Ydw i’n cael mynd â fy nghi ar drên?
Mae teithwyr yn cael mynd â chi gyda nhw (dau ar y mwyaf i bob teithiwr), am ddim, yn amodol ar yr amodau isod, ar yr amod nad ydyn nhw'n peryglu nac yn achosi anghyfleustra i deithwyr na staff.
- Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser oni bai eu bod mewn basged.
- Rhaid cludo cŵn heb dennyn mewn basged gaeedig, cawell neu gludwr anifeiliaid anwes. Rhaid iddo fod yn galed ac yn gaeedig (i’w atal rhag dianc) a bod yr anifail yn gallu sefyll a gorwedd yn gysurus.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Oes rhaid i fi dalu i fynd â fy nghi ar drên?
- Nac oes, mae cŵn yn cael teithio am ddim.
- Rhaid i gŵn beidio â mynd â sedd rhywun arall.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Alla i ddod â fy nghi gyda fi ar gyfer fy antur Dosbarth Cyntaf?
Cewch tad, byddwn yn falch o'ch croesawu chi a'ch ci ar ein gwasanaethau Dosbarth Cyntaf. Mae'r un rheolau'n berthnasol ag ar gyfer ein gwasanaethau Safonol.
- Uchafswm o ddau gi fesul teithiwr.
- Bydd angen iddynt ymddwyn yn dda a pheidio ag achosi perygl neu anghyfleustra i'n cwsmeriaid neu gydweithwyr.
- Bydd angen eu cadw ar dennyn bob amser oni bai eu bod mewn basged ddiogel, gyfforddus neu gludwr arall.
- Rhowch y fasged o flaen eich sedd a gwnewch yn siŵr nad yw'n rhwystro'r eil
- Os nad yw eich ci yn teithio mewn basged, bydd croeso iddo orwedd o flaen eich sedd i fwynhau ei daith.
Byddwch yn falch o glywed nad oes tâl ychwanegol i ddod â'ch ci gyda chi ar gyfer eich antur Dosbarth Cyntaf.
Alla’ i fynd â’m ci ar y gwasanaeth bysiau?
- Fel arfer ni chaniateir cŵn ar y gwasanaethau bysiau sy'n rhedeg yn lle’r trenau, ac eithrio cŵn tywys.