Rydym am sicrhau y gall teithwyr wneud cymaint o’u teithiau â phosibl ar drên.

Fodd bynnag, byddwn yn trefnu trafnidiaeth hygyrch amgen, fel tacsi, i chi a chydymaith:

  • os na allwch deithio i neu o orsaf nad yw’n hygyrch i chi;
  • os nad yw’r drafnidiaeth yn lle trên yn hygyrch i chi; neu
  • os oes tarfu ar fyr rybudd i wasanaethau ac felly nad yw’r gwasanaethau yn hygyrch i chi.

Byddwn yn darparu’r drafnidiaeth hon i chi am yr un pris â’ch tocyn trên. Byddwn yn trafod pa fath o dacsi sydd ei angen arnoch cyn ei archebu. Bydd y drafnidiaeth amgen yn mynd â chi i neu o’r orsaf hygyrch fwyaf cyfleus i chi neu i orsaf gyda staff lle gall rhywun eich helpu.

Ni allwn warantu trafnidiaeth hygyrch amgen ar gyfer sgwteri symudedd gan na allan nhw gael eu cludo’n ddiogel mewn tacsi yn aml. Fodd bynnag, os ydych chi eisoes yn teithio gyda ni ar sgwter symudedd pan fo’r tarfu yn digwydd, byddwn yn gofalu eich bod mor gyfforddus â phosibl wrth i chi aros am y trên nesaf.