Telerau ac amodau
Gwobr:
Taleb teithio ar reilffyrdd TrC gwerth £50
Telerau ac amodau
Trefnydd a chymryd rhan
- Mae'r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan Trafnidiaeth Cymru, 3 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH.
- Er mwyn cymryd rhan yn y raffl wobrau, rhaid i gyfranogwyr gyflwyno eu manylion cyswllt drwy: trc.cymru/ennill
- Bydd yr enillydd yn derbyn taleb teithio ar reilffyrdd TrC gwerth £50 o’u gorsaf darddiad ddewisol ar rwydwaith rheilffordd Trafnidiaeth Cymru. Mae tocynnau trên yn ddilys ar gyfer gwasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru yn unig ac yn amodol ar argaeledd. Bydd gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r tocyn ar gyfer teithio yn cael ei darparu i'r enillydd gyda'i docyn.
- Gellir prynu sawl tocyn mewn un trafodiad, hyd at werth o £50, o fewn 3 mis i gyhoeddi’r daleb. Ni ellir eu trosglwyddo ac nid oes dewis arian parod ar gael yn ei lle.
- Mae’r gystadleuaeth hon ar agor i aelodau’r cyhoedd sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth drwy ddigwyddiad Trafnidiaeth Cymru yn BIPCAF ar 24 Tachwedd 25. Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu'n hŷn.
- Gallwch gymryd rhan am ddim, ni fydd yn golygu unrhyw ffioedd ychwanegol i'r cyfranogwyr ac nid yw'n dibynnu ar brynu nwyddau o'r blaen.
- Mae Trafnidiaeth Cymru yn cadw'r hawl i eithrio unrhyw bleidleisiau y mae'n credu eu bod yn dwyllodrus neu'n seiliedig ar gamymddwyn.
- Nid yw Trafnidiaeth Cymru na'u hasiantau yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am broblemau technegol nac unrhyw broblemau y gallai cystadleuwyr eu hwynebu wrth gyflwyno cais.
- Mae'r raffl ar agor i chi gymryd rhan ynddi rhwng 11:00 24 Tachwedd 25 i 15:00 24 Tachwedd 25.
- Dim ond un cais a ganiateir i bob person. Ni fydd ceisiadau dyblyg neu geisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried.
Rancio a gwobrau
- Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap.
- Bydd un enillydd yn cael ei ddewis ar neu cyn 27 Tachwedd 25.
- Byddwn yn cysylltu â'r enillydd drwy'r cyfeiriad e-bost a roddwyd wrth roi cynnig ar y gystadleuaeth. Os nad yw'r enillydd yn derbyn y wobr o fewn 2 wythnos i gael yr hysbysiad e-bost yn dweud ei fod wedi ennill y wobr, bydd pob hawl i'r wobr yn cael ei cholli.
- Bydd yr enillydd yn cael y wobr o fewn 30 diwrnod i ni gysylltu.
- Drwy gymryd rhan, rydych chi'n cytuno bod gan Trafnidiaeth Cymru hawl i gysylltu â chi am y wobr rydych chi wedi'i hennill drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
- Does dim modd trosglwyddo'r wobr a does dim modd ei gwerthu, ei newid na'i chyfnewid am arian.
- Mae Trafnidiaeth Cymru yn cadw'r hawl i newid, terfynu neu atal y wobr hon dros dro os yw, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, yn credu bod angen gwneud hynny, ond ni fydd Trafnidiaeth Cymru yn arfer yr hawl hon yn afresymol.
- Bydd penderfyniad Trafnidiaeth Cymru yn derfynol, ac ni fydd unrhyw ohebu ynghylch hyn.
- Gofynnir i'r enillwyr a ydynt yn fodlon i Reilffyrdd Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi eu bod yn enillydd cystadleuaeth ar ei sianeli cymdeithasol, ond nid yw hyn yn orfodol.
Ymwadiad a hawlfraint
- Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am y canlynol:
a) darparu gwasanaethau trafnidiaeth y tu hwnt i gwmpas hawliau'r wobr.
b) unrhyw broblemau technegol neu golledion mewn perthynas â chymryd rhan yn y gystadleuaeth, yn ogystal â hawliadau ac iawndal sy'n ymwneud ag unrhyw daith a gymerir wrth ddefnyddio tocynnau trên, ac sy'n deillio o hynny.
c) anallu i deithio o fewn y cyfnod y mae'r tocynnau'n ddilys ar ei gyfer.
Datganiad preifatrwydd
Data wedi'u prosesu
- Drwy eich cais, rydych yn darparu'r data personol canlynol:
1. Enw cyntaf yr ymgeisydd.
2. Dyddiad geni
3. Cod post
4. Cyfeiriad e-bost yr ymgeisydd.
5. Gorsaf gartref. - Trafnidiaeth Cymru yw'r endid sy'n gyfrifol am gasglu a phrosesu eich data personol. Yn ei weithgareddau prosesu, mae Trafnidiaeth Cymru a'r holl endidau sy'n prosesu data personol yn cydymffurfio â gofynion cyfraith preifatrwydd. Mae hyn yn golygu, ymysg pethau eraill, bod Trafnidiaeth Cymru yn gwneud y canlynol:
- Nodi'n glir at ba ddibenion y mae'n prosesu data personol;
- Ymdrechu i gyfyngu ar gasglu data personol i'r rheini sydd eu hangen at ddibenion cyfreithlon yn unig;
- Yn gofyn am eich caniatâd penodol chi yn y lle cyntaf i brosesu eich data personol mewn achosion lle mae angen eich caniatâd;
Pwrpas prosesu
- Drwy gymryd rhan, rydych yn cydnabod eich bod yn ymwybodol o'r broses o gasglu eich data personol a'ch bod yn rhoi eich caniatâd i brosesu a throsglwyddo data o'r fath mewn perthynas â'r gystadleuaeth hon.
- Drwy gymryd rhan, tybir eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn a'r polisi preifatrwydd.
Cysylltwch â: Trafnidiaeth Cymru, 3 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH