Mae angen i mi gysylltu â chwmnïau trenau eraill yn ystod fy nhaith. Alla i gael cymorth?

Trwy archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw, gyda ni neu gwmni trenau eraill, gallwn ein helpu i gysylltu â threnau eraill yn ein gorsafoedd, os yw’r trên yn un o’n rhai ni neu beidio. Mae hyn yn cynnwys pan fydd trenau yn newid platfformau neu pan fydd cyhoeddiadau’n cael eu gwneud ar fyr-rybudd. Os oes gennych chi nam ar y golwg, gallwn eich tywys i ddal eich trên cyswllt nesaf. Rydym bob amser yn darparu teithio gyda chymorth pan fo modd i ni wneud hynny, ond gall gymryd amser i’w drefnu. Felly, rydym yn argymell eich bod yn archebu teithio gyda chymorth ar gyfer gorsafoedd heb eu staffio lle byddwch chi angen cymorth i newid trenau.

Os ydych chi’n archebu teithio gyda chymorth ymlaen llaw, gallwn drefnu i werthwr tocynnau neu staff yr orsaf eich helpu ar ac oddi ar y trên yn ystod yr oriau pan fo trenau i fod i aros ynddyn nhw. Wrth archebu teithio gyda chymorth, gallwn drefnu’r canlynol

  • Sicrhau bod ramp ar gael i’ch helpu chi ar ac oddi ar y trên
  • Eich tywys drwy’r orsaf ac ar neu oddi ar y trên
  • Dod o hyd i’ch sedd ar y trên
  • Cadw sedd neu ofod cadair olwyn, os yw hyn yn bosibl, ar ein gwasanaethau neu ar wasanaethau cwmnïau rheilffyrdd eraill
  • Eich helpu i wneud cysylltiadau â chwmnïau trenau eraill mewn un archeb unigol
  • Cymorth gyda bagiau

 

Archebu teithio gyda chymorth a chynllunio’ch taith

Mae sawl ffordd y gallwch chi archebu teithio gyda chymorth.

  • Ffoniwch ein tîm Teithio gyda Chymorth: 03330 050 501
  • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf 18001 03330 050 501 (ar gyfer pobl gydag anawsterau clywed a lleferydd)
  • Ewch i’n gwefan
  • Oriau agor: 8am i 8pm bob diwrnod (heblaw am Ddydd Nadolig)

Neu cysylltwch â’n tîm Teithio gyda Chymorth cyn i chi deithio:-

 

A fydd staff gorsafoedd yn fy helpu i dacsi neu i ddull trafnidiaeth arall?

Mewn gorsafoedd gyda staff cymorth, gallan nhw helpu teithwyr i dacsis neu i’r man casglu dynodedig. Os nad ydych chi wedi archebu teithio gyda chymorth, gofynnwch i aelod o staff y platfform. Byddan nhw’n hapus i helpu, ond efallai y bydd oedi. Yng ngorsaf Caergybi, gallwn eich helpu i ddesg docynnau y fferi.