth a TrC yn ogystal â gweithredwyr, ond y cwestiwn o hyd yw a fydd y gweithrediadau’n barod i gefnogi pobl yn eu dymuniad i deithio eto. O ran negeseuon, mae angen iddyn nhw fod yn glir. Gofynnodd DB “Beth sy’n dod nesaf?” A fydd gofyn i bobl aros yn lleol neu a fyddant yn gallu teithio’n ehangach? Aeth DB ymlaen i ddweud bod angen gweithio ar y negeseuon nawr ar draws ffiniau er mwyn i ni allu cefnogi pobl. Awgrymodd DB os yw pobl yn teimlo na allant deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, yna nid yw trafnidiaeth gyhoeddus yn gwneud ei gwaith yn iawn. Nododd DB y dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod o ddrws i ddrws ac yno i gefnogi anghenion teithio pobl, dylai fod offer ar gael i’w gefnogi megis gwybodaeth a thocynnau a theithio llesol. Trafododd DB ostyngiadau gyda’r gyrchfan derfynol mewn golwg gan egluro os yw pobl yn ymweld â safle twristiaid neu’n bwyta allan bod gostyngiadau mewn golwg.
Rhoddodd LB grynodeb o’r sylwadau gan y rhai a oedd yn bresennol a rhoddodd ei gyfeiriad e-bost cyswllt i’r aelodau: lewis.brencher@tfw.wales
Cam gweithredu: Tîm TrC i ystyried problemau cydnawsedd dyfeisiau ar gyfer sesiynau yn y dyfodol.
Bydd adborth gan randdeiliaid yn cael ei ddefnyddio i helpu i siapio cynlluniau. Bydd adroddiad adborth ar wahân sy’n casglu’r mewnbwn o’r gweithdy penodol hwn a’r sesiynau sy’n cael eu hailadrodd gyda grwpiau rhanddeiliaid eraill ar gael yn gynnar yn 2021 ac yn cael ei rannu mewn fforymau yn y dyfodol.
Eitem rhif 4
Cofnodion: Llywodraeth Cymru – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru – Kate Clark, (KC) Cymorth Llywodraeth Cymru yn Trafnidiaeth Cymru
Rhoddodd Kate Clark drosolwg o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cymru, ac ystyriwyd sut roedd yn cyffwrdd ag amrywiaeth o flaenoriaethau polisi eraill Llywodraeth Cymru. Yn enwedig o ran hygyrchedd a chydraddoldeb, materion amgylcheddol, economaidd a diwylliannol.
Gofynnodd DB i drefnu sesiwn gyda phanel ymgynghorol TrC i drafod y strategaeth ddrafft.
Ni chodwyd unrhyw gwestiynau pellach am yr eitem hon.
Eitem rhif 5
Cofnodion: Eitemau’r Fforwm yn y Dyfodol / Unrhyw Fater Arall
Diolchodd NS i’r cyfranogwyr a gofynnodd os oedd unrhyw eitemau yr hoffai’r aelodau eu gweld ar fforymau yn y dyfodol, y dylent gysylltu’n uniongyrchol â Nichole neu Louis cyn cau’r cyfarfod.
Ni chynigiwyd Unrhyw Fater Arall nac Eitemau’r Fforwm yn y Dyfodol.
Gofynnodd HB (drwy’r sgwrs) i’r cofnodion gael eu hychwanegu yn y dyfodol fel eitem reolaidd ar yr agenda yn unol â Chylch Gorchwyl y cyfarfod, sy’n datgan y byddai cofnodion a chamau gweithredu manwl yn cael eu dosbarthu i aelodau’r fforwm ar ôl pob fforwm ac yn cael eu hadolygu yng nghyfarfod nesaf y fforwm. Awgrymodd HB hefyd fod TrC yn rhannu dyddiadau cyfarfodydd fforwm y flwyddyn nesaf cyn gynted â phosib er mwyn osgoi gwrthdaro â fforymau a chyfarfodydd partneriaeth eraill.
Rhoddodd NS ei chyfeiriad e-bost yn y swyddogaeth sgwrsio: Nichole.sarra@tfw.wales.
Bwriedir cynnal y fforwm nesaf ym mis Chwefror/Mawrth 2021.
Cam gweithredu: TrC i roi adolygu cofnodion cyfarfodydd fel eitem sefydlog ar yr agenda. Dyddiadau arfaethedig ar gyfer y rownd nesaf o fforymau i’w cyflwyno i’r aelodau.