Ydych chi'n adnabod eich Class 150 o'ch Class 769?

Dysgu gartref gyda TrC

Rydym wedi datblygu pecyn addysg ar gyfer ein teithwyr ifanc sy'n dysgu o gartref. Mae'r pecyn yn cynnwys taflenni gwaith ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd, gyda thasgau ar gyfer mathemateg, Saesneg a Chymraeg. Mae pob taflen waith yn cynnwys nodiadau canllaw, sesiynau cyflwyno a gweithgaredd ar ffurf gwers sy'n mynd i'r afael â phynciau sydd yn y cwricwlwm.

Adnoddau dysgu

 

Trymps Trên

Argraffwch eich cardiau Trymps Trên eich hun a chwarae yn eich gartref gyda'ch teulu neu heriwch eich ffrindiau dros sgwrs fideo, i weld pwy sy'n gwybod fwyaf am drenau TrC.

 

Dyluniwch lliw trên eich hun

Ydych chi erioed wedi meddwl sut brofiad fyddai llunio'ch cynllun lliw eich hun ar gyfer trên - nawr gallwch chi. Lliwiwch yr amlinelliadau hyn o'n trenau a byddwch mor fentrus ag y dymunwch!

 

Dyluniwch rhwydwaith trên eich hun

Ble hoffech chi fynd ar drên - cynlluniwch eich rhwydwaith reilffyrdd eich hun.

 

Cwis

Profwch eich gwybodaeth am bopeth rheilffyrdd gyda'n cwis.

 

Adeiladu eich Metro

Mae TrC yn adeiladu Metro De Cymru. Am adeiladu eich metro eich hun?

Ymwelwch a Fy Metro Perffaith 

 

Neu lawrlwythwch yr holl weithgareddau mewn un pecyn.