Rydym wastad yn annog ein staff sy'n gweithio gyda chwsmeriaid i geisio datrys problemau ar unwaith lle bo modd.

Beth fydd yn digwydd os na allant?

Os na allant wneud hynny, byddant yn rhoi'r manylion cyswllt i chi ar gyfer y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid fel y gellir symud eich cwyn ymlaen drwy ddefnyddio’n gweithdrefn gwyno.

Mae ein staff Cysylltiadau Cwsmeriaid mewnol ymroddedig yn cael eu cyflogi'n benodol i dderbyn, ymchwilio ac ymateb i sylwadau, cwynion ac awgrymiadau. Trosglwyddir yr holl adborth i'r rheolwyr perthnasol ei ymchwilio gan fod hyn yn sicrhau bod yr adran berthnasol yn deall barn ein teithwyr ac yn gallu cymryd unrhyw gamau priodol i wella'r gwasanaeth rydym yn ei gynnig.