1. Fe wnes i brynu tocyn trên ac mae fy nhrên wedi'i ganslo neu ei oedi ac ni allaf wneud y siwrnai bellach – ydw i’n gallu cael fy arian yn ôl?

O dan Amodau Teithio National Rail, os ydych wedi prynu tocyn a bod eich trên yn cael ei ganslo neu ei oedi, a'ch bod yn dewis peidio â theithio, gallwch ddychwelyd y tocyn sydd heb ei ddefnyddio i'r gwerthwr gwreiddiol ac fe gewch chi ad-daliad llawn heb orfod talu ffi weinyddol. Mae hyn yn berthnasol i bob tocyn gan gynnwys y rhai na ellir eu had-dalu fel arfer.

 

2. Mae gen i docyn tymor ac mae fy nhrên wedi'i ganslo neu ei oedi ac ni allaf wneud y siwrnai bellach - ydw i’n gallu cael fy arian yn ôl?

Os ydych chi'n defnyddio Tocyn Tymor, mae'r swm o arian y gallwch ei hawlio yn ôl os yw’r trên wedi’i oedi neu ei ganslo yn amrywio rhwng cwmnïau trên, a bydd wedi'i nodi yn Siarter Teithwyr y CWMNI TRENAU hwnnw. Edrychwch ar Siarter Teithwyr y CWMNI TRENAU roeddech yn teithio gyda nhw.

Mae dolenni i holl Siarteri’r CWMNÏAU TRENAU ar gael yma.

 

3. Newidiodd yr amserlen ar ôl i fi brynu fy nhocyn, a ga’i ddewis peidio â theithio a chael ad-daliad?

Os caiff yr amserlen ei newid ar ôl i chi brynu tocyn a'ch bod yn penderfynu peidio â theithio, gallwch hawlio ad-daliad llawn (heb ffi weinyddol) fel y nodir yn Amodau Teithio National Rail.