Rydyn ni eisiau i’n cwsmeriaid allu teithio’n gyfforddus gyda ni drwy’r flwyddyn, beth bynnag fo’r tywydd.
Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu bod y tymheredd yn codi ledled Cymru, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Er bod llawer ohonom yn mwynhau’r tywydd poeth a heulog, mae’n well gan rai ohonoch dywydd oerach. Mae ein trenau wedi’u dylunio i gadw'r tymheredd o fewn ystod sy’n gyfforddus i bawb.
Dyma gwestiynau rydyn ni’n eu cael yn aml am y system awyru ar ein trenau.
Oes gennych chi system awyru ar eich holl drenau?
Mae gennym system awyru ar oddeutu 60 y cant o’n trenau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Trenau Class 197 - sy’n gweithredu ar y rhan fwyaf o brif lwybrau’r rheilffordd
- Trenau Class 158 - sy’n gweithredu ar y rhan fwyaf o brif lwybrau’r rheilffordd
- Trenau Class 231 - sy’n gweithredu ar reilffordd Rhymni a rheilffordd Bro Morgannwg
- Trenau Class 230 - sy’n gweithredu ar reilffordd y Gororau (Wrecsam-Bidston)
- Cerbydau Mark 4 - sy’n gweithredu ar ein gwasanaethau rhwng Caerdydd a Chaergybi a Chaerdydd a Manceinion
- Trenau Class 170 - sy’n gweithredu ar lwybrau sy’n cynnwys Maesteg-Cheltenham a Chaerdydd-Glynebwy
Does gan rai o’n trenau hŷn ddim system awyru gan eu bod wedi cael eu hadeiladu ar adeg pan nad oedd hynny’n gyffredin yn y DU.
Rydyn ni’n parhau i gyflwyno trenau newydd a gwell a fydd yn cynnwys system awyru ar bob un o’n llwybrau.
Pam nad oedd y system awyru yn gweithio ar fy nhrên?
Mae ein timau cynnal a chadw trenau yn gweithio’n galed i sicrhau bod y system awyru yn gweithio fel y dylai ar ein trenau, ond mae namau’n digwydd.
Weithiau, ni fydd y system awyru yn gweithio’n iawn os yw’r drysau rhwng cerbydau wedi’u rhwystro ac yn methu cau. Mae hyn yn achosi i’r system orweithio drwy geisio oeri’r aer cynhesach y tu allan i’r salŵn. Rydyn ni’n gofyn i gwsmeriaid geisio osgoi rhwystro’r drysau os oes modd, er ein bod yn sylweddoli y gall hyn fod yn anodd os yw trên yn brysur iawn.
Os ydych chi ar drên a dydy’r system awyru ddim yn gweithio’n iawn, gallwch roi gwybod i ni ar X yn @tfwrail. Rhowch wybod i ni beth yw rhif eich cerbyd (gall goruchwyliwr roi gwybod i chi os nad ydych chi’n siŵr). Gall hyn ein helpu i drwsio llawer o namau gyda’r system awyru ar y diwrnod rydyn ni’n cael gwybod amdanyn nhw.
Alla i agor ffenestr?
Gallwch agor y ffenestri ar lawer o’n trenau. Peidiwch â gwneud hyn os yw’r system awyru ymlaen oherwydd gallai hyn ei atal rhag gweithio’n iawn.
Ar rhai o’n trenau, gallwch roi gwybod i’r goruchwyliwr os hoffech agor y ffenestr a gall wneud hyn gydag allwedd.
Pam mae’r gwres ymlaen yn yr haf?
Dydy’r gwres ddim ymlaen ar y trenau yn ystod yr haf.
Os byddwch yn teimlo aer cynnes yn dod allan o’r fentiau, efallai nad yw’r system awyru’n gweithio’n iawn. Rhowch wybod i’r goruchwyliwr neu roi gwybod i ni ar X yn @tfwrail er mwyn i ni allu ymchwilio iddo. Dywedwch wrthym beth yw rhif eich cerbyd (gall y goruchwyliwr roi gwybod i chi os nad ydych chi’n siŵr).
Beth fydd yn digwydd pan fydda i’n rhoi gwybod am nam gyda’r system awyru?
Cyn gynted ag y byddwch yn rhoi gwybod i ni am nam, byddwn yn gofyn i’n technegwyr trenau symudol ymchwilio iddo. Mae llawer o ddiffygion yn cael eu trwsio ar y diwrnod rydyn ni’n cael gwybod amdanyn nhw.
Os oes angen rhagor o waith, byddwn yn anfon y trên i un o’n depos i ddatrys y broblem.