Gallwch brynu tocyn

Os na allwch brynu tocyn yn un o’r ffyrdd a nodir uchod, gallwch brynu’ch tocyn gan werthwr tocynnau ar y trên neu yn yr orsaf lle daw eich taith i ben. Ni fydd unrhyw gosb a gallwch ddal i gael unrhyw ostyngiad sy’n berthnasol i chi. Mae cyfres o ostyngiadau amrywiol ar gael i deithwyr hŷn neu anabl.

 

Pa deithio â gostyngiadau sydd ar gael i berson anabl a chydymaith? 

Mae cerdyn rheilffordd Person Anabl yn arbed o leiaf 1/3 i chi a chydymaith oddi ar bris tocyn trên ledled Prydain. Am ragor o wybodaeth a sut i wneud cais, gallwch ddefnyddio’r manylion cyswllt amrywiol isod.

  • Ffôn: 03333 211 202 (Customer Relations Team)
  • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf: 18001 03333 211 202
  • Ffurflen ar-lein: cliciwch yma
  • 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)

Ein Pennaeth Profiad Cwsmeriaid sydd â chyfrifoldeb dydd i ddydd am ein Polisi Diogelu Pobl Anabl. Gallwch gysylltu â nhw drwy ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid.

Neu trwy gysylltu â’r Cerdyn Rheilffordd Person Anabl 

 

Does gen i ddim Cerdyn Rheilffordd Person Anabl, ga’ i ostyngiad yr un fath?

Mae gan rai teithwyr anabl hawl awtomatig i ostyngiadau felly gallai fod yn werth i chi wirio hyn cyn prynu cerdyn rheilffordd.

Mae’r gostyngiadau fel a ganlyn:

  • 34% oddi ar docynnau sengl Safonol neu Ddosbarth Cyntaf unrhyw bryd
  • 50% oddi ar docynnau dwy ffordd dydd Safonol neu Ddosbarth Cyntaf unrhyw bryd
  • 34% oddi ar docynnau dwy ffordd Safonol neu Ddosbarth Cyntaf unrhyw bryd

Mae gennych chi hawl i’r gostyngiadau hyn os ydych chi’n:

  • ddefnyddiwr cadair olwyn sy’n aros yn eich cadair olwyn yn ystod y daith (mae’r gostyngiad hefyd yn gymwys i un person sy’n teithio gyda chi); neu
  • os oes gennych chi nam ar y golwg (dall neu rannol ddall) ac yn teithio gydag un person arall. Mae’n rhaid i chi fod yn teithio gyda rhywun arall i fod â’r hawl i’r gostyngiad hwn. Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o’ch nam ar y golwg i gael y gostyngiad.
  • Mae gan blant sy’n defnyddio cadair olwyn yr hawl i gael 75% oddi ar y tocynnau hyn.

Noder:- mewn rhai achosion gallai fod yn rhatach prynu tocyn amser tawel pris llawn neu docyn ymlaen llaw; ac ni allwch brynu’r tocynnau hyn ar-lein nac o beiriannau tocynnau, dim ond o swyddfeydd tocynnau neu gan werthwyr tocynnau.

 

Alla i gael tocyn trên rhatatch os ydw i’n 60 oed neu’n hŷn? (Cerdyn Rheilffordd Person  Hŷn)

Gallwch. 60 oed neu hŷn? Mae’r rhain yn arbed 1/3 i chi ar y rhan fwyaf o docynnau trên. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

 

Pa gardiau rheilffordd eraill sydd ar gael?

Mae gwahanol fathau o gardiau rheilffordd ar gael sy’n addas ar gyfer cwsmeriaid amrywiol. Ewch i trc.cymru neu cysylltwch â’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid:-

  • Ffôn: 03333 211 202 (Customer Relations Team)
  • Gwasanaeth Testun Cenhedlaeth Nesaf: 18001 03333 211 202
  • Ffurflen ar-lein: cliciwch yma
  • 24/7 bob dydd (ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan)

 

Mae gen i nam ar y golwg. Alla i gael tocyn trên rhatach?

Os ydych chi wedi’ch cofrestru fel rhywun sydd â nam ar y golwg, gallwch brynu tocyn tymor i oedolion sy’n gadael i gydymaith deithio gyda chi am ddim. (Gallwch gael cydymaith gwahanol bob tro y byddwch chi’n teithio). Gallwch brynu’r tocynnau tymor hyn mewn swyddfeydd tocynnau.