Defnyddio’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn wirfoddol

Submitted by Content Publisher on

Defnyddio’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn wirfoddol

Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn darparu fframwaith i gynhyrchu ystadegau tryloyw, gwerthfawr o ansawdd da. Mae’r datganiad canlynol yn amlinellu i ba raddau y mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer monitro a dadansoddi’r polisi 20mya.

 

Mae TrC yn eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru ac mae’n rhoi cyngor arbenigol ar faterion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth. Rydym hefyd yn cynhyrchu ystadegau i fonitro effaith polisïau Llywodraeth Cymru a chynnydd yn erbyn targedau trafnidiaeth. Mae hyn yn cynnwys monitro Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru a monitro effeithiau’r terfynau cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig.

Fel cynhyrchwyr ystadegau swyddogol yn y rhestr (Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017), rydym yn cael ein cymell gan yr awydd i gynhyrchu ystadegau o ansawdd da i lywio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau pwysig. Rydym yn deall pwysigrwydd dangos ein dibynadwyedd a’n hannibyniaeth rhag dylanwad gwleidyddol wrth gynhyrchu ystadegau ac ymgymryd â’n swyddogaeth fonitro. Drwy alluogi’r atebolrwydd hwn, rydym yn gwasanaethu’r cyhoedd.

Fel sefydliad, rydym yn dal i ddatblygu ein capasiti adrodd ystadegol. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gallu cyhoeddi ystadegau swyddogol. Er hynny, rydym wedi ymrwymo o hyd i ddarparu ystadegau ac adroddiadau sy’n rhoi hyder i’r defnyddwyr ac sy’n gwasanaethu’r cyhoedd. Mae’r Awdurdod Ystadegau’r DU yn cyhoeddi’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (y Cod) sydd wedi darparu’r fframwaith ar gyfer y gwaith datblygu hwn. 

Mae’r camau rydym yn eu cymryd i ddatblygu ein capasiti adrodd wedi cael eu cyhoeddi yma. Mae hyn yn cynnwys y camau a gymerwyd mewn ymateb i argymhellion y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau i TrC ym mis Tachwedd 2023.

Lle bo’n bosibl, mae’r data monitro 20mya wedi cael ei gynhyrchu a’i adrodd yn unol â cholofnau'r Cod o ran Dibynadwyedd, Ansawdd a Gwerth. Mae’r datganiad canlynol yn egluro sut mae’r Cod wedi cael ei gymhwyso i’r cyhoeddiad hwn, ac achosion lle nad yw wedi bod yn bosibl.

Rydym yn bwriadu rhyddhau ystadegau monitro 20mya yn y dyfodol fel ystadegau swyddogol.

 

Dibynadwyedd: Hyder yn y bobl a’r sefydliadau sy’n cynhyrchu ystadegau a data

Mae TrC yn rhoi cyngor technegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer hysbysu, datblygu a monitro polisïau. Fel sefydliad, nid yw TrC yn arfer unrhyw swyddogaethau statudol ac mae’n annibynnol ar osod polisïau.

Mae’r Uned Dadansoddi Trafnidiaeth Geo-ofodol a Strategol yn TrC yn gweithredu fel adnodd allweddol i ddarparu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer sawl cynllun ac ymyriad trafnidiaeth. Mae gan yr uned dîm o ddadansoddwyr o gefndiroedd gwahanol, gan gynnwys ystadegwyr ac arbenigwyr geo-ofodol, gyda phrofiad o gasglu a monitro data. Y tîm hwn sy’n gyfrifol am fonitro’r effaith y mae’r terfynau cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn ei chael ar gyflymderau traffig. 

Rydym yn deall nad ydym wedi gallu cydymffurfio â’r egwyddor rhyddhau datganiadau'n drefnus yn y Cod. Mae amseriad disgwyliedig datganiadau monitro 20mya wedi’i gofnodi yn adran 4.1 yn y ddogfen ‘Terfyn cyflymder 20mya safonol ar ffyrdd cyfyngedig: Dogfen fframwaith monitro’ (Medi 2023). Penderfynwyd ar yr union ddyddiad ac amser rhyddhau drwy ymgynghori â thimau polisi Llywodraeth Cymru i gyd-fynd â chyhoeddiadau eraill ar yr un pwnc. Felly, nid oeddem yn gallu cyhoeddi’r broses o ryddhau’r ystadegau ymlaen llaw tan y cyfnod a argymhellir, sef pedair wythnos. Ar ben hynny, nid oedd yr amser rhyddhau yn cydymffurfio â’r cyfnod rhyddhau safonol o 09:30. Er ein bod wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i bennu’r amserlen ryddhau, mae cynnwys yr adroddiad a’r data yn aros yr un fath.

Nid ydym wedi cyhoeddi rhestr o unigolion sydd â mynediad cyn rhyddhau. Oherwydd newidiadau i ddyddiad rhyddhau’r cyhoeddiadau, roedd gan nifer fechan o unigolion fynediad am amser hirach na’r pum diwrnod gwaith a glustnodwyd yn wreiddiol. 

Yn y dyfodol, byddwn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r egwyddorion Rhyddhau Datganiadau'n Drefnus. Mae hyn yn cynnwys rhyddhau dyddiadau cyhoeddi ymlaen llaw o leiaf bedair wythnos ynghynt ac yn dilyn yr amser rhyddhau safonol o 09:30. Ar ben hynny, mae TrC yn gweithio i ddatblygu protocol penodol ar gyfer rhyddhau ymlaen llaw, sy’n seiliedig ar brotocol arferion rhyddhau Llywodraeth Cymru. Drwy ddilyn hyn, yn y dyfodol byddwn yn cydymffurfio â chanllawiau’r Cod ar fynediad cyn rhyddhau, gan gyfyngu’r ffenestr fynediad i bum diwrnod gwaith. Bydd manylion unigolion sydd â mynediad cyn-rhyddhau ar gael i’r cyhoedd.

Bydd adroddiad interim ar gyflwyno’r polisi 20mya yn genedlaethol, yn adeiladu ar y data rhagarweiniol a ryddhawyd yma, yn cael ei gyhoeddi yn ystod haf 2024. Bydd yr adroddiad interim hwn yn cael ei gynnwys yng nghalendr rhyddhau Ystadegau Cymru, a bydd dyddiad penodol yn cael ei gyhoeddi o leiaf bedair wythnos ymlaen llaw, gan ddilyn y Cod.

Mae awdurdodau lleol wedi darparu data i TrC ar gyfer monitro cyflymderau traffig yn ardaloedd cam 1. Mae data sy’n ymwneud â’r terfynau cyflymder 20mya cenedlaethol wedi cael ei gasglu ar gyfer TrC gan Nationwide Data Collection a Severnside Transportation Data Collection, sy’n arbenigwyr mewn technolegau casglu data awtomataidd. Yn y naill achos a’r llall, rydym wedi gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod lleoliadau safleoedd monitro cyflymder yn cael eu dewis yn briodol.

Rydym yn gweithio i ddatblygu a chyhoeddi ein polisi ein hunain ar lywodraethu data, i fod yn unol â’r Cod. Wrth i’r polisi hwn gael ei ddatblygu, rydym wedi dilyn polisi Llywodraeth Cymru i atal data adnabyddadwy neu sensitif rhag cael ei ryddhau. Mae’r data sy’n cael ei gasglu a’i adrodd arno yn cael ei gyfuno ac yn ddienw.

Roedd y dulliau a ddefnyddiwyd i ddadansoddi data yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol yn adroddiad monitro cam 1 a’r ystadegau cyflwyno cenedlaethol rhagarweiniol wedi cael eu penderfynu gan y Prif Swyddog Ystadegau yn TrC. Mae manylion ar y dangosyddion perfformiad allweddol yn cael eu hegluro’n glir yn Adran 2 o'r ‘Fframwaith monitro terfyn cyflymder 20mya safonol ar ffyrdd cyfyngedig’ (Medi 2023), ac mae’r fethodoleg ar gyfer dadansoddi yn unol â chyfrifiadau sy’n safonol i’r diwydiant.

Rydym yn gweithio i ddatblygu ein polisi ein hunain ar ddiwygiadau a chywiriadau. Pan fydd y polisi hwn ar gael, bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan TrC. Os bydd angen unrhyw ddiwygiadau neu gywiriadau i’r ystadegau cyn y cyfnod hwn, byddwn yn dilyn polisi Llywodraeth Cymru ar ddiwygiadau a chywiriadau.

 

Ansawdd: Data a dulliau sy’n cynhyrchu ystadegau sicr

Mae data wedi cael ei gasglu mewn sawl safle monitro ar draws lleoliadau gwahanol ar gyfer cam 1 ac ar gyfer yr ystadegau cyflwyno cenedlaethol rhagarweiniol. Cafodd y lleoliadau hyn eu dewis ar y cyd â dadansoddwyr TrC, Awdurdodau Lleol ac arbenigwyr monitro cyflymder. Mae lleoliadau’r safleoedd monitro wedi cael eu cyhoeddi.

Yn y ddogfen fframwaith monitro, fe nodwyd gennym fod risg y gallai cyflymder teithio amrywio, ar wahân i gyflwyno’r cyflymder 20mya diofyn newydd. Rydym wedi cynnwys safleoedd rheoli ar ffyrdd tebyg a oedd yn dal yn 30mya mewn lleoliadau ger ardaloedd monitro cam 1. O gymharu cyflymderau cyn ac ar ôl gweithredu mewn ardaloedd sydd yn cynnwys ac yn eithrio newidiadau i’r cyfyngiadau cyflymder, gallwn ddod i gasgliad yn fwy hyderus a yw’r newidiadau mewn cyflymder traffig yn ganlyniad i newidiadau yn y terfyn cyflymder ai peidio.

Tynnwyd sylw at feysydd ychwanegol o ansicrwydd, fel effaith cofnodi data ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn ar gyflymder teithio.

Er mwyn sicrhau ansawdd y data a gasglwyd, fe wnaethom siarad ag Awdurdodau Lleol ac arbenigwyr monitro cyflymder i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd o’r safleoedd monitro. Drwy wneud hynny, roedd hyn yn sicrhau bod modd gweithredu ar unrhyw fethiannau mewn offer monitro a datrys unrhyw broblem lle bynnag y bo modd. Tynnwyd sylw at unrhyw wallau data pellach gan yr arbenigwyr casglu data, ac maent wedi cael gwared ar y gwallau hynny. Drwy gasglu data ar draws sawl safle monitro mewn ardal, rydym wedi cyfyngu ar effaith methiant offer ar yr ystadegau cyfanredol.

Mae’r dangosyddion monitro i asesu cyflymder y traffig wedi’u sefydlu ymlaen llaw, ac maent yn cael eu hegluro yn Adran 2.2 o’r adroddiad ‘Terfyn cyflymder 20mya safonol ar ffyrdd cyfyngedig: Dogfen fframwaith monitro’, a ryddhawyd ym mis Medi 2023 (Dangosyddion Perfformiad Allweddol 1.1, 1.2 a 1.3). Mae hyn yn cynnwys manylion ynghylch sut mae’r dangosyddion perfformiad allweddol yn berthnasol i’r nodau polisi.

Mae dulliau syml yn cael eu defnyddio i fonitro’r dangosyddion perfformiad allweddol, ac maent yn cael eu hesbonio mewn termau lleyg. Mae enghreifftiau lle mae safleoedd wedi cael eu heithrio o gyfansymiau neu gyfartaleddau yn cael eu labelu a’u hegluro’n glir. Mae pwyntiau data diffygiol, fel cyfaint cerbydau sydd â chyflymder sero, wedi cael eu tynnu.

Ar ben hynny, rydym wedi dewis cyhoeddi data cyflwyno data cyflwyno cenedlaethol rhagarweiniol. Mae’r ystadegau’n seiliedig ar gyfnod ôl-weithredu o bythefnos, a hynny o safleoedd ledled Cymru. Bydd ail gyfnod monitro am bythefnos yn cael ei gwblhau cyn cyhoeddi’r adroddiad monitro interim ar gyflwyno’r cynllun 20mya cenedlaethol (erbyn haf 2024). Bydd hyn yn cwmpasu pedair wythnos o ddata cyn-weithredu a phedair wythnos o ddata ôl-weithredu. 

O’r herwydd, rhagarweiniol yw’r data cyflymder ar gyfer y cyflwyno cenedlaethol yn unig ac mae’n bosibl y bydd yn newid. Nid yw’r data chwaith o reidrwydd yn cynrychioli’r cyflwyno cenedlaethol ledled Cymru. Mae’r cafeatau hyn wedi cael eu hegluro’n glir ochr yn ochr â’r data.

 

Gwerth: Ystadegau sy’n cefnogi anghenion cymdeithas am wybodaeth

Cafodd y ddeddfwriaeth ar gyfer Terfyn cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig ei chyflwyno ym mis Medi 2023. Dyma'r cynllun cenedlaethol cyntaf o'i fath yn y DU, ac mae’n agwedd bwysig o’r adroddiad Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru. Ar ben hynny, mae’n newid polisi y mae llawer o unigolion wedi’i brofi’n uniongyrchol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ag Awdurdodau Lleol yn ystod y cyfnod gweithredu, a bydd yr effeithiau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd. I rai, mae’r newid i’r terfyn cyflymder o 20mya yn ddadleuol, ac mae’r cyhoedd ar hyd a lled Cymru wedi dangos diddordeb mawr.

Mae’r ystadegau a’r adroddiadau monitro sydd wedi cael eu cyhoeddi yn rhoi cipolwg hanfodol i swyddogion etholedig a’r cyhoedd sy’n dangos diddordeb. Gyda 50 miliwn a mwy o gyflymderau gan gerbydau wedi’u cofnodi ar draws Cymru yn ystod cam 1 ac yn y gwaith monitro rhagarweiniol ar gyfer y polisi 20mya cenedlaethol, mae’r ystadegau hyn yn rhoi barn awdurdodol ar sut mae’r gyrwyr yn ymateb i’r newidiadau i’r terfynau cyflymder. 

Bydd yr adroddiadau a’r ystadegau’n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i ddarparu sylfaen dystiolaeth a all fod yn sail i adolygiadau polisi. Hefyd, mae’r dadansoddiad a’r tablau data ychwanegol yn rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd ac yn gwella eu gallu i ddal swyddogion etholedig i gyfrif.

Fel arfer, bydd data cyflymder sy’n ymwneud â’r terfyn 20mya cenedlaethol wedi cael eu cofnodi mewn tri chyfnod ar wahân sy’n para pythefnos. Ystyrir bod pythefnos yn ddigon i gasglu data i gynhyrchu ystadegau cadarn ar gyfer yr amser penodol. Defnyddir hyn i roi darlun rhagarweiniol o’r terfyn 20mya cenedlaethol yn yr ardaloedd hyn. Mae data’r Cyfrifiadau Traffig Awtomatig yn cael ei gasglu gan ddefnyddwyr yn oddefol, heb unrhyw effaith ar y teithiau sy’n cael eu cofnodi.

Rydym wedi gwella ein gallu i adrodd ers mis Medi 2023 ac rydym yn gallu cyhoeddi tablau data ochr yn ochr â’r adroddiad monitro technegol. Mae’r data hyn yn fanylach na’r dadansoddiad cronnus yn yr adroddiad monitro, er mwyn i ddefnyddwyr allu cwblhau eu dadansoddiad eu hunain.

Mae crynodeb dadansoddol byr wedi cael ei gyhoeddi i gefnogi defnyddwyr data, er mwyn egluro ystyr yr ystadegau a sut mae’r ystadegau hynny’n cael eu defnyddio i fonitro’r polisi 20mya.

Mae’r adroddiad monitro, tablau data a’r dogfennau crynhoi yn cael eu cyhoeddi mewn fformat hygyrch, yn cydymffurfio â thechnolegau cynorthwyol ac ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Rydym ni wedi adolygu’r ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a wnaed i TrC ar ôl rhoi’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar waith ar ffyrdd cyfyngedig. Rydym ni hefyd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddeall y ceisiadau maen nhw wedi’u derbyn. Byddwn yn ymgysylltu â defnyddwyr er mwyn deall yn well sut mae gwella’r ystadegau a’r dadansoddiadau ar gyfer datganiadau yn y dyfodol.