Bws i ben y daith

Rydyn ni wedi tynnu sylw isod at wasanaethau fflecsi dau leoliad i’ch helpu i ddeall sut mae’n gweithio a sut gallwch ei ddefnyddio i wneud eich siwrnai’n haws.

 

Sir Benfro

Defnyddiwch fflecsi i grwydro ar hyd arfordir trawiadol a byd enwog Sir Benfro. Mwynhewch brydferthwch penrhyn Dale a chymunedau bywiog Abergwaun, Tyddewi, Hwlffordd, Aberllydan ac Aberdaugleddau.

Mae tocyn dwyffordd i oedolion yn dechrau o £4 hyd at £6 am siwrneiau hirach. Mae tocyn dwyffordd i blant yn ddim ond £1.50. Bydd y rheini sydd â chardiau teithio rhatach yn cael teithio am ddim.

 

Defnyddiwch drên neu fws i orffen eich taith

Mae cysylltiadau rheilffordd ar gael yn Porthladd AbergwaunAbergwaun ac WdigHwlffordd, Clarbeston RoadJohnston ac Aberdaugleddau i leoliadau ar hyd a lled Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Gallwch gysylltu gyda llwybrau bysiau gan gynnwys y 313 (Clarbeston Road - Hwlffordd), 430 (Aberteifi - Crymych drwy Arberth) a TrawsCymru T5 (Aberystwyth - Hwlffordd) a’r T11 (Abergwaun - Hwlffordd).

Gogledd Orllewin Sir Benfro

Oriau’r gwasanaeth
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn


07:30 - 18:30
07:30 - 18:30
07:30 - 18:30
07:30 - 18:30
07:30 - 18:30
08:30 - 18:30

Penrhyn Dale

Oriau’r gwasanaeth
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn


07:30 - 18:30
07:30 - 18:30
07:30 - 18:30
07:30 - 18:30
07:30 - 18:30
08:30 - 18:30

Rhagor o wybodaeth am fflecsi yn Sir Benfro

 

Dyffryn Conwy

Defnyddiwch fflecsi i grwydro cyrion Eryri a mwynhau golygfeydd godidog, neu efallai daith weiren wib llawn adrenalin. Mwynhewch bentrefi hyfryd a hudolus fel Betws-y-Coed, Penmachno a Llanrwst.

Mae tocyn dwyffordd i oedolion yn dechrau o £1 hyd at £3 am siwrneiau hirach. Mae plant yn cael teithio am gyn lleied â 50c hyd at £1.50 am siwrneiau hirach. Bydd y rheini sydd â chardiau teithio rhatach yn cael teithio am ddim.

 

Defnyddiwch drên neu fws i orffen eich taith

Mae cysylltiadau trenau ar gael ym Metws-y-Coed a Llanwrst i leoliadau ar hyd a lled Cymru a’r Deyrnas Unedig. 

Gallwch chi gysylltu gyda llwybrau bysiau sy’n cynnwys y 6B (Llanrwst - Bangor), 19 (Llandudno - Cwm Penmachno drwy Betws-y-Coed) S1 (Caernarfon - Betws-y-Coed) a’r T10 (Bangor - Corwen drwy Betws-y-Coed).

Map of Dyffryn Conwy

Oriau’r gwasanaeth
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn


06:30 - 19:00
06:30 - 19:00
06:30 - 19:00
06:30 - 19:00
06:30 - 19:00
06:30 - 19:00

Map of Uwchaled

Oriau’r gwasanaeth
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn


07:00 - 19:00
07:00 - 19:00
07:00 - 19:00
07:00 - 19:00
07:00 - 19:00
07:00 - 19:00

Rhagor o wybodaeth am fflecsi yn Nyffryn Conwy

 

Archebwch eich bws rŵan

Llwythwch yr ap i archebu eich bws o siop Apple yma a Google Play yma.

Gallwch hefyd archebu bws drwy ffonio 03002 340 300 7am-7pm Llun-Sadwrn, neu 9am-6pm ar ddydd Sul.

 

Chwilio am ragor o wybodaeth?

Mae ein gwefan fflecsi yn cynnwys gwybodaeth am y gwasanaethau sy’n gweithredu yn eich ardal chi ac yn ateb cwestiynau cyffredin am fflecsi.