Gwasanaethau

Dinbych 66

Denbigh library

Mae’r gwasanaeth fflecsi hwn yn rhedeg yn nhref farchnad hardd Dinbych - un o’r trefi mwyaf hanesyddol yng Ngogledd Cymru. Os ydych chi’n ymweld â’r ardal, yna mae’n werth mynd i Gastell Dinbych - a oedd unwaith yn gartref i Dywysog Cymru, Dafydd ap Gruffydd. Mae’r gwasanaeth hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n dymuno gwneud taith fer i ganol y dref.

 

Pethau i’w gwneud 

  • Ewch i weld drama a grym castell Dinbych. Gyda’i bwysigrwydd strategol, mawr fu cyfraniad y castell hwn yn y rhyfeloedd niferus a ffurfiodd y wlad yn ystod y 13eg Ganrif. 
  • Cerddwch ar hyd muriau’r dref - sy’n enwog am atal Pengryniaid Oliver Cromwell yn ystod y Rhyfel Cartref. Mwynhewch olygfeydd godidog ar draws Dyffryn Clwyd - mynnwch yr allweddi i furiau’r dref yn y llyfrgell. 
  • Ymwelwch ag Amgueddfa Radio Cymru i gael rhagor o wybodaeth am hanes darlledu yng Nghymru a sut mae wedi dylanwadu ar ein hunaniaeth genedlaethol.

 

Cysylltiadau pellach

Cysylltu â gwasanaeth 51 tuag at y Rhyl neu’r X51 i deithio ymhellach tuag at Ruthun a Wrecsam.

 

Prisiau

Dyma’r prisiau ar gyfer teithio yng nghanol tref Dinbych:

  • Tocyn unffordd drwy’r dydd i oedolion: £1.00

Dyma’r prisiau ar gyfer teithio o Henllan i ganol tref Dinbych:

  • Tocyn unffordd drwy’r dydd i oedolion: £1.50

 

Mae tocynnau 1Bws hefyd yn ddilys ar y gwasanaeth hwn a gellir eu prynu am £6.50. 

Mae’r rheini sydd â cherdyn bws rhatach yn teithio am ddim gyda fflecsi.

 

Map

Oriau gwasanaeth

  • Dydd Llun
    09:00 - 12:00
    12:45 - 15:15
    16:30 - 18:00
  • Dydd Mawrth
    09:00 - 12:00
    12:45 - 15:15
    16:30 - 18:00
  • Dydd Mercher
    09:00 - 12:00
    12:45 - 15:15
    16:30 - 18:00
  • Dydd Iau
    09:00 - 12:00
    12:45 - 15:15
    16:30 - 18:00
  • Dydd Gwener
    09:00 - 12:00
    12:45 - 15:15
    16:30 - 18:00
  • Dydd Sadwrn
    09:00 - 12:00
    12:45 - 15:15
    16:30 - 18:00

Archebwch i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Lawrlwythwch ein ap

Ffoniwch ni ar 03002 340 300

Dydd Llun - Dydd Sadwrn 07:00 - 19:00
Dydd Sul 09:00 - 17:00

Dinbych 77

fflecsi vehicle parked up

Dyma fflecsi sydd hefyd yn cysylltu cymunedau gwledig â chanol tref Dinbych, ac mae’n rhedeg mewn ardaloedd i’r de-orllewin, gogledd-orllewin a gogledd-ddwyrain o’r dref - gan gynnwys Llanelwy. Mae’r gwasanaeth yn helpu i ddarparu cludiant i siopau lleol, canolfannau iechyd, mannau gwaith, cysylltiadau teithio pellach a chyrchfannau allweddol eraill yng nghanol tref Dinbych.

 

Prisiau

Dyma’r prisiau ar gyfer teithio i ganol tref Dinbych:

  • Tocyn unffordd drwy’r dydd i oedolion: £2.00

Dyma’r prisiau ar gyfer teithio o Henllan i Ddinbych:

  • Tocyn unffordd drwy’r dydd i oedolion: £1.50

 

Mae tocynnau 1Bws hefyd yn ddilys ar y gwasanaeth hwn a gellir eu prynu am £6.50.

Mae’r rheini sydd â cherdyn bws rhatach yn teithio am ddim gyda fflecsi.

 

Map

Oriau gwasanaeth

  • Dydd Llun
    09:30 - 14:30
  • Dydd Mawrth
    09:30 - 14:30
  • Dydd Mercher
    09:30 - 14:30
  • Dydd Iau
    09:30 - 14:30
  • Dydd Gwener
    09:30 - 14:30

Archebwch i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Lawrlwythwch ein ap

Ffoniwch ni ar 03002 340 300

Dydd Llun - Dydd Sadwrn 07:00 - 19:00
Dydd Sul 09:00 - 17:00

Lleoliadau fflecsi

Mae fflecsi wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol - edrychwch ar y lleoliadau isod i weld sut mae'n gweithio ym mhob ardal