Defnyddiwch eich bws fflecsi lleol i fynd o A i B

Mae fflecsi yn wasanaeth bws ar alw newydd a chyffrous rydyn ni’n ei ddarparu mewn partneriaeth â’ch cwmnïau bysiau a’ch cyngor lleol.

Mae’n ffordd wahanol, fwy hyblyg o gwblhau teithiau byrrach.  P’un ai ydych chi’n mynd i'r gwaith, i’r ysgol, i'r siopau neu efallai i apwyntiad yn yr ysbyty.

 

Sut mae’n gweithio?

Yn draddodiadol, roedd dal y bws yn golygu disgwyl mewn safle bws i’n bws gyrraedd ar yr amser yn unol â’r amserlen.

Mae fflecsi yn wahanol. Mae’n caniatáu i chi archebu eich taith ar y bws ymlaen llaw ar ffôn neu ar ap, yn debyg i wasanaeth tacsi.  Yna, byddwn yn rhoi gwybod i chi ble i ddal y bws a faint o'r gloch y bydd yn cyrraedd.

Mae eich bws fflecsi yn gweithredu mewn ‘maes gwasanaeth’ yn hytrach na theithio rhwng safleoedd bysiau sefydlog.

Bydd y bws yn eich codi mor agos â phosib at lle fyddwch chi pan fyddwch yn archebu. Bydd yn newid llwybr unwaith y byddwch ar y bws er mwyn eich gollwng mor agos â phosib at eich cyrchfan. Bydd y bws yn teithio ble bynnag mae’n ddiogel ac yn ymarferol iddo fynd.

Dewch o hyd i’ch gwasanaeth fflecsi lleol yma

Rhagor o wybodaeth am wasanaethau bysiau fflecsi

 

Defnyddiwch y gwasanaeth i gysylltu â’r rhwydwaith rheilffyrdd neu fysiau

Os yw hynny’n swnio fel ffordd wych o deithio o amgylch eich cymuned leol, gall eich gwasanaeth fflecsi fod yn ffordd hwylus i chi ddechrau (neu orffen) teithiau pellach hefyd.

Gallwch ddefnyddio fflecsi i gysylltu â gwasanaethau bysiau ar amserlen yn eich ardal, y rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol neu’r llwybrau cerdded a beicio hardd o amgylch Cymru.

Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.

 

 

Apple App Store Button

Google Play Store Button