
Gwybodaeth am y gystadleuaeth
Ymunwch â ni ar Y Daith Drên Odidog.
Rydyn ni wedi datblygu pecyn sy’n cynnwys yr adnoddau a’r ysbrydoliaeth y bydd eu hangen arnoch chi i ddod â disgyblion ar y Daith Drên Odidog.
Mae’r pecyn wedi’i gynllunio gyda Chyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cymreig mewn golwg ac mae’n cynnwys cynlluniau gwersi, adnoddau a gweithgareddau ar gyfer pum pwnc:
• Cynaliadwyedd a thrafnidiaeth,
• Hen drenau a threnau newydd,
• Straeon o Gymru a’r gororau,
• Lleoedd i’w darganfod ar y trên
• ac yn olaf, i’r Orsaf Greu lle maen nhw’n penderfynu ar enw eu trên ac yn llunio eu cais ar gyfer y gystadleuaeth.
Bydd eich disgyblion yn dysgu am drafnidiaeth a’r effaith gadarnhaol y gallwn ni ei chael ar yr amgylchedd drwy newid rhai o’n harferion teithio. Ein nod yw helpu eich dosbarth i ddatblygu ymdeimlad cryf o ddinasyddiaeth fyd-eang, eu hysbrydoli i ddefnyddio mathau cynaliadwy o drafnidiaeth, a meddwl am enwau gwych i drenau newydd TrC.
Gellir defnyddio’r pecyn adnoddau rhyngweithiol ar y cyd â’r cynlluniau a amlinellir isod neu fel adnodd annibynnol i ddysgwyr lunio eu llwybr dysgu eu hunain.