Gwasanaethau
Treffynnon
Mae hwn yn rhedeg yn nhref farchnad hanesyddol Treffynnon a'r cyffiniau, ac yn y pentrefi cyfagos. Enw’r dref yn llythrennol yw tref ffynnon, a chaiff ei henw o Ffynnon Wenfrewi, sef adeilad rhestredig Gradd 1 yr honnir iddo fod y safle pererindod hynaf ym Mhrydain Fawr. Mae’n lleoliad cerdded poblogaidd, ac mae Taith Pererin Gogledd Cymru yn dechrau yn Abaty Dinas Basing, ger y dref.
Pethau i’w gwneud
- Ymwelwch â Ffynnon Wenfrewi - yn ôl y sôn, dyma’r safle pererindod hynaf ym Mhrydain Fawr. Dywedir bod y dŵr yn gwella ac yn gwneud gwyrthiau.
- Ymwelwch ag adfeilion hanesyddol Abaty Dinas Basing, a sefydlwyd yn y 12fed ganrif.
- Sylwch ar y golygfeydd gwych wrth i chi ddilyn ôl troed y pererinion ar hyd Taith Pererin Gogledd Cymru.
Cysylltiadau pellach
- Cysylltu â gwasanaethau bysiau lleol tuag at Gaer.
Prisiau
- Tocyn unffordd drwy’r dydd i oedolion - £2.50
Mae tocynnau 1bws hefyd yn ddilys ar y gwasanaeth hwn a gellir eu prynu am £6.50.
Mae’r rheini sydd â cherdyn bws rhatach yn teithio am ddim gyda fflecsi.
Map
Oriau gwasanaeth
-
Monday
09:15 - 15:1516:15 - 18:00
-
Tuesday
09:15 - 15:1516:15 - 18:00
-
Wednesday
09:15 - 15:1516:15 - 18:00
-
Thursday
09:15 - 15:1516:15 - 18:00
-
Friday
09:15 - 15:1516:15 - 18:00
-
Saturday
09:15 - 15:1516:15 - 18:00
Lleoliadau fflecsi
Mae fflecsi wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion lleol. Bwrwch olwg ar y lleoliadau isod i weld sut mae'n gweithio ym mhob ardal.