Gwasanaethau
Gogledd Orllewin Sir Benfro
Mae gwasanaeth gogledd-orllewin Sir Benfro yn eich helpu i ddod yn nes at Barc Cenedlaethol godidog Arfordir Penfro o drefi prysur Abergwaun a Hwlffordd. Mae Tyddewi, dinas leiaf y DU, hefyd yn rhan o’r parth hwn, a chyda’i chadeirlan ysblennydd, mae’n werth ymweld â’r ddinas.
Pethau i’w gwneud
- Crwydrwch o amgylch ddinas leiaf y DU, Tyddewi, ac ymweld â’r eglwys gadeiriol fendigedig a Llys yr Esgob hanesyddol.
- Treuliwch ddiwrnod ar y traeth. Mae digon o draethau hyfryd yn y rhan hon o Sir Benfro, gan gynnwys Traeth Niwgwl, Traeth Solfach a Thraeth Porth Mawr.
- Cerddwch ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro a mwynhau’r bywyd gwyllt a’r harddwch syfrdanol.
- Ewch i ymweld â’r melinau gwlân hynaf sy’n dal i gael eu defnyddio yn Solva a Thregwynt.
Cysylltiadau teithio pellach
- Cysylltiadau rheilffordd yn Hwlffordd ac Abergwaun ar gyfer Abertawe, Caerdydd a thu hwnt.
- Cysylltu yn Hwlffordd neu Aberllydan â pharth fflecsi Aberdaugleddau; cysylltu yn Abergwaun, Milton neu Hwlffordd â pharth fflecsi Canol Sir Benfro; a chysylltu yn Abergwaun â pharth fflecsi Poppit.
- Cysylltiadau yn Hwlffordd ar gyfer bysiau i Aberdaugleddau, Doc Penfro a Dinbych-y-pysgod.
- Gwasanaeth T11 TrawsCymru rhwng Hwlffordd ac Abergwaun, drwy Dyddewi.
- Gwasanaeth T5 TrawsCymru rhwng Hwlffordd ac Aberystwyth, drwy Abergwaun.
Prisiau
Dyma’r prisiau ar gyfer teithiau (dan bum milltir / dros bum milltir):
- Tocyn unffordd i oedolyn - £2.50 / £3.50
- Tocyn unffordd i blentyn - £1.00 / £2.00
- Tocyn dwyffordd i oedolyn - £4.00 / £6.00
- Tocyn dwyffordd i blentyn - £1.50 / £3.00
- Tocyn 12 taith i oedolyn - £18 / £25.20
- Tocyn 12 taith i blentyn - £7.20 / £14.40
Mae tocynnau wythnosol hefyd ar gael i’w prynu am y prisiau canlynol:
- fflecsi wythnosol i Oedolyn = £25
- fflecsi wythnosol i Blentyn = £15
- fflecsi misol i Oedolyn = £80
- fflecsi misol i Blentyn = £50
Mae tocynnau Rover Gorllewin Cymru ar gael am y prisiau canlynol:
- Tocyn diwrnod i oedolyn = £8.50
- Tocyn diwrnod i blentyn = £4.50
- Tocyn wythnosol i oedolyn = £34
- Tocyn wythnosol i blentyn = £16
Mae’r rheini sydd â cherdyn bws rhatach yn teithio am ddim gyda fflecsi.
Archebu ymlaen llaw
30 diwrnod.
Cŵn ar y bws
Ie. Yn ôl disgresiwn y gyrrwr ar yr amod eu bod yn lân, yn ymddwyn yn dda ac yn cael eu cadw ar dennyn.
Map
Oriau gwasanaeth
-
Dydd Llun
07:30 - 18:30
-
Dydd Mawrth
07:30 - 18:30
-
Dydd Mercher
07:30 - 18:30
-
Dydd Iau
07:30 - 18:30
-
Dydd Gwener
07:30 - 18:30
-
Dydd Sadwrn
07:30 - 18:30
Parth Aberdaugleddau
Mae’r parth hwn yn cysylltu trefi Hwlffordd ac Aberdaugleddau â phentrefi ym Mhenrhyn Dale, a’r rhai ar lannau’r Cleddau rhwng Burton a Hook. Mae digon o arfordir godidog a harddwch gwledig i’w harchwilio yn y rhan hon o Sir Benfro, ac mae’n werth mynd ar daith i weld palod gwych Ynys Skomer os ydych chi’n ymweld â’r ardal.
Pethau i’w gwneud
- Daliwch y bws fflecsi i Martin’s Haven, a chroesi ar y fferi i Ynys Skomer i ymweld â’r palod.
- Treuliwch ddiwrnod gyda’r teulu ar y traeth. Mae digon o draethau gwych i ddewis ohonynt ym Mhenrhyn Dale, gan gynnwys Traeth Marloes a Sandy Haven.
- Manteisiwch ar y cyfle i edrych ar Gaer drawiadol Staciau’r Heligog, ychydig oddi ar arfordir Aberdaugleddau. Adeiladwyd y gaer yn ystod y 19eg ganrif i amddiffyn yr ardal rhag ymosodiadau.
- Ewch ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro tuag at y goleudy ym Mhentir St Anne.
Cysylltiadau teithio pellach
- Cysylltu â pharth fflecsi’r gogledd-orllewin yn Hwlffordd.
- Cysylltiadau rheilffordd o Hwlffordd ac Aberdaugleddau i Abertawe, Caerdydd a thu hwnt.
- Cysylltiadau yn Neyland a Hwlffordd gyda bysiau i Ddoc Penfro, Penfro a Dinbych-y-pysgod.
- Gwasanaeth T11 TrawsCymru rhwng Hwlffordd ac Abergwaun, drwy Dyddewi.
- Gwasanaeth T5 TrawsCymru rhwng Hwlffordd ac Aberystwyth, drwy Abergwaun.
Prisiau
Dyma’r prisiau ar gyfer teithiau (dan bum milltir / dros bum milltir):
- Tocyn unffordd i oedolyn - £2.50 / £3.50
- Tocyn unffordd i blentyn - £1.00 / £2.00
- Tocyn dwyffordd i oedolyn - £4.00 / £6.00
- Tocyn dwyffordd i blentyn - £1.50 / £3.00
- Tocyn 12 taith i oedolyn - £18 / £25.20
- Tocyn 12 taith i blentyn - £7.20 / £14.40
Mae tocynnau wythnosol hefyd ar gael i’w prynu am y prisiau canlynol:
- fflecsi wythnosol i Oedolyn = £25
- fflecsi wythnosol i Blentyn = £15
- fflecsi misol i Oedolyn = £80
- fflecsi misol i Blentyn = £50
Mae tocynnau Rover Gorllewin Cymru ar gael am y prisiau canlynol:
- Tocyn diwrnod i oedolyn = £8.50
- Tocyn diwrnod i blentyn = £4.50
- Tocyn wythnosol i oedolyn = £34
- Tocyn wythnosol i blentyn = £16
Mae’r rheini sydd â cherdyn bws rhatach yn teithio am ddim gyda fflecsi.
Archebu ymlaen llaw
30 diwrnod.
Cŵn ar y bws
Ie. Yn ôl disgresiwn y gyrrwr ar yr amod eu bod yn lân, yn ymddwyn yn dda ac yn cael eu cadw ar dennyn.
Map
Oriau gwasanaeth
-
Dydd Llun
07:30 - 18:30
-
Dydd Mawrth
07:30 - 18:30
-
Dydd Mercher
07:30 - 18:30
-
Dydd Iau
07:30 - 18:30
-
Dydd Gwener
07:30 - 18:30
-
Dydd Sadwrn
07:30 - 18:30
De Sir Benfro
Mae’n rhedeg yn nhrefi glan môr adnabyddus Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot a’r cyffiniau, yn ogystal â thref hanesyddol Penfro a Doc Penfro. Mae’r rhan hon o Sir Benfro yn hynod boblogaidd ymysg ymwelwyr - mae’n werth ymweld â harbwr a thraeth hyfryd Dinbych-y-pysgod os byddwch chi yn yr ardal. Mae cysylltiadau ardderchog hefyd â Llwybr Arfordir Sir Benfro, a dydy Ynys Bŷr ddim yn bell mewn cwch.
Pethau i’w gwneud
- Treuliwch y diwrnod fel teulu yn rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru, fel Heatherton, Parc Bywyd Gwyllt Manor a’r Parc Deinosoriad yn Ninbych-y-pysgod.
- Ewch ar daith mewn cwch i Ynys Bŷr - mae pobl wedi bod yn byw yno ers Oes y Cerrig, ac mae wedi bod yn gartref i wahanol urddau mynachod ers yr oes Geltaidd. Erbyn hyn mae’n eiddo i fynachod yr Urdd Sistersaidd, ac mae eu mynachlog hardd yn edrych dros Faes y Pentref a bythynnod hyfryd yr ynyswyr.
- Crwydrwch strydoedd braf Dinbych-y-pysgod, a threulio’r prynhawn yn archwilio’r harbwr a’r traeth hyfryd.
- Mwynhewch sglodion ar lan y môr yn Saundersfoot ac ymweld ag un o’i nifer o dafarndai ardderchog.
- Cerddwch ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro, neu ewch i weld y traethau gwych yn Lydstep, Maenorbŷr a Freshwater East.
- Ewch i ymweld â chestyll ysblennydd Penfro, Maenorbŷr a Chaeriw.
Cysylltiadau teithio pellach
- Cysylltiadau trên i Abertawe o orsafoedd Doc Penfro, Penfro, Llandyfái, Maenorbŷr, Penalun, Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot a Chilgeti.
- Cysylltiadau yn Ninbych-y-pysgod a Chilgeti gyda bysiau i Arberth a Hwlffordd, ac ar hyd yr arfordir i Bentywyn.
- Cysylltiadau yn Noc Penfro gyda bysiau i Aberdaugleddau a Hwlffordd.
Prisiau
Dyma’r prisiau ar gyfer teithiau (dan bum milltir / dros bum milltir):
- Tocyn unffordd i oedolyn - £2.50 / £3.50
- Tocyn unffordd i blentyn - £1.00 / £2.00
- Tocyn dwyffordd i oedolyn - £4.00 / £6.00
- Tocyn dwyffordd i blentyn - £1.50 / £3.00
- Tocyn 12 taith i oedolyn - £18 / £25.20
- Tocyn 12 taith i blentyn - £7.20 / £14.40
Mae tocynnau wythnosol hefyd ar gael i’w prynu am y prisiau canlynol:
- fflecsi wythnosol i Oedolyn = £25
- fflecsi wythnosol i Blentyn = £15
- fflecsi misol i Oedolyn = £80
- fflecsi misol i Blentyn = £50
Mae tocynnau Rover Gorllewin Cymru ar gael am y prisiau canlynol:
- Tocyn diwrnod i oedolyn = £8.50
- Tocyn diwrnod i blentyn = £4.50
- Tocyn wythnosol i oedolyn = £34
- Tocyn wythnosol i blentyn = £16
Mae’r rheini sydd â cherdyn bws rhatach yn teithio am ddim gyda fflecsi.
Archebu ymlaen llaw
30 diwrnod.
Cŵn ar y bws
Ie. Yn ôl disgresiwn y gyrrwr ar yr amod eu bod yn lân, yn ymddwyn yn dda ac yn cael eu cadw ar dennyn.
Map
Oriau gwasanaeth
-
Dydd Llun
07:30 - 18:30
-
Dydd Mawrth
07:30 - 18:30
-
Dydd Mercher
07:30 - 18:30
-
Dydd Iau
07:30 - 18:30
-
Dydd Gwener
07:30 - 18:30
-
Dydd Sadwrn
07:30 - 18:30
Parth Poppit
Mae’r gwasanaeth bws ‘405 Roced Poppit’, sy’n gweithredu ar hyd yr arfordir rhwng Abergwaun ac Aberteifi, bellach yn cael ei redeg fel gwasanaeth fflecsi. Mae’r gwasanaeth yn gwasanaethu’r ardal rhwng Abergwaun ac Aberteifi, yn ogystal â’r ardal i’r de - cyn belled â Chrymych. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu teithiau i Ganolfan Iechyd Integredig Aberteifi.
Pethau i’w gwneud
- Treuliwch ddiwrnod ar y traeth. Mae traethau hyfryd yn y rhan hon o Sir Benfro, gan gynnwys Traeth Mawr Trefdraeth a Thraeth Poppit.
- Cerddwch ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro a mwynhau’r bywyd gwyllt a’r harddwch syfrdanol. Mae arfordir gogledd Sir Benfro yn lle gwych i weld dolffiniaid, llamidyddion a morloi.
- Ewch i ymweld â chaer Castell Henllys o’r oes haearn, er mwyn cael blas ar fywyd 2000 a mwy o flynyddoedd yn ôl.
- Ewch ar antur i fryniau’r Preseli, sef tarddle cerrig gleision Côr y Cewri. Teithiwch i Grymych neu i Fwlch Gwynt er mwyn cerdded ar hyd yr Heol Aur - taith gerdded saith milltir ar hyd crib ysblennydd y Preseli , neu ewch i Garn Ingli (Mynydd o Angylion), sydd uwchlaw pentref arfordirol a hardd Trefdraeth.
- Ewch i dref prysur Aberteifi, i fwynhau'r caffis, siopau a’r castell.
Cysylltiadau teithio pellach
- Cysylltiadau rheilffyrdd tuag at Abertawe a Chaerdydd o orsafoedd Abergwaun.
- Gwasanaeth T11 TrawsCymru rhwng Hwlffordd ac Abergwaun, drwy Dyddewi.
- Gwasanaeth T5 TrawsCymru rhwng Hwlffordd ac Aberystwyth, drwy Abergwaun.
Archebu ymlaen llaw
30 diwrnod.
Cŵn ar y bws
Ie. Yn ôl disgresiwn y gyrrwr ar yr amod eu bod yn lân, yn ymddwyn yn dda ac yn cael eu cadw ar dennyn.
Map
Oriau gwasanaeth
-
Dydd Llun
07:30 - 18:30
-
Dydd Mawrth
07:30 - 18:30
-
Dydd Mercher
07:30 - 18:30
-
Dydd Iau
07:30 - 18:30
-
Dydd Gwener
07:30 - 18:30
-
Dydd Sadwrn
07:30 - 18:30
Canol Sir Benfro
Mae’r parth hwn yn cynnwys canol Sir Benfro rhwng Treletert, Crymych, Clunderwen a Chas-wis. Gallwch hefyd deithio yn ôl ac ymlaen i Abergwaun a Hwlffordd o’r parth hwn.
Pethau i’w gwneud
- Ewch i ymweld â’r parc 60 erw yn Maenordy Scolton, sy’n cynnwys coetir, gerddi muriog ac ardaloedd chwarae i blant, gan fynd ar daith yn ôl mewn amser drwy ymweld â’r maenordy o oes Fictoria.
- Ewch ar antur i Fryniau’r Preseli, sef tarddle cerrig gleision Côr y Cewri, drwy ddilyn y llwybrau cerdded o Rhos-y-bwlch neu Mynachlog-ddu.
Cysylltiadau teithio pellach
- Cysylltiadau rheilffordd tuag at Abertawe a Chaerdydd o orsafoedd Hwlffordd a Chlunderwen.
- Gwasanaeth T11 TrawsCymru rhwng Hwlffordd ac Abergwaun, drwy Dyddewi.
- Gwasanaeth T5 TrawsCymru rhwng Hwlffordd ac Aberystwyth, drwy Abergwaun.
- Cysylltiadau yn Hwlffordd ar gyfer bysiau i Aberdaugleddau, Doc Penfro a Dinbych-y-pysgod.
- Cysylltu yn Hwlffordd â pharth fflecsi Aberdaugleddau; cysylltu yn Abergwaun, Treletert neu Hwlffordd â pharth fflecsi gogledd-orllewin Sir Benfro; a chysylltu yn Abergwaun neu Grymych â pharth fflecsi Poppit.