Os ydych chi'n teithio, naill ai ar wasanaeth sydd wedi'i ohirio neu ar yr un canlynol oherwydd bod eich trên wedi'i ganslo, efallai y bydd gennych hawl i gael iawndal.

Dylid hawlio hyn gan y CWMNI TRENAU roeddech i fod i deithio arno. 

Efallai fod gennych hawl i rywfaint o'ch arian [neu'r cyfan] yn ôl yn dibynnu ar y CWMNI TRENAU a ddefnyddiwyd gennych a’i Siarter Teithwyr. Mae'r trothwyon oedi a'r broses hawlio wedi'u nodi yn y Siarter Teithwyr berthnasol - efallai y cewch gyfran [neu'r cyfan] o bris y tocyn yn ôl yn dibynnu ar hyd yr oedi.

 

Mae gen i docyn tymor ac mae fy nhrên yn aml yn hwyr - a ga’i unrhyw arian yn ôl?

YMae gennych hawl i arian yn ôl yn dibynnu ar y CWMNI TRENAU rydych chi'n ei ddefnyddio a’i Siarter Teithwyr. Mae'r trothwyon oedi a'r broses hawlio wedi'u nodi yn y Siarter Teithwyr perthnasol.

 

Gohiriwyd fy nhrên a chollais y cysylltiad olaf i ben y daith - nid oedd staff ar gael i helpu felly fe wnes i dalu am dacsi i gyrraedd yno - a ga’i fy arian yn ôl?

Lle bo’n bosib, bydd CWMNI TRENAU yn trefnu tacsi neu fws ar gyfer y cysylltiad olaf a gollwyd. Os nad yw hyn yn bosibl am ba bynnag reswm a'ch bod yn gorfod talu costau rhesymol am deithio i ben eich taith, efallai y gallwch hawlio treuliau ychwanegol rhesymol yn ôl i'ch cyrchfan derfynol.

Bydd y CWMNI TRENAU yn ystyried yr hawliadau hyn fesul achos. Ysgrifennwch yn uniongyrchol at y CWMNI TRENAU lle wnaethoch chi brofi’r oedi er mwyn hawlio costau rhesymol yn ôl am y daith ymlaen. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’ch derbynneb.